venerdì, dicembre 28, 2007

Argoelus 2008

Well i mi amlinellu fy ngobeithion am 2008, er fy meddwl fy hun yn hytrach nac unrhyw beth arall. Dw i ‘di bod yn meddwl am beth hoffwn i, ac ar wahân i liniadur newydd, yr ateb ydi dim byd. Dw i’m yn licio’r sownd o 2008, mae ‘na rhywbeth argoelus ac afiach amdano, a blwyddyn i heddiw fe fydda i yma yn cwyno ac yn achwyn bod pethau’n mynd o ddrwg i waeth.

Wel, ni fyddaf yma fel y cyfryw, oherwydd dw i fwy neu lai wedi penderfynu bod Hogyn o Rachub yn dod i ben flwyddyn nesa, mewn tua chwe mis. Mae pum mlynedd o flogio yn fwy na digon.

Ond mi fyddaf, ond am ddamwain erchyll neu gael fy herwgipio, yma. Ond dw i’m yn licio. Mae ‘na rhywbeth ym mêr fy esgyrn yn dweud y bydd fy myd yn lle gwahanol iawn yr adeg hon flwyddyn nesaf. A dw i’m yn anwybyddu mêr fy esgyrn: bydd ‘na rhyw newid mawr. Ew, dw i’n ypsetio’n lân yn meddwl am y peth. Fydda’ i ddim yn un am newid, cofiwch chi.

Gobeithiaf am flwyddyn hwyl a digon diddigwyddiad, dim anturiaethau na chanfyddiadau mawr na dim. Ych, mi fydda’ i’n 23, a hŷn a hyllach a chwerwach (dw i’n edrych ymlaen at yr un olaf).

Sbïwch fi’n malu awyr. Ceisio peidio â gwneud gwaith ydw i. Dylai dyn ddim gweithio dros gyfnod y Nadolig. Ffaith. Neu os ydych chi o Rachub: byth.

giovedì, dicembre 27, 2007

Cofiwch y cyfieithwyr...

Dw i’m am sôn am y Nadolig i chi. Mi gefais het, a dyna ddiwedd y ddadl. A chyda’r twrcwn cafwyd combác (neu guinea-fowl, mae’r enwau Cymraeg a Saesneg yn wirion, mi wn) sy’n gyfuniad o borc, twrcwn a chyw iâr, yn dibynnu â phwy y byddech yn siarad â hwy.

Dw i’n unigolyn blin ac annifyr ac mi fyddaf am beth amser canys anghofiais wifrydd fy ffôn yn y gogledd, ac mi aeth y batri’n fflat ddoe. Bydd Mam yn ei ddanfon i lawr, wrth gwrs, ond fy mhryder mwyaf yw na fydd yn cyrraedd mewn da bryd i drefnu ba flwyddyn newydd bynnag sydd o’m mlaen. Diolch i Dduw am y rhyngrwyd. Heb hwnnw, mi fyddai modd gennyf i gysylltu â neb. A ddaw neb i’m gweld i drefnu, cewch weld.

A dw i ddim chwaith yn edrych ymlaen at y penwythnos. Does neb yng Nghaerdydd. Y fi, a minnau’n unig. Am drychineb trist. Dim fy mod i wirioneddol isio mynd allan, cofiwch, ond yn hytrach does gen i fawr o fynadd efo fy nghwmni fy hun ar adeg fel hyn. Roeddwn i bron â thorri ‘nghalon yn dod nôl i Gaerdydd ar y 26ain.

Felly, os byddwch yn edrych ar y sêr fin nos, cofiwch amdanaf i. Bŵ hŵ.

giovedì, dicembre 20, 2007

Neges Nadoligaidd o lawenydd mawr a mins peis a thinsel a choed Nadolig a dymuniadau gwych i bob dyn, dynes ac o bosib aelodau'r Blaid Lafur (hah!)

Wel dyma ni. Ni fyddaf yn blogio dros y Nadolig rŵan – pethau i’w gwneud a phobl i’w gweld (h.y. dw i’n mynd i weld Nain a mwy na thebyg Dyfed, er does gen i fawr o ddim i’w wneud), felly am ddim rheswm yn fwy na thraddodiadol dymunaf Nadolig llawen i bawb (ond nid blwyddyn newydd dda – fyddai’n nôl cyn i honno fynd rhagddi, cewch chi weld)!

martedì, dicembre 18, 2007

Y flwyddyn a fu

Tuag yr amser hwn o’r flwyddyn byddaf, yn draddodiadol, yn edrych dros yr hyn a fu yn flwyddyn i mi. Rŵan, os cofiwch, os cymeroch sylw, sy’n annhebygol, roedd y llynedd yn eithaf annifyr ar y cyfan, wedi gorffen bod yn fyfyrwyr (ydw, dw i DAL i hiraethu, ac mi fyddaf am byth) a chwalu ‘mhen glin. Ond wyddoch chi beth? Dw i’n meddwl y bu eleni yn well o lawer.

Doedd dechrau’r flwyddyn yn ddi-waith yn mynd o amgylch amgueddfeydd efo Kinch ddim yn arwydd da, ‘does dadl (ni chredaf y byddai dechrau unrhyw flwyddyn efo Kinch yn un da waeth bynnag y gweithgaredd). Ond mi ges waith yn eithaf sydyn, a chael hyfforddiant, a llwyddo, a gwella fy Nghymraeg yn eithriadol. Iawn, dydi fy Nghymraeg i ddim yn berffaith, ond mae meddu ar iaith dda yn rhywbeth i fod yn falch ohono, tydi?

Heb na gorfod goddef sbigoglys a ffa pob yn ddyddiol ar Newport Road bellach, dw i ‘di symud i dŷ newydd ar ben fy hun ac wrth fy modd. Felly mi gaiff hynny fod yn Plys enfawr yn y flwyddyn. Ac wrth gwrs mi gurodd Man Utd yr Uwchgynghrair, sydd bob amser yn ei gwneud yn flwyddyn dda.

Ac, wrth gwrs, mae gweld Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth Cymru yn beth da, waeth bynnag ddywed neb. Gwell y Blaid mewn grym o fath na dim o gwbl, a gwell ei chael yn gweithredu ambell i bolisi na’r un. Dw i’n pryderu’n arw yr eith pethau o chwith, a dw i’m yn hapus am bopeth am y Glymblaid, ond dyna wleidyddiaeth. Mae gweld Cymru gam yn nes at ei hannibyniaeth bob amser yn codi gwên. A waeth bynnag ddywed neb, gyda’r senedd ar y ffordd, mae Cymru’n agosach ati o grynswth nac y bu'r llynedd.

Ond, wyddoch chi, mi fu isafbwyntiau. Ew, o’n i’n flin pan gollais fy ffôn a’m waled. Dw i methu mynd i’r Gogledd cymaint. Dw i’n mynd allan yn llai aml nac ydw i wedi ei wneud ers blynyddoedd bellach. Mae’r tîm rygbi wedi troi gwylio gêm rygbi yn fater o ofid yn hytrach nac angerdd, ac yn gyffredinol ni fu’r tîm pêl-droed cenedlaethol yn well eleni. Ac mae Lowri Llewelyn yn parhau yn fy mywyd.

Felly, blwyddyn dda y bu. Ond mae’n hen bryd i’m mywyd cymryd tro eithriadol, eithriadol am y gorau: rhywbeth mor ffantastig fel y byddai ond yn gallu digwydd yn 2008. Ond blogiad arall ydi 2008. O ystyried y dechrau ansicr, dw i wedi mwynhau eleni yn fawr iawn, iawn. Dw i 'di ffendio'n nhraed mwy nac erioed, a dallt lot o bethau'n well. Cerddaf ymlaen!

giovedì, dicembre 13, 2007

Y peth da am 'Ddolig

Felly, beth ydw i yn ei hoffi am y Nadolig? Dyna gwestiwn nad ydw i wedi ei ateb, erioed. I neb. Er mwyn cydymffurfio â hwyl yr ŵyl (yn faleisus o amharod) dw i’n meddwl y dylwn drafod hyn mymryn. Cewch weld wedyn fy mod yn berson neis, wedi’r cwbl (mae hyn yn gelwydd llwyr a dwi ddim am i chi ei ledaenu. Diolch).

Yn gyntaf, ydw, dw i’n yn hoffi’r goleuadau mymryn. Hynny yw, nid y goleuadau lu a welir ar dai cyngor a thai pobl gomon sy’n gweithio’n Spar dw i’n feddwl, ond y rhai go iawn swyddogol mewn trefi a phentrefi ar y waliau bob ochr i’r strydoedd. Mae rheiny’n eithaf neis.

Iawn, dydi twrci ddim yn wych ond dw i yn ei licio. A chinio Nadolig. Wn i ddim pe sylweddolech chi, ond cinio Nadolig ydi cinio dydd Sul efo sosejys wedi’u lapio mewn bacwn. Ond ta waeth. Mae’n flasus iawn, oni bai eich bod chi wedi meddwi gormod ar Noswaith Nadolig.

Dyna un peth fydda i’n hoffi hefyd. Noswaith Nadolig, a mynd am ‘chydig o beints lawr i Besda. Er y trais a’r trywanu a’r smac a’r cwffio mae o hyd hiraeth parhaol yn fy nghalon am fynd o amgylch tafarndai Bethesda, a gweld pobl nad ydw i’n eu gweld yn aml iawn. A minnau ddim yn gweld fy nheulu mor aml a hoffwn, mae’r Nadolig hefyd yn gyfle i’w gweld unwaith eto.

A thu ôl i’r Sion Corns a’r coed Nadolig a’r anrhegion dyna dw i’n licio am ‘Ddolig, gweld pawb. Bydd hyd yn oed Myfi yn dymuno ‘Nadolig Llawen’ i bobl, ac yn ei feddwl (fel arfer yr unig frawddegau y byddaf yn eu dweud ac yn eu golygu ydi “dos i nôl peint i mi” a “sod off Dyfed”).
Ah, dwi’n teimlo’n fwynach o lawer ar ôl dweud hynny. Mae blog yn therapi da.

mercoledì, dicembre 12, 2007

'Dolig a Rhegi

Os nad yw yfed a bwyta yn ddigon o hwyl, mae rhegi hefyd. Wn i ddim beth ydi o am regi, ond mae’n amhosib rhag atal mewn sawl sefyllfa. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai “ffwc” yn ei niferus weddau ydi, mwy na thebyg, y rheg a ddefnyddiaf fwyaf, yn aml ar ôl cael braw, neu weld David Cameron ar y teledu. Prat.

Sôn am regi, mi fyddaf yn gwneud yn aml iawn dros y Nadolig (e.e. “ffycin Nadolig”, “ffwcin Sion Corn” a.y.y.b.). Dw i’n siŵr fy mod i’n ‘di sôn bob ‘Dolig a welodd y flog hon, ond dydw i ddim yn ffan. Boi gwanwyn dwi, yn ymhyfrydu yn gweld y blodau bychain yn tyfu a’r ŵyn ar y dolydd (neu drosedd yn Grangetown, yn hytrach, yn anffodus). Ond does ‘na ddim hud i’r Nadolig bellach, ac fel un sy’n wrthun iawn i fateroliaeth, mae’r Nadolig yn hir.

Yn anffodus, ‘does pwynt i rywun droi rownd a dweud “cofia di wir ystyr Nadolig” achos ymysg 95% o’r boblogaeth mae o wedi cael ei hen anghofio, a’r peth agosaf wna i o ran “bod yn Nadoligaidd” ydi prynu botel o win coch i Owain Ne pan dw i ‘di meddwi (a mynnu iddo fy nhalu’n ôl pan dw i’n sobor).

Pwdin ‘Dolig sy’n hen sgyman o beth ‘fyd. ‘Rargian chyffyrddwn i mohono, mae o fel bara brith wedi’i losgi. A thwrcwns, blydi twrcwns! Hen dderyn di-flas a sych (aka Ellen Angharad) os bu un erioed. A’r bastad hetiau ‘na y bydd rhywun yn eu gwisgo ar ôl ennill pecyn o mini-sgriwdreifars mewn cracer. A theledu Nadolig, yr un hen gachu; ac aftershave. FAINT o aftershave sydd yn rhaid i ddyn gael i’r Nadolig? Dw i’m ISIO cymaint o aftershave a hynny, mae gen i ddigon i bara blwyddyn arall o ddau Nadolig nôl.

Cofiaf ddweud y llynedd yr hoffwn fynd i Irac eleni ar gyfer y Nadolig. Yn bur rhyfedd, ni wireddwyd hynny (fedra’ i ddim smalio fy mod i’n rhy gytud yn hyn o beth) ond dydw i’m yn licio ‘Dolig a dyna ddiwedd arni.

Tri pheth dwi isio ‘leni i ‘Ddolig: torri gwallt, gwin coch a’r gallu i gynhyrchu grefi godidog. A chai’m ‘run, cewch weld.

lunedì, dicembre 10, 2007

Sŵn Jiráff

Nid yn anaml y dof i ochr draw’r penwythnos yn anafiadau drosof. Mi oroesais, a dyna’r peth pwysig. Onid ydych yn casáu pan fydd diod ddistaw yn troi’n sesiwn ffiaidd? Wedi gwisgo fel chav, mewn het a siaced wyrdd a thraci botoms, mi rannais botel o siampên efo Lowri Dwd yn Pica Pica. Wel, Cava. Dw i’m yn licio ryw bethau felly, ond credu a wnes y byddai cyflwyno fy hun fel chav a enillodd y Loteri yn hwyl. Nid oedd yn andros o hwyl, ond bu i mi fwynhau.

Deffroes ef am hanner awr wedi dau ddydd Sadwrn. Prin iawn y byddaf yn gweld bore Sadwrn y dyddiau hyn. Roedd Sioned yn cael ei phen-blwydd, felly dyma fynd i’r Bae a graddol meddwi, wedi cael dim ond Subway i fwyta yn y p’nawn (gan adrodd hynny â balchder drwy’r nos). Un o’r pethau hwyl oedd gweld Haydn ar fws o’r Bae i ganol dref. Hen Dori ydi Haydn, sydd, yn ei ôl ef, “ddim yn neud pyblic transport”, felly bydd yn edrych lawr ei drwyn ar fysus, er yn gyfrinachol mi gredaf iddo fwynhau’n arw, yr hen sgweiar cas iddo.

Does pwynt adrodd popeth ond am ddiwedd y nos, mi es am dro efo Owain Ne i rywle i wylio’r bocsio, cyn sylwi ar ôl dau rownd nad ydw i’n licio bocsio, na hoffais mohono fyth, a Dyn ag ŵyr pam yr oeddwn yn ei wylio yn Canton draw. Mi gerddais adref. Dw i’m yn cofio am faint y bûm yn cerdded. Ond roedd yn hir. Daethai’r glaw i lawr yn wlyb ac yn gas. Llwyddais gyrraedd Rawden Place a phenderfynu bod Grangetown yn rhy bell, ac aros yno am y noson yn lle.

Felly heddiw mae fy nghorff yn stiff, mae gen i glais cas y tu ôl i’m pen-glin, sy’n brifo’n arw, a rhyw fath o drywaniad i’m llaw.

Er, yn bersonol, heiliet y wicend i mi oedd gwneud synau anifeiliaid yn lle Sylvia, megis brân a jiráff. Dywed Lowri Llewelyn bod gan jiráff acen Hwntw ac mae’n dweud, “you alright, butt?”. Ni chytunaf.

venerdì, dicembre 07, 2007

Da 'di meddwi

‘Sdim rhyfedd fy mod i’n dew. Ar ôl bwyta dwy bowlen o lobsgóws neithiwr mi es allan a chael pizza hefyd. Roeddwn i’n llwgu. Dyna mae rhywun yn ei gael am wario degpunt ar eu taith siopa bwyd wythnosol, mae’n rhaid. Wn i ddim sut y maen nhw’n dygymod yn Affrica, dw i’n llwgu rŵan a dw i ‘di cael brecwast. Yr oll dw i’n gweld o’m mlaen ydi baget dychmygol, yn erfyn arnaf i’w fwyta.

Dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos. Bydda’ i ddim yn mynd allan ar nos Wener yn aml iawn erbyn hyn: sy’n drist ac yn hen. Ond mae o fel nad oes gan neb ots na blys gwneud. “Isio safio arian”, “Isio bod yn ffresh ‘fory”, “Dw i’m ffansi yfed”. A ninnau'n fyfyrwyr tlawd roedden ni'n meddwi bob nos Wener: ac rwan mae gennym ni arian yn dod i mewn dydyn ni ddim hanner cymaint! Sôn am boring. Mae penwythnos heb feddwi, i mi, fel llofruddiaeth. Mae’n rong (ac yn anffodus dyna ddiwedd ar y gymhariaeth honno, alla’ i ddim meddwl am ‘run peth arall tebyg rhwng y ddau beth).

Gas gen i bobl sy’n dweud bod meddwi’n rong a dylid codi prisiau alcohol i’w atal. Teg dweud eu bod nhw’n meddwl fy mod i’n sad, a dw i’n meddwl yr union ‘run peth ohonyn nhw, jyst ‘mod i’n stymblo fwy. A gwnaeth diod byth ddrwg i mi, ond am ddeffro mewn ciosg a thorri fy mhen-glin: ar gyfartaledd mae fy mywyd sobor wedi bod cryn dipyn llai llwyddiannus!

Da ‘di meddwi. Twll din pawb sy’n meddwl yn wahanol.

giovedì, dicembre 06, 2007

Siopa 'Dolig

Mae Mam yn dweud fy mod i angen mwy o fitaminau. Mi ffoniodd am hanner awr wedi naw i ddweud hyn, felly pan welais y ffôn yn canu ar adeg mor hurt roeddwn i wedi argyhoeddi fy hun yn syth bod rhywbeth yn bod (e.e. marwolaeth, salwch, damwain ddifrifol). Teulu modern ydym ni a bydd Mam a fi yn cyfathrebu drwy e-bost yn aml y dyddiau hyn. Mae Dad yn dal i ffonio, gan nad ydi Dad yn dallt y rhyngrwyd; bydd wastad yn gofyn i mi a’r chwaer os byddem fodlon rhoi gwers iddo, ac iawn rydym ni’n dweud cyn dianc nôl i Gaerdydd neu Colchester cyn iddo gofio gofyn drachefn.

Dwi jyst yn ddiolchgar nad ydi Nain yn gofyn.

Ond ia, yn fy e-bost diweddaraf at fy Mam dywedais fy mod wedi blino’n arw yn ddiweddar a dywedodd hi mai diffyg fitaminau sydd wrth wraidd hyn, yn bosib iawn. Dos i Bŵts, meddai hi, maen nhw’n ddrud yno ond byddant werth y drafferth. Felly mi wnaf heno.

Rhaid i mi wneud rhywfaint o siopa ‘Dolig yr hon wythnos hefyd. Gan fy mod yn sengl a bod fy nghriw o ffrindiau yn rhy gynnil i gyd-ddosbarthu anrhegion dod o hyd i rywbeth i ‘Nhad, Mam, fy chwaer a Nain sydd angen (ni chaiff fy Nhaid ddim. Sori.) a wn i ddim le i ddechrau. Dw i’n ofnadwy o unigolyn a phrin y byddwyf yn prynu anrhegion i neb, pa ddigwyddiad neu ŵyl bynnag sy’n mynd rhagddo.

Mae Nain yn hawdd (steady on!). Mi gaiff gryno-ddisg corau neu rywbeth. Dw i ‘di bwriadu prynu cryno-ddisg Queen neu rywbeth i Dad ers blynyddoedd felly mi wnaf eleni. Fel rheol Mam fydd yn prynu rhywbeth i’r chwaer yn fy enw i ond eleni mi brynaf rywbeth, a fi’n ddyn mowr efo job a ballu. Mae hynny’n gadael Mam. Dw i’m yn gwybod beth mae Mamau’n licio. Dydi hi’m yn alcoholic felly byddai jin neu fodca yn amhriodol. Does diben prynu dillad achos troi ei thrwyn gwnaiff.

Y broblem ydi ein bod ni’n bobl wahanol iawn, fi a Mam. Ond damnia, dw i newydd feddwl, beth ydi’r un peth y mae genod i gyd yn licio? Siocled. Llond bocs o siocledi. O’r tenau i’r tew maent yn eu bwyta â diléit (jyst bod y rhai tew yn dueddol o fwyta crynswth yn fwy, sy’n egluro pam eu bod nhw’n dew, debyg).

Swpyrb. ‘Dolig? Sorted.

martedì, dicembre 04, 2007

Yr Ellygen

Dw i’n teimlo’n sâl. Fy mrecwast yr hwn fore oedd gellygen. Sut mae pawb yn cymysgu rhwng ‘gellygen’ a ‘garlleg’ a phawb yn mynnu mai ‘garlleg’ ydi ‘gellygen’ yn Gymraeg wn i ddim. Pobl od ydi Cymry Cymraeg, mae’n rhaid. Fodd bynnag, ni chefais arlleg i frecwast, a hynny’n beth od i gael i frecwast pe bawn wedi ei gael, ond gellygen.

Y peth ydi roedd o braidd yn galed a dw i’m yn siŵr os ydi rhywun i fod i fwyta gellygen os ydyw’n galed. Dyma paham fod y salwch arnaf. O bosibl.

Prynais bedair wrth drotian o amgylch Morristons neithiwr. Wedi gwario cymaint y noson gynt ar sgolops (dw i dal yn sâl ar eu hôl - ond gwerth y salwch gant y cant! Wel, hynny neu’r ellygen a grybwyllais gynt. Anodd dweud rili tydi?) a chig eidion a chaws penderfynais gadw at gyllideb ac felly lobsgóws bydd pryd yr wythnos yr wythnos hon. Ni fwytawyd y galon (sy’n swnio’n hynod farddonol pe anwybyddwch y ffaith mai un mochyn ydoedd).

Byddaf yn fodlon fy myd ar ddydd Mawrth. Fel un sydd methu â chael teledu digidol, am ba reswm bynnag, ni wn, roedd yn rhaid dewis rhwng Spooks a Gordon Ramsey. Ond nid mwyach. Byddaf yn mynd i dŷ’r merched i weld y ddau. Channel 4 + 1, yn de. Dw i wrth fy modd efo’r ddwy raglen. Ac wedi’r cyfan, mae’n rhoi rhywbeth i mi wneud ond am goginio a gwylio ‘Bottom’ ar y we.

Anghofiais yn ddiweddar cymaint yr oeddwn i’n hoffi gwylio ‘Bottom’. Mae’n wych, o bosib fy hoff gomedi (byddaf i’n dweud pethau ar hap felly weithiau – nid fy hoff gomedi mohono, ond mae’n peri chwilfrydedd dros dro).

Ew, bywyd yn dda ar y funud. Dwi dal heb â gorffen fy stori fer, chwaith. Efallai y dylwn ei osod fan hyn ac y byddai’r pwysau i’w gorffen yn fy ngorfodi i wneud, a gwneud un arall eto fyth. ‘Sdim gwell na phwysau.

lunedì, dicembre 03, 2007

Bwyd yn y Bae

Bu Kinch yn sâl yn ddiweddar. Sâl go iawn, felly, dim ‘sâl Kinch’, sef llusgo o amgylch ei dŷ yn ei ddresin gown yn snwffian. Felly pan gefais gynnig i fynd am fwyd neithiwr ar gyfer ei ben-blwydd (mae o tua 40 erbyn hyn mae’n siŵr. Mae pawb sy’n hŷn na mi yn “tua 40”) prin y gallais ddweud ‘na’. Ond ni fu’n fwriad gen i wneud hynny achos dw i heb fod allan am fwyd ers cryn dipyn.

Felly bydd yn rhaid i mi flogio am fwyd eto, mae’n debyg. A minnau’n fasdad tew does syndod yn hyn o beth: aethpwyd i’r Bayside Brassiere. Dw i byth wedi bod yno o’r blaen, ac iawn oedd fy mwyd i. Roedd y sgolops yn wych: mae sgolops wastad yn wych ac angau i bawb nas cytunant. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n sâl bob tro dw i’n eu bwyta (dw i’n siŵr fod gennai rhyw radd o anoddefgarwch bwyd tuag atynt) ond maen nhw mor neis fel na allaf eu gwrthod, a hwythau’n wincio arnaf o’r plât, yn erfyn arnaf i’w llowcio megis morgi.

Ond dw i’m yn siŵr a oedd y cibab cig eidion yn ddewis gwych, a minnau efo dŵr poeth erbyn hyn. Fel arfer mi fyddaf yn eithaf mentrus wrth fynd am fwyd ond doedd yr awydd ddim yno a dw i heb â chael cig eidion ers talwm.

Ac mi gefais bwdin, sy’n rhywbeth newydd iawn i mi. Caws a chracyrs. Iawn, hen ddyn, mi wn, ond dw i wrth fy modd efo caws a chracyrs (sy’n ddau air a bennir i Lowri Llewelyn yn aml, yn bur eironig, a hithau’n gymaint o faich arnaf). Wel, mi fytish y brie a’r caws Cymreig, ond chyffyrddwn i ddim â stilton fyth. Iych.

A dyna ni felly mi ges lond fy mol; £30 gwerth o lond bol a dweud y gwir. Fel rhywun nad oedd am fynd allan y penwythnos (do, mi es nos Sadwrn) dw i ‘di gwario cachlwyth drachefn. A thri chan punt ar y dreth gyngor. Dwisho gliniadur newydd. Dw i heb brynu anrhegion ‘Dolig i neb, chwaith. O wel; o leiaf dw i’n mynd i gasáu ‘Dolig eto ‘leni.