Visualizzazione post con etichetta fi fy hun. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta fi fy hun. Mostra tutti i post

martedì, marzo 29, 2016

Pryder i mi, a phanig i chwi

Y mae rhai pobl yn ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach, efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari. Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi. 

Ac eto, mae’n anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr fy hun.

Digwyddasai gwraidd y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy mod i’n iawn.

Ugain munud ar ôl trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg. Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).

Nid ers y noson honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson. 

Nid rhywbeth yn y meddwl ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael; bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.

Yn gryno, dwi’n cau lawr yn systematig am gyfnod.

Dros y misoedd diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o'r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.

Yn wir, roedd yna adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?

Ta waeth. Y mae pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.

Hwnna oedd y peth anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr ymylon.

Wn i ddim a ydw i cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond drwch blewyn o fod erbyn hyn.

Flynyddoedd yn ôl, dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’ fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled.

lunedì, giugno 06, 2011

Rhwng swyddi a phethiach

Bore da o Rachub dirion! A minnau mewn ffordd yn ddi-waith tan wythnos nesa, mae gen i gyfle i fwynhau bywyd. Swnio’n annodweddiadol? Hah, wrth gwrs ei fod! ‘Sa well gen i fod yn gweithio na cheisio llenwi’r diwrnodau yn creu’r llysnafedd waethaf y gellir ei dychmygu. Fues i fyth yn un am chwythu ‘nhrwyn ond ‘sgen i fawr o ddewis ar hyn o bryd. Snort-a-phoer dwi fel rheol.


Ond mi ydw i wedi bod yn gwneud ambell beth, cofiwch. Euthum gyda’r teulu i Gaer y diwrnod o’r blaen (wel, ddoe). Roedd angen ambell beth arnaf. Do’n i heb fod yng Nghaer ers blynyddoedd maith, felly fu’n rhaid i mi ddibynnu ar GPRS y ffôn gydag ambell siop. Wel, un, sef Primark. Aeth hwnnw â fi ar gyfeilion. Ddim cymaint â ‘Nhad chwaith. Mi ddywedais wrtho, er mwyn creu sgwrs de, “Dwi newydd weld rhywun dwi’n nabod yn Burtons” a chael yr anfaddeuol ateb “Oes, mae gen ti ddigon o gotiau adra”.

Gyda’r nos, mi biciais draw i Lidiart y Gwenyn at Sion a Gwawr efo Helen i gael gwahoddiadau priodas. Dwy briodas fues i ynddynt erioed, ro’n i’n page boy mewn un ac yn usher yn y llall, a’m cefnder a oedd yn priodi yn y ddwy. Fydda i’m yn cael gwadd i bethau neis fel priodas, wyddoch. Ta waeth, yn y cefndir roedd Porthpenwaig ar y teledu. Ro’n i’n edrych ymlaen at y gyfres ar y dechrau ... roedd hi’n hen bryd cael rhywbeth o’r Gogledd ar nos Sul, 'nenwedig i mi sy'n byw yn y blydi De ac yn ei weld ddydd ar ôl dydd. Ar ôl gwylio hanner rhaglen Porthpenwaig ryw ychydig wythnosau’n ôl mi wnes benderfyniad cydwybodol i beidio mynd yn agos at y rhaglen eto, er nad oedd gen i reolaeth ar y remôt neithiwr. Heb sôn am ddeialog a oedd yn fwy annaturiol nag unrhyw ddeialog a glywid ar S4C ‘stalwm, roedd y posibilrwydd ar y diwedd o gyfres arall yn ddigon i yrru ias lawr cefn rhywun. Tipyn o Stad, plîs tyrd nôl! Neu gyfres wedi’i selio yn Rachub. ‘Dan ni heb gael un ers Jini Mê Jones.

Roedd pawb yn ysgol fach yn obsesd efo Jini Mê, achos mai yn Rachub gafodd y gyfres ei ffilmio. Wedyn welson ni hi’n pigo’i thrwyn mewn rhywbeth yr Urdd yng Nghaernarfon rywbryd. Dyna ddiwedd arnon ni’n ei licio hi, y bitch fudur iddi hi.

giovedì, giugno 02, 2011

Pennod newydd

Mae fy niwrnod olaf yn gwaith yfory. Un o’r rhesymau fy mod i ‘di bod yn weddol ddistaw yn ddiweddar ydi oherwydd hyn, achos i rywun fel fi mae hyn yn newid mawr. A fel rheol dydw i ddim yn rhywun sy’n licio newid. Ond mae’n fwy na hynny, fy swydd bresennol ydi’r swydd gyntaf go iawn dwi wedi’i chael, ac mae ‘na bobl yno dwi’n ystyried yn ffrindiau mawr i mi. Dwi’n mwynhau eu gweld nhw bob dydd ac yn edrych ymlaen i wneud hynny yn y bore.
Wrth gwrs, mae rhywun yn newid swydd am bob math o resymau, a dwi ddim am fynd i’r rheinia rŵan (rhaid i mi gadw rhywfaint o’m mystique), ond ar y cyfan dwi wedi mwynhau’r blynyddoedd yn fy swydd yn fawr iawn, ac mae gen i deimladau cymysg iawn. Dwi’n edrych ymlaen at swydd newydd mewn ychydig dros wythnos – efo dogn da o’r nerfusrwydd a’r hunanamheuaeth sy’n cyd-fynd â chael swydd newydd - ond hefyd dwi ‘di ypsetio o waelod calon fy mod i’n gadael. A dydw i ddim yn rhywun sy’n ypsetio’n hawdd o gwbl.
Ta waeth, dyna bennod arall drosodd yn hanes yr Hogyn. Gobeithio fydd y nesa cystal. Ac y bydda i’m yn marw de.

giovedì, marzo 24, 2011

Does dim ond isio ceiniog i fynd i mewn drwy'r drws...

Pan dwi’n cael rhywbeth i mewn i fy mhen mae’n anodd iawn ei ddad-wneud. Mae’n siŵr eich bod chi yr un peth – pan fyddwch yn clywed cân a honno’n cylchdroi yn eich pan rhaid ei chlywed gangwaith i’w hymwaredu. A phan fo chi isio gwneud neu weld rhywbeth, wel, mae’n rhaid i chi wneud neu weld y peth hwnnw pa beth bynnag y bo.

Felly be dwisho ei wneud ers ychydig wythnosau ac y cwynaf amdano onid y’i gwnaf? Ddyweda’ i – mynd i’r sŵ. Rŵan, Sŵ Bryste ydi’r agosaf at Gaerdydd a hyd y gwn i nid oes un yn ne Cymru. Mae gennym o leiaf ddau yn y gogledd, rhwng Sŵ Môr Môn a Sŵ Mynydd Bae Colwyn, ond arwain y blaen wnaeth y Gogs erioed. Does neb wedi dweud amdanaf am unrhyw sŵ yn y De beth bynnag – o bosib achos dydyn nhw’m isio fi yno.

Fyddech chi’n meddwl y buasai dyn yn ei oed a’i amser fel fi, ac mi fyddai’n 26 mewn llai na mis, isio gwneud rhywbeth llai plentynnaidd, ond na, dwisho mynd i’r sŵ. A dwi’n ‘styfnig am y peth. Os na chaf fynd cyn fy mhen-blwydd, mi ymwaredaf â phen-blwydd meddw hwyl am daith i Fryste ... wel, os daw rhywun efo fi. Ond dwi’m yn dallt pwy na fyddai isio mynd i sŵ, maen nhw’n llefydd cŵl. Dwisho mynd i weld yr anifeiliaid.

Dwi heb fod i un ‘stalwm. Gennai deimlad mai Bae Colwyn oedd y tro diwethaf, ond dwi’m yn cofio pryd yn union. Ond dwi’n cofio cael fy rhyfeddu, er fy mod i’n adnabod y Sŵ Mynydd yn o dda. Fedra i ddim helpu â chael fy hudo gan anifeiliaid ar y teli ac mae eu gweld nhw go iawn yn well. Heblaw am y mwncwns achos dwi’m yn licio mwncwns, fwy na thebyg achos bod pawb arall yn licio mwncwns.

Prin y llwydda’ i argyhoeddi neb, dwi’n teimlo. Mynd ben fy hun neu chwilio Gwglimij yn smalio fy mod i yno wna i. Ac, ydach, mi ydach chi’n gwbod p’un o’r rheini dwi fwya tebygol o wneud.

martedì, dicembre 14, 2010

Pobl flin, pobl ddig

Yn ôl pob tebyg, fyddwch chi sy’n dilyn helynt y blog hwn yn cael sioc o’r datganiad canlynol: ar y cyfan, dydw i ddim yn fasdad blin. Dwi’n aml yn rhwystredig, ac yn aml yn ddadrithiedig, ac mae fel y gwyddoch gant a mil o bethau yn y byd sy’n mynd ar fy nerfau - ond does fawr o dymer arnaf yn y bôn.

Mae’r ffordd a wylltiwn yn un o’n nodweddion. Cyn iddo gael strôc flynyddoedd nôl, roedd fy nhaid yn berson na wylltiai fyth. Mae’r hen Lowri Llewelyn fach felly hefyd mewn difri. Wedyn mae ‘na rai pobl, fel Steff (sydd isho mensh ar y blog) sy’n hynod hawddgar ac yn anodd tu hwnt i wylltio. Ond pan mae’n gwylltio, mae’n gwylltio’n gacwn (dywed ef, dwi ddim actiwli yn ei gredu yn y mymryn lleiaf – deud hynna i edrych yn tyff mae o). Ac wedyn mae ‘na bobl, megis Haydn blin, sy wastad yn flin. Efallai y gwelwch eich hun yn un o’r disgrifiadau uchod.

Nid felly fi. Yn gyffredinol, dwi’n rhywun sydd â ffiws ofnadwy o fer ond sydd, ar y cyfan, yn distewi yn gymharol hawdd ... er fi fydd y cyntaf i gyfadda fod gen i dueddiad i bwdu! Prin iawn y gwna i wylltio o’r enaid ar rywun neu rywbeth. Mi fedraf fod yn siarp iawn a chodi’n llais, ond y funud nesaf wenu ‘tha giât.

Ar hyn o bryd mae’r ffiws yn fyrrach na’r arfer. Cyfuniad o bethau ydi hyn. Rhyngo chi a fi a’r Gymru Gymraeg, ac eithrio’r Nadolig ei hun, lle bydda i er gwaetha fy nghwyno yn ddigon bodlon, ryw gyfuniad o bwdu, anfodlonrwydd cyffredinol ar fywyd a chwerwder ydyw. Er bod gen i resymau penodol, yn gyffredinol mi fyddaf rywbeth tebyg bob blwyddyn rhwng diwedd mis Tachwedd nes dechrau’r Chwe Gwlad.

SAD? Wel, dwi ‘di cael fy ngalw’n waeth....

lunedì, novembre 29, 2010

Dyma'r bywyd i mi

A dyma fi'n cael diwrnod bach i ffwrdd. Dwi'n ista mewn yn rhynnu efo blanced drosof achos dwi'n ormod o fasdad cynnil i roi'r gwres ymlaen. Dwi wedi bwyta tiwb cyfan i Bringyls ac wedi gwylio tair awr o Judge Judy ar ITV2 a CBS.

Ac ma rhai pobol yn fy ngalw i'n gomon, wir!

mercoledì, novembre 17, 2010

O, am drydar fel aderyn bach!

Ro’n i am ysgrifennu heddiw am y Tywysog Wil ond roedd hynny cyn i mi sylwi mai’r teulu brenhinol ydi un o’r pethau prin hynny nad oes gen i farn o unrhyw fath arno. Dwi ddim yn weriniaethwr a dwi ddim yn frenhinwr. Mae gen i farn ar y ffug-deitl ‘Tywysog Cymru’ ond dyna’r oll a dweud y gwir. Dwi wastad wedi bod o’r farn os ydych chi’n credu mewn rhyddid i Gymru, bod y teulu brenhinol yn amherthnasol, a gwastraff amser ydi malio amdano’r un ffordd neu’r llall.

Felly dydw i ddim am ‘sgwennu am hynny. Yn hytrach codi gwrychyn ambell un a wnaf a bod yn rhagrithiwr wrth wneud.

Gellir ei grynhoi mewn brawddeg. Dwi’n casáu Twitter. Yn ei gasáu. Dwi’n meddwl ei fod o’r peth mwya dibwynt a stiwpid yn hanes y cread – a tasech chi’n nabod rhai o’r un bobl â fi fe fyddech chi’n dallt yn llawn fawrder y datganiad hwnnw. Mae Twitter yn folocs llwyr a dwi’m yn licio fawr ddim ar bobl sy’n meddwl bod Twitter yn wych. Felly beth wnes i ddoe? Wel, ymuno, wrth gwrs.

Roedd ‘na rywfaint o ffawd ynghlwm wrth hyn. Ar ôl cael dwy sgwrs ddoe am Twitter, a hynny’n hollol ar hap, un â Lois Coes Donci dros frechdan ac un â Dyfed Blewfran dros Facebook (dwi’n galw pobl yn bethau od a dyma mi dybiaf wraidd f’amhoblogrwydd – nath Lowri Petryal fyth sticio o leiaf), penderfynais o’r diwedd ‘iawn, roia i gynnig arni’. A hynny wnes, gan gofrestru yn ôl cyfarwyddiadau’r Flewfran achos bod o isho dilynwyr. Mae ganddo dri os dwi’n iawn, a heb drydar. Mae llai o bwynt iddo fo ymuno na mi. Dwi’m isho bod yno a rhywsut mae gen i bedwar. Twll dy din di, Dyfed.

Ond asu, mae’r peth yn gymhleth ar y diawl. Dwi ddim yn ei ddallt o gwbl, ac nid gorddweud ydw i am unwaith, mae o jyst yn ffycin gymhleth. A phwy dwi’n fod i ddilyn? Stephen Fry? Na, yr unig dwat hunanbwysig dwi isio clwad ei farn o ydi Fi.

Ac ydw, dwi go iawn yn meddwl bod Stephen Fry yn dwat hunanbwysig.

Felly dwi am roi wythnos i fi fy hun ar y peth a gweld sut aiff pethau rhagddynt. Dwi heb drydar eto, dwi’n ymwrthod â’r demtasiwn hyd yn hyn (a beth bynnag ‘sgen i’m byd i drydar amdano, a dydi’n ffôn i ddim yn ddigon da i ddefnyddio trydar, ac ar yr adegau nad ydw i wrth y cyfrifiadur y byddwn i’n meddwl ‘w, dylia fi drydar am hyn’).

Ac eto, dwi’n adnabod fy hun. Dwi’n styfnig a dwi’n pwdu. Ymhen wythnos mi fydda i dal i fynnu fy mod i’n casáu Twitter ac wedi pwdu fy mod i dal ddim yn ei ddallt (neu’n waeth fyth, bydd gan Dyfed fwy o ddilynwyr) a dyna fydd diwadd fy menter aflwyddiannus hynod i fyd y trydar.

mercoledì, maggio 12, 2010

Llyfrau a'r Beano

Rhwng popeth, dwi heb wneud ryw lawer dros yr wythnosau diwethaf a hynny oherwydd anallu. Ond, yn sydyn reit, dwi’n ffendio fy hun mewn sefyllfa lle nad ydw i isio gwneud dim byd. Arferwn ar fy awr ginio grwydro Caerdydd yn ddigon bodlon fy myd, boed hynny mewn siop ddillad yn cwyno bod crysau-t yn rhy ddrud o lawer y dyddiau hyn, i siop lyfrau yn gyndyn iawn i ymestyn fy waled.

Arferwn fod wrth fy mod yn darllen. Y gosb waethaf y gallai Mam ei dyfarnu a minnau’n llai oedd bod yn rhaid i mi fynd i’m gwely ac na chawn ddarllen yno. Roeddwn yn cael y Beano bob wythnos, ac mae’n un rhan o’m plentyndod sydd wedi mynd yn angof gen i gan fwyaf ond, ew, o feddwl amdano daw’r mwynhad yn ei ôl. Wn i ddim a ydi’r Beano dal yn llwyddiannus heddiw, ond fe’r oedd ar ddechrau’r 90au pan ddarllennais i. Bob blwyddyn byddai Anti Blodwen yn prynu llyfr blynyddol y Beano a’r Dandy i mi, y caent eu darllen drwy’r flwyddyn, neu am flynyddoedd. Do’n i ddim mor hoff o’r Dandy, ond mi chwarddais i mi’n ychydig wythnosau nôl wrth feddwl pe bai gan Jamie Roberts fwstash byddai’n sbit o Desperate Dan. Ddywedon nhw fyth pam bod y boi’n desperate, chwaith.

Erbyn hyn, prin iawn y byddaf yn darllen. Ambell adnod o’m Beibl bach pan fyddaf mewn trallod, neu sgim sydyn drwy’r Bumper Book of Useless Information. Y nofel olaf i mi ei ddarllen yn llawn fwy na thebyg oedd Martha, Jac a Sianco. Dwi jyst ddim yn gwbod beth i ddarllen ddim mwy, nac yn gwybod pa fath o bethau yr hoffwn eu darllen. Efallai, a minnau’n dlawd iawn ar ôl helyntion y mis hwn a thros bythefnos o gael y cyflog nesaf, y darllennaf rywbeth y penwythnos hwn. Fedrai’m treulio fy holl amser yn gwylio recordiadau o Gimme Gimme Gimme!

lunedì, aprile 19, 2010

Typical #2

Felly ar ddiwrnod ei benblwydd yn bump ar hugain mi ffoniodd Nain i roi cyfarchion:

"Mae bywyd yn gorffan wedi twenti wan sti - 'sgen ti'm byd i edrych ymlaen ato rwan"

Gall Nain fod yn ffycar bach pan mae hi isio, de.

Typical

O minnau bellach yn chwarter canrif mae 'nghefn yn teimlo'n waeth nag y gwnaeth erioed ac mae Dems Rhydd ar y brig yn y polau Prydeinig. Am erchyll ddiwrnod yn wir.

venerdì, aprile 09, 2010

Bron yno

Mynegwyd eisoes ar y blog hwn bod yr Hogyn o Rachub, ym mha le bynnag yr â yng Nghaerdydd, yn gweld lesbians. Ddim o’m gwirfodd na’m dychymyg, ffaith ydyw. Wn i ddim chwaith os mai’r gaydar sydd ar y blinc gen i ond yn aml iawn alla i ddim dweud y gwahaniaeth rhwng lesbian a hogyn tew yn ei arddegau sy’n steilio’i wallt i geisio ymddangos yn ddel. Wyddoch y teip – bwyta gormod o Doritos ac yn treulio oriau ar MSN.

Dreuliais innau oriau ar MSN, ond wn i ddim ai dyna mae’r kids (y dywedodd, mewn ymgais i fod yn hip) yn ei wneud heddiw. Yn yr hen dyddiau arferem ni feicio i bob man – ydi pobl ifanc yn defnyddio beiciau y dyddiau hyn dŵad? Nac ydyn, mwn. Rhy prysur ar eu iPhones a’u iPods neu lawrlwytho iTunes – mae’r enwau yn ddigon i fynd ar fy nefau. ‘I’ ‘I’ ‘I’ – fi fi fi. Dyna’r oll sy gan bobl ots amdano y dyddiau hyn. Wedi mynd y mae’r dyddiau y clywid John ac Alun yn dod o faniau bechgyn yn eu harddegau ar Stryd Pesda. Ia wir, mi gofiaf yr oes, bûm yno, ac yn ei chadw’n fy mhen a’m calon.

Dywedir mai ffordd o brysuro henaint yw casáu ieuenctid. Dwi ddim yn casáu ieuenctid ond dydw i ddim chwaith yn uniaethu. Roedd y gwahaniaeth rhyngof i a chenhedlaeth fy chwaer, sydd dim ond dair blynedd yn iau felly i bob pwrpas yn rhan o’m cenhedlaeth i, yn weladwy erbyn i mi adael ysgol: o ran diddordebau, gweithgareddau, agwedd, yn ieithyddol, yn ymddygiadol – popeth.

Gwell gen innau bigiad gwenyn ar gaill na newid fel rheol. Pam y chwerwder? Wel, ymhen llai na phythefnos fydda i’n bump ar hugain oed. Teg dweud bod cyrraedd y chwarter canrif fel rheol yn cael ei ystyried yn un o gerrig filltir bywyd. Hyd yn oed yn 24 oed gall rhywun i bob pwrpas smalio fod yn 21 – a hynny oherwydd i chi brofi tair blynedd yn y brifysgol, os oeddech yn ddigon ffodus i fynd (ac ym Mhrydain Llafur Newydd mae pob ffwcar dwl yn mynd), a thair o weithio. Ond yn 25 oed, mae’r cydbwysedd fel rheol ar ben. Rydych chi wedi gweithio am hirach nag y buoch yn fyfyriwr.

Ac fela mai. Mae rhywbeth gwirioneddol oedolyn-aidd am 25 oed. Dim ond tua’r oedran hwnnw y mae rhieni yn gadael fynd yn llwyr hefyd. Haws i hogia heneiddio, wrth gwrs, does ‘run dyn yn ei iawn bwyll yn llwyr aeddfedu – dyna’r gwir. Mi wneith merch aeddfedu. Mae’n ffodus i ferched nad ydi dynion yn gwneud oherwydd ni fyddant wedyn yn gallu brolio eu bod nhw’n fwy aeddfed. Wn i, enethod, rydych chi’n hoff o frolio pethau felly’n ffug-flinedig go iawn. Ar ôl canrifoedd o gael eu trin, yn gwbl annheg wrth gwrs (er yn eithaf delfrydol o’r safbwynt gwrywaidd), fel dinasyddion eilradd mae’n fodd i ferched feddwl yn ddigon cyfiawn ‘sut ddiawl mai’r rhain reolai o’r blaen?’

Duw Duw, dydi chwarter canrif yn ddim. All dyn ond chwerthin neu grio, a’r cyntaf ydi’r dewis cyntaf gen i bob tro. Ond byddai stopio colli ffonau symudol ac yfed gwerth canpunt bob dydd Sadwrn o fudd yn yr ymdrech i wneud hynny.

O ia, bu bron i mi anghofio, yn dilyn yr hwyl a gefais yn etholiadau 2007 mi fydd Blog yr Hogyn o Rachub yn fyw ar noson yr etholiad, Mai 6ed. Gobeithio y bydd ambell un arall wrthi hefyd tan yr oriau mân!

martedì, febbraio 02, 2010

Twyllo meddwod â tshaen

Wyddoch chi be sy’n anodd ffendio? Tshaen. Mai’n uffernol dweud y gwir, ond gadewch i mi egluro.

Nid tshaen yn yr ystyr cadwyn dwi’n ei olygu. Dwi ddim yn meddwl y dylai dyn wisgo cadwyn neu fwclis i fod yn onest. Rhywbeth arall dwi’n gwbl yn erbyn dynion yn ei wisgo ydi’r mwclis o amgylch eu harddyrnau. Efallai nad Hogyn o Armani mohonof ond dwi’n gwybod be dwi’n ei licio a be dwi ddim yn ei licio. Dylai hogia ddim gwisgo gemwaith yn fy marn i. Gall ambell un gael getawê efo clustlws ond dyna ddiwadd arni. Cofiaf chwe blynedd yn ôl i’r Kinch wisgo clustlws am gyfnod, gan ei dynnu ar ôl i bawb ddweud ei fod yn edrych yn gê.

Mi oedd, ‘fyd. Ta waeth, nid tshaen o ran yn yr ystyr gemweithiol dwi’n ei feddwl. Nac ychwaith tshaen i rwymo rhywun. Tai’m i rwymo neb a tai’m i gael neb i’m rhwymo innau at ddim ychwaith. A dweud y gwir mae gen i eithaf ofn ryw fudreddau felly.

Tshaen am oriad dwi’n ei olygu, bobl. Yn nyddiau anterth fy meddwod yn y Brifysgol, chollais i ddim byd erioed. Ers hynny dwi ‘di colli o leiaf dri ffôn a dwy waled, ac fel y cwynais nid yn y gorffennol pell, pan fydd rhywun yn colli waled maen nhw’n colli pob mathia.

“Dylia chdi ddim mynd â waled efo chdi,” dywedodd Dad, y byddwn fel rheol yn fwy tebygol o wrando ar rap Cymraeg na’i gyngor, “rho digon o bres yn dy bocad ac wedyn o leiaf os golli di rywbeth wnei di’m colli popeth”. Syniad difyr. Ac, er fy mod i’n poeni y bydd myn jîns i yn disgyn gan bwysau pob chwech a dimau o newid a gawn, mae’n syniad call.

Y goriad ydi’r broblem. Fel arfer, mae fy ngoriad yn fy waled - felly heb sôn am golli cardiau ac arian, pe collwn fy waled mi a gollwn f’unig ffordd o fyned y tŷ. Felly mi ges frên-wêf. Petawn yn cael tshaen fach i roi o amgylch un o ddolenni’r belt a’r goriad ar y pen arall yn fy mhoced, byddwn o leiaf yn gallu cyrraedd adra oni chollwn bâr o drowsus.

Yn fy meddwod, nid a synnwn petawn.

Ond mae’n insiwrans o ryw fath. Y broblem ydi, er crwydro fel diawl, dwi methu dod o hyd i tshaen o’r fath, nid hyd yn oed yn y siopau torri goriadau. Yr unig rai sydd ar gael ydi rhai metel mawrion sy’n llenwi dy boced, ac sydd felly’n anymarferol tu hwnt at y diben, a’r rhai bach lwminws yr arferai pobl eu gwisgo gyda’u bym bags a’u llinynnau dal sbectols haul yn ôl yn negawd euraidd yn nawdegau.

Ydw i’n iawn i feddwl y gall rhywun gael un fechan sy’n iawn i roi’n gyfleus am ddolen y belt? Efallai ddim, un o freuddwydwyr y genedl fues ‘rioed. Bydd rhaid dal ati i chwilio p’un bynnag - mae’r Chwe Gwlad yn dyfod, ac am o leiaf bump o’r saith penwythnos nesaf mi fydda i’n gachu bants. Ond y tro hwn, tai’m i golli dim - mi a dwyllaf feddwod os caf tshaen i’r goriad.

mercoledì, novembre 25, 2009

Penwanbeth

Helo chi. Neges fer iawn i ddweud y bydd y blogio yn ysgafn iawn, yn ysgafnach na ‘mhen fel y mae’n digwydd. Mi ges ddamwain nos Wener, gan ddisgyn ar fy ngên yn gyntaf, a dwi’n dal i deimlo’n benwan ar adegau ac yn llai llawn llathen na’r arfer – felly gobeithio y bydd y gwasanaeth yn ôl i’r arfer erbyn wythnos nesa!

mercoledì, novembre 11, 2009

Iaith y meddwl

Wn i ddim pryd y bu i’m meddwl newid o Saesneg i Gymraeg – rhywbryd yn fy arddegau mae’n siŵr. Dwi’n gwybod yn iawn pan yn iau, a hyd yn hyn ers dros hanner fy myw, mai yn Saesneg yr oeddwn i’n meddwl.

Mae pa iaith rydych chi’n meddwl ynddi yn rhan annatod iawn ohonoch. Drwy feddwl mewn iaith, rydych chi’n byw yn yr iaith honno. Fel un a fagwyd mewn cymuned Gymraeg ro’n i bob amser yn siarad Cymraeg ond prin iawn a feddyliwn ynddi, ac felly roedd ei phwysigrwydd yn goll arnaf a’m teimladau tuag ati’n ddigon ddi-hid. Gan ddweud hynny, un o’m hatgofion cyntaf a minnau’n ddigon iau o hyd i gydio’n ffedogau’r Fam, oedd amddiffyn golwg Chwarel y Penrhyn rhagddi hi, gan honni mai dyna un o’r unig resymau yr oedd y Gymraeg yn fyw.

Ro’n i’n gorddweud, sy’n rhywbeth dwi byth yn ei wneud, ond yn amlwg roedd ‘na rywfaint o dân ynof bryd hynny. Ond pryd newidiais at feddwl yn Gymraeg, dydw i ddim yn gwybod.

Ro’n i’n arfer siarad yn Saesneg gyda Nain, ac Anti Blodwen hefyd, ond yn fy arddegau ac am ba reswm bynnag dechreuais gyfathrebu’n Gymraeg â hwy, a hwythau’n ddau o gewri Buchedd Iason, fel yr enwir y ddrama anochel amdanaf wedi’m tranc. Tua phryd hynny ro’n i’n wirioneddol mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol, ond hyd yn oed ar ddechrau’r brifysgol dwi’n rhyw hanner cofio lithro i Saesneg meddyliol ambell waith.

Erbyn hyn fydda i’n meddwl yn Gymraeg drwy’r amser i’r fath raddau na fyddaf bron byth yn siarad Saesneg yng Nghaerdydd nac ychwaith yn bwriadu gwneud, a phan fydd yn rhaid gwneud, gwneud hynny’n wael. Ers ychydig flynyddoedd, o drafferthu meddwl am y gair Cymraeg, bydda i’n cael trafferth meddwl am y gair Saesneg bellach.

Dim ond ychydig funudau nôl ‘doeddwn i methu’n glir â chofio beth oedd ‘afresymol’ yn Saesneg. Tra nad ydi hynny ynddo’i hun yn afresymol am wn i, mi wnaeth i mi feddwl y bu’r daith ynof o feddwl yn Saesneg i beidio â chofio gair sylfaenol yn yr iaith honno yn un ddigon hir – ond dwi’n eitha balch fy mod i wedi’i gwneud hi.

lunedì, ottobre 19, 2009

Her aflwyddiannus y mis trist

Pa ffordd well o ddathlu 700fed blogiad y blog newydd 'na chymysgiad o gwyno a hunansarhad?

Dwi’n od iawn wedi meddwi. Gallwn i ddweud yr amlwg a dweud fy mod i’n od iawn yn sobor ond, na, dwi ddim. A dweud y gwir, yn sobor, dwi’n grêt. Credaf yn gryf y dylai pawb, pawb yn y byd mawr crwn, feddwl ei fod o neu hi yn grêt, achos y gwir ydi dydi o ddim yn debyg iawn y bydd neb arall yn meddwl hynny amdanoch chi. Ydach, dachi’n gwybod pwy ydach chi.

Ond na, yn chwil mi alla’ i fod braidd yn rhyfedd. Daw’r her ddeietegol i ben ddydd Iau a ‘does gen i fawr o amheuaeth dweud nad oes gen i gyfle pry mewn brechdan gaws o’i chyflawni’n llwyddiannus erbyn hyn. Mae dau gibab mewn pythefnos wedi sicrhau hyn. Pan fyddaf yn chwil mi fyddaf yn gwrthryfela yn erbyn fy hun, sef yn yr achosion hyn y deiet. Wn i ddim p’un ai yin a yang ynteu gwreiddiau sgitsoffrenia ydi’r ymddygiad rhyfedd hwn, ond o’r herwydd fydda i ddim yn colli’r 10 pwys angenrheidiol.

O amcangyfrif, fyddai ‘di colli tua phump.

Dwi mor argyhoeddedig fy mod wedi colli’r her fel nad ydw i am foddran loncian yr wythnos hon. Do, fe’m trechwyd gan y têc-awê.

I fod yn onest efo chi, dwi heb fwynhau fy hun o gwbl ar y deiet ‘ma. Dwi wedi bod yn flinedig gyson a hefyd yn ddigon annifyr dros y mis diwethaf (sydd yn arwynebol yn union yr un fath ag ydw i fel arfer i’r rhai â’m hadwaen – ond y tro hwn felly y teimlwn o ddifrif). Ond mae ambell bwys yn well na chic yn din, ‘mwn.

Ynghyd ag alcohol, Sky+, ambell banad ac osgoi mynd i’r deintydd, mae bwyd yn un o wir dileits y bywyd hwn gen i. Gwleidyddiaeth, gweithio, crefydd, moesau, siopa, biliau – sôn am rwystredigaethau sydd, yn fy mywyd innau o leiaf, yn anorfod. Gwell gen i fis heb y lleill oll na bwyd. Ar yr amod y caf fwyta o flaen y teledu efo panad a photel o win.

Ta waeth, fydd hi drosodd ymhen ychydig ddyddiau, ac mi fydda i’n teimlo’n hapusach o lawer bryd hynny. Dwi wedi cael awch rhyfeddol am frechdan gaws ers cael sgwrs efo gyrrwr tacsi amdano bron i bythefnos nôl. Dwi ddim yn credu iddo fwynhau’r drafodaeth i’r un graddau â mi, cofiwch.

venerdì, giugno 12, 2009

Fe hoffwn i fod yn Saddam Hussein

Arferais ysgrifennu llawer pan oeddwn yn ifancach, yn enwedig pan oeddwn yn yr ysgol, ond dwi wedi hen fynd allan o’r arfer. Daeth yn bur amlwg nad oedd pawb yn dallt popeth roeddwn i’n ei ysgrifennu ‘fyd. Dwi’n siŵr mai fi oedd un o’r bobl gyntaf yn fy mlwydd a oedd yn dallt y cysyniad o gymryd y piss – a dwi wedi gwneud hynny byth ers hynny.

Pan yn rhyw 14 oed, a ninnau mewn dosbarth Cymraeg yn ‘rysgol, rhoddwyd y dasg i ni o ysgrifennu cerdd am rywun enwog yr hoffem fod. Allwch chi ddychmygu, roedd y Michael Schumachers a’r Arnold Schwarzeneggers a’u tebyg yn llu bryd hynny. Os cofiaf yn iawn, fi oedd yr unig un a wnaeth gerdd am fod yn Saddam Hussein. Hyd yma dwi ddim yn dallt pam dim ond y fi wnaeth hynny, ond fel’na mae plant yn de.

Dwi ddim yn cofio’r gerdd yn gwbl gywir ond roedd hi’n rhywbeth tebyg i

Fe hoffwn i fod yn Saddam Hussein
Yn bomio y Kurds a choncro Kuwait
Yn cael digon o olew i werthu dramor
A hwylio ar long i ganol y môr

Byw ym Magdad (sy’n rhywfaint o siom)
Dyfeisio a defnyddio niwclear bom,
Mynd gyda’r fyddin ar yr uchaf don
I ymladd yn erbyn Blair a Clinton.


Afraid dweud nath neb arall (‘blaw am Dafydd Roberts sef yr athro) ddallt y jôc, a chyn gynted ag yr oedd wedi cael ei gosod ar y wal roedd rhywun wedi’i rwygo i lawr mewn ymgais ffug-egwyddorol mi dybiaf. Mi ofynnodd sawl un i mi “Wyt ti isho bod yn Saddam Hussein” a dwi’n cofio meddwl sawl gwaith am ffwcin nob.

Byddai rŵan yn adeg ddoniol i gymharu aelodau Llais Gwynedd â Saddam Hussein, ond dwi ddim isio bod yn Golwg, cofiwch.

giovedì, maggio 21, 2009

Cymry'r Frechdan

Yn rhannol er mwyn arbed arian ac yn rhannol oherwydd nad ydw i’n licio gwario, fydda i’n mynd â brechdan i’r gwaith bob bore. Yn wir, mae’r peth mor ddiflas ag y mae’n swnio. Yn ymarferol, dwi ddim yn unigolyn creadigol nac arloesol. I’r gwrthwyneb bydd rhywun yn cadw at y cyffredin yn amlach na pheidio, ac adlewyrchir hyn yn fy mrechdanau.

Beth ydi’r frechdan orau? Pa frechdan sydd fwyaf ymarferol i fynd i’r gwaith? A ellir cyfuno’r ddau beth? Wn i ddim, nid gwyddonydd na phoffwyd mohonof, ond gwn fy mod yn dechrau diflasu. Bron bob dydd naill ai iâr (nid un cyfan), twrci (eto nid un cyfan) neu ham (sy ddim yn anifail fel y cyfryw) efo ciwcymbr fydda i’n ei wneud. Weithiau mi fentraf domato, ond bydd tomato yn gwneud i frechdan droi’n wlyb.

Brechdan lobsgows ydi brenin y brechdanau yn nheyrnas fy meddwl yr ymwneir ag ef â brechdanau. Neu frechdan ffishffingars – unrhyw beth poeth sy’n toddi’r menyn. Ew, dwi yn ffan o fenyn cofiwch, a digonedd ohono. Bydd rhai ddim yn rhoi menyn ar frechdan, yn ôl y sôn ar y winllan, a dwi ddim yn dallt hynny. Mae bara heb fenyn fel Elfyn Llwyd heb fwstash, y mae’r ddau’n cyd-ddibynnu ar lwyddiant ei gilydd, sydd o bosibl y gymhariaeth waethaf dwi wedi’i gwneud ers dechrau blogio chwe mlynedd nôl.

A chan ddweud hynny, tynnaf fy sylw uchod fod brechdanau’n ddiflas yn ôl. Mae brechdan yn fwyd bob tywydd – o gorgimychiaid a letys yn awyr iach yr haf, i frechdan gaws a phanad ger y tân pan fo’r nos yn ddu. Mae brechdanau yn wych.

Mae’r Cymry yn licio’u baramenyn yn fwy na’r un genedl arall, wrth gwrs – ni yn anad neb yw hil y baramenyn. Yn wahanol i neb arall medrwn fyta baramenyn gydag unrhyw bryd a roddir o’n blaen, ac nid yn anaml ledled erwau’n gwlad y clywir ‘wyt ti isio bechdan?’ gan fam wrth i’w thylwyth ddechrau ar gyri neu chilli neu ginio go iawn.

Tybed beth ydi hoff frechdan y Cymry? Nosweithiau hirion a dreuliaf yn ystyried y cwestiwn hwnnw (sy’n gelwydd). Roedd un o’m ffrindiau sydd o Reading, y tro diwethaf iddo ddod i Gymru fach, wedi cael sioc o weld faint o siopau brechdanau/baguettes sydd yng Nghymru, ac maen nhw’n bla yma. Ond pla addfwyn ydyw, arwydd pendant o symlrwydd y Cymry yn eu hanfod.

Mae’r Cymro a’i frechdan yn bennaf gyfeillion.

Setla’ i bob tro am frechdan caws a ham a thomato. Dwi’n meddwl bod hyn yn bennaf oherwydd mai dyma’r unig beth all fy nhad ei baratoi, ym maes bwyd, sy’n fwytadwy.

Ond dyna’r drafferth â brechdan – mae ‘na gormod o ddewis, gormod o gyfuniadau, ac o’r herwydd dyna pam, mae’n siŵr, y bydda i’n parhau i fynd â brechdan ham i’r gwaith yn feunydd.

mercoledì, aprile 22, 2009

The Fast Show ... a lol arall

Ydach chi’n cofio The Fast Show? Ro’n i wrth fy modd efo fo, a heb gyrraedd dau ddigid pan darodd y gyfres gyntaf y sgrîn tua ’94. Mi brynais y cyfresi ar DVD ychydig fisoedd nôl ond wnes i mo’u gwylio’n iawn tan i Rhys ddod i fyw ataf am fis (dros fis yn ôl erbyn hyn).

Dwi’n cofio ei gwylio yn nhŷ Nain – y math o raglen, er nad oedd o’n ‘ddrwg’, roeddech chi pan yn blentyn yn meddwl eich bod chi ychydig yn ddrwg yn ei gwylio. Doeddwn i heb chwerthin cymaint ers sbel cyn ailwylio’r cyfresi, mae nhw’n ffantastig (do, mi wnes orchfygu’r awydd i ddweud Brilliant! fanno). Dim ots gen i be ddywedith neb, dydi comedi’r 00au (sy bron â mynd, waaa!) methu cymharu â’r 90au o gwbl.

Y peth gorau am y Fast Show i mi ydi na fedra i ddewis fy hoff gymeriad. Yn y rhan fwyaf o sioeau tebyg mae o’n ddigon hawdd gwneud hynny, hyd yn oed Little Britain (er bod hwnnw’n shait ar ôl y gyfres gyntaf i fod yn onast), ond fedrwch chi ddim gwneud efo’r Fast Show, er (efallai yn apelio at fy ochr blentynnaidd – pan fûm blentyn a hyd at heddiw) roedd Chanel 9 wastad yn un o’n i’n licio’n fawr iawn iawn. P’un a oedd y sgets orau ai peidio, mae’n rhaid i chi fod yn athrylith gomedïol i gael pobl i biso chwerthin dim ond o ddweud Sminki Pinki hethethetheth pethethetheth pssssssssshit, yn does!

Ond ta waeth, o atgofion plentyndod, cofiaf nad plentyn mohonof mwyaf (er fy mod i’n fyr a thic a bod yn dal yn well gen i wylio cartŵns na Top Gear).

Clywais y diwrnod o’r blaen ddarn o gyngor a wnaeth i mi deimlo’n fodlon fy myd, rhaid i mi ddweud, sef “ti’n mynd yn hen pan fyddi’n cofio dy benblwyddi”. Do, mi gyrhaeddais y pedair ar hugain ddydd Sul, ond gan nad wyf yn cofio nos Sadwrn (yn llythrennol rŵan, bu i mi gael cic owt o’r Model Inn medda’ nhw, ond dwi ddim yn cofio bod yno – efallai mai celwydd ydi’r peth) mae’n rhaid bod hynny’n golygu y galla i estyn fy ieuenctid yn artiffisial am flwyddyn yn rhagor.

Mi ddywedon nhw ar newyddion bora ‘ma bod ‘na filiwn o eiriau yn Saesneg erbyn hyn. Miliwn yn ormod, uda i.

Hefyd, at ddibenion hunan-hysbysebu gwyliwch Byw yn yr Ardd ar S4C am 8.25yh nos Iau. Wel, os hoffech weld fy nghardd....

giovedì, aprile 16, 2009

Fy nghynhebrwng

Roedd edefyn ar Faes E yn ddiweddar iawn am ba fath o gynhebrwng yr hoffech ei gael. Dwi gyda fy ffrindiau wedi trafod y pwnc hwn ers cyn cof erbyn hyn, i’r fath raddau ei fod yn bwnc sgyrsio tra-phoblogaidd rhyngom. Roeddwn yn hapus mai nid y ni oedd yr unig rai a ystyriodd y peth, ond fel y bydd June Whitfield yn ein hatgoffa, mae’n beth pwysig i’w ystyried, a phwy all ddadlau â honno? Gellir hefyd dadlau’n llwyddiannus, fel unigolyn sy heb drefnu cynllun pensiwn hyd yn hyn oherwydd ei gred gref na fydd yn byw cyn hired â manteisio ar ei ffrwyth, dwi’n rhywun perffaith i ddwfn ystyried Y Cynhebrwng.

Mae’n siŵr, er fy swnian, nad Pabydd y byddwyf fyth yn y pen draw, felly hen gynhebrwng Anglicanaidd diflas y bydd. O, Fy Iesu Bendigedig fyddai’r emyn cyntaf a genid, gyda geiriau hynod canmoliaethus (ac, felly, celwyddgar) parthed fy mywyd yn y canol wedi’u dilyn gan Bantyfedwen. Pantyfedwen ydi’n hoff emyn, fel mae’n digwydd, wrth i mi ei ddewis i gynhebrwng Anti Blodwen flynyddoedd nôl, sy’n fan cychwyn rhyfedd i gael eich cyflwyno i’ch hoff emyn. Dwi’n siŵr nad oes gan Blodwen ots am hynny.

Y gân olaf, wrth fy hebrwng i’r bedd (ac i’r bedd y byddai, dwi ddim isio cael fy llosgi a’m lluchio i’r pedwar gwynt), wn i ddim. Byddai’r Brawd Hwdini’n amhriodol, ac Yma o Hyd yn gas (heb sôn am gael pawb yn swnian “dio’m isio clwad hwn eto myn uffarn!”), a Ble Ges Ti’r Ddawn? jyst yn cymryd y piss go iawn o ystyried mai y fi fyddai’n gelain. Mi adawa i rywun arall ddewis y gân ddelfrydol, fel Lowri Dwd – bydd yn dda ei chael i fod o iws i mi yn fy nghynhebrwng a hithau’n ddim o help yn ystod fy myw.

Maen nhw’n (ia, ‘y nhw’ ddirgel eto) dweud wrth i rywun fynd yn hŷn eu bod yn mynychu mwy o angladdau na phriodasau. Dydi hyn ddim yn wir i mi. Dwy briodas fues iddynt erioed, ac yn y ddwy priododd fy nghefnder. Dwi ‘di colli cownt ar angladdau erbyn hyn ond mae o deirgwaith gymaint ag o briodasau dwi’n sicr.

Ond ta waeth tai’m i fwydro gormod am farwolaeth heddiw a minnau’n edrych ymlaen i fynd i Wetherspoons heno, er mai un cyri doji ydym oll o gwrdd â’n creawdwr, ebe hwy.