Visualizzazione post con etichetta gwyliau. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta gwyliau. Mostra tutti i post

martedì, luglio 14, 2009

Tyddewi

Roeddwn i’n Sir Benfro dros y penwythnos. Aeth rhai ohonom i aros mewn bwthyn yng nghanol Tyddewi – dwi byth wedi gwneud y fath beth o’r blaen ac yn falch fy mod i wedi. Afraid dweud y bu i mi yfed traean botel o jin ar y nos Sadwrn, ac mi fyddech yn meddwl o ganlyniad i hynny na fyddwn yn medru cerdded y milltiroedd maith i Solfach ar lwybr yr arfordir, ond mi wnes.

Roedd pob man yn llawn dop ar y nos Sadwrn. Cawsom beint yn y City Inn (achos ei fod yn swnio’n debyg i’r City Arms) cyn dechrau arni go iawn – ddisgwyliais i ddim y byddai Tyddewi yn llawn chavs nes y foment honno.

Ddisgwyliais i ddim ychwaith na fyddwn, ac eithrio gennym ni, yn clywed gair o Gymraeg naill ai yn Nhyddewi nac yn Solfach. Arwydd o’n hoes os bu un erioed.

Mae pawb arall yn mwynhau’r lle am weddill yr wythnos, a braf iawn arnynt achos lle braf ydi Sir Benfro yn ôl yr olwg. Roedd yr arfordir ar y daith gerdded yn anhygoel, wir-yr. Cawsom farbyciw y noson honno hefyd, er i mi’n bersonol fwyta mwy o gaws na chig mi dybiaf. Dwi’n mwynhau barbyciws, yn arbennig rhai felly gyda chig heb ei losgi.

Gwelsom hefyd y gadeirlan ddoe, felly dwi hanner ffordd i Rufain. Dwi wrth fy modd efo eglwydi a chadeirlannau, byddwn yn gallu treulio drwy'r dydd mewn un yn dawel synfyfyrio.

Ta waeth, mae’n braf cael dianc i ryw fan anghysbell o bryd i’w gilydd. Hoffwn i wneud yn amlach, ond wna i ddim achos dwi’n rhy ddiog i drefnu.

lunedì, maggio 11, 2009

Nôl o Farselona

Dyma fi’n fy ôl o Farselona felly gyfeillion! Hwra! I fod yn onest efo chi, gallwn i fod wedi g’neud efo diwrnod yn fwy o wyliau ond ta waeth am hynny, do mi a welais y traeth a’r Sagrada Famillia a’r Camp Nou a chael fy nghonio gan y cwrw drud a dod nôl yn edrych fel tomato efo llosg haul.

Lle mawr ydi Barselona. Rhy fawr, buom ni ar holl am bump awr yn chwilio am y Camp Nou. Ges i flistars. Do’n i’m yn rhy fodlon ar hynny. Dwi bob amser yn meddwl mai’r Camp Nou ydi’r stadiwm uwch bob un y mae rhywun isio’i gweld. Tai’m i ddadlau, roedd o’n ffantastig. Ro’n i hefyd yn meddwl bod y Sagrada Familla yn wirioneddol cŵl ond roedd o’n llawer llai nag ydi o mewn lluniau, ond yn tydi popeth (yn anffodus)?

Un siom anferthol oedd yr Icebar, lle mae popeth wedi’i wneud o rew. Fe’i ceir ger y traeth godidog, ac yn swnio’n lot well nac ydi o. Heb sôn am fod yn llai na chroth pry’ cop, dydi popeth ddim wedi’i wneud allan o rew, ac fel Cymry pur o galon nid oeddwn i na Rhys yn oer iawn, gan agor ein cotiau a thynnu ein menig. Wast o bymtheg ewro os bu erioed.

Ond dwi wedi bod rŵan, ac rŵan dwi’n ôl. Byddwn i methu byw ym Marselona, cofiwch, mae’r bywyd yn rhy wahanol i’r wlad hon, ac mae gen i orwelion cyfyng a bodlon, ac yn licio grefi gormod.

Dadbacio, golchi dillad, gorfod mynd i gwyno bod ‘n ffwcin rhewgell dal ddim wedi cyrraedd (dwi’n casáu Comet erbyn hyn, maen nhw’n absoliwt ffycwits de). Ydi wir, mae pethau’n ôl yn eu lle.

venerdì, maggio 01, 2009

Myned

Wel, wythnos nesa fydda i ym Marselona gyfeillion, felly bydd Hogyn o Rachub yn mynd i gysgu am ychydig yn llai na phythefnos. Welwn i chi wap.

Cadwch y ffydd!

domenica, settembre 14, 2008

Amsterdam

Disgynnais mewn cariad ag Amsterdam dros yr wythnos ddiwethaf, ond yn bur rhyfedd ni fu i mi hyd yn oed gweld llysieuyn yno drwy’r pum noson felly mi wnes ymdrech benodol i’w bwyta ddoe. P’un bynnag, wedi cyrraedd y gwesty a chwrdd â’r perchennog y bore wedyn, sef Saad Sleim, sy’n enw rhagorol mewn unrhyw iaith.

Rŵan, alla i ddim manylu popeth a wnaed mewn un blogiad. Roedd taith myfi a Ceren i Amsterdam yn un amrywiol tu hwnt, a oedd yn cynnwys meddwi yn slei, sbotio Cymry eraill o bell, mynd i’r wlad am ddiwrnod, gwylio gêm Cymru mewn tafarn Wyddelig, mynd i Amgueddfa Van Gough, mynd ar deithiau ar y camlesi ac o amgylch ardal y golau coch, a mân bethau eraill a wnaeth fy argyhoeddi fy mod i’n edrych fel Skeletor efo dannedd gwyrddion, ond gofynnwch i mi am hynny pan fe’ch gwelaf yn y croen.

Ac mi gawsom ffrae gan yr heddlu am ganu’r Brawd Houdini yn uchel tu hwnt.

Dinas fechan ydi Amsterdam, sy’n eithriadol o wahanol i Gymru fach. Un peth trist iawn am y lle ydi hynny o Saesneg glywch chi yno - dywedaf â llawn hyder y clywch lai o Saesneg ym Methesda nag Amsterdam, ond dyna ni, dyna’r byd sydd ohono. Ac nid aethom o amgylch yr ardaloedd twristaidd gormod, chwaith, ond o amgylch yr ardaloedd lleol, gan lwyddo i beidio â thalu mewn un lle (ro’n i hollol allan o arian erbyn y diwrnod olaf) a chanfod cwrw gwirioneddol wych o’r enw Juliper. Miam miam ydoedd.

Mae rhai o’r ystrydebau a glywch am Amsterdam yn gwbl gywir - mae’r lle yn llawn porn, pot a beiciau, ynghyd â llawer o Americanwyr am ryw reswm. P’un bynnag, dwi am fynd nôl i Amsterdam eto - y tro nesaf efo mwy o arian - ond ddim i fwyta pysgod, oherwydd mae pysgod Amsterdam yn ddrud.

venerdì, agosto 22, 2008

Y Daith Newydd

Wrth i’r cyfog gwag o orfod gweld Prydain yn gwneud yn dda yn y Gemau Olympaidd ddechrau’n araf bach dod i derfyn, â’r gobaith o weld Llundain yn gwneud uffar o smonach ohoni yn 2012 ddechrau cynnau, mae gen i reswm go iawn i ddathlu achos dwi’n mynd ar wyliau.

Profodd trefnu gwyliau i Lydaw yn ormod o drafferth yn y diwadd, a p’un bynnag roedd y fferi yn uffernol o ddrud. Felly dwi, â’r Ceren, ar ôl cael pwl o anobaith a meddwl na fydden ni’n mynd i’r unman wedi’r cyfan, yn mynd i gamfihafio yn Amsterdam.

Rŵan, wn i ddim llawer am Amsterdam o ddifrif, er y gwn yn iawn sut i gamfihafio. Mi wn bod yno hen buteniaid budur yno, a waci baci (hwrê!), a chamlesi a beiciau (ddim o’r diddordeb mwyaf i mi’n bersonol), ond dyna ni. A chaws, diolch byth, achos dwi’n hoffi caws. A dwi’n gobeithio ar y diawl bod y cwrw yn weddol rhad yno.

Ond cyn hynny, arbed arian y gwnaf, a mynd i’r Gogledd (sy’n gwastraffu arian petrol, ond dal os arhosaf yng Nghaerdydd ‘runig beth wna i ‘di ffycin meddwi a gwario £70 y nos).

Unrhyw dips ar Amsterdam, dywedwch gyfeillion. Ond peidiwch â bod yn rhy fudur.

mercoledì, agosto 20, 2008

Llydaw

Mae Llydaw yn rhywle dwi bob amser wedi bod isio mynd iddo. Wn i ddim pam, ond mae ardaloedd y Celtiaid, y Fro Gymraeg, y Gaeltacht, Ynysoedd y Gorllewin a Llydaw Lydewig, wastad wedi fy atynnu. Mae rhywbeth dwfn yn fy swyno am glywed iaith Geltaidd arall yn cael ei siarad yn naturiol mewn ardal arall. Yn wir, dwi’n cael fy swyno yn clywed cymunedau Cymraeg de Cymru, hyd yn oed, ar daith anaml i’r gorllewin.

Yn ôl fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, mae’r cymunedau Llydaweg eu hiaith, i bob pwrpas, wedi diflannu erbyn heddiw. Fe’i ceir yng ngorllewin a de’r wlad, ond prin y’i clywir. Wn i ddim a fydd tafarn yno y gallwn fynd iddi a’i chlywed o’m cwmpas - os gallwn gerdded i lawr y stryd a’i chlywed ymhlith yr henoed a phlant (annhebyg iawn gyda phlant - tua 2% o siaradwyr Llydaweg sy’n iau na deunaw) - wn i ddim a oes iddi gadarnleoedd bellach. Os dyna ganfyddaf, mi fydda i’n drist, oblegid bod y ffawd honno’n un sy’n parhau’n gwmwl dros ddyfodol y Gymraeg, a phrin fod hwnnw’n gwmwl y’i trechir byth.

Ond i’r diawl â meddyliau felly, y pwynt ydi dwi a’m cyfaill selog, sy’n hoff o bizza ac yr arferai yfed chwerw, Ceren, yn mynd i Lydaw i wersylla rhywbryd fis nesaf ac am geisio rhoi trefn ar y daith honno heno. A dwi’n edrych ymlaen yn arw.

Dwi heb adael Cymru ers mis Hydref 2007, a hynny i’r lle sy’n codi’r casineb erchyllaf ynof, sef Llundain. Yn wir, dwi heb adael Ynysoedd Prydain ers dwy flynedd a hanner - a hynny i Brâg i yfed. Dwi’n gwybod fy mod yn ailadrodd nad oes ots gen i am hyn, ond byddai newid sîn wir yn ddelfrydol iawn. Mae’n iawn mynd adref i’r Gogledd nawr ac yn y man, dwi’n mynd mewn pythefnos am wythnos, ond dydi hi ddim yn frêc sy’n gwneud i rywun deimlo’n egnïol a bywiog, oherwydd mynd o gartref i gartref y mae rhywun, nid dychwelyd adref ar ôl absenoldeb.

P’un bynnag, os oes gan rywun unrhyw syniadau am Lydaw, am leoedd gwersylla gweddol rhad, am lefydd i fynd ac ati, bwriwch sarhad isod a chewch fy niolch tragwyddol (h.y. pythefnosol).