martedì, marzo 27, 2007

Jyst synfyfyrio'n sydyn

Ai fy yw'r unig un sy'n llwyr colli'r ewyllys i anadlu rhwng tri a phedwar o'r gloch yn y gwaith?

lunedì, marzo 26, 2007

Achubiaeth Swreal

Mae gen i bum munud yn sbâr i ddywedyd stori fechan i chi. Neithiwr fe dorrodd Ellen lawr yn agos i gylchfan Gabalfa (yn ei char, nid yn feddyliol) a fu’n rhaid i mi a Haydn fynd i’w hachubiaeth, â’i char yn tagu fel hwran ar gôc. Felly mi aeth Haydn a hithau yn ei char hi o fy mlaen, gyda’r hazards ar, a minnau y tu ôl, yn rhoi’r hazards ar fel y dymunais, ac yn canu’r corn arni hi am fynd y ffordd anghywir neu siglo ar hyd a lled y ffordd.

Teimlad od iawn, ar y motowê, oedd rhoi Radio Cymru ymlaen, a chlywed miwsig cowbois yn dod ac yn llenwi fy nghar (Cowbois Rhos Botwnnog, dw i’n eitha’ siŵr), a minnau’n dilyn Ellen yn ofalus iawn, y ddau ohonom efo hazards ar, yn mynd 30 milltir yr awr. Heb air o gelwydd ni theimlodd fel dim ond am y car chase arafaf a mwyaf swreal a welwyd yn yr hwn fyd erioed.
Ond bu i mi fwynhau, nis ddadleuaf.

domenica, marzo 25, 2007

Beth am gynnau tan?

Mae sawl person wedi dweud wrthyf hyd fy oes fy mod i’n hogyn gwirion. Nos Wener, bu i ni i gyd fynd allan ar hyd a lled Caerdydd (Cathays, beth bynnag). Mynd yn ôl i lle’r genod wnes i ddiwedd nos, ac archebu It’s Pizza Time am dri o’r gloch y bore o fanno.

Myfi a deflais un o grysau-t Gwenan i mewn i’w lamp hi. Hi a ddeffrodd yn meddwl bod ‘na olgau o amgylch y tŷ felly y byddai’n mynd i’r gegin a gweld pwy oedd yn coginio cyn sylweddoli mai ei lamp a’i chrys oedd ar dân, hwnnw wedi bod yn llosgi’n araf yno ers oriau.

Doedd hi methu â deffro Llinos. Ymateb Lowri Dwd oedd cnocio ei larwm dân o’r to (gyda help gennyf fi) wrth i Gwenan redeg o amgylch y tŷ yn gweiddi i bawb ddeffro. Ni lwyddodd. Dywedais i wrth y Dwd ‘dos di, fydda i’n iawn’ er mair’ tebygolrwydd oedd y byddwn yn llosgi yn y fan a’r lle.

Chyneuwn i mo dân eto. A’r tro nesaf, mi godaf yn lle. Bosib. Oeddwn feddw.

mercoledì, marzo 21, 2007

Y Ceinaf Gelf

Mae’r blogio ‘ma yn mynd yn seriws. Dw i’n gwneud bob dydd ar y funud ond does ots. Mae gen i gymaint i sôn am ar y funud, fel dw i’n siŵr y gwelwch, ac mae’r frwydr yn erbyn pobl Metro yn parhau. Ni chânt ond am wg gennyf i yr hyn dyddiau, ac mae hyd yn oed y no thank you yn mynd yn hen. Angau iddynt, foch uffern!

Felly mi aethom ni i’r Bae neithiwr drachefn a gwneud yn waeth fyth ar y cwis, er fy mod i’n haeddu ennill (fedra’ i ddim siarad ar ran neb arall wrth gwrs, ond pan mae gynnoch chi frên fatha fi rydych chi’n llawn disgwyl ennill popeth).

Mi es hefyd am gyri neithiwr i’r Pen & Wig ac fe’r oedd hi’n boeth iawn a dydi hi’n gwneud dim lles i mi hyd heddiw. Dw i’n un o’r bobl ‘ma sy’n meddwl medra’ i handlo cyri poeth (er nad oedd hwnnw neithiwr yn boeth iawn), fel cred fy nhad amdano’i hun hefyd, a’r oll a wnaf yw chwysu, cwyno a chael poen yn bol wedyn.


Er, fe’r ydwyf yn haeddu Gwobr Nobel am Gwyno; y ceinaf o gelfyddydau’r byd. Mae'n cymryd dawn a dirmyg i gwyno'n iawn, a nid dim ond cwyno am y pethau mawrion megis diwedd y byd, gwleidyddiaeth a broccoli ond am y pethau bychain hefyd; pwy ohonoch gallwch weled drwg ym mhob un peth a welir neu glywir ar ddaear? Dydi o, actiwli, ddim yn rhy anodd o beth i'w wneud, ond nid y cynnwys eithr arddul y gwyn sy'n bwysig. Mae angen griddfan ac ochenaid dwys, llais cwynfanllyd a geiriau dethol. A dyna yw cwyno da.

martedì, marzo 20, 2007

Dyheadau

Iawn bobl y byd? Banana i bawb? Dim problem.

Felly mi aeth neithiwr yn ddidrafferth. Nid fod unrhyw beth wedi digwydd. Ie wir, dw i’n edrych ymlaen i fy siop fechan. Gas gen i olchi dillad, mae un o gant a mil o bethau bychain sy’n cyfrannu at y carth enfawr a elwir yn fywyd imi. Felly dw i wedi dod fyny â’r cynllun slei o brynu mwy. Serch hyn, mae diffyg arian yn un o’r pethau mawrion sy’n distrywio popeth yn fy mywoliaeth, ond bydd yn rhaid imi ddysgu byw felly. Arwydd ar gyfer y dyfodol ydyw.

Does gen i ddim mo'r arweinydd neu’r gwyddonydd neu’r athrylith ynof, gwelwch. A taswn i’n seleb fyddwn i’n un o’r rheiny ar sioe gêm ganol nos y mae rhai pobl yn adnabod yr wyneb ond neb yr enw.

Taswn i’n alcoholic bydda neb isio yfed efo fi. Taswn i’n gogydd ni fyddai neb yn bwyta fy mwyd. Taswn i’n butain fydda neb isio cysgu efo fi. Taswn i’n ysgrifennu byddai neb yn darllen fy ngherddi na’m straeon. Mae’n rhaid i mi, er mwyn Duw, stopio gyfuno pethau dydw i’m yn dda iawn arnynt.

Na, dw i am cael affêr efo smackhead tŷ cyngor, a mynd ar Trisha.

lunedì, marzo 19, 2007

Cynlluniau

Sudachi rapsgaliwns? Oes ‘na rywun arall yno sy’n licio madarch ond eto ddim yn cîn iawn arnyn nhw pam maen nhw’n laith a mae ‘na sdd yn rhedeg ohonynt ar hyd a lled y plant. A dweud y gwir, dw i’n teimlo’n eithaf sâl.

Ddim cymaint o sâl â Rhys Ioro, os ca’ i ddweud, neithiwr, a fynta’n chwydu o flaen Eglwys Gospel yn y Mynydd Bychan cyn dod i mewn i’n cegin a siarad am ‘drychfilod’ a dywedyd geiriau mawrion megis ‘dywedyd’ a ‘trychfilod’ (yn benodol).

Mae gen i ddiwrnod mawr yfory. Dw i’n mynd am dro efo’r Kinch i ganol dre yfory amser cinio i brynu crysau; a ninnau ein dau angen edrych yn smart i gwaith. Ac wedyn dw i’n mynd gyda Lowri Dwd am beint, sef rhywbeth nad ydan ni wedi gwneud gyda’n gilydd ers cyn cof.

Duw a ŵyr, efallai yfory fe gofiwn ni pam!

domenica, marzo 18, 2007

Haha Saeson!

Helo! Gwaeddwch! Bloeddiwch! Ymnoethwch! Mae Cymru wedi curo Lloegr! Ha! Onid ydyw’n wir, er yn druenus felly, nad ydyw’r Cymry gyda fawr ots am guro neb arall ond am y Saeson? Wedi’r wythdeg munud ddoe mi deimlodd bod holl boen y gemau cynt yn anweddu i ffwrdd a bod gwerth i guro Lloegr yn fwy na dim. Wrth gwrs, a gwelsoch chi mo hyn yn dod, roeddwn yn feddw.

Ia wir dyna ddiwedd fy hanes mewn difri. Dw i wrth fy modd gyda’r Mochyn Du, a bu i Dai Sgaffalde gynnig sedd i mi. Heb fymryn o sbeit, dydi Dai Sgaffalde (aka Emyr Wyn) ddim yn siwtio gwisgo crys sy’n dweud SAMURAI; mae o braidd fel afal yn honni mai banana ydyw. Serch hyn y sedd a gynigiwyd i dîn bodlon iawn.

Heddiw fe fyddaf yn cyfri’r gost o’r noson, wedi imi unwaith eto cael 20 Chicken McNugget wrth gerdded adref ar ôl Clwb a theimlo’n sâl iawn o’i herwydd, ond fedra’ i ddim helpu licio Chicken McNuggets. A cheir gwell bwyd na stwnsh iâr mewn cytew od?

Ni chredaf.

venerdì, marzo 16, 2007

Metro

Myfi a glof yr hon wythnos o flogio parhaus gyda chwynfan traddodiadol. Os mae un peth yr ydym ni’r Cymry yn dda am hynny yw cwyno, ac nid eithriad mohonof yn hyn o beth. O gwbl. Fel y gwyddoch. Pobl Metro sy’n ennyn fy llid anferthol, diddiwedd heddiw.

I’r rhai ohonoch nad ydych yn gweithio yng Nghaerdydd, a bydd cyfran go dda ohonoch, megis y person ac ysgrifennodd “jason morgan gay porn” ar Gwgl cyn dyfod i’r blog hwn rhywsut, mi egluraf. Mae Metro yn bapur newydd am ddim y mae pobl yn ei roi allan ar y strydoedd gyda’r bore. Wn i ddim ba bwy bynnag yw’r hyn bobl; creaduriaid od yn llechu dan bont y rheilffordd ger Sainsburys, ac yn gofyn mewn llais isel gyda gwên gam, “Metro?”


Maen nhw wedi gofyn hynny i mi bob bore yr wyf wedi cerdded i’r gwaith, a hynny er fy mod wedi gwisgo’r un het a’r un gôt pob diwrnod yn ddi-ffael, a hithau’n oer. A phob diwrnod myfi a wrthodaf. Poni chânt y neges? Dydw i ddim isio Metro. Mae’n crap. A hoffwn ei ddatgan yn groch i’r byd.

giovedì, marzo 15, 2007

Osgo gwael

Roeddwn i’n cerdded i’r gwaith heddiw a gwelais Haydn ar ochr arall y ffordd yn cerdded i’w ddarlithoedd. Osgo gwael sydd ganddo, mae top ei gorff yn hongian oddi-ar y gweddill ohono. Ac mae Ellen yn cerdded fel pengwin parhaol pissed off am gael ei watwar gan gwmni fisgedi, ac yn ôl y sôn mae gen i dinc o’r hoyw ynof wrth gerdded lawr y stryd; os, yn wir, y cymerir bod Brad Pitt yn hoyw, wrth gwrs.

Fedra’ i ddim disgwyl tan y penwythnos ac rwy’n anelu am y Sadwrn fel llofrudd am dir sanctaidd. Does gan Gymru fawr o gyfle o guro, wrth gwrs, gŵyr pawb hynny, ond mae gwyrthiau’n bosib, wedi’r cyfan, mae gan Blaid Cymru tair sedd yn San Steffan o hyd, er gwaethaf cael Ieuan Wyn Jones yn arweinydd, ac mi gurodd y Tramp y Lady yn y diwedd yn do? Gas gen i ffilmiau efo anifeiliaid yn siarad, fel Babe. Unig bwynt anifeiliaid yw cael eu bwyta a gorau po gyntaf y’i bwyteir i gyd.

mercoledì, marzo 14, 2007

Y Graith Seicolojical Ffug (neu, blogiad arall efo teitl eithaf randym)

Iawn chief? Dw i’n flinedig oherwydd fe’r aethom ni i’r Bae neithiwr, i ryw warws a’i trowyd yn far, a chwarae cwis. Dydw i, na neb arall am wn i, wedi chwarae cwis tafarn ers yr ail flwyddyn yn y Mackintosh pan oeddem ni’n wael uffernol. Felly y bu eto, a daeth yr holl deimladau ffiaidd o rwystredigaeth a dicter a syndod ac anfodlonrwydd cyffredinol yn ôl ataf, a doeddwn i ddim yn hapus, yn enwedig gan mai y Fi oedd yn gyrru, a does gwaeth na siarad efo Haydn ar ôl iddo fo gael ambell i beint a fynta’n mynnu bod gen i deep psychological scars. Sydd, a gaf i gymryd yr hwn gyfle i ddweud, ddim yn wir.

Ac felly y mae bod gan Kinch swydd yn awr, a bydd yn ennill mwy na fi. Sydd, wrth gwrs, o loes calon i rywun mor sinigaidd ac ydwyf innau. Nid cenfigennus, wrth gwrs, dydw i ddim yn neud cenfigen. Bydd i’n gwneud lot o deimladau eraill, cofiwch, yn cynnwys dryswch, hunan biti a sbeit, i enwi’r rhai sydd fwy na thebyg y tri uchaf.
Dw i’n mwydro. Gwell i mi weithio mwy.

martedì, marzo 13, 2007

Enw Gwychaf yr Anifeiliaid

Newydd sbotio yr enw gorau ar anifail yn hanes yr iaith Gymraeg pe’i chyfieithir. Sea snail yn Gymraeg yw iâr fôr lysnafeddog – faint o wych y byddai pe’i hadlewyrchir yn Saesneg fel snotty sea chicken?

lunedì, marzo 12, 2007

Gwaed

Helo gyfeillion, sut mae’r hwyl? Dw i’n teimlo’n ofnadwy oherwydd fy mod i’n hynod, hynod flinedig. Eithriadol felly, a dywedyd y gwir yn ei gwirionedd plaen. Gallaf i ddim, er fy myw, gofio rhannau enfawr o nos Sadwrn, er bod ambell i lun eithaf doniol ond cywilyddus wedi dod o’r unman i ddangos eu hunain ar Facebook. A blin oeddwn efo rhyw hen goc oen ddaeth ataf a heb ysgogiant ddatgan : “There’s only two people I hate, the English and Welsh-speakers!” Twat.

Aethom ni ddoe am fwyd i ryw dafarn o’r enw The Deri, oedd yn flasus tu hwnt i flas. Dyna’r tro cyntaf dw i wedi llawn lwyddo bwyta cinio dydd Sul ar ddydd Sul ers hydoedd gyda hangover (a dyma lle dw i’n fod i ddweud bod Llinos isio mensh ar fy mlog, felly dyna ni: Llinos). Mi esh i i dŷ’r genod nes ymlaen i wylio Lady and the Tramp, sef ffilm nad ydw i wedi ei weld o’r blaen ac mi benderfynais fod ‘na ormod o plotholes ynddo fi i mi.
Hwyrach ymlaen, cawsom ni adref bizzas ac eistedd o flaen y teledu i wylio Fallen Angel. Nid ydyw o syndod mai’r unig ffordd yr wyf innau a Haydn ac Ellen yn bondio gyda’n gilydd yw drwy wylio rhaglenni llofruddiog eu naws; y mae’n gyfle i ni ymdrybaeddu yn ein cyd-awch am waed a phrudd-der i’r ddynol-ryw a phob rhyw un sydd efo car neisiach neu dŷ gwell na ni. Ac mae hynny’n lot o genfigen.

sabato, marzo 10, 2007

Ffycprics

Mae nhw’n dweud wrthyf fi bod ‘na gêm ar heddiw. Rhyfedd iawn, achos dydw heb glywed fawr o ddim; ‘sdim heip, ‘sdim gobaith, ‘sdim awydd mynd allan gan fawr o neb i’w wylio. Mae’n drist iawn, os gofynnwch chi i mi. Dw i’m yn cofio gêm Cymru oedd gyda cyn lleied o heip iddo fo erioed.

Felly dw i’n fy ystafell, wedi bod i’r banc oedd ar gau. Oeddwn i’n meddwl bod banciau ar agor tan tua deuddeg ar ddydd Sadwrn, ond mae’n rhaid fy mod i’n anghywir.

Dw i’n prysur ystyried sut mae heno am gynllunio’i hun: mi gollais i fy ngherdyn Clwb Ifor ar y diwrnod bu imi ei brynu, felly dw i dal ddim yn hapus hynny. Er, gan ddweud hynny, dydi Clwb Ifor byth yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg ddim mwy, dim lawr llawr eniwe, heblaw am Y Brawd Hwdini os maen nhw’n teimlo fel gwneud.

A gas gen i R&B a phawb sy’n meddwl bod o’n dda. Ewch i ffwcio y ffycprics.

giovedì, marzo 08, 2007

Y Cogydd o fri (ni y fi)

Iawn? Yn dydych chi’n casáu sdiwdants? O’n i yn y dafarn neithiwr, am y tro cyntaf ers hydoedd yng nghanol yr wythnos, er mawr loes imi, a dyma ryw bybcrol enfawr o fyfyrwyr (non-GymGym) yn dŵad i mewn yn creu twrw a’i gwneud yn amhosibl mynd at y bar. Wel, oeddwn i’n flin. Bues i fyth mor gythreulig â hynny.

A dyma fi’n meddwl am fwyd wrth wylio gêm United. Hoff ydw i o feddwl am fwyd. Dw i a Kinch wedi bod yn mynd am fwyd bob cinio ers tair wythnos, tan yr wythnos yma achos fod ei swydd yn yr amgueddfa wedi dod i ben ond dim ots dw i ‘di hen flino ei glywed yn gofyn am chickenandbaconbaguette bob dydd eniwe.

Haydn sy’n ddoniol wrth goginio. Un garw yw Haydn, heb na chariad at ddyn na bwyd ac mae’n bwyta ffa pob a sglodion o leiaf dwywaith yr wythnos gyda rhywbeth (ond peidiwch â dweud hynny wrtho neu flin a fydd) ac yn gwadu ei fod (nid bydd yn hapus gyda mi pan weliff yr hwn flogiad). Ond does doniolach beth na’n Haydn ni yn gwneud lasagne neu ryw fân bei bugail gyda golwg o wir gyrhaeddiad a bodlondeb ar ei wyneb caregog, a fynta’n lledu’r mins ar hyd y ddysgl. Bron y gellir gweled swigen meddwl yn dyfod o’i ben ac yn dweud “Dyma gampwaith fy wythnos; dyma gyrhaeddiad arall i’m cofnod” - cyn ei stwffio yn yr oergell am ddyddiau a chymryd y lle i gyd.


Yn wir, eiliadau felly sy’n gwneud bywyd yn ddioddefol.

lunedì, marzo 05, 2007

Chicken Wrap

Mi welish i Glyn o Big Bryddyr heddiw yng Nghaerdydd wrth imi fynd drwy'r stryd yn bwyta fy nghinio. Na, does gen i ddim byd mwy diddorol i'w gwneud na syllu ar hanner-selebion bellach. Mae Glyn yn ddyn tal, felly byddwn ni byth yn gyfeillion. Mae unrhyw beth sydd dros 5"8 yn ennill fy llid, yn cynnwys pobl a jiraffs a phinwydd.


Iych, mae Eastenders ar y teledu ar y funud a Haydn yn gorwedd yn ei wylio megis darn o bren. Gas gen i Eastenders, ma'n ffiaidd ac mae rhai pobl arno yn gwneud imi isio chwydu.


Son am chwydu...

domenica, marzo 04, 2007

Y Ci a'r Daith a Thy

Prin yw’r pethau yn yr hwn fyd sydd wirioneddol yn rhoi gwên ar fy wyneb neu yn codi’r chwerwder dwfn sydd yn fy nghalon. Coeliwch ai peidio, nid dim ond cyfres o gwynion er mwyn y darllenydd yw’r hwn flog eithr wyneb hadau melltithiol fy mod yn dod i’r amlwg nawr ac yn y man. Chwerw ydwyf, a felly y byddaf hyd fy oes, ond mae gen i ambell i soft spot.

Wel, un, o bosib. Cŵn. Na, dydw i ddim yn hoff o fwnis ac nid fy mhaned mo babanod, ond pan fy mod efo ci dw i’n troi’n wirion ac yn blentynnaidd ac isio gwneud popeth a fedraf er mwyn ei blesio. Mi wnes hynny ddoe cyn mynd allan i’r Rhyng-gol yn Fangor, a brofodd yn fethiant llwyr oherwydd bu imi golli’r tocyn a dalais ddegpunt amdani, a dyfod adref yn fuan, a heb fawr o ots fy mod i wedi. Serch hynny, cyn hynny roeddwn i yn yr ardd efo ci mae Mam yn edrych ar ei ôl ar y funud ac wrth redeg o gwmpas gyda phêl cyn rhoi fy nhroed mewn twll a throi fy ffêr.

Ac mae hi’n brifo heddiw, gyda minnau’n gyrru lawr i Gaerdydd drachefn rhyw ben heddiw, er nad ydw i isio ac y byddwn i’n hapus iawn aros yn y Gogledd am wythnos arall. Yn enwedig oherwydd bod ‘Nhad a Mam a fi wedi cael trafodaeth am dŷ imi flwyddyn nesaf. Rydym ni am geisio safio arian gyda’n gilydd imi fedru ei fforddio, ond y gwir ydi nad allwn ni wneud mewn difri. Dw i’n drist ac yn ddigartref.