venerdì, maggio 29, 2009

Etholiadau Ewrop - Rhan II

Ymhen wythnos bydda i, a chychwi, yn gwybod canlyniadau Etholiadau Ewrop. Dwi’n llai hyderus fy mhroffwydoliaeth ddiwethaf, sef y byddai Llafur yn ennill yng Nghymru. Mae ‘na ryw reddf ynof yn meddwl y gallai fod yn flwyddyn Plaid Cymru. Mae’r reddf honno wedi bod yn drychinebus o wael, a hefyd yn rhagorol, o’r blaen. Cofiaf yn 2003 y bu i mi ddarogan etholiad llwyddiannus i Blaid Cymru yng nghystadlaeth ddarogan Maes E, ac wrth gwrs roeddwn i’n gwbl anghywir.

Ond deunaw oeddwn i bryd hynny. Yn wir, yn 2007, y fi wnaeth y broffwydoliaeth gywiraf ar Faes E, gan felly ennill tair potel o win coch, ac roedd ambell broffwydoliaeth ar y blog hwn hefyd yn rhai da. Mae’n rhaid felly fy mod i’n gwella wrth heneiddio, ond gwell i mi beidio â bod yn rhy trahaus!

Yr hyn sydd wrth wraidd fy newid agwedd ydi’r busnes treuliau, sydd dal heb effeithio ar Blaid Cymru, ond sy’n parhau i effeithio’n echrydus o andwyol ar Lafur, ond hefyd ar y Ceidwadwyr. Pwy fydd yn manteisio?

Ni ellir tanystyried effaith pleidlais UKIP ar y Ceidwadwyr yng Nghymru. Un enghraifft berffaith o hynny yw canlyniad Bro Morgannwg yn y Cynulliad yn 2007. Methodd y Ceidwadwyr ag ennill y sedd o 83 o bleidleisiau, a llwyddodd UKIP ddenu 2,310 o bobl i bleidleisio drosynt. Nid athrylith yn unig allai ddallt pe na bai UKIP wedi sefyll, byddai o leiaf 83 o’r pleidleisiau hynny wedi mynd at y Ceidwadwyr, a byddai’r Fro yn las.

O edrych ar ganlyniadau tebyg, mae dadl gref mai UKIP fydd prif fuddiolwr unrhyw bleidleisiau a atgyfeirir oddi wrth y Ceidwadwyr. Pe na bai UKIP yn bodoli yn 2007, y Ceidwadwyr yn bur hawdd fyddai ail blaid Cymru o ran pleidleisiau yn yr etholaethau. Mae’n parhau’n wir y gall nifer weddol fach o bleidleisiau ennill a cholli seddau.

Yng Nghymru, mae’n anodd gweld pwy ond am Blaid Cymru allai gael budd o unrhyw bleidleisiau a ddaw oddi wrth Lafur. Mewn rhai ardaloedd gellid dweud mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n elwa fwyaf, ond ni ellir ychwaith diystyried a) effaith y busnes treuliau ar y blaid honno na, b) pa mor wan yw’r blaid yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun Cymreig, gallwn hefyd ddiystyru’r BNP, a diolch byth am hynny.

Gan ystyried felly y byddai angen i UKIP a/neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill degau o filoedd o bleidleisiau yn fwy yng Nghymru, ar adeg y bydd y nifer sy’n pleidleisio yn llawer is na’r tro diwethaf, i ennill y bedwaredd sedd – wel, mae’n ymylu at fod yn annhebygol iawn i’r naill a’r llall.

Ond yn ôl at Blaid Cymru. Gall y Blaid ennill mwy o bleidleisiau o’r newydd oddi wrth Lafur na’r Ceidwadwyr. Byddwn yn dadlau bod uchafbleidlais Plaid Cymru yn uwch nag uchafbleidlais y Ceidwadwyr yng Nghymru – hynny ydi bod nifer uchaf y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru yn uwch na nifer y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru. Mae hynny’n seiliedig ar y ffaith mai prif ‘farchnad’ Plaid Cymru o ran denu pleidleisiau newydd ydi o blith pobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio Llafur, sef y grŵp mwyaf o etholwyr yng Nghymru hyd heddiw.

A thra bod popeth yn awgrymu nad ydi Plaid Cymru eto wedi ad-ennill y gefnogaeth a gafodd ddegawd yn ôl, mae’n hysbys bod Llafur Cymru yn wannach o bethwmbrath. ‘Does ychwaith unrhyw arwyddion gwirioneddol yn awgrymu bod y glymblaid wedi cael effaith wirioneddol wael ar bleidlais Plaid Cymru, er gwaethaf rhai o’i methiannau.

Ac mae hyn mewn adeg lle mae Llafur Cymru yn rym bur annrhawiadol a blinedig. Y cwestiwn mawr ydi, pan ddaw ati, a fydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, a’r Blaid neu’r Ceidwadwyr yn ennill digon o bleidleisiau?

Mae angen bod yn ofalus fan hyn. Ar ddiwedd y gân rhaid cofio, hyd yn oed mewn oes lle y mae Llafur ar drai, mae ei phleidlais graidd yn gryfach na phleidlais graidd yr un blaid arall. Nid y bobl hyn o reidrwydd yw’r rhai sy’n pleidleisio dros Lafur doed â ddêl, ond yn hytrach y rhai sy’n pleidleisio drosti pan fônt yn synhwyro bod eu hangen ar y blaid. A ydi’r grŵp hwn yn parhau’n grŵp digon mawr a dylanwadol i newid llif yr etholiad hwn? Wn i ddim am hynny bellach, mewn degawd deuwn at adeg, mi dybiaf, na fydd y grŵp hwn o etholwyr yn bodoli – ond tybed a ydi’r cryfder hwnnw, gwir gadernid y blaid Lafur Gymreig, yno o hyd?

Dyma’r etholiad yn anad ‘run arall y cawn weld hynny.

Cofiwch hefyd hawdd yw dweud mai dyma’r blaid a gafodd etholiad ‘trychinebus’ yn 2007 – llai hawdd yw cyfaddef er gwaethaf hynny llwyddodd o hyd ennill 11 o seddau’n fwy na’r ail blaid fwyaf, sy’n nifer sylweddol o seddau yn y Cynulliad.

Y gwir ydi, dwi ddim yn meddwl y gall neb wir broffwydo pa ffurf fydd ar dir gwleidyddol Cymru wythnos i heddiw. Y peth anhygoel ydi bod rhai yn dechrau sôn am y ras am y bedwaredd sedd fel un ddeuwedd rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Nid dyna’r realiti, wrth gwrs, ond mae hi’n dechrau edrych fel photo finish, a dwi’n mwy na fodlon cyfaddef y tro hwn, er gwaethaf fy mhrofwyddoliaeth gynt, dwi wirioneddol ddim yn gwybod pwy sydd am ennill y sedd olaf.

Newidia i ddim mo’r broffwydoliaeth honno, ond tasa chi’n fy ngorfodi heddiw i roi papur pumpunt ar bwy fydd efo dwy sedd ... bydda’n rhaid i mi fod yn onest a rhoi bet ar Blaid Cymru. A chredwch chi ddim pa mor rhyfedd ydi dweud hynny!

mercoledì, maggio 27, 2009

Cawliach meddyliol

Mae’n rhaid fy mod i’n falch iawn o gael fy rhewgell newydd. Cefais freuddwyd ei bod wedi malu neithiwr a bod angen cynnal profion arni. Diolch byth ‘na breuddwyd ydoedd achos mi fyddwn i’n ofnadwy o ypset pa na bai hwnnw’r achos.

Fel y gwelwch dwi heb flogio’r wythnos hon. Ddylwn i ddim fod yn anniolchgar ond mae’n gas gen i wythnosau gŵyl y banc. Wrth gwrs, dwi’n hoffi gwyliau cymaint â neb arall, ond mae ‘na rywbeth erchyll am gael y dydd Llun i ffwrdd o’r gwaith. Rhywsut, drwy ryw ledrith, mae’n gwneud i’r pedwar diwrnod o weithio deimlo’n hirach nag wythnos lawn, yn ogystal â chynnwys dau ddiwrnod gwaethaf yr wythnos, sef dydd Mawrth a dydd Iau.

Dylem ni gael gwyliau banc ar ddydd Gwener. Rhywsut byddai hynny’n teimlo fel penwythnos hir llawnach a mwy boddhaus, yn bysa?

Wn i ddim amdanoch chi, ond dwi’n gwylio’r Apprentice yn driw. Dwi wrth fy modd efo’r rhaglen, ac wrth fy modd yn casáu pawb sy’n cystadlu. Mae cymhelliant, synnwyr busnes da ac ysgogiad i gynyddu’n faterol yn bethau y mae llawer o bobl yn eu parchu, ond dwi ddim o gwbl, sy’n gwneud methiant yr ymgeiswyr yn felysach o bethwmbrath. Ond fydda i methu gwylio heno oherwydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr. Tai’m i sôn am honno rŵan – mae fy nerfau yn dechrau meddu fy nghorff eisoes. Yfory mi fyddaf yn drist neu’n orfoleddus – gall chwaraeon fod yn gas yn ogystal â gwych.


Reit, nôl i’r caib a’r rhaw.

venerdì, maggio 22, 2009

O na ddeuai chwa i'm suo?

O na ddeuai chwa i’m suo
O Garnfadryn ddistaw bell?
Fel na chlywn y gynau’n rhuo,
Ond gwrando ar gân y dyddiau gwell.


Hoffwn i chwa ddod i’m suo ar hyn o bryd, o unrhyw le (heblaw am Garnfadryn, yn bur eironig). Dwi’n eitha hyngover. Aethom i’r Curry Clyb fel arfer ond ‘doedd Rhys ddim yn teimlo’n rhy dda felly mi aeth adra’n fuan.

Tua 9 oedd hynny, a doeddwn i ddim wedi cael digon o alcohol, dyna’r gwir. Ro’n i isio mwy. Yn bur anffodus, roedd ‘na lwyth o ganiau Brains yn tŷ, ac wrth i mi eistedd lawr o flaen y teledu a Question Time, sydd ddim patch ar Pawb a’i Farn os gofynnwch chi i mi, agorais y can cynta’. Ew, mi oedd yn dda.

Ymhen dim roeddwn wedi hen argyhoeddi fy hun y dylwn yfed pob un wan jac o’r caniau. Ffwl ydw i. Eisteddais fel malwen o flaen y teledu, a’r cloc a drodd, a’r rhaglenni aeth o ryfedd i ryfeddach. Roedd Extreme Male Beauty, am ddynion sy isio edrych yn dda, yn ddiddorol. Dwi’n bur ffodus, nid oherwydd fy mod i’n edrych yn dda (tai’m i geisio eich twyllo, dwi’n edrych fel crwban heb ei gragen sy ‘di bod yn buta McDonalds am fis) ond oherwydd dwi’n fodlon ar y ffordd dwi’n edrych, ac yn meddwl bod hynny’n beth pwysig, os caf rannu f’enaid â chi.

Wedyn daeth ryw raglen ryfedd ymlaen am hen ferched yn mynd i Dominica i gael secs efo dynion du ifanc. Roedd honno’n rhaglen ryfedd yn wir, ond erbyn hyn ro’n i wedi dechrau meddwi.

Erbyn i mi wylio awr o Alan Partridge ar DVD (a fenthycais/ddygais gan Lowri Llew) roedd hi wedi un o’r gloch, â’r holl ganiau’n wag. Erbyn hynny, er i mi yfed digon o ddŵr, ro’n i’n gwybod yn iawn y cawn ben mawr yn y bora. Ro’n i’n gywir, wrth gwrs, a dyma pam fy mod yn teimlo fel hyn.

giovedì, maggio 21, 2009

Cymry'r Frechdan

Yn rhannol er mwyn arbed arian ac yn rhannol oherwydd nad ydw i’n licio gwario, fydda i’n mynd â brechdan i’r gwaith bob bore. Yn wir, mae’r peth mor ddiflas ag y mae’n swnio. Yn ymarferol, dwi ddim yn unigolyn creadigol nac arloesol. I’r gwrthwyneb bydd rhywun yn cadw at y cyffredin yn amlach na pheidio, ac adlewyrchir hyn yn fy mrechdanau.

Beth ydi’r frechdan orau? Pa frechdan sydd fwyaf ymarferol i fynd i’r gwaith? A ellir cyfuno’r ddau beth? Wn i ddim, nid gwyddonydd na phoffwyd mohonof, ond gwn fy mod yn dechrau diflasu. Bron bob dydd naill ai iâr (nid un cyfan), twrci (eto nid un cyfan) neu ham (sy ddim yn anifail fel y cyfryw) efo ciwcymbr fydda i’n ei wneud. Weithiau mi fentraf domato, ond bydd tomato yn gwneud i frechdan droi’n wlyb.

Brechdan lobsgows ydi brenin y brechdanau yn nheyrnas fy meddwl yr ymwneir ag ef â brechdanau. Neu frechdan ffishffingars – unrhyw beth poeth sy’n toddi’r menyn. Ew, dwi yn ffan o fenyn cofiwch, a digonedd ohono. Bydd rhai ddim yn rhoi menyn ar frechdan, yn ôl y sôn ar y winllan, a dwi ddim yn dallt hynny. Mae bara heb fenyn fel Elfyn Llwyd heb fwstash, y mae’r ddau’n cyd-ddibynnu ar lwyddiant ei gilydd, sydd o bosibl y gymhariaeth waethaf dwi wedi’i gwneud ers dechrau blogio chwe mlynedd nôl.

A chan ddweud hynny, tynnaf fy sylw uchod fod brechdanau’n ddiflas yn ôl. Mae brechdan yn fwyd bob tywydd – o gorgimychiaid a letys yn awyr iach yr haf, i frechdan gaws a phanad ger y tân pan fo’r nos yn ddu. Mae brechdanau yn wych.

Mae’r Cymry yn licio’u baramenyn yn fwy na’r un genedl arall, wrth gwrs – ni yn anad neb yw hil y baramenyn. Yn wahanol i neb arall medrwn fyta baramenyn gydag unrhyw bryd a roddir o’n blaen, ac nid yn anaml ledled erwau’n gwlad y clywir ‘wyt ti isio bechdan?’ gan fam wrth i’w thylwyth ddechrau ar gyri neu chilli neu ginio go iawn.

Tybed beth ydi hoff frechdan y Cymry? Nosweithiau hirion a dreuliaf yn ystyried y cwestiwn hwnnw (sy’n gelwydd). Roedd un o’m ffrindiau sydd o Reading, y tro diwethaf iddo ddod i Gymru fach, wedi cael sioc o weld faint o siopau brechdanau/baguettes sydd yng Nghymru, ac maen nhw’n bla yma. Ond pla addfwyn ydyw, arwydd pendant o symlrwydd y Cymry yn eu hanfod.

Mae’r Cymro a’i frechdan yn bennaf gyfeillion.

Setla’ i bob tro am frechdan caws a ham a thomato. Dwi’n meddwl bod hyn yn bennaf oherwydd mai dyma’r unig beth all fy nhad ei baratoi, ym maes bwyd, sy’n fwytadwy.

Ond dyna’r drafferth â brechdan – mae ‘na gormod o ddewis, gormod o gyfuniadau, ac o’r herwydd dyna pam, mae’n siŵr, y bydda i’n parhau i fynd â brechdan ham i’r gwaith yn feunydd.

martedì, maggio 19, 2009

golwg360 - ambell i sylw

Mae pawb arall yn cynnig sylwadau ar golwg360 a dwi’n teimlo’r angen i wneud yr un peth. Rŵan, cyn i mi baladurio rhaid i mi ddweud nad ydw i’n gwybod llawer am gyfrifiadura a’r we – fel y gwelwch o’r blog hwn. Er enghraifft, hoffwn i greu ffrwd o flogiau ar yr ochr fel sydd gan nifer o flogiau eraill, ond y gwir ydi ‘does gen i ddim syniad sut i wneud y ffasiwn beth. Felly pan ddaw at feirniadu eraill sy’n ymdrin â gwebethau, alla’ i’m dweud dim.

Gan ddweud hynny, dwi ddim yn cael fy nhalu i wneud hynny. Peth gwirfoddol a dibwrpas ydi blog fel hwn, ond mae golwg360 i fod yn wefan broffesiynol, lle y telir pobl i wneud iddi weithio. Ar y cyfan, dwi ddim yn gallu cwyno gormod am ansawdd y cynnwys na safon y newyddiaduraeth, ond mae’r erthyglau byrion yn gwneud i rywun teimlo y bônt wedi cael eu “twyllo”. Yn gryno, dydi o ddim werth mynd i unrhyw safle i ddarllen dau neu dri pharagraff o newyddion.

Tra fy mod yn deall yn iawn nad arbenigwyr gwe sydd wedi dylunio’r safle, mae’r edrychiad yn bur warthus. Mae’n hyll, yn hen ffasiwn, yn amhroffesiynol ac yn ddigon i wneud i rywun droi’i drwyn ar unwaith. Byddai newid ffont, cael lluniau maint cywir, a dod ag ychydig o liw iddo’n ddechrau, ond o ystyried y dyfarnwyd £200,000 oni ellir bod wedi cael rhyw faint o arbenigedd i helpu i ddylunio’r safle? I mi, dyma siom fwyaf y wefan, ac yn anffodus mae’n siomedig iawn - i’r fath raddau y synnwn ar y diawl pe byddai unrhyw un sydd ynghlwm wrth y wefan yn meddwl yn wahanol.

Dydi hi fawr o syndod y bu’r ymateb hyd yn hyn yn anffafriol. Wrth gwrs, tasg a hanner ydi cystadlu â’r unig wir ffynhonnell newyddion arall yn y Gymraeg, sef BBC Cymru, ond ar hyn o bryd dydi Golwg360 ddim yn dod yn agos at y wefan honno, er megis dechrau yw hi. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid bachu’r gynulleidfa ar unwaith – dwi ddim yn meddwl y llwyddwyd i wneud hynny.

Gobeithio y bydd pethau’n gwella oherwydd mi fyddai gwefan lwyddiannus o’r math yn hwb i’r Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg a’r Gymraeg ar-lein. Ymddengys i mi fod y lansiad wedi bod yn gynamserol braidd, ac y dylid bod wedi gwneud mwy o waith ar y wefan cyn gwneud hynny. Gobeithio na fydd y wefan ar ei ffurf bresennol yn troi gormod o ddarpar ddilynwyr i ffwrdd, unwaith ac am byth.

Dwi’n siŵr nad dyna fydd yr achos, ac mi fydda innau’n parhau i ddarllen am rywfaint, ond os nad ydi’r peth yn gwella rhagwelaf y byddwn i’n rhoi’r gorau i’w dddarllen. A fyddai’n deg gwneud hynny?

Byddai, yn fy marn i. Ydi, mae’n bwysig cefnogi mentrau o’r fath, ond mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau o’r fath a ddarperir yn Gymraeg o’r un safon â gwasanaethau tebyg mewn ieithoedd eraill. Hyd yn hyn, dydi golwg360 ddim.

Ond dwi’n siŵr y bydd pethau’n gwella ar fyr o dro.

lunedì, maggio 18, 2009

Y cyw bach cynta'

Dwi’n gwybod fy mod yn paladurio am anifeiliaid yn weddol aml ar y blog hwn (rhaid bod yn onest, dydi ‘y flog hon’ jyst ddim yn swnio’n iawn) ond alla’ i ddim helpu hynny. Tristaf agwedd ar y ffaith hon ydi fy mod i’n siarad ag anifeiliaid o hyd. Fel babanod, rhaid mi siarad yn Gymraeg ag anifeiliaid – y gwahaniaeth mawr yw fy mod i’n licio anifeiliaid, sy’n glyfrach eu ffordd a changwaith yn fwy hylan.

Fel rheol dwi ddim yn licio adar cymaint ag anifeiliaid eraill, er bod yr enwau a roddir ar adar yn y Gymraeg, megis y tingoch, y dryw penfflamgoch, sgrech y coed, iâr y diffeithwch, gwybedog y gwenyn a gwylan y gweunydd oll yn enwau gwirioneddol brydferth (efallai nid y tingoch llawn cymaint) – heb sôn am yr ystydebol ond anfarwol titw tomos las a’r jî-binc.

Nid yr un o’r rheini, am wn i, a ddaeth i’r ardd y diwrnod o’r blaen. Mae ‘na gryn dipyn o adar to yn nythu yn Grangetown. Cyw bach ydoedd yn yr ardd, yn hedfan yn drwsgl a digyfeiriad, wrth i mi daflu basil allan i’r ardd nad oedd wedi tyfu. Ar yr iorwg celain ydoedd, sydd ar y ffens rhwng y tŷ a drws nesa’. Roedd i’w weld yn ddigon cymysglyd p’un bynnag.

“Helo shwcs,” medda fi wrtho gan fynd yn ôl i’r tŷ, heb lawn werthfawrogi bryd hynny pa mor drist ydi siarad i aderyn, yn enwedig un nad ydych chi’n ei adnabod. Bu i’r bach drydar yn ôl i mi, fel rhywbeth o ffilm Disney, cyn hedfan yn syth i mewn i ffenest y bathrwm gan hanner gnocio’i hun allan cyn landio’n ôl ar y wal.


“Twat,” medda fi wrth fy hun, cyn mynd yn ôl i’r tŷ.

giovedì, maggio 14, 2009

Etholiadau Ewrop - proffwydo

Mae’r byd gwleidyddol yn bur ddiddorol ar hyn o bryd, dwi’n meddwl, gyda’r holl gyffro (wel, ffars) am dreuliau ac etholiadau Ewrop ar y gorwel. Fel pawb arall, dwi wedi fy syfrdanu gyda barusrwydd rhai o’n haelodau etholedig – allwch chi ddim beio pobl am beidio â phleidleisio, na fedrwch? Ond, bydd y busnes treuliau yn mynd o ddrwg i waeth, mae’n siŵr (er bu i mi chwerthin rhywfaint o ddarllen bod un AS sy’n ddyn wedi hawlio £1.11 am dampax), a bydd yn effeithio’n andwyol ar Lafur a’r Torïaid yn bennaf, a hynny gan fod pobl yn chwilio am unrhyw beth i roi cic i Lafur ar hyn o bryd, a bod treuliau’r aelodau Ceidwadol yn atgyfnerthu’r syniad eu bod i gyd yn gyfoethfawr a chefnog – delwedd y mae David Cameron wedi ceisio’i chwalu.

Y agwedd ar y saga sy’n fy niddori ydi pa effaith a gaiff ar etholiadau Ewrop, yng Nghymru’n benodol, wrth reswm. A fydd y dadrithio enfawr sydd mewn gwleidyddiaeth bleidiol yn sgîl hyn, yn enwedig o ran Llafur a’r Ceidwadwyr (ac i raddau llai y Democratiaid Rhyddfrydol), yn arwain at bleidleisiau i’r pleidiau llai ynteu dim ond llai o bobl yn pleidleisio i’r pleidiau mawrion?

Hyd y gwela i, yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi cadw’i phen yn glir o’r saga – wn i ddim beth ydi hanes treuliau ei thri AS ond dywedodd Elfyn Llwyd y diwrnod o’r blaen nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i’w guddio. Os ydi hynny’n wir, ac mewn difri dwi’n credu bod hynny’n wir, mae ‘na gyfalaf gwleidyddol fan hyn i Blaid Cymru. Tybed a fydd hi’n manteisio arno? Dwi’n credu pe gwnâi, y gallai o bosibl ennill yr ail sedd Gymreig yn Senedd Ewrop. Fuo byth dric gwleidyddol mwy effeithiol na bod yn burach na’ch gwrthwynebwyr.

Er hynny, mae greddf yn dweud yn wahanol. Er gwaethaf trafferthion enbyd y blaid Lafur, mae’n anodd iawn o hyd gweld y blaid honno’n colli’r ail sedd, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, dwi ddim yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill digon o bleidleisiau yng Nghymru i allu ennill y bedwaredd. Yn wir, yn sgîl y treuliau, byddwn i’n fodlon dyfalu y byddant unwaith eto yn bumed yng Nghymru y to ôl i UKIP – plaid fechan a all yn sicr fanteisio ar y llanast, yn enwedig o ystyried gwendid cymharol o BNP yma.

Yn ail, dwi ddim yn meddwl bod gan y Ceidwadwyr na’r Blaid y gefnogaeth graidd i allu ennill mwy o bleidleisiau na Llafur eto. Ydi’r Ceidwadwyr wedi eu heffeithio gan y treuliau, a Phlaid Cymru gan ei chlymblaid â Llafur? Mae’r rheini’n ffactorau anodd i’w hystyried; y gwir ydi, dydyn ni ddim yn gwybod eto.

Roedd etholiad diwethaf Ewrop yn drychineb i Blaid Cymru. Na, ‘doedd neb wir yn disgwyl iddynt gadw eu hail sedd wrth i’r niferoedd yn cynrychioli Cymru ostwng o bump i bedwar, ond a oedd rhywun yn disgwyl iddi ddisgyn y tu ôl i’r Ceidwadwyr am y tro cyntaf ers 1987, a gweld ei phleidlais yn syrthio 12%?

Mae amhoblogrwydd Llafur, hanes y treuliau, y glymblaid a difaterwch y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn gwneud y canlyniad yng Nghymru yn aneglur tu hwnt – dadleuwn i yn amhosib i’w broffwydo. Ond mi âf gyda fy ngreddf y tro hwn:

Llafur 2
Ceidwadwyr 1
Plaid Cymru 1

gyda Phlaid Cymru eto’n cael llai o bleidleisiau na’r Torïaid. Dybiwn i y bydd y ddwy blaid honno’n ennill rhwng 20% a 25% o’r bleidlais, gyda Llafur dros 25% ond nid yn fwy na 30%, a UKIP eto’n bedwerydd.

Ond tai’m i roi bet arno.

martedì, maggio 12, 2009

Helo o'r Eidal

Na, dwi ddim yn yr Eidal. Hoffwn i fod, ond dwi ddim.

Ewch i’r sarhad yn y blogiad ‘Nôl o Farselona’. Dilynwch y ddolen a gwnewch hynny a fynnwch ohono. Fedra i ddim dallt dim – pam fyddai rhywun o’r Eidal, sy’n licio cathod yn amlwg, yn dweud helo i mi? Os cyfieithwch y dudalen, ac fe ellir gwneud hyn (gwnewch yn Saesneg – fedra i ddim yn Gymraeg), fe sylwch fod y peth y tu hwnt i bob dealltwriaeth. Mi gefais dro ar gyfieithu fy mlog i Saesneg ar un o’r pethau hynny. Cyfieithwyd

Mai’n ffwcin boeth ‘ma

i

Fault heartburn ffwcin hot here


Sy’n ticlo fi os nad neb arall, dim ond am y ffaith dwi’n siŵr y byddai rhywun yn gallu dweud hynny’n Maesgeirchen ac y byddai’n gwneud synnwyr.

lunedì, maggio 11, 2009

Nôl o Farselona

Dyma fi’n fy ôl o Farselona felly gyfeillion! Hwra! I fod yn onest efo chi, gallwn i fod wedi g’neud efo diwrnod yn fwy o wyliau ond ta waeth am hynny, do mi a welais y traeth a’r Sagrada Famillia a’r Camp Nou a chael fy nghonio gan y cwrw drud a dod nôl yn edrych fel tomato efo llosg haul.

Lle mawr ydi Barselona. Rhy fawr, buom ni ar holl am bump awr yn chwilio am y Camp Nou. Ges i flistars. Do’n i’m yn rhy fodlon ar hynny. Dwi bob amser yn meddwl mai’r Camp Nou ydi’r stadiwm uwch bob un y mae rhywun isio’i gweld. Tai’m i ddadlau, roedd o’n ffantastig. Ro’n i hefyd yn meddwl bod y Sagrada Familla yn wirioneddol cŵl ond roedd o’n llawer llai nag ydi o mewn lluniau, ond yn tydi popeth (yn anffodus)?

Un siom anferthol oedd yr Icebar, lle mae popeth wedi’i wneud o rew. Fe’i ceir ger y traeth godidog, ac yn swnio’n lot well nac ydi o. Heb sôn am fod yn llai na chroth pry’ cop, dydi popeth ddim wedi’i wneud allan o rew, ac fel Cymry pur o galon nid oeddwn i na Rhys yn oer iawn, gan agor ein cotiau a thynnu ein menig. Wast o bymtheg ewro os bu erioed.

Ond dwi wedi bod rŵan, ac rŵan dwi’n ôl. Byddwn i methu byw ym Marselona, cofiwch, mae’r bywyd yn rhy wahanol i’r wlad hon, ac mae gen i orwelion cyfyng a bodlon, ac yn licio grefi gormod.

Dadbacio, golchi dillad, gorfod mynd i gwyno bod ‘n ffwcin rhewgell dal ddim wedi cyrraedd (dwi’n casáu Comet erbyn hyn, maen nhw’n absoliwt ffycwits de). Ydi wir, mae pethau’n ôl yn eu lle.

venerdì, maggio 01, 2009

Myned

Wel, wythnos nesa fydda i ym Marselona gyfeillion, felly bydd Hogyn o Rachub yn mynd i gysgu am ychydig yn llai na phythefnos. Welwn i chi wap.

Cadwch y ffydd!