Mae’r byd gwleidyddol yn bur ddiddorol ar hyn o bryd, dwi’n meddwl, gyda’r holl gyffro (wel, ffars) am dreuliau ac etholiadau Ewrop ar y gorwel. Fel pawb arall, dwi wedi fy syfrdanu gyda barusrwydd rhai o’n haelodau etholedig – allwch chi ddim beio pobl am beidio â phleidleisio, na fedrwch? Ond, bydd y busnes treuliau yn mynd o ddrwg i waeth, mae’n siŵr (er bu i mi chwerthin rhywfaint o ddarllen bod un AS sy’n ddyn wedi hawlio £1.11 am dampax), a bydd yn effeithio’n andwyol ar Lafur a’r Torïaid yn bennaf, a hynny gan fod pobl yn chwilio am unrhyw beth i roi cic i Lafur ar hyn o bryd, a bod treuliau’r aelodau Ceidwadol yn atgyfnerthu’r syniad eu bod i gyd yn gyfoethfawr a chefnog – delwedd y mae David Cameron wedi ceisio’i chwalu.
Y agwedd ar y saga sy’n fy niddori ydi pa effaith a gaiff ar etholiadau Ewrop, yng Nghymru’n benodol, wrth reswm. A fydd y dadrithio enfawr sydd mewn gwleidyddiaeth bleidiol yn sgîl hyn, yn enwedig o ran Llafur a’r Ceidwadwyr (ac i raddau llai y Democratiaid Rhyddfrydol), yn arwain at bleidleisiau i’r pleidiau llai ynteu dim ond llai o bobl yn pleidleisio i’r pleidiau mawrion?
Hyd y gwela i, yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi cadw’i phen yn glir o’r saga – wn i ddim beth ydi hanes treuliau ei thri AS ond dywedodd Elfyn Llwyd y diwrnod o’r blaen nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i’w guddio. Os ydi hynny’n wir, ac mewn difri dwi’n credu bod hynny’n wir, mae ‘na gyfalaf gwleidyddol fan hyn i Blaid Cymru. Tybed a fydd hi’n manteisio arno? Dwi’n credu pe gwnâi, y gallai o bosibl ennill yr ail sedd Gymreig yn Senedd Ewrop. Fuo byth dric gwleidyddol mwy effeithiol na bod yn burach na’ch gwrthwynebwyr.
Er hynny, mae greddf yn dweud yn wahanol. Er gwaethaf trafferthion enbyd y blaid Lafur, mae’n anodd iawn o hyd gweld y blaid honno’n colli’r ail sedd, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, dwi ddim yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill digon o bleidleisiau yng Nghymru i allu ennill y bedwaredd. Yn wir, yn sgîl y treuliau, byddwn i’n fodlon dyfalu y byddant unwaith eto yn bumed yng Nghymru y to ôl i UKIP – plaid fechan a all yn sicr fanteisio ar y llanast, yn enwedig o ystyried gwendid cymharol o BNP yma.
Yn ail, dwi ddim yn meddwl bod gan y Ceidwadwyr na’r Blaid y gefnogaeth graidd i allu ennill mwy o bleidleisiau na Llafur eto. Ydi’r Ceidwadwyr wedi eu heffeithio gan y treuliau, a Phlaid Cymru gan ei chlymblaid â Llafur? Mae’r rheini’n ffactorau anodd i’w hystyried; y gwir ydi, dydyn ni ddim yn gwybod eto.
Roedd etholiad diwethaf Ewrop yn drychineb i Blaid Cymru. Na, ‘doedd neb wir yn disgwyl iddynt gadw eu hail sedd wrth i’r niferoedd yn cynrychioli Cymru ostwng o bump i bedwar, ond a oedd rhywun yn disgwyl iddi ddisgyn y tu ôl i’r Ceidwadwyr am y tro cyntaf ers 1987, a gweld ei phleidlais yn syrthio 12%?
Mae amhoblogrwydd Llafur, hanes y treuliau, y glymblaid a difaterwch y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn gwneud y canlyniad yng Nghymru yn aneglur tu hwnt – dadleuwn i yn amhosib i’w broffwydo. Ond mi âf gyda fy ngreddf y tro hwn:
Llafur 2
Ceidwadwyr 1
Plaid Cymru 1
gyda Phlaid Cymru eto’n cael llai o bleidleisiau na’r Torïaid. Dybiwn i y bydd y ddwy blaid honno’n ennill rhwng 20% a 25% o’r bleidlais, gyda Llafur dros 25% ond nid yn fwy na 30%, a UKIP eto’n bedwerydd.
Ond tai’m i roi bet arno.
Nessun commento:
Posta un commento