Visualizzazione post con etichetta blogiau. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta blogiau. Mostra tutti i post

mercoledì, luglio 31, 2013

Rhun ap Iorwerth a Syniadau

Ni ddylai rhywun fel fi fod efo rheswm i gwyno am hyn y dweud y gwir, ond fedra i ddim ond â gwneud. Wedi’r cyfan, dwi wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ddwywaith yn y gorffennol a dwi ond yn 28 oed – y gwir ydi, wrth fynd yn hŷn dwi wedi sylwi nad ydi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn fy siwtio i. A dwi ddim yn meddwl, waeth beth fo daliadau gwleidyddol rhywun na chryfder y daliadau hynny, fod bod yn rhan o blaid wleidyddol i bawb. Digon teg, yn de?
 
Er bod lle i ddadlau ym mhob plaid wleidyddol werth ei halen, mae egwyddorion craidd y dylid cytuno arnynt. Ym Mhlaid Cymru, dyrchafu’r iaith ac annibyniaeth ydi’r ddau beth hynny. Dyna dwi'n ei feddwl eniwe. Dwi’n cytuno â’r rheiny o waelod calon, ond wedi amgyffred yn y gorffennol diffyg ewyllys ynghylch yr iaith ar adegau o du’r arweinyddiaeth. Rhyw deimlo oeddwn hefyd nad ydi’r drws yn agored ym Mhlaid Cymru i bobl sydd ar y dde wleidyddol. Tydw i ddim yn llwyr. O ran daliadau economaidd galla i bron â bod yn gomiwnydd, ond ar faterion cymdeithasol dwi’n geidwadwr mawr. Ddim at y graddau fy mod i isio saethu hipis ... dim ond rhoi slap iddynt a dwyn eu wîd.
 
Ond dydw i ddim isio trafod gwendidau na rhinweddau’r Blaid yma. Achos, yn y pen draw, 90% o’r amser mewn unrhyw etholiad, ymgeisydd y Blaid ydi’r un dwi isio iddo ennill. Ddim bob un tro, ond y mwyafrif llethol o weithiau.
 
A gan hynny, wrth gwrs mai Rhun ap Iorwerth ydw i’n ei gefnogi yn Ynys Môn, er nad oes gen i bleidlais. Roeddwn i’n un o’r rhai a amheuai’r sibrydion amdano’n ymgeisio, ond roeddwn i’n falch o glywed y byddai’n sefyll, ac ar ôl ei glywed ers hynny does dim amheuaeth ei fod yn ymgeisydd delfrydol i’r etholaeth honno.  Ac yn ymgeisydd cryf. A, rhaid dweud, y math o ymgeisydd y dylai unrhyw blaid wleidyddol fod yn falch o’i gael. Y mae unrhyw un sy’n rhoi i’r naill ochr yrfa lwyddiannus – a chymharol hawdd, sori cyfryngis! – am yr hyn a dybiaf sy’n swydd anodd, ddiddiolch yn aml, ac am dâl llai mi dybiaf, yn union y math o berson y dylem eu croesawu yn y byd gwleidyddol. Ac mae Rhun ap Iorwerth y math o (ddarpar!) wleidydd sydd ei angen ar Blaid Cymru. Dim dowt. Dim dowt.
 
Y mae’r isetholiad hwn hefyd yn un pwysig tu hwnt – rhywbeth nad oes neb wedi rhoi dyledus sylw iddo. Mae’n penderfynu a gaiff Llafur fwyafrif yn y Cynulliad ai peidio. Mae’n brawf mawr o gymaint y mae’r gwynt yn hwyliau Plaid Cymru hefyd. Mae’n brawf i arweinyddiaeth Leanne Wood. Y mae hefyd, i raddau llai, yn brawf i’r Ceidwadwyr ac UKIP ac yn gipolwg (bach iawn) ar sut y gallai’r frwydr honno ddatblygu. Dyma isetholiad pwysig iawn.
 
 minnau felly ddim yn aelod o unrhyw blaid, gallaf wneud rhywbeth dwi’n licio’i wneud, sef mynegi fy marn yn rhydd, a chynnig safbwynt diduedd hefyd. Ga’i ganmol a beirniadu fel y mynnaf. Os ydych chi’n aelod o blaid wleidyddol, fodd bynnag, rhaid i chi fod yn fwy disgybledig.
 
Felly fel chi mi dybiaf, dwi’n anghrediniol o sut mae blog Syniadau wedi ymateb i ymgyrch Rhun ap Iorwerth dros yr wythnosau diwethaf. Dechreuodd drwy bwdu, yna dilorni, cyhuddo ymgeisydd ei blaid ei huno gelwydda ac, yn goron ar y cyfan, mae’n dweud heddiw y byddai’n drychineb pe câi ei ethol. Tydw i ddim erioed yn cofio aelod o blaid wleidyddol yn mynd ati’n gwbl fwriadol, mewn etholiad mor hanfodol bwysig â hwn, i danseilio’r ymgeisydd sy’n sefyll dros ei blaid ar bob cyfle posibl. Dim jyst unrhyw aelod ydi o chwaith, cyn belled ag y mae aelodau Plaid Cymru nas etholir yn y cwestiwn, does fawr amlycach dybiwn i. O ystyried y feirniadaeth lu y mae Syniadau wedi’i chynnig ar Dafydd Êl a’i ddiffyg disgyblaeth, y mae’n rhagrith o’r radd flaenaf.
 
A hyn i gyd dros un mater – Wylfa B – gwendid canfyddedig Plaid Cymru yn yr etholiad hwn y mae Llafur wedi bod yn pigo arno dro ar ôl tro. Pe na bai gan y Blaid ymgeisydd cystal, sydd wedi cyfleu ei weledigaeth yn glir ac yn onest, gallai Llafur fod wedi cael llawer iawn o sbort efo hyn. Yn lwcus, achos cryfder yr ymgeisydd hwnnw, mae’n ymddangos nad ydi Llafur wedi gwneud hynny. Yn wir, y mwyaf y maen nhw wedi sylwi na allan nhw danseilio ymgyrch y Blaid na Rhun ap Iorwerth drwy sôn am Wylfa B, y lleiaf y maen nhw wedi’i drafod.
 
Ond dyna ni, pam ceisio’i danseilio tra bod rhywun yn ei blaid ei hun yn gwneud hynny, gan ennyn sylw’r Western Mail a nifer ar Twitter yn y broses? Yn fy marn i, mae ymddygiad Syniadau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn warthus. Ychydig wythnosau y mae wedi’i gymryd imi fynd o fwynhau’r blog (er anghytuno ag o ar nifer o bynciau), i feddwl ei fod yn chwerthinllyd, yn blentynnaidd ac yn bwdlyd. Dwi'n eithaf sicr nad fi ydi'r unig un sydd wedi digio i'r diawl â fo.

A hefyd, mae’n sarhaus o’r ymdrech enfawr mae cynifer o aelodau’r Blaid – ac mi dybiaf rai pobl nad ydynt yn aelodau – wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf i gefnogi ymgyrch y Blaid i gadw’r sedd. Y mae geiriau Syniadau gystal ymosodiad ar waith caled pob un wan jac ohonynt ag ydyw ar yr ymgeisydd ei hun.
 
Ta waeth...
 
Er fy mod i’n eithaf siŵr na fydd Rhun ei hun yn darllen, hoffwn ar lefel bersonol ddymuno pob hwyl iddo at yfory. Fo ydi’r ymgeisydd gorau i Fôn, ynys sy’n agos at fy nghalon innau hefyd. Bydd yn Aelod Cynulliad penigamp ac yn gynrychiolydd gwych i Sir Fôn – pobl Môn, nid Syniadau, a brofir yn iawn drwy ei ethol yfory.

 

domenica, settembre 04, 2011

Y mae'n awr yn hwyr y dydd (a gyda llaw, helo eto)

Wel helo helo! Dwi wedi cael penwythnos hyfryd ac yn teimlo fel y boi. Chewch chi’m crynodeb o’m hanes diweddar achos does ‘na ddim byd wedi newid, hen goc oen fues i erioed a hen goc oen ydw i. Dwi dal yng Nghaerdydd er fy mod i isio mynd nôl i Rachub, a dwi dal yn sillafu Vimto fel Vimpto ac yn ei ddweud felly hefyd, ac fydd na’m stop arna’ i yn hyn o beth. A pheidiwch â meddwl eich bod chi’n gwbl ddiogel rhagof, dwi’n dilyn y blogiau yn gyson a ffyddlon o hyd, yn gwneud yn siŵr eich bod chi gyd yn byhafio, er nad ydw i’n dweud llawer fy hun wrth gwrs. Sy’n drist ofnadwy achos, fel y gwyddoch, mae fy marn i’n bwysig.

Fe wnaeth un peth godi fy nghalon dros y dyddiau diwethaf, sef bod fy newis cyntaf i arwain Plaid Cymru, Elin Jones, wedi datgan ei bod am fynd am yr arweinyddiaeth. Efallai y soniaf am hynny’n fanylach maes o law, pan ddaw pethau’n gliriach parthed pawb sy’n bwriadu sefyll, ond petawn i’n ailymaelodi â’r Blaid (a ‘sgen i’m math o fwriad gwneud hynny – pan dwi’n llenwi cwisys ar-lein ‘pwy ddylia chdi fotio iddo fo’ dwi’n ddi-ffael yn cael y BNP) fel dwi wedi’i nodi o’r blaen, Elin Jones y buaswn i’n pleidleisio drosti, heb ronyn o amheuaeth. Y mae hi’n sefyll dros y Blaid ar y ffurf y credais ynddi.

Ond er bod Elin wedi codi ‘nghalon (a dyna’r unig beth iddi godi galla i eich sicrhau) mae ‘na ddigon o bethau sy’n parhau i’m digalonni, a rhoddodd Blog Banw fawr o achos imi wenu. Nid fy mod i ddim yn licio’r blog, wrth gwrs, dwi’n eithaf licio Blog Banw, ond ei eiriau am y Fro Gymraeg, ac a ddylem gefnogi Cymru ddwyieithog ynteu gwarchod y Fro. Ac a oes angen i ni ddewis.

Un peth dwi wrth fy mod am Gaerdydd ydi fy mod i’n gallu twyllo fy hun. Efallai bod y gymuned Gymraeg yma’n artiffisial i raddau helaeth, ond mae hi’n gymuned Gymraeg serch hynny, ac un sy’n cryfhau. Ond nid cymuned gynhenid ydi hi, mewn difri, eithr cymuned o alltudiaid o’r gorllewin a’r gogledd, sy’n gosod ei ffiniau ac yn hapus byw oddi mewn iddynt. Hyd yn oed os wyt Gymro Cymraeg a aned yma, mae’n bur debyg na aned dy rieni yma. Serch hynny, dwi ddim yn licio clywed pobl o’r hen ardaloedd yn poeri’n ewynnog eiriau cas am Gymry Caerdydd – y mae brwydr ieithyddol i’w hymladd yma hefyd.

Ydi’r frwydr honno yr un mor bwysig â brwydr y Bröydd? Wel, nac ydi. Y rheswm bod y Gymraeg yn rhyw fath o gryfhau yn y de-ddwyrain (a dwi’n dweud “rhyw fath o gryfhau” ar bwrpas) ydi oherwydd athrawon, cyfieithwyr, swyddogion a phobl broffesiynol alltud eraill yn dod i’r ardaloedd hyn o’r cymunedau Cymraeg, ac mae llif cyson ohonynt wedi bod ers dau ddegawd; y Fro gynhaliodd y Gymraeg yn y de-ddwyrain yn ystod ei dyddiau duaf. Ond dwy ochr i’r geiniog ydi hynny, wrth gwrs. Fel dwi wedi mynegi droeon erbyn hyn, mae’r Fro Gymraeg yn marw, ac oni wneir ymdrech benodol i’w hachub, y mae ar ben arni hi.

Yn anffodus, mae’r haul eisoes ar fachlud dros y Bröydd, ac mewn rhannau helaeth o’n gwlad y mae’r canfyddiad mai Cymraeg ydi’r brif iaith yno’n gwbl wallus; hunan-dwyll ydyw, fel i mi ganfod ar ymweliad diweddar â Chaerfyrddin. Yn 2011, myth ydi cadarnleoedd Cymraeg y de-orllewin; myth cysurus, bodlon. Nid canrannau siaradwyr sy’n bwysig eithr y geiriau ar dafodau pobl.

Y mae elfen o’r hunan-dwyll hwn hefyd yn y gogledd-orllewin. Dwi’n gwybod fy mod i’n cyfeirio lot at Ynys Môn fel enghraifft o rywle y mae’r Gymraeg mewn sefyllfa ddifrifol, ond fyddech chi fawr gwell yn ymweld â Rachub. Ynfytyn fyddai’r diystyru effaith y mewnlifiad ar y cymunedau hyn, ac mae digon o bobl gwleidyddol gywir sy’n gwneud hyn hyd yn oed ymhlith rhengoedd cenedlaetholdeb. Er enghraifft, dwi’n cofio i flog Syniadau ddatgan (er na allaf ffeindio’r union neges) na fyddai’n drychineb pe collid mwyafrifoedd Cymraeg Ceredigion a Sir Gâr yn y cyfrifiad nesaf. Wel, mi fyddai hynny’n drychineb – ac yn bwysicach fyth, trychineb fydd hi.

A beth am yr iaith ymhlith plant? Wn i ddim be sydd haru pobl sy’n magu eu plant yn y Saesneg tra y gallant wneud hynny’n Gymraeg, ond mae’n gyffredin iawn erbyn hyn – ac nid dim ond yn Rachub, neu yn Sir Gâr lle daw llai na 25% o blant ysgolion cynradd y sir o aelwydydd Cymraeg, mi glywch chi hyn yn ddigon cyffredin yn Llangefni neu Gaernarfon hefyd. Ac o ran y Gymraeg, chewch chi fawr gadarnach na’r llefydd hynny. Arferai pobl yr ardaloedd hyn, a’r Fro’n helaethach, feddwl ‘siarad Cymraeg = Cymro’.  Cytunwch ai peidio â hynny, mi dybiaf fod yr ymdrech i ddileu’r agwedd honno wedi niweidio’r Gymraeg yn enfawr mewn rhai cymunedau, ac efallai’n fwy penodol yn y de na’r gogledd. Hynny ydi, geith y plant siarad Saesneg a dal fod yn Gymry achos dydi’r Gymraeg ddim mwyach yn rhan hanfodol o Gymreictod.

Ychwaneger hyn at y ffaith bod llawer o blant o aelwydydd Cymraeg yn dewis siarad Saesneg gyda’i gilydd o’u gwirfodd, a dydi’r dyfodol ddim yn dda iawn. ‘Does ‘na ddim pwynt gofyn i rywun fel fi am atebion i’r problemau uchod – ‘sgen i ddim un a dwi’m yn meddwl bod gan fawr neb un. Y mae hynny yn ei hun yn dweud y cyfan.

Wrth gwrs, mae gynnon ni hefyd lywodraeth ym Mae Caerdydd sy’n ymddangos yn eithaf penderfynol mewn rhai rhannau o’n gwlad i ddileu’r Gymraeg yn llwyr ac yn ddi-droi’n ôl – wele gynlluniau tai’r gogledd-ddwyrain a Chaerfyrddin. Petawn ni oll yn erfyn ar ein llywodraeth i warchod yr iaith a Chymreictod a gwrthod y fath gynlluniau, neges i glustiau di-glyw fyddai. Dwi’m yn meddwl bod na gweinidog nac aelod cynulliad yn rhengoedd Llywodraeth Cymru sy’n poeni dim ei bod am ddifa’r Gymraeg. Pwy feddyliasai nôl yn ’99 y buasai ein llywodraeth genedlaethol ymhlith y llu ffactorau yn erbyn parhad yr iaith?

Dywed Blog Banw am eiriau Saunders Lewis:

Os am achub ein hiaith fel dywedodd Saunders, rhaid i ni brofi chwyldro, nid ond ar bapur ac arwyddbost ond ym meddylfryd y Cymry, a’r rheiny sydd yn galw Cymru yn gartref arnynt bellach. Rhaid i siroedd fel Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Fôn neud camau arwyddocaol i brofi eu bod o ddifri dros ddiogelu’r iaith. Yr hyn a gawn yw ffug gefnogaeth, sydd yn wastraff. Beth yw’r pwynt cael arwyddbost Cymraeg os na ellir cael gwasanaeth Cymraeg mewn cymuned Cymraeg?

Y mae’r hen Saunders yn cael ei ddilorni llawer heddiw, hyd yn oed ymysg rhai aelodau mwy trendi Plaid Cymru sy’n meddwl bod nationalist yn hen air cas, ond mae gen i barch mawr at Saunders (er y buaswn i’n sicr yn rhoi cic allan o’r gwely iddo). Yn anffodus i ni, roedd Saunders ychydig o broffwyd; ystyriwch sefyllfa adeg ‘Tynged yr Iaith’ a heddiw. Mi rhagwelodd y sefyllfa bresennol i’r dim, hanner canrif yn ôl, ac alla’ i ddim ond am gytuno â’i eiriau. Read it and weep, Cymru fach:

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

martedì, novembre 09, 2010

Y peth hawsaf

Dwi heb flogio’n iawn ers dros wythnos. Efallai i chi sylweddoli ar hyn ac efallai ddim. Y rheswm oedd i’r Hogyn fod yn sâl wythnos dwytha, i’r fath raddau yr oedd yn ei wely am 17 awr rhwng deuddeg a deuddeg wythnos nôl i heddiw. Fwytais i ddim drwy’r dydd dwi ddim yn meddwl ond yn anffodus gollish i’r un pwys a dwi dal nid ymhlith deliaf bobl y byd.

A phan fydd rhywun yn sâl ni fydd ganddo fawr awydd blogio, mi ddyweda i hynny rŵan – na phan fydd mewn rali neu wedi meddwi.

Weithiau wrth gwrs, mae’n anodd meddwl am rywbeth i flogio amdano. Dwi ddim yn cael andros o drafferth fel rheol a hynny’n bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o’r amser rywbeth yn mynd ar fy nerfau ddigon i mi allu cwyno amdano fan hyn. Ond gan ddweud hynny mae ambell waith adeg y mae gan rywun ormod i’w flogio amdano a dyna fy sefyllfa heddiw i raddau.

Dwisho sôn fwy am y ffaith yr oeddwn i’n teimlo’n sâl. Dwi’n gwbod does ganddo chi ddim diddordeb yn hynny. Dwisho sôn am Rali ddydd Sadwrn a hefyd y ffaith i fi feddwi yn ddigon anhygoel nos Wener a nos Sadwrn, rhwng mosh pit annhebygol i wneud jôcs amhriodol am bitsas ac Iddewon, ac ellir cyfuno’r ddau mewn post twt. A swni’n licio rhoi mwy o farn ar Pen Talar ond mi wneith Lowri Dwd roi ffrae i mi am ‘gwyno gormod’ – er i mi fwynhau Pen Talar! Ond, Lowri, os wyt yn darllen, ti yn rong ... roedd y colur yn shait.

A dwi ddim yn blydi hapus bod Spooks wedi dod i ben.

Ta waeth, yn y fath sefyllfa y peth hawsaf i wneud ydi brawddeg ar bopeth ac anghofio’r wythnos yn gyfan gwbl. Hynny wnaed, ac felly hynny fydd. A, Duw ag ŵyr, efallai y bydd gen i rywbeth diddorol i ddweud yfory...

venerdì, settembre 03, 2010

Pwt Pethau Bychain

Dwi bron yn teimlo’n ddiog ar ddiwrnod Pethau Bychain yn blogio achos, i bob pwrpas, gwneud yr un peth â dwi wedi’i wneud ers saith mlynedd ydw i. Dwi’n siŵr, ac yn gobeithio, y bydd y we Gymraeg yn llawn gweithgarwch heddiw. Fyddai’n braf meddwl y bydd pawb yn blogio ac ambell flog newydd yn dod i’r amlwg. Ar y llaw arall fe wyddoch be dwi’n ei feddwl am drydar...

Gyda thaith i’r gogladd ar y gweill, a’r paratoadau meddyliol dwys sydd ynghlwm wrth hebrwng y Dwd yno, dyna’r oll ‘sgen i ddweud am heddiw. Yn fuan eto, gyfeillion....

venerdì, maggio 07, 2010

Dim syniad ar flog Syniadau?

Dwi’n hoff iawn o flog Syniadau ar y cyfan, ond dwi’n siomedig iawn, hyd dicter bron â bod, fod yr awdur wedi bod yn dileu sylwadau yn y pwnc hwn, ac wedi mynd mor isel â chyhuddo’r rhai a wnaeth y sylwadau cwbl ddilys yn hilgwn.

Gallwch ddarllen y post gwreiddiol, a rhai o’r sylwadau, yma.

Gwraidd y drafodaeth ydi bod gwahaniaeth yn y ffordd y mae Cymry Cymraeg a Saeson yn pleidleisio yn yr ardaloedd Cymraeg (neu Gymraeg honedig ysywaeth). Mynegwyd yn un o’r ymatebion a ddilëwyd, a oedd yn hirfaith, synhwyrol a deallus, bryder y gallai Ceredigion ac Ynys Môn fod wedi’u colli’n barhaus rŵan ar lefel San Steffan oherwydd eu bod erbyn hyn yn ildio mor gyflym i’r llanw Seisnig. Mynegais innau fy mhryder am hyn yn rhai o’r proffwydoliaethau a wnes – gan grybwyll Preseli Penfro, Aberconwy, Ceredigion a Môn fel rhai o’r rhai lle’r mae’r bleidlais genedlaetholgar yn dioddef oherwydd mewnfudo. Gellir ychwanegu hyd yn oed Ddwyfor Meirionnydd at hyn.

I bob pwrpas, dywedwyd bod bellach bleidlais wrth-genedlaethgar, ac i raddau gwrth-Gymraeg, dactegol mewn rhai o seddau Cymru. Mae’n syndod i mi y gall unrhyw un synnu ar hynny!

Mynegwyd yn y post hefyd fod nifer o bobl yng Ngheredigion, y bobl Gymraeg gynhenid, yn teimlo fel pe bai’r Saeson sydd wedi symud yno bellach yn teyrnasu yn wleidyddol hefyd. Fedra i ddallt hynny, fedra i gytuno â hynny. Dwi’n petruso, sedd wrth sedd, mai dyma fydd y duedd yn y Fro a hynny’n uniongyrchol oherwydd y mewnlifiad.

Mae llawer iawn o bobl yn y Fro, hynny sydd ohoni, o farn debyg. Gall Syniadau eu galw’n hilgwn a pheidio â gadael iddynt fynegi eu barn – sy’n annheg ac yn annifyr ar y ddau gownt – rhydd iddo wneud hynny ar ei flog. Ond dealla hyn – y bobl sy’n credu hyn yw rhai o gefnogwyr selocaf Plaid Cymru, cenedlaetholwyr o argyhoeddiad â Chymru wrth wraidd eu bod, a heb eu pleidlais hwy bydden ni’n eistedd yma heddiw yng Nghymru di-Blaid Cymru. Rhybuddiwyd eisoes am y sefyllfa hon, ers degawdau, ac ni wrandawodd neb. Erbyn hyn, mae'r sefyllfa'n dechrau gwireddu.

Rho dy ben yn y tywod a gwaedda ‘hiliaeth’ nerth dy ben, os mynni. Ond rwyt ti’n anghywir, gyfaill, ac mae cyhuddo pobl o fod yn hiliol o fynegi hynny, o fynegi’r sefyllfa fel ag y mae, yn isel iawn.

mercoledì, dicembre 30, 2009

Nifer yr Ymwelwyr

BlogMenai sy’n dweud ei fod yn licio ‘syllu ar ei fotwm bol’ bob mis a sôn am nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld. Mae’r blogiau gwleidyddol yn boblogaidd iawn yn Gymraeg, wrth gwrs. Pan fydda i’n gwneud blogiad gwleidyddol bydd nifer y darllenwyr yn cynyddu’n eithriadol – hyd at dair gwaith yr arfer. Ond dwi wedi sylwi, er bod llai o sylwadau yn cael eu bwrw ar y blog hwn nag yn ei lencyndod flynyddoedd nôl, mae nifer y darllenwyr yn cynyddu, hyd yn oed pan y bydda i’n sôn am bethau dibwrpas fel cwyno am bobl gomon sy’n siopa’n Tesco. Ac, ydyn, mae pobol sy’n siopa’n Tesco yn gomon.

Fe’ch eithrir os gwnaethoch, fel y fi, nôl eich cinio o Tesco bach Cathays yn gynharach heddiw, afraid dweud.

‘Unique hits’ fydd yn mynd â’m bryd i, sef i raddau nifer yr ymweliadau unigol ac eithrio adnewyddu’r dudalen. Gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn dyma gymhariaeth rhwng ail chwe mis 2008 a’r chwe mis diwethaf. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2008 ymwelodd 3,747 o bobl â blog yr Hogyn o Rachub (y fi). Dydi hynny ddim yn swnio lot, ond yng nghyd-destun y byd blogio Cymraeg mae’n ddigon parchus, yn enwedig am flog personol. Eleni y ffigur yw 5,401 – sef cynnydd o 44%. Ydw, dwi’n smyg am hynny. Mae hynny wrth gwrs dal yn llai na nifer o flogiau Cymraeg (am wn i), ond dwi wedi bod o gwmpas ers chwe mlynedd a hanner a dachi’n bownd o ddechrau blino arna’ i, chwarae teg. A minnau arnch chi, afraid dweud.

Mae lot o hynny’n ymwneud â’r blogroll (dydi rôl blogiau ddim yn swnio gystal), a gynrychiolir yma ar y dde fel ‘Dwi’n darllen...’. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dallt sut mae gosod y teclyn, ond mae pawb arall wedi ei dallt hi ers misoedd. Mae pobl ddiflas fel y fi sy’n licio darllen blogiau (dan fwgwd ‘isio gweld y newyddion diweddaraf’ i guddio ‘dwi’n bôrd’) yn mynd o flog i flog o’r blogrolls i fusnesu ar farn pawb arall.

Fel y gwyddoch prin iawn fod gen i ddiddordeb ym marn neb arall. Tasech chi’n gorfod dioddef yr un bobl â mi fyddech chi’n dallt hynny. Er enghraifft, mae Haydn Glyn yn Dori, ac mae Ceren Sian yn gwadu bodolaeth disgyrchiant. Yr enghraifft gyntaf sydd waethaf, afraid dweud – yn bur drist mae’r ddwy enghraifft yn wir.

Mae genod a barn yn beth peryg. Na, dwi ddim yn dweud na ddylai fod gan ferched farn, er gwaethaf manteision amlwg hynny, ond yn sicr mae gwylio neu ddarllen newyddion yn gyfagos iddynt yn straen. Onid ydi’ch Mam, neu Nain, neu wraig neu rywun bob amser yn gorfod dweud “O diar, mae hynny’n drist” pan fydd rhyw ddrwg newyddion yn cael ei gyfleu yn y cyfryngau? Ac wedyn, pan ddaw rhywun arall i’r amlwg, “Tydi o’m yn ofnadwy am X yn marw yn X?” (fel arfer ‘plant’ yn rhywle nad ydych chi erioed wedi clywed amdano o’r blaen, megis y Swistir).

Reit, pethau i’w gwneud. Dwi dal heb drefnu be dwi’n ei wneud Flwyddyn Newydd. Dwi’n eithaf hapus cyfarch y degawd nesa’ yn Stryd Machen, yn gachu bants ar ôl yfed gwin drud ben fy hun ac yn rhegi i mewn i’r drych yn y lownj.

giovedì, dicembre 03, 2009

Newidiadau

Helo 'na bawb. Fel y gwelwch mae 'na newidiadau yn mynd i fod yma - dim byd rhy drastig, bydd y cynnwys yn sicr yn parhau o'r un safon isel, ond gan fy mod wedi defnyddio'r un templed ers bron i bedair blynedd, bydd y blog yn mynd drwy ei drydydd gweddnewidiad (mewn saith blynedd a hanner), sydd, o ystyried fy niffyg llwyr o ran sgiliau cyfrifiadurol, o bosibl am gymryd cryn dipyn o amser.

Ta waeth, peidiwch â heglu ffwrdd jyst eto!

giovedì, novembre 13, 2008

Y Cwsg Mawr

Pob rhyw ddeufis (sef tua phob dau fis, nid rhyw a geir yn ddeufisol) byddaf yn cael Cwsg Mawr. Y Cwsg Mawr ydi deg awr – fydda i yn fy ngwely am naw yn weddol siarp a ddim yn deffro tan y larwm saith y gloch drannoeth. Does gen i fawr o ddamcaniaeth am y rheswm dros yr ymddygiad rhyfedd hwn. Mi allwn synfyfyrio ei bod yn gysylltiedig â fy mywyd prysur, ond gwyddoch cystal â mi mai celwydd ofer byddai honni rhywbeth o’r fath.

Unigolyn blinedig ydwyf i. Erbyn hyn bydda i’n diolch i Dduw ac Allah a Ghandi mai methiant oedd fy nghyfnod o hyfforddiant athro. Anobeithiol byddai disgwyl i mi, diog fel yr wyf, i ddod adref a gwneud gwaith, neu godi’n fuan, ac wedyn bod efo mynadd i siarad â phlant. Mae Haydn yn ddigon o strach.

Er nad un actif mohonof, a fyddai’n egluro’r ymddygiad o beidio â gallu codi’n fore ac yn ddigon bodlon gwylio teledu drwy’r nos yn bur flinedig, nad yw’n aredig y tir nac yn rhedeg milltiroedd (ar y gallwn yn hawdd pe ceisiwn), dydi pobl ddim yn sylwi mai un o’r swyddi fwyaf blinedig ei chyflawni yw gwaith swyddfa. Gallwch ddadlau’n gryf i’r gwrthwyneb ond does ‘na fawr o ddim sy’n fwy blinedig nag eistedd o flaen cyfrifiadur am oriau maith.

Mae fy meddwl i’n eitha’ pys slwj o ganlyniad i hyn. Daw hynny’n amlwg os ‘runig beth y gallwch ei ysgrifennu ydi blog (weithiau, yn sôn am bethau fel methu cysgu). Yn bersonol fydda i’n licio darllen blogiau personol yn hytrach na rhai eraill (licio rhai gwleidyddol) yn sôn am hanesion a meddyliau pobl. Mae’n siom i mi nad oes llawer ohonynt yn y Gymraeg: dwi’n licio pobl ac yn eu ffendio’n ddiddorol.