mercoledì, gennaio 30, 2008

Tafarn, Cwmni Da a Phengwins

Yng Nghaerdydd mae’r haul yn codi ac mae hynny yn ei hun yn gwneud i mi wenu’n wirion. Na, hoffwn i mo’r tywydd poeth, ond mae’r tywydd braf yn mynd i ddyfnion noethaf y galon. Dw i’n gwybod mai mis Ionawr ydyw, ond yn fwy na fûm o’r blaen erioed dwi’n erfyn i’r tywydd hafaidd ddyfod.

Dyna’r broblem efo Cymru. Mae’r tywydd yn gyffredinol, wel, cachlyd. Cael gwyliau i fynd dramor yr adeg hon o’r flwyddyn y dylem; mae’n od bod pobl yn mynd yn yr haf pan mae’r haul yn penderfynu dod allan.

Soniem yn ddiweddar am fynd i Fflorida am wyliau yn yr haf. Ar ôl fy mrwdfrydedd cychwynnol dw i ‘di penderfynu nad ydw isio. Un rheswm ydi nad oes ‘na ddim yn Fflorida i mi. Mae’n boeth, dw i’n casáu torheulo, a dw i’n casáu nofio, sy’n rhywbeth y mae pawb yn ei wneud.

Y gwyliau yr hoffwn fwyaf byddai amsugno rhywfaint o’r hanes lleol, mynd i gastell neu edrych lawr ar gwm egsotig newydd ffres; bwyta bwyd newydd cyffrous ac yfed yn wirion bost yn y nos. Bob nos. Yn ddieithriad. Dydi partïon wrth y pwll ddim at fy nant, ac mae’n gas gen i draethau. Dw i byth wedi dallt pam ddiawl y byddai rhywun isio mynd i’r traeth am dro a chael tywod yn eu sgidiau. Gwell angau na hynny (celwydd).

Ond penderfynol ydwyf i fynd ar wyliau eleni, a chymryd wythnos gyfan i ffwrdd o’r gwaith. Ond i le a chyda phwy ni wn. Y broblem efo pawb ohonom ni ydi ein bod ni’n iawn i fynd ar sesh, neu sesiwn dramor deirnos, gyda’n gilydd, ond pe deuai at wyliau llawn y gwir ydi y byddai pawb isio gwneud pethau gwahanol a mynd i lefydd gwahanol.


Bodlon y byddwn ar Ynys Enlli am wythnos pe bai yno dafarn, cwmni da a phengwins.

martedì, gennaio 29, 2008

Yr Artaith Flynyddol

Mae’r diwrnod yn dyfod. Dw i’n cyffroi yn araf bach ond yn sicr iawn. Mae pob gronyn o amheuaeth a thywyllwch yn troi’n gobaith llachar a ffydd gadarn.

Ac wedyn mi fydd Lloegr yn ein curo ni ac mi fydda i’n cael noson flin.

Ond wir-yr, cyn i Gymru chwarae gêm o rygbi mae ‘na don o obaith anesboniadwy o gamarweiniol yn dyfod drosof, a’r rhan fwyaf o’r genedl. Ond serch hyn, mae gêm rygbi Cymru v Lloegr, ym mha le bynnag y bo, yn cymharu gyda’r Nadolig, dy ben-blwydd a pha ddigwyddiad bynnag arall sy’n mynd â dy fryd personol, fel un o’r diwrnodau hynny yn y flwyddyn rwyt ti’n ei ofni gan serchu amdano.

Dw i’n gwybod y drefn. Mi fyddaf fel cnonyn am weddill yr wythnos. Nos Wener a bore Sadwrn byddant maith. Bydd y nerfau yn effeithio ar y cyhyrau a’r meddwl ac mi ddaw unrhyw obaith i ben mor gyflym ac y daeth. Bydd y gêm ei hun yn artaith felys nas cilir nes y chwiban olaf. A dyn ag ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn hynny, ond gan ein bod ni’n mynd i Twickenham y tebygolrwydd ydi, waeth bynnag yr hyn y mae’r Western Mule yn ei adrodd, y byddaf yn cael fy siomi.


Ond fel y mae, dw i’n frwd, dw i’n barod, dw i’n serchog ddisgwyl, a dw i methu disgwyl!

venerdì, gennaio 25, 2008

Hiraethu am y Wlad Drachefn

Diwedd yr wythnos. A ninnau’n dyheu amdano onid agosáu at ein tranc ydym?

Ffwcia hynny. Ond mae gwaith yn crap fel rheol. Ni fedraf ond teimlo yr hoffwn yn fy ngwaith weithio ar gae yn yr elfennau, gyda gwynt a môr a gwyrdd o’m cwmpas. Mae ‘na elfen yn nwfn fy enaid (ac oes, mae gen i un, er pan y’i pigwyd ar fy nghyfer roedd o’n fwy o Aldis job na Marks a Sparks) sy’n credu’n gryf nad o fewn muriau y dylai dyn fod, ond yn yr awyr agored.

Methu’r wlad ydw i ar y funud mae’n siŵr. Y broblem ydi, mae rhywle fel Pesda yn ofnadwy o hyll a digalon yn y glaw, ond phan ddaw’r haul a’r tes i’r amlwg ni cheir gwell o gwbl. Does yr unlle sy’n denu fy nghalon mwy na Dyffryn Ogwen yn yr haul. Ond wedi mynd mae’r dyddiau lle y cafwyd wythnosau i ffwrdd yn yr haf, i grwydro ac i yfed peint slei yn Ogwen Bank. Dw i’n hiraethu am y wlad yn yr haul.

Mae’r haul yn gwneud i mi gofio adref. Ac ar y funud mai’n heulog yng Nghaerdydd.

Y ddinas, ylwch chi, ydi’r ddinas. Mae’n grêt, fedra’ i ddim am eiliad guddio’r ffaith fy mod yn caru Caerdydd, ond i mi does fawr o wahaniaeth rhwng y ddinas haf a’r ddinas aeafol, er mae’n rhaid i mi gyfaddef yn bonslyd reit bod peint ym Mae Caerdydd yn yr haul yn ofnadwy o braf.

Ond dyna ni. Am rŵan, hiraeth fydd rhaid.

giovedì, gennaio 24, 2008

Y Dyn sy'n Bwyta Moch Daear

Prin iawn iawn dw i’n blogio am raglenni teledu ond fedra’ i ddim helpu fy hun y tro hwn. Gyda Torchwood wedi dod i ben roeddwn i’n hanner-ystyried mai gwely fyddai’r lle gorau i mi, a minnau wedi bod yn effro yn fuan. Ond wrth i mi ddechrau styrio o’r soffa dyma’r rhaglen nesaf yn dechrau, o’r enw The Man Who Eats Badgers. Ac na, nid cwmpasu arferion rhywiol Haydn Blin ydoedd.

Dilyn ambell i unigolyn o amgylch Gwaun Bodmin yng Nghernyw draw oedd y rhaglen ddogfen hon, a’u bywydau, wel, od. Roedd Clifford yn hoffi crwydro’r gweunydd yn chwilio am banther a oedd yn bwyta da byw ffermwyr yr ardal, ac wedi dewis ar fyw ar ei ben ei hun. Sydd ychydig fel y fi ond dw i’n ormod o gachwr i grwydro gweunydd min nos.

Ac yna’r ficer a oedd yn canu ‘Oh Happy Days’ ar ei feic cwad o amgylch y lonydd gefn efo llais erchyll. O, mi chwarddais ar y darn hwn, wrth i Dyfed fy ffonio a’r ddau ohonom yn wir pistyllu chwerthin am funud dda cyn gallu ynganu gair i’n gilydd.

Ond seren y sioe oedd y dyn ei hun a oedd yn bwyta moch daear; Arthur, dw i’n credu oded ei enw. A chwningod. A gwylanod - a dweud y gwir unrhyw beth a laddwyd ar y ffyrdd. Mi yrrodd o amgylch yn chwilio amdanynt, yn mynd â hwy adref a’u torri a’u coginio a’u bwyta. Dw i’n fentrus iawn fy mwyta ac yn rhoi cynnig ar bopeth, ond rhywsut roedd gweld yr hen wallgofddyn yn cnoi ar asgwrn a chymalau mochyn daear a ganfuwyd ar y ffordd yn wir wneud i mi deimlo’n ofnadwy o sâl.

Ni’m hargyhoeddwyd wrth iddo ddatgan fod y mochyn daear yn well na “chig mewn archfarchnadoedd nad ydych chi’n gwybod beth sydd ynddyn nhw mewn difri”. Er fe ddywedodd â balchder nad oedd wedi bwyta cath deircoes gelain ei wraig. Â phob parch, Arthur bach, nid rheswm dros ymfalchïo mo hyn.

martedì, gennaio 22, 2008

Ffrwythau, Castro, Toris a.y.y.b.

Ia wir, fi sydd yma - yr arwr fry o Rachub draw; y cyfieithydd caib a rhaw. Felly'r y’m hadwaenir, nad anghofiwch er eich budd eich hun.

Wn i ddim amdanoch chi, ond nid ffrwythau mo fy hoff bethau. Hynny yw, o ran fy hirfaith restr o hoff a chas bethau, maen nhw ar tua’r un lefel â chadeiriau plastig a’r Blaid Werdd. Ond mi brynais gryn dipyn neithiwr. Anghofiais fy mod yn hoffi eirin tan neithiwr, felly mi brynais rhai a dw i wedi penderfynu mi a’u bwytaent yn amlach.

Diflas ydyw afal neu fanana, ac mae oren yn strach stici, felly eirin a gellyg bydd y peth i mi ar yr ymgais barhaol i wella fy neiet a gwneud dim ymarfer corff. Sydd ond yn deg, does disgwyl i mi fwyta’n iach ac ymarfer corff, wedi’r cwbl.

Dw i’n meddwl bod y byd yn lle diflas iawn ar hyn o bryd. Does gen i ddim BBC3 felly fedra’ i ddim gwylio Cwpan Cenhedloedd Affrica, er fy mod i isio gwneud a ffendio ryw dîm i’w gefnogi (am ryw reswm yr Aifft sy’n mynd â fy mryd, mwy na thebyg oherwydd fy mod i’n licio galw plant drwg yn ‘Arabs’ ac roeddwn i wastad yn licio ffilm The Mummy). A does gen i ddim diddordeb yn Northern Rock, sef y stori diflasaf a amlygodd ei hun eleni.

Mae ‘na etholiadau yng Nghiwba yn dod i fyny ond rhaid i mi ddweud dw i’m yn gweld pwynt dyfalu pwy wnaiff ennill. Er, dw i’m yn meindio. Dw i’n caru Ciwba a dw i’n caru Castro, a phryd drengiff y dyn mi fyddaf y cyntaf i godi peint iddo. A pha beth bynnag, byddai’n well gen i fyw o dan Castro na David Cameron unrhyw bryd...


Dw i’n hoff o ailadrodd bod Toris yn troi arna’ i.

venerdì, gennaio 18, 2008

Y Werin Ddiwylliedig

Mae chwerthin yn groch a dweud “be uffar mae hwn yn ei wneud dudwch” yn uchel am bobl sy’n ffwndro o’m mlaen yn y ciw ym Morristons yn fy ngwaed. O Nain, gallwch efallai ddychmygu, y daw’r elfen hon ohonof. Mae Mam yn fwy parchus, yn hoff o’r dosbarth canol a henoed. Mae Dad yn ddosbarth gweithiol amlwg sy ddim yn licio pobl dosbarth canol ond sy’n eu goddef er mwyn Mam.

Er gwaethaf bod yn gyfieithydd o Gymro Cymraeg yng Nghaerdydd dw i unlle’n agos i fod yn ddosbarth canol. Mae’n fy ngwylltio hyd eithaf fy enaid bod Cymry Cymraeg Caerdydd i gyd yn cael eu portreadu felly, gan bawb o bob cwr.

Er, does dadl bod y Cymry Cymraeg hyd heddiw yn werin ddiwylliedig. Pa Sais dinesig gweithiol all dyfynnu Wordsworth neu Shakespeare â sicrwydd? Gŵyr y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg eu hemynau a’u cerddi a’u caneuon gwerin. Nid ydym fel y bûm, ond o holl werinoedd y byd dangoswch i mi un sydd mor hanfodol ddiwylliannol â’r Cymry Cymraeg.

Dw i’n mynd i Aberystwyth yr hwn benwythnos. Dw i heb fod am sesiwn i Aber ‘stalwm. Chwydodd rhywun dros fy nghrys Gym Gym Hobbit Bisexual tro diwethaf. Ac ni fydd pethau’n well y tro hwn.

Mae gen i got fach swanc del a gefais ychydig fisoedd yn ôl. Un smart ydyw i fynd allan ynddo, a does gen i ddim byd smart arall, ond bob tro y bydda’ i’n ei gwisgo i fynd allan dw i’n cael anlwc ofnadwy, o grwydro Treganna yn y glaw am bump o’r gloch yn y bore i chwydu mewn parti gwaith i fachiadau erchyll.

Ella af â chot arall ac edrych yn gomon fyddai orau; fel un o’r werin ddiwylliedig.

martedì, gennaio 15, 2008

Mae Nain yn dweud...

[plys Anti Blod] Ar lesbians:
“Roeddan ni’n clywed am wrywgydiwrs, ond ddim y lesbians ‘ma. Maen nhw’n bob man rŵan.”

Ar y tywydd yn Sir Fôn:
“Os mai’n ddrwg yn Llangefni, mai’n ddrwg ym mhob man”

Ar dorri pysgod:
“Ti angen cyllall dda i dorri ffish, ‘motsh pwy wyt ti.”

Ar Gaerdydd:
“Maen siŵr bod ‘na lot o darcis yn byw ffor’ma does?”
“Pryd ti’n dod nôl i Gymru o Gaer acw?”

Ar Dad:

“Dydi dy dad da i ddim”

lunedì, gennaio 14, 2008

Arallgyfeirio

Mae ‘arallgyfeirio’ yn air y mae ffermwrs yn ei ddefnyddio pan maen nhw’n smalio ehangu eu busnes. Dw i hefyd am arallgyfeirio fy mlog. Dw i ‘di penderfynu mai peth da byddai bod rhywfaint yn fwy eang fy mwydro ac i ddweud mwy am y pethau dw i yn eu mwynhau, fel gwleidyddiaeth, a chwaraeon, yn ogystal â synfyfyrio am eiriau Cymraeg am fwyd a rantiau diderfyn. A straeon anniddorol am fy mywyd fel cael nôl petrol i’r car a mynd i Morristons.

A rhegi mwy. Does ‘na ddim digon o regi mewn blogiau Cymraeg a chynlluniaf lenwi’r bwlch.

Wrth gwrs, ffordd gyfrwys yw hon i orfodi fy hun i flogio heibio’r marc 5 mlynedd - buan iawn y gwnes sylwi heb flog byddai’n rhaid i mi ddod o hyd i le arall i fynegi fy hun, a mwy na thebyg fe fyddwn i’n gwneud rhywbeth fel ysgrifennu llyfr a mwy na thebyg byddai’r Lolfa neu rywun yn ei wrthod. Ac ni fyddai hynny o fudd i neb (ond am flogio Cymraeg ar-lein a llenyddiaeth Gymraeg gyffredinol).

Reit, cawod amdani a gwneud fy ngwallt yn fflwffi neis i’m gwneud yn weledol dderbyniol ar gyfer garej Ford Llangefni.

venerdì, gennaio 11, 2008

Y Tymer Da

Hwrê! Dw i’n mynd i drigfan angylion y byd gwaraidd, Gogledd Cymru. Wel, yn diystyru Clwyd oll, gan ei bod yn rhy agos i Loegr. A Dwyfor a Meirionnydd achos dydyn nhw’m o unrhyw arwyddocâd i mi, ac ychydig yn ddiflas. A Sir Fôn i’r gogledd o Langefni, neu ‘yr Anialdir Diwylliannol’ ys gwetws. A Bangor, sydd jyst yn sgyman o le. Pe trechid y byd gan luoedd y Diafol, Bangor nas newidir. Ddim yn siŵr os ydi hynny’n ramadegol gywir, ond bydda’ i byth yn gwybod os na fentraf.

Ho ho jocian dw i, cofiwch chwi o Ddyfrdwy i Aberdaron. Ond am Fangor. Seriws am hynny.

Hwrê! Fel y bydd Nain yn ei ganu: Show me the way to go home, Sir Gaernarfon neu Shir Fôn...

Wrth reswm dw i’n eithaf cyffrous, er mai fy neges yno fydd trip i’r deintydd a threfnu MOT i’r car. Penwythnos o yfed gwin goch a bwyta Doritos. Dwi’n class act fi. Math o gameleon cymdeithasol sy’n iawn mewn tŷ cyngor a phlasau brenhinoedd.

Fel y gallwch amgyffred mae ‘na dymer da arnaf. Pan dw i mewn tymer da dw i’n un o’r bobl orau i fod yn eu cwmni, heb os nac oni bai, a phan dw i mewn tymer felly dw i’n ffraeth a doniol a llon a llawen fy nghywair. Ar y llaw arall, pan na fyddaf mewn cystal tymer dw i’n sbeitllyd, oriog a chyffredinol annifyr. Ond yn y tymer hwn ni all neb wrthsefyll fy swyn, ac mae pawb f’eisiau.

Gogledd Cymru, dyma fi’n dod!

(dim fel ‘na)

giovedì, gennaio 10, 2008

Bwyd Organig a Ieir Buarth. Ac ati.

Mi gliriais fy mhen neithiwr a phrynu 24 can o Fosters am ddegpunt o Morristons. Byddai dilyn y trywydd o droi’n alcoholic yn beth hawdd iawn i mi ei wneud pe nad gwyliwn fy hun yn ofalus. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, sydd yn echrydus o amser maith yn ôl erbyn hyn, nid yn anaml y cawn rywfaint o fodca amser cinio neu gan o seidr ar y ffordd i ddarlithoedd.

Serch hyn, ieir sy’n mynd â fy mryd heddiw, ar ôl gorffen gwylio’r gyfres efo’r boi posh ‘na yn gwneud ryw ymgyrch yn erbyn ieir yn cael eu cadw mewn amodau ofnadwy. Roedden nhw’n ofnadwy, cofiwch, mae hawl gan y bobl cynhyrchu ‘ma i gadw 17 iâr i bob metr sgwâr, felly amlygwyd cymaint yn fwy egwyddorol, os mai dyna’r gair cywir, ydyw ieir buarth.

Ond dydw i ddim am wario mwy ar iâr buarth a dyna ddiwedd arni. Waeth ots gen i am egwyddorion, fedraf i ddim fforddio cynnyrch buarth. Petawn yn gallu, mi fyddwn, ar sail egwyddor hefyd, ddim fel y ffrîcs dosbarth canol ffug-barchus ‘ma sy’n eu prynu er mwyn ymddangos yn egwyddorol ac yn mynnu dweud This is Free Range Chicken pan ei di am fwyd i’w lle nhw. Nid fy mod i’n cael cynnig o’r fath.

Ond twyll mwyaf ein hoes (iawn, gor-ddweud yw hyn, ond meeeh) yw bwyd Organig (y brand yn hytrach na’r cysyniad, hynny yw). Mae’n ddrud. Mae’n blasu’r un peth. Yr oll ydyw ydi ffordd i bobl “ddangos” eu bod nhw’n “wyrdd”, ac mae’r ffaith ei fod mor ddrud yn ei wneud yn beth rhwng dosbarthiadau. Os wyt ti isio blasu gwir wahaniaeth mewn bwyd pryna o siop fferm neu farchnad. Dyna ydi ffres a dyna sy’n neud gwahaniaeth, a tai’m i wrando ar ryw ffecin hipis sy’n mynnu’n wahanol.

Waeth bynnag, y broblem ydi bod bwyd buarth yn ddrud, ac mae’n fy nghorddi i glywed pobl dosbarth canol hunangyfiawn yn mynnu y dylai pawb ei brynu heb ystyried sefyllfa ariannol pobl eraill nad ydynt yr un mor ffodus â hwy. Petai cynnyrch buarth yr un pris, mi fyddwn i’n ei brynu. Byddai pawb yn gwneud. Ond fedraf i ddim mo’i fforddio, a chan fod gen i, fel llawer iawn, iawn o bobl, gyllideb gyfyngedig, mae’n rhaid i fy lles ariannol i ddod cyn lles iâr.

Ond caiff Organig dal fynd i ffwcio’i hun.

mercoledì, gennaio 09, 2008

Ionawr. Casáu Ionawr.

Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.

Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr is y byddaf yn ei deimlo. Rŵan, hawdd byddai mynd allan a pheidio â meddwi, ond fel y rhan fwyaf o bobl dw i ddim yn or-hoff o gwmni meddwons ac yn meddu ar yr ymagwedd ‘if you can’t beat them, join them’ yn hyn o beth. Ac i fod yn onest os ydi rhywun am gael noson sobor does lle gwaeth i fod na thafarn.

A p’un bynnag, ymddengys fod pawb arall yn arbed arian ar ôl y Nadolig, a gwn yn iawn nad Myfi yw’r unig un yn y byd sy’n dioddef o’r blŵs blwyddyn newydd. Mae rhywbeth argoelus ac anghysurus am fis Ionawr. Mae’n oer ond heb y cynhesrwydd Nadoligaidd mewnol y caiff rhywun ym mis Rhagfyr, tân gwyllt Tachwedd na Chwe Gwlad Chwefror. Yn wahanol i gyfnod y Flwyddyn Newydd ei hun, bydd rhywun wirioneddol yn sylwi mai ‘blwyddyn nesaf’ yw eleni, ac y byddant hwy a phawb o’u cwmpas flwyddyn yn hŷn.

Yn gyffredinol dw i’n unigolyn optimistaidd o ran sawl peth, ond pan ddaw at faterion personol dw i’n ystyfnig besimistaidd, a hynny o gyfuniad o fod yn realistig a chynnal delwedd, wrth gwrs. Gyda diffyg gweithgareddau Ionawr mae’n anodd peidio â throi at feddwl yn ddu a bod yn gyffredinol hunandosturiol a phrudd.

O wel. Dim ond dau ddiwrnod ar hugain o Ionawr i fynd. Fyddai’n fy nagrau ymhen dim, fe gewch chi weld.

martedì, gennaio 08, 2008

Spring Onion

Be ffwc ‘di ffradach? Oes y ffasiwn air yn bodoli, neu ai rhywbeth a fathais yn fy meddwod Nadoligaidd ydoedd? Wn i ddim, ond mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl ers talwm, a ‘sgen i ddim mynadd chwilio geiriadur Bruce, a dydi Cysill da i ddim i neb mewn difri calon.

Wedi cam-glywed oeddwn i, gan gredu bod rhywun yn galw ‘spring onion’ yn ffradach. Y gair y byddaf yn ei ddefnyddio yw sloj; wn i ddim amdanoch chi. Fodd bynnag, fel y merllys a drafodwyd gynt, mae sawl gair Cymraeg am y ‘spring onion’ hefyd. Dywed Bruce mai sibolsyn, siolen, sgaliwn a shibwnsyn ydyw’r geiriau ar ei chyfer, sydd eto yn fwy na sydd i’r Saesneg (er yn ddibwynt felly).

Yn wir, cymaint o hoff yr ydwyf o’r gair sloj fel y byddaf yn prynu’r llysieuyn ei hun yn ddyfal, dim ond er mwyn cael dweud wrth bobl fy mod wedi cael ‘sloj i de’ neithiwr. Nid celwydd mo hyn: o ran eu blas ni welaf fawr o rinwedd iddynt, ond o ran y gair sloj mi fwytwn un y diwrnod pe cawn y cyfle.

Reit, dyna bum gair Cymraeg am y ‘spring onion’. Tybed a oes mwy?

sabato, gennaio 05, 2008

Ffycin analog

Fedrai'm cael bywyd normal na fedraf? Dw i'n ffecin flin. Dw i yma yn fy nghartref clud a mae'r teledu wedi penderfynu nad yw BBC2 Cymru yn bodoli bellach, ond am ryw rheswm hollol, hollol od mi fedraf bigo fyny BBC News 24 ac Animal Planet.

Mond ffecin analog sy gen i!

venerdì, gennaio 04, 2008

Penwythnos Dialcohol Perffaith

Helo. Dim meddwi’r penwythnos hwn. Fe fydd yn benwythnos rhyfedd iawn. Dw i’n dechrau cynllunio o’i gwmpas yn barod. Y peth cyntaf hanfodol ar gyfer penwythnos sobor ydi Doritos a dip Nionyn a Garlleg. Maent yn gwneud dip Nionyn a Garlleg yn Morristons ond efo ‘herbau’, ac ond am basil ac oregano does ymddiriedaeth gennyf mewn herbau. Felly i ASDA bydd yn rhaid mynd. Dw i’n meddwl yr af am dro i Lidl heno, hefyd, i gael bargen, a minnau heb fod ers oes pys, yn de.

Yr ail beth ydi rhywbeth da ar y teledu. Yn bur ffodus, yr hwn benwythnos mae Cwpan yr FA ar y teledu, a Man Utd yn chwarae, mi fyddaf felly yn gwbl fodlon â hynny, yn Ddoritos i gyd.

Y trydydd peth ydi o bosibl ffilm dda, yn enwedig os ydych chi, megis Y Fi, yn casáu crap fel rhaglenni dawnsio ac Ant a ffwcin Dec. Rŵan, dydw i ddim yn un i fynd i nôl DVD o siop i’w wylio ben fy hun, ond mae cael ffilm dda ar y teledu yn gwbl hanfodol. Mae hyn yn rhywbeth nad ydw i wedi ymchwilio iddo eto. Os ddim, bydd rhaid i mi ddiddori fy hun gyda Facebook am y rhan helaethaf o’r dydd, cyn i Match of the Day gychwyn. Ar ôl hwnnw bydd ‘na ryw ffilm gynhyrfus o’r 80au ar, ni synnwn.

Yn bedwerydd; cwrw. Iawn, penwythnos sobor, ond pwy ddywedodd peidio ag yfed? Mi neith gan slei o Fosters y tro i mi. Ac mi fydd yn gymorth i mi gysgu, sef rhywbeth nad ydw i wedi arfer ei wneud ar nos Sadwrn.

A dyna ni, dau bys i’m hiechyd corfforol a bawd i fyny i’m hiechyd meddyliol. Os aiff pethau rhagddynt yn iawn, ni wisgaf o gwbl, a mynd o amgylch y tŷ yn fy mhyjamas yn gwenu’n slei a meddwl fy mod yn ciwt. Sy’n ddigon teg.

mercoledì, gennaio 02, 2008

Y Rhagolygon

Blwyddyn Newydd Dda! Mi ddechreuais y flwyddyn wrth chwydu a ffendio darn o genhinen yn fy nhrwyn. Os mai dyna fydd tôn y flwyddyn yna waeth i mi neidio i mewn i’r Afon Taf yn eithaf handi.

Rhyngoch chi a mi, dw i’n edrych ymlaen at 2008 erbyn hyn (a hithau’n 2008 eisoes oni sylweddolech gynt). Ewro 2008, y Chwe Gwlad yn dechrau fis i heddiw, etholiadau cyngor i’m diddori. Fel rheol mae fy mlwyddyn yn cylchdroi o amgylch chwaraeon a gwleidyddiaeth, a’r peth gwaethaf, mwy na thebyg, fydd disgwyl i 2009 godi’i phen.

Ar wahân am un penwythnos yn Aberystwyth yr addewais ei fynychu er budd Llinos, ni fyddaf yn mynd allan ym mis Ionawr, oherwydd dw i’n benderfynol o arbed arian ar gyfer y Chwe Gwlad ac o bosibl gliniadur swanc (yn hytrach na’r gliniadur wanc sydd yn fy meddiant). Dw i ddim am wneud nad yfaf canys celwydd byddai hynny. Mae ‘na win a chwrw acw, ac fe yfir hwynt ar fyr o dro.

A pha beth bynnag, gan nad yw’r Hogyn a’i iechyd yn ffrindiau gorau (yn wir, maent wedi ffraeo sawl gwaith - yr Hogyn sy’n ennill bob tro, y rhan fwyaf o’r amser ar ôl poen mawr), ni fydd ‘iechyd’ yn dod o dan y rhestr o flaenoriaethau am eleni. Fe fyddaf yn onest, dw i’n bwriadu mynd allan mwy nac erioed eleni a gwrthod heneiddio. A dw i am feddwi’n waeth nac erioed, dim ond er mwyn codi dau fys personol ar bobl sy’n mynnu bod gormod o bobl yn meddwi'r dwthwn hwn.

A phob hwyl i bawb eleni, pa beth bynnag y gwnewch. Cofiwch hyn o eiriau: yr ail o Ionawr ydyw a dw i ‘di ymwared â’m stôr ewyllys da am 2008 yn barod drwy adrodd hynny.