mercoledì, febbraio 26, 2014

Symud S4C

Mae’n siŵr y gwyddoch fod S4C yn ystyried symud ei phencadlys, gyda Chaernarfon a Chaerfyrddin y prif leoliadau arfaethedig. Hefyd mae ei chadw yng Nghaerdydd yn opsiwn. Byddai hynny’n drueni; does ‘na ddim dwywaith y byddai cael S4C yn hwb economaidd ac ieithyddol (er y gellir dadlau gyda’r ddau faint o wahaniaeth a wna mewn difri) i ardal y Fenai neu fro Myrddin.

Dwi wedi clywed ambell ddadl na ddylid symud S4C i’r gorllewin o gwbl a’i gadael yng Nghaerdydd, yn bennaf rhag ofn iddi gael ei gweld fel rhywbeth “iddyn nhw fyny/draw fanno”. Tydw i ddim yn poeni fawr ddim os mai dyma fyddai’r canfyddiad ymhlith rhai pobl. Dwi bob amser wedi meddwl ein bod ni Gymry Cymraeg yn rhoi gormod o sylw i beth mae eraill yn ei feddwl ohonom, a’i fod yn hen bryd i ni fod yn hunanol a mynnu pethau drosom ein hunain yn llawer mwy nag ydyn ni. Os ydi rhai yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth sy’n berthnasol i’r gorllewin yn unig, wel, stwffia nhw, ‘does fawr o ots gen i am eu barn, a does dim byd am newid eu barn chwaith.

I gyfaddawdu, mentraf ddweud fy mod innau'n bersonol yn gefnogol i ymgais y ddwy dref.

Ond fydd o ddim yn syndod i chi ychwaith mai ymgais Caernarfon dwi fwyaf cefnogol iddi. Ond mae fy rhesymeg dros hynny yn fwy ymarferol nag emosiynol – byddai well gen i weld S4C yng Nghaerfyrddin nag aros yng Nghaerdydd. Y prif reswm y mae hyn yn cael ei weld fel cyfle euraidd, a bod y ddwy dref am hudo’r sianel, ydi rhoi hwb i’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny (mi dybiaf i nifer o bobl fod unrhyw ddadl arall yn eilaidd yn y bôn). Mae rhai sydd o blaid Caerfyrddin wedi dweud nad oes angen help ar y Gymraeg yn y gogledd-orllewin a dyma pam y dylai fynd i Gaerfyrddin. Dydi’r bobl hyn yn aml ddim yn adnabod y gogledd-orllewin yn dda iawn. Er, mi fyddwn i’n derbyn bod angen mwy o help ar yr iaith yn Nyfed na Gwynedd.

Dwi wedi hyd yn oed darllen ensynio fod 'na lot gormod yn mynd i Gaernarfon, er mi fentrwn ddweud bod hyd yn oed y rhai sy'n arddel y ddadl honno'n gwybod mai un wirion ydi hi.

Ond os ydi’r symud posibl i fod yn fuddiol – yn economaidd ac yn ieithyddol – mae un elfen hanfodol iddo, sef nid symud S4C y sefydliad ond symud y bobl sy’n gweithio yn y pencadlys hefyd. Wn i ddim beth i wneud o hyn mewn ffordd, achos fydd o fawr o iws i bobl sydd eisiau aros yn naill ai Caernarfon na Chaerfyrddin os ydi pobl jyst yn symud yno efo swyddi da; debyg y dywedant, yn ddigon teg, pam nad oes mwy yn cael ei wneud i’w helpu nhw aros yn y gorllewin na helpu Cymry Cymraeg i symud yn ôl. Ond o safbwynt ieithyddol mae’n nod amlwg.

Debyg na fyddai pawb eisiau symud wrth gwrs, ac mae hynny’n ddigon teg. Ond byddai cael pobl mewn swyddi da mewn ardal Gymraeg yn sicr yn hwb yno, a byddai effaith dreigl i raddau hefyd.

Ond dyma ni'n dod ati, sef y broblem fawr efo Caerfyrddin – mae Caerfyrddin o fewn pellter teithio i’r gwaith o Gaerdydd a’r cyffiniau. Allwch chi gyrraedd Caerfyrddin mewn tua awr o Gaerdydd; a’r gwir ydi dyma fyddai llawer o bobl yn ei wneud yn hytrach na dadwreiddio o Gaerdydd. Tydi hynny o fawr ddim budd i’r iaith Gymraeg yn Sir Gâr, os o gwbl. Ni fyddai’r effaith ieithyddol yn cael ei theimlo mor gryf ag y gallai pe na fyddai dewis gan bobl ond symud. Adleoli swyddi fyddai symud i Gaerfyrddin, nid adleoli pobl - neu eu hannog i wneud hynny o leiaf!

Mae hynny hefyd yn wir am yr effaith economaidd. Tydi cymudwyr ddim mor werthfawr â thrigolion.

Does dim modd cymudo i Gaernarfon o Gaerdydd yn feunydd, mae’n fater o symud neu golli swydd. Petai S4C yn symud i Gaernarfon, byddai pobl â swyddi da yn symud yno gyda hi, a byddai’r swyddi a fyddai’n wag yn mynd i bobl sydd naill ai’n lleol neu bobl eraill a hoffai symud yno. Byddai’r effaith yn uniongyrchol, tra yng Nghaerfyrddin mi dybiaf mai anuniongyrchol iawn fyddai.

Yn gryno, byddai’r effaith economaidd ac ieithyddol a gâi symud S4C yn gryfach o lawer yng Nghaernarfon na Chaerfyrddin a hynny oherwydd daearyddiaeth seml. Serch hynny, ym mêr fy esgyrn mi deimlaf mai penderfynu aros y gwnaiff S4C, a bydd hynny’n gyfle wedi’i golli i’r naill ardal neu’r llall.
 
Er, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n synnu braidd na wnaeth Rachub gais.