Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn; nid oes unman na elli fy nilyn. Dwyt ti ddim yn gyfrwys. Ti’n feiddgar. Ti ddim yn llechu yn y cysgodion yn aros i mi wneud tro anghywir, na'n fy nenu atynt fel cwningen goll; deui â nhw ataf. Ac ni roddi imi lonydd rŵan. Cefaist flas ar fy nhrechu; naddaist ddigon arnaf i deneuo f’amddiffynfa; ni dy dwyllwyd di gan ei muriau di-sylfaen na’i thyrrau gweigion.
Sawl gwaith ŷm
mygaist dan domen byw? A sawl gwaith a dynnaist yn ôl y glustog ar y funud
olaf, ar yr anadl derfynol? Ni fuost ddigon trugarog i orffen y gwaith. Mae dy
ddiléit yn fy nghadw at dy ddifyrrwch; fi yw deryn cawell dy gasineb, a chdi â’m
cadwo’n gaeth i’m hunllefau.
Erbyn hyn y mae’r
crafangau’n rhy ddwfn. Hyd yn oed yn ystod y dyddiau hir a chynnes gelli hagru’r
coed a throi ohonof olau’r haul a’m gorfodi i ymgilio’n gwrcwd i’m hogof; ogof
sydd mor dywyll a dofn y mae hyd yn oed yr ystlumod yn ei hofni. Chdi sy’n troi
unrhyw gysur a gaf yn eiriau chwerw ar bapur. Chdi sy’n gwneud i bopeth doddi o’m
blaen, a dwi’n dy gasáu yn fwy na dim yn y byd. Dwi’n ddim pam fyddi gyda mi. A
thithau’n ddim hebof. A rhai dyddiau ni wn ddim eithr ein cariad gwyrdroëdig
atom ein gilydd.
Erfyniaf am
ddarfodigaeth, yn f’argyhoeddi fy hun mai yn hynny fydd fy nechrau, ac ni elli
fy hawlio mwyach. Mae gennyt ofn hynny. Pan af, ni chei ddilyn. Pan af, uwch
lesni nenfwd y Ddaear, neu tan ei gwair i ddiosg ei phoenau ohonof, fydd fy
nghwsg yn gaer dragwyddol.
Ond fy ofn mwyaf –
a chdi â ŵyr hyn – yw fy mod gystal disgybl â dioddefwr. A gnoes dy chwilen i’m
canol a gwneuthur ei waith yn rhy dda? Pan fydd y sêr yn diffodd am yr un tro
olaf, gallaf fy ngweld fy hun yno. Gallaswn yn fy ngwendid gynnau’r tân a lynco'r byd. Gallaswn ar fy ngwaethaf chwerthin yn
llon wrth dy lusgo ato, a’n cyd-ddioddef fyddai’n fy melysu; ein cnawd yn
ymdoddi fel caws, a’r gwres yn dy frifo di gangwaith gwaeth na mi. Am imi
ffendio yng nghesail dioddef gartref clyd, cyfarwydd. Am iti ddwyn fy mhwyll a
throi fy meddwl yn lobsgóws ddisynnwyr a dwyn ohonof ffiniau bod. Am iti wneud
hynny ormod.
Am iti fy nhrechu
un tro’n ormod.
Rhydd imi lonydd,
mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest
i darfu arnaf drachefn.