Visualizzazione post con etichetta dirgelwch. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta dirgelwch. Mostra tutti i post

sabato, agosto 29, 2015

Eryrod Pasteiog

Roedd y dail yn hynod o wyrdd y bore hwnnw, a ddylwn i ddim fod wedi synnu achos mae dail fel arfer yn wyrdd, felly synnais i ddim. Roedd yn ymateb call. Ni ŵyr y lliaws fod, fel rheol, fwy o ddail ar goeden nag sydd i goeden foncyffion. Ond fe fûm innau wastad yn un sylwgar, yn un gân o flaen y gweddill, a dyna pam nad oes neb yn fy hoffi, ac yn taflu ataf wrthrychau lu, boed yn gerrig, yn gyllyll neu’n gadeiriau ac unwaith stôl odro. Fe’i cedwais a’i defnyddio at ei phriod fwriad. Does gen i ddim buwch felly smaliais.

Stôl ar ôl,
Ar ôl mae stôl,
Ond be ddaw wedyn?
Sosej rôl.

Roeddwn fardd ym more glas fy llencyndod gynt.

Sosej rôl yn
RHEIBUS
fel eryr
pasteiog.

Ydi, mae’r hen chwedlau’n wir. Beirdd ddoe yw’r bwytwyr mawr; ac ar ôl oes o gynganeddu, hen gelf na ddeall neb ac na ddiolch neb amdani eithr cynganeddwyr, gan draflyncu cywyddau ânt dew gan swmp eu gallu; archwilient finiau’r archfarchnadoedd yn eu blys am englynion newydd ond methiant ddaw iddynt bob un oherwydd ni chewch mewn archfarchnad farddoniaeth a dyna pam fod Mei Mac bellach yn ugain stôn ac ni fydd yn gadael ei dŷ mwyach ond i odli.

Nid oes yn rhaid i feirdd penrhydd odli felly maen nhw’n dewach fyth fel rheol.

Ond methu’r pwynt ydwyf – yn ôl ato. Cerddais ar droeon i lawr y lôn fach tua’r ffridd brudd, grimp gan sychder, lle gwelsai’r hynafiaid ryfeddod yn y rhedyn a gwirionedd yn yr wybren faith gynt oddi fry; ac ynddi sêr gwib rif y gwlith yn ... gwibio.

Welais i mo hynny erioed, ond mi welais yno Dewi Llwyd, ac mi wn fod Dewi Llwyd yn licio wy wedi’i ffrio achos mi fydd weithiau’n gwisgo wy wedi’i ffrio am ei ben fel het, fel rockstar y werin bobl. Aethpwyd ag ef i’r ddalfa am fod rhaid; ofnai’r plant ei benwisg ac fe’i hymosodwyd arno gan wylanod a chan gathod, yn ffyrnig eisiau wy. Heidiodd am ei gylch bryfaid a rhedodd oddi wrthynt nerth ei draed ac yn wylofain – rhedodd i fyny’r bryn a lawr i’r glyn, rhwng yr eithin a’r grug a’r Melyn Mair, i geisio’u gwaredu, nes dod i orweddian yn lwmp di-anadl ar weiriau’r wern. Erbyn hynny, roedd yr wy wedi hen ddisgyn oddi ar ei ben gyda’r holl redeg, ac ar ôl hel ei feddyliau am ei ddiwrnod diweddaraf, ymlusgai’n wrthodedig tua thre, cyn parhau â’r cylch dieflig eto drannoeth.

Bu farw Dewi Llwyd yn ddeunaw oed. 

lunedì, dicembre 27, 2010

Goleuadau'r Nadolig

Sut Nadolig wnaeth hi felly? Iawn? Cymedrol? Gwych? Dydyn nhw byth yn wych yn y pen draw nac ydyn. Ac nid y gwychaf na’r gwaethaf a gafwyd unwaith eto eleni. Ond mi wnes fwynhau yn fy ffordd fach fy hun.

Fe’m codwyd tua 8.30 y bora gan y chwaer a Mam mewn het Siôn Corn, sy’n ddigon i ddychryn y dewraf a dweud y lleiaf. Er i mi yfad mwy na’r arfer yn Stryd Pesda ar Noswyl y Nadolig (traddodiad pwysig) ni’m trechwyd gan ben mawr drwy gydol y dydd. Buddugoliaeth ynddi’i hun ydoedd, oherwydd fel arfer mi fydda i’n teimlo’n sâl dros ginio ac yn mynd i’r gwely am y rhan fwyaf o’r pnawn gan fwy neu lai sbwylio Dolig pawb arall.

Mi es lawr grisha felly i weld pa erchyllterau a adawsai Siôn Corn i mi. Er gwaethaf ei bwriadau, mae gan Mam duedd i brynu anrhegion nad oes mo’u heisiau na’u hangen arnaf. Wn i fod hynny’n swnio’n anniolchgar ond dydi o ddim, ac mae’r hen dîar yn cadw’r derbynebion i gyd chwara teg. A hithau’n draddodiad teuluol agor un anrheg ar y Noswyl, nid oedd pethau’n argoeli’n dda pan ddatgelwyd bryd hynny fag plastig i ddal dillad i’w golchi.

Ar y cyfan, cyfuniad o bethau a ddychwelir i’r siop neu na welir mohonynt eto a gafwyd. Hunangofiannau Ned Thomas a Roger Roberts (mae gas gen i hunangofiannau, a nid dyma’r ddau i’m hargyhoeddi – ‘nenwedig Roger blydi Roberts), padell ffrio ar gyfer un wy, pâr hyll o jîns (a chanddo tua 12 pâr eisoes nid oes angen jîns ar yr Hogyn) a’r hwdi hyllaf ar y Cread crwn.

Am unwaith fe werthfawrogodd Dad ei bresant, sef the Pocket Book of Manchester United. Fe’i darlleno, a fydd ryfeddod achos dydi o byth wedi darllen llyfr yn ei fywyd – yn ei feddwl o mae darllen y Daily Star bob dydd yn gwneud iawn am hyn – ac arferol ddiolchgar oedd y Mam a’r chwaer.

Cafodd Nain ei gwahardd gan Mam rhag plygu’r papur lapio yn ddel “er mwyn ei ddefnyddio eto” achos bod digonedd ohono acw’n Sir Fôn ac yn ddigonedd nas defnyddir fyth. Lapith honno mo bresant i neb fyth, heb sôn am brynu un.

Dwi’n mynd i fwydro rŵan, felly cadwn ail hanner y dydd yn fyr. Roedd y cinio’n hyfryd, a’r twrci nid sych ond bwytadwy iawn, y’i bwytasid wrth glywed straeon doniol Nain am ‘stalwm ac Anti Blodwen yn rhoi cweir i ryw ferch arall am galw hen Nain yn ‘dew’. “Wel ‘rargian fawr, mi wyt ti’n dew,” oedd ymateb hen Daid meddai hi.

Ta waeth cafwyd pnawn diog ond mi welwyd y peth rhyfeddaf tua deg munud wedi pump. Yn digwydd bod, ro’n i’n ista ar y sedd yn wynebu tua Moel Faban, ac yn sydyn reit dyma ‘na olau oren yn dod o Gwm Llafar, y tu ôl i Foel Faban, er y taeraswn iddo ddechrau ar ochr orllewinol Foel ei hun, achos ro’n i’n meddwl mai tân ydoedd i ddechrau.

Ymhen dim, a’r golau cyntaf yn esgyn uwch Foel a ninnau wedi hen ddeall nad hofrennydd mohono (sef yr ail olau) esgynnodd un arall i’r awyr, y tro hwn yn bendant iawn o Gwm Llafar. Mi ddiflannodd yr ail yn syth bin – un funud roedd yn olau a’r eiliad nesa’ nid oedd, wrth i’r llall raddol ddiffodd megis fflam ddiwedd cannwyll. Roedd y ddwy funud hynny yn rhai rhyfedd ar y diawl.

A minnau ddim yn credu mewn UFOs a pobol fach o blanedau eraill, nid am unrhyw reswm ond am f’ystyfnigrwydd fy hun, fedra’ i ddim meddwl am eglurhad. Ond fela mai a fela fydd, Dolig arall a oroeswyd!

venerdì, agosto 13, 2010

Croeswisgwragedd

Chewch chi ddim cyfaddefiad enfawr yma, dydi’r Hogyn o Rachub ddim yn groeswisgwr. Wrth gwrs, mae sgertiau yn gyfforddus iawn. Dewch ‘lawn, waeth i chi gyfaddef hynny o leiaf, hogia. Y tro diwethaf i mi wisgo sgert ro’n i’n 21 oed ac mi graciais fy mhen-glin – a heb fawr o awydd ailadrodd y noson drychinebus honno dwi ‘di cadw draw o’r pethau ers hynny. Ond nid peth i ddyn (sobor o leiaf) mo sgert a dyna ddiwadd arni.

Welish ddyn yn gwisgo sgert ddoe. Mi gesh fraw. Y mae’r hen groeswisgwyr yn bobl dwi’n eu ffendio’n ddigon rhyfedd a dweud y gwir, ac er gwaethaf gorwelion eang ryfeddol fy mywyd dwi methu cael fy mhen rownd trani (a dwi ddim yn golygu hynny mewn ffordd lythrennol) a dwi’n eu ffendio nhw’n bethau digon annaturiol a rhyfedd ar y cyfan, fel saws siocled efo cig carw (gwir o beth ydi hyn, mi welish i o ar Masterchef unwaith. W, braw.). Ond nid blogiad anoddefgar mo hwn, er i’r rhai mwy sensitif a phathetig yn eich plith mi fydd eisoes wedi croesi’r llinell, neu groeswisgo’r llinell, ho ho!

Hyn o feddwl sy gen i, a all dynas fod yn groeswisgwr? Oes, mae merched sy’n edrych fel dynion yn y byd ‘ma, onid yw pawb ohonom wedi gweld rhywun a ddim gallu gweithio allan pa ryw ydyw? O bell, fel arfer, ond weithiau dydi’r pellter fawr o help wrth helpu rhywun i wneud ei feddwl. Ond croeswisgwraig, wn i ddim a oes y ffasiwn beth i’w gael.

martedì, agosto 03, 2010

Nid fel y bu y bu

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mi fydda i’n dweud “dwi’m yn mynd i’r Steddfod ‘leni achos dwi fawr o Steddfotwr” a dyna dwi am ddweud eto ‘leni. Dwi byth yn mynd i Steddfod a dweud y gwir, a phrin fy mod i’n teimlo colled o wneud hynny. Hidia befo, dai’m i fwydro am y ffasiwn beth. ‘Sneb yn darllen achos maen nhw’n y Steddfod.

Mae’n torri calon rhywun bron â bod sylwi bod rhywbeth roeddech chi’n meddwl ei fod yn uffarn o beth da yn, wel, crap. Fe deimlais y profiad siomedig hwn ychydig nôl – nos Sul, dwi’n credu. Ydw, dwi’n dal i wylio fy rhaglenni ysbrydions a dirgelwch yng nghanol y paranoias ôl-alcohol ac felly y bu eto, ond mae gwylio comedi ar ôl y fath raglenni yn lleddfu eu heffaith. Yn rhannol a thros dro, os dwi dal yn effro tua thri yn bora dyna ddiwedd ar obeithio am ddydd Llun llawn llawenydd. Unig gyflawniad ddoe oedd llwyddo aros yn effro tan Dragon’s Den.

Pa raglen aeth â’m bryd felly? Red Dwarf, fel mae’n digwydd. Do’n i heb wirioneddol â gweld Red Dwarf ers blynyddoedd, felly dyma fi’n hapus braf yn ista i lawr o flaen y teli, heb hidio’r un cythraul na drychiolaeth, â’i wylio. Wel, dyna siom.

Pan o’n i’n ifancach, tenau fy ngên a gwiw fy nhraed, arferwn wylio Red Dwarf o hyd a meddwl bod o’n ffantastig. Ond hyd yn oed ar ôl ceisio fedrwn i fawr godi gwên heb sôn am chwarddiad o’i wylio. A dyma fi’n dod i’r casgliad ei fod o jyst ddim gystal ag o’n i’n ei gofio. Siom. Siom arw.

Ar nodyn hollol wahanol dani’n (wel, fi ac Aaron cariad y Dwd – a pha bwy bynnag arall amwni, dewch chwithau os hoffech) mynd ghost hunting yn fuan gobeithio. Os dwi gormod o bwff i wylio’r fath raglenni ar Sky Anytime yn ganol dydd mae rhywun yn meddwl mai’r prif offer fydd ei angen arnaf pan ddaw’r digwyddiad fydd o leiaf dri phâr o drôns. Argoel, mae ofn ysbrydions arna’ i.

martedì, maggio 11, 2010

Hela bwystfilod

Mae parciau yn llefydd diddorol. Dywedir bod ‘na bethau go amheus yn digwydd yno gyda’r nos, ond wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difrif, a dwi’n sicr ddim isho ffendio allan. Cânt hwytha a fynn gadw eu cyfrinachau rhwng y blodau a’r coed.

Ia, blodau a choed. Wyddwn i ddim ryw lawer amdanynt, a phrin ydyn nhw yng Nghaerdydd mewn difrif. Da ydi gwyrdd, ond mae gen i fy nghyfyngiadau. Dwi ddim yn hollol siŵr a ydw i’n ffan o goedwigoedd, mae ‘na rywbeth am goedwigoedd sy’n fy mheri i deimlo’n ofnadwy o anghysurus. Bai fi ydi hyn, debyg, am wylio pethau na ddylwn ar nosweithiau Sul yn paranoid.

Un o’m hoff raglenni ar y funud ydi The Monster Hunter, welwch chwi, sydd ar sianel Livingit (112 ar Sky) bob nos Sul am wyth. Yn ddigon ddwl, fydda i’n recordio hwnnw ac yn ei wylio ar ôl Come Dine With Me, a oedd yn erchyll yr wythnos hon pe gwyliech chi – sôn am bobl ddiflas, heblaw am y ddynes ddu dew annoying. Felly, ar ôl yfad ddydd Sadwrn ac yn ddigon paranoid y Sul, yn aml y peth olaf y gwela i ar ddydd Sul ydi The Monster Hunter.

Mae cryptozoology (cuddsŵoleg efallai ydi’r gair Cymraeg, dwi’m yn siŵr a oes gair) yn faes sydd o ddiddordeb eithriadol i mi. Buaswn wrth fy modd yn y maes go iawn pe na bawn gachgi o’r radd flaenaf. Fel arfer, dydi’r union cuddgreaduriaid (cryptoids ... ?) ddim yn fy nychryn o gwbl, ond mae pethau mwy ysbrydol fel rhifyn yr wythnos hon yn dueddol o’m rhoi ar bigau drain (neu brigau’r brain fel y bydd lot yn ei ddweud heb reswm call – dyma fydda i’n ei ddweud ar ôl ystyried).

Roedd y rhifyn am goedwigoedd ar ymylau Mynydd Fuji yn Siapan lle mae nifer annaturiol o uchel o bobl yn mynd i gyflawni hunanladdiad. Swni ddim yn awgrymu ei wylio os ydach chi’n rêl pwff fel fi, ond mae o wedi fy ngwneud i’n llai hoff fyth o goedwigoedd. Ych, dwi’n cael ias annifyr wrth feddwl am y peth. Dwi’m yn dweud, pan oeddwn fachgen ro’n i ofn awyrennau yn hedfan dros Rachub. Erbyn hyn dwi ofn ysbrydion. Rhyfedd o fyd.

lunedì, dicembre 07, 2009

Cynghannedd ddirgel

Prin iawn gysgish i neithiwr. Wyddoch chi fel y mae hi, noson hwyr a chwil nos Sadwrn (yn dwyn leitars pobl eraill – roedd gen i dri ar un pwynt) a rhywun yn dioddef nos Sul.


Fel arfer fedra i ddim cysgu nos Sul eniwe, ond y gwir ydi mae gen i reswm rhesymegol y tro hwn. Gan gyrraedd adra’n hwyr, a gwario ffecin ffortiwn (‘sgynno chdi ddim syniad faint dwi ‘di gwario mis yma) mi o’n i ar ddeffro rhwng deg a hanner dydd cyn penderfynu nad o’n i cweit yn iawn ac y byddai nap bach o les. Erbyn i mi ddeffro drachefn roedd y bydd yn dywyll a phump o’r gloch ar y gorwel.

Es i ddim i gwely tan dri nac i gysgu am o leiaf awr wedyn. Hardcôr dwi; ond dyna f’eglurhad am pam fy mod yn flinedig, rhag ofn eich bod wedi’i ystyried.

Fydda i’n cael e-byst rhyfedd nawr ac yn y man - a dweud y gwir fe gyrhaeddant y mewnflwch yn drist o amlach na negeseuon ar fy nghyfer i yn bersonol. Flynyddoedd nôl cofiaf un gan ryw Albert Jones neu rywun yn rhoi cyfle i mi ennill gwerth 40 pwys o gimwch. Wnes i ddim cystadlu yn y diwedd, a minnau ddim yn gwbl siŵr y byddai 40 pwys o gimwch yn ymarferol ar y pryd.

Ond mi ges un rhyfeddach, os rhywbeth, pythefnos nôl gan rywun o’r enw Myron Evans, ac atodiad ynghlwm yn llawn cynganeddion. Fe’m boncyffwyd, i gyfieithu’n flêr.

Wn i ddim sut y cafodd fy nghyfeiriad na pham yr anfonodd lu gynganeddion i mi. Wedi’r cyfan, alla’ i ddim cynganeddu, felly dwi ddim yn gallu cywiro fawr ddim ohono, dim ond darllen a mynd “Ew”. Nid ymatebais.

Gan ddweud hynny, dwi yn licio pethau randym fel hynna bob nawr ac yn y man, maen nhw’n cadw bywyd yn ddiddorol!

lunedì, settembre 21, 2009

Ambell feddyliad am Adam Price ac ôl-nodyn am bibgodau

Fel ambell un, er ein bod oll yn hysbys nad oedd Adam Price am aros yn San Steffan am hir, mi ges sioc o glywed na fydd yn sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr flwyddyn nesaf. Fedra’ i ddim smalio gwybod pwy fyddai’n sefyll yn ei le, a tai’m i foddran ddamcaniaethu, ond byddwn i yn bersonol yn gobeithio gweld wyneb ffres, ifanc, os ydi hynny’n bosibl.

Cyn mynd ymlaen rhaid dweud mymryn am Adam Price. Mae o ben ag ysgwydd uwchben unrhyw wleidydd arall sy’n dal swydd etholedig yng Nghymru heddiw, a ‘does gen i ddim amheuaeth yn dweud hynny. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ei ystyried yn areithiwr ardderchog nac ysbrydolgar (er bod pawb arall i’w weld yn meddwl hyn mae’n debyg), ond mae’n boenus o alluog ac yn gallu cyfleu ei ddadleuon mewn modd medrus tu hwnt. Rydyn ni’n edrych ar ddyn a fydd yn anochel nid yn unig yn arwain Plaid Cymru, ond mi dybiaf Cymru ryw ddydd.

Er, dwi’n credu hefyd bod gormod wedi’i wneud o’i gyfnod fel Cyfarwyddwr Etholiadau – roedd yn gyfnod o sefydlogi yn hytrach na chyfnod o dwf. Hawdd yw anwybyddu’r ffaith mai o drwch blewyn, mewn difrif, yr oedd 2007 yn llwyddiant i Blaid Cymru. Roedd 2008, ar y llaw arall, o bosibl yr etholiadau mwyaf llwyddiannus i’r Blaid y degawd hwn, tra bod 2009 wedi bod yn andros o siomedig – waeth pa sbin a roddir arno. Record gymysg na ddylid ei hanwybyddu na’i gwneud allan i fod yn rhywbeth nad ydyw mewn difri ydi’r record honno.

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n gweld ambell broblem efo dychwelyd Adam Price i’r Cynulliad?

Mae Blog Menai wedi trafod y posibiliadau o le y gall ddychwelyd. Nid i Ddinefwr y bydd hi. Dydi Rhodri Glyn ddim am symud, ac wyddoch chi be dydw i ddim yn ei feio o gwbl. ‘Doeddwn i ddim yn ffan mawr ohono yn ei gyfnod fel Gweinidog Treftadaeth ond mae o’n aelod gweithgar ac uchel ei barch yn ei ardal, sydd teg nodi â mwyafrif sy’n sylweddol fwy nag un Adam Price.

Dau ddewis y galla’ i eu gweld: Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, a Chastell-nedd – dwi’n meddwl bod Preseli Penfro allan ohoni, ac y byddai curo Paul Davis yno y tu hwnt i Adam Price hyd yn oed. Yr hyn sy’n fy mhryderu ydi hyn, sef bod pawb yn cymryd yn gwbl ganiataol y byddai Adam Price yn ennill y seddau hyn.

Castell-nedd ydi’r mwyaf enilladwy yn fy marn i, ac yn wir mi allaf ei weld yn ennill yma, ond byddai hynny ar draul Bethan Jenkins neu Dai Lloyd – ac mae’r ddau ohonynt wedi ennill eu plu fel aelodau cynulliad, yn fy marn i. Yn fwy na hynny, ydi hi y tu hwnt i bosibilrwydd y byddai Bethan Jenkins yn benodol yn ffansi crac ar Gastell-nedd?

Boed hi neu rywun arall yn gwneud hynny, a fyddant yn cael eu dewis cyn i Adam Price gael ei ddewis fel ymgeisydd? Yn wir, a fydd unrhyw le enilladwy ar gael i Adam Price erbyn iddo ddod nôl i Gymru?

Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro eto’n bosibilrwydd, ond er gobeithion lu Plaid Cymru yma, rhaid i ni gofio bod canran pleidlais Plaid Cymru yma wedi cwympo bob etholiad Cynulliad hyd yn hyn (er ei bod yn agosach nag erioed i ennill y tro diwethaf). A ydi hon yn etholaeth y mae rhywun fel Adam Price yn gwbl addas ar ei chyfer, hyd yn oed? Ystyriwch y peth am eiliad – dwi ddim yn siŵr ei fod o. Ac mi all cymryd yn ganiatol ei fod am ennill fod yn fwrn mawr i’w chario a fydd yn niweidio’r ymgyrch.

Yn anffodus, er bod angen cael Adam Price i’r Cynulliad, mae pa effaith a gâi ar grŵp Plaid Cymru yno yn rhywbeth y dylid ei ystyried. A fyddai’n ansefydlogi’r grŵp drwy gael y darpar arweinydd yno? A phwy sydd i ddweud y byddai Ieuan Wyn Jones hyd yn oed yn 2015 yn sefyll i’r ochr yn dawel? Pwy sydd i ddweud, wir, ‘sdim ffiars o beryg y gwnaiff!

Yn gryno yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn: byddai cael Adam Price yn y Cynulliad yn 2011 yn hwb enfawr i Blaid Cymru, ac mae’n gam angenrheidiol, ond bydd y dasg o ffendio sedd iddo yn un anodd – a pheidiwn â’i goroni’n AC cyn iddo gyflawni’r dasg o ennill y sedd berthnasol yn swyddogol, mae honno’n gêm beryglus iawn.

--

O.N. Tra fy mod i ar wleidyddiaeth, bydda i’n postio dadansoddiad am sedd Aberconwy yn ddiweddarach yn yr wythnos os oes gennych ddiddordeb – a dwi ddim yn meddwl bod seddau Cymru yn dod yn fwy diddorol na hon!

O.O.N. Parthed y dirgelwch ar Foel Faban mae un peth wedi dod i’r amlwg sef nad ydi’r boi sy’n chwarae’r bibgod yn unrhyw beth i wneud â’r lol arall sy wedi bod yn digwydd. A dweud y gwir, mae o’n dod o Rachub ac yn ymarfer yr offeryn ar y mynydd gan ei fod o’n gwylltio’r cymdogion!

lunedì, settembre 14, 2009

Hanes Sinistr Moel Faban

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed ysgrifennu blogiad heb wirioneddol fod isio, ond dwi am wneud hyn, ac yn ôl pob tebyg fe fyddwch yn meddwl fy mod i yn, wel, nytar. Wn i ddim a ydw i’n gall i ysgrifennu hyn, chwaith. Dwi ddim yn gwybod sut i ddweud yr hyn dwi isio’i gyfleu, a beryg mai neges flêr fydd hon, ond ers ei glywed mae o’n fy hambygio a fedra i ddim peidio â dweud.

Mae’n wybodaeth gyffredin, yn ôl fy neall, ar hyn o bryd yn Nyffryn Ogwen bod ‘na bethau rhyfedd a sinistr yn mynd ymlaen ar lethrau Moel Faban y dyddiau hyn. Nid fanno’n unig, ychwaith, ond at ganol y Carneddau eu hunain. Adroddaf yn ôl yr hyn a glywais.

Dechreua’r hanes a glywais gyda fy chwaer a’i chariad. Ddydd Mercher diwethaf, y 9efd o Fedi, roedd ‘na sŵn pibgod (bagpipe) yn canu ar Foel Faban. Mae gan gariad fy chwaer fwy o gelloedd retina na phobl eraill, sydd i bob pwrpas yn golygu y gall weld yn llawer gwell a manylach na’r rhan fwyaf ohonom, ac nad eryr mohono, a hefyd yn dda iawn yn y nos. Gŵr mewn cilt ganai’r bibgod ac roedd ‘na sawl cân i’w clywed, o Amazing Grace i Galon Lân. Gwelsant bobl yn mynd i mewn i Dwll Beryl ar Foel Faban, ac o amgylch y mynydd.

Felly aeth fy chwaer a’i chariad at y mynydd i chwilio.

Yn dilyn y pibgodiwr roedd pobl, nifer o bobl, llawer gyda chlogynau, yn dilyn y bibgord gan nodio’u pennau, gan fwy neu lai anwybyddu’r chwaer a’i chariad. Yn ôl y chwaer roedd ar ambell un fathodyn, sef yn ei hôl hi fathodyn y Seiri Rhyddion. Wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difri ac a ydi hi’n andabod y nod, ond dyna ddywedodd.

A hithau’n nosi roedd nifer ohonynt wedi croesi Cwm Llafar a thua Gyrn Wigau, a hynny ar gryn gyflymder, yn mynd at grombil mynyddoedd y Carneddau, rhai gyda chlogynau, rhai gyda llusernau. At ba ddiben, wn i ddim. Pwy ddiawl fyddai am dreulio noson yno, heb offer na dim, wn i ddim, ond alla’ i ddim smalio i hynny fy anesmwytho’n eithriadol ben ei hun. A dyn ag ŵyr, dydi hyd yn oed y rhai sy’n adnabod pob deilien wair arnynt ddim yn gwybod hanes calon y Carneddau yn nyfnder y nos.

Yn ôl Dad mae o’n credu iddo glywed y bibgodau yn canu o’r blaen ar y mynydd. Wn i ddim faint yn ôl oedd hynny chwaith. Yn sicr, er na fedraf yn bersonol gadarnhau hyn ar hyn o bryd er y gwnaf os gallaf, mae cerrig ac esgyrn defaid wedi’u gosod mewn ffurfiau mewn rhai mannau penodol.

Ond nid dyna’r diwedd. Mae Mam yn ffrind i un o’r dynion sy’n edrych ar ôl merlod gwyllt y Carneddau o’i wirfodd, un o’r ychydig rai, ynghyd ag ambell i ffermwr wrth gwrs, sy’n treulio cryn amser ar y Carneddau. Rŵan, nid fy mwriad ydi bod yn or-ddramatig fel petae hyn yn rhywbeth o ffilm, ond yn ei eiriau ef nid yw’r mynyddoedd mwyach yn lle i fynd ar eich pen eich hun – mae o’n dweud bod pethau rhyfedd ar waith yno.

Dywedodd stori wrthi, sydd rai blynyddoedd nôl bellach am wn i, am rywbeth y bu iddo ef a’i dad weld yno un nos, rhywbeth a fyddai fel rheol yn rhagfarnllyd yn erbyn ‘pobl od’ er diffyg disgrifiad gwell – pobl noethlymun yn dawnsio o amgylch coelcerth, i gyd off eu pennau. Nis gwelwyd ef na’i dad ganddyn nhw, ond mae meddwl bod rhwybeth felly actiwli yn digwydd, ac nid yn anwiriad, yn, eto, amesmwythol.

Mae cariad fy chwaer, efo’i olwg ragorol, yn dweud iddo weld pobl yn y nos yn crwydro ar Foel Faban. Y mae’n wir i hofrennydd yr heddlu sawl gwaith erbyn hyn lanio ar y mynydd, yn agos at Dwll Beryl, a chwilio yno, cyn ymadael eto.

Seiri Rhyddion, gorymdeithiau gyda’r hwyr a llusernau yn y mynddoedd, dawnsio noeth o amgylch y tân, pibgodau – mae’n swnio fel un rhagfarn fawr neu ffilm arswyd. Ond dyna hanes y Carneddau ein dyddiau ni. A thro nesa’ y byddaf i yn Rachub, y peth cynta dwi am ei wneud ydi mynd i fusnesu (wrth gwrs!). Mae’r mynyddoedd hynny i mi yn rhywbeth sanctaidd, ac mae gweld unrhyw amhuro arnynt yn fy mrawychu yn ddirfawr.

giovedì, agosto 20, 2009

Rhif 36 ar restr dwi heb glywed amdani o'r blaen...?!

Dyna gythraul o sioc dwi wedi’i gael bora ‘ma! Yn ôl pob tebyg fi ‘di rhif 36 o ran y blogiau gwleidyddol Cymreig gorau. Rŵan, dydi hynny fawr o ddim i fod yn falch ohono, achos ‘does ‘na ddim llawer o flogiau gwleidyddol Cymreig sy’n werth eu darllen yn fy marn i, ond y syndod mwyaf i mi ydi bod y blog hwn yn cael ei gyfrif fel blog gwleidyddol! Dwi bob amser wedi dweud nad blog gwleidyddol mo hwn, ond ei fod yn ymdrin â gwleidyddiaeth nawr ac yn y man. Ond tai’m i ddadlau, dwi byth wedi bod ar restr o’r blaen – wir wan. Rhaid bod hynny'n dda i rywbeth?

Hefyd mae’n cael ei nodi fel blog Plaid Cymru – sydd o ystyried y feirniadaeth gyson a dargedwyd at y Blaid yn ystod y dwy flynedd diwethaf yn rhyfeddach fyth!