Visualizzazione post con etichetta mwydro. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta mwydro. Mostra tutti i post

giovedì, settembre 15, 2016

Y wên

Y mae’r wên yn un o’r pethau rhyfeddaf. Nid oes gennym ni ystum fwy amrywiol na hi; gall gwên gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon. Ac er gwaethaf pob trybini, rywsut, mae anrheg fechan y wên waeth gan bwy yn gallu torri drwy gymylau a tharo’r galon gan chwipiad o lonni pur – ein harf yw yn erbyn y byd.

Rhyfeddaf wên, gwên drist; gwên colled, gwên cynhebrwng, gwên wedi ffrae. Yr adegau hynny pan fo dŵr yn bygwth dy lygaid a’r enaid yn drom gan faw byw – y mae’r wên honno’r odidocaf ohonynt, yn gwahodd cysur ac ennyn perthyn. Er gwaethaf popeth, wyf i a thi a ninnau yma; nid yw’r ddolen hon eto’n golledig yng nghyflawnder popeth.

Ond fy hoff wên i ydi gwên y galon drwy lygaid llawen; y wên sy’n datgelu popeth ac yn chwythu ymaith yr ing gan gorwynt disglair. Honno yw gwên dy fam a’th dad. Honno yw gwên ddidwyll dy ffrindiau. Y wên a roddi i’r rhai sy’n tanio ynot obaith ac yn gwneuthur i garnau creigiog cas y dyfodol droi’n llwybr deiliog am ennyd. Y wên sydd heb angen arni geg. Y wên sy’n gynhesach na choflaid.

Gwên, yn fwy na phopeth, ydi’r hyn sy’n ein gwneud yn fodau dynol. Gall gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon, ond ni fu’r un wên a darwyd erioed yn wastraff.



venerdì, novembre 06, 2015

Eryrod Pasteiog II: Mins

John Ogwen
Weithiau ceir ar Twitter sgyrsiau deallus – fel rheol pan fydda i’n sgwrsio ar Twitter – ac ni fu ddoe’n ofnadwy o wahanol yn hyn o beth. Ceisiaf addysgu pan gwyd yr angen. Mor ddifyr ydoedd clywed atgofion y diweddar John Ogwen (nid ‘diweddar’ yn yr ystyr ‘marw’ sydd gennyf dan sylw yma eithr y ffaith bod John Ogwen, fel ŷm oll, wedi bodoli’n ddiweddar a  hynny yw’r sefyllfa a bery) yn trafod ar raglen radio Siân Coffi, yn ei ffordd unigryw ddiansoddair ei hun, arfer y Cymry o ddefnyddio mins fel arian cyfred.
                                                                                                
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.  

Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi
 
Ta waeth, rwy’n ymhelaethu gormod. Cofia John Ogwen â phob rhych ar ei wyneb yr arfer o ddefnyddio mins i dalu am bethau. Ar dudalen 74, egyr Bennod 7 gyda “Gellid cael, wrth lwc, am hanner pwys o fins datws newydd, powdr golchi a thafell drwchus o gaws, ond âi pethau’n gymhleth â phwrcasiad ‘mins-am-fins’ lle cyfnewidid – megis yr ensynnir -  mins am fins”. Ni chawn eglurhad mwy cynhwysfawr gan mai dyna Bennod 7 yn ei chyfanrwydd, sef y bennod fyrraf o gryn dipyn.

Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘yr wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.

Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.

Grensiawg ei uedd, kyg da droellaw

Brython tross dân, Lloegyr kenfygennaw,

Enaid Owain ab Urien.

Agryma’r uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) – sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.

Llyfryddiaeth:
‘Hogyn o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.

mercoledì, settembre 02, 2015

Portreadau o Gymry ein hoes


Yr hogia o Ben Llŷn, John a'i frawd/cymar, Alun


Y Gymraes a gyflwynodd yr iaith Gymraeg i Loegr, Alex Jones



Un o wir drysorau Cymru gyfoes, yr actores a'r cardotyn amryddawn, Gillian Elisa


Arwr Cymru a'r Llewod a thîm ieuenctid Glantaf, Jamie Roberts


Cerddedwr a naturiaethwr brwd yw Iolo Williams, sydd ar y teledu weithiau yn cerdded a naturiaethu


Y swynwr o Solfach ei hun, Meic Stevens (1910)


Y gyflwynwraig hoffus, Mari Løvgreen, na ŵyr neb amdani'n awr


"Mae'r gwin yn troi'n sur"
- Caryl Parry-Jones


Y gwerinwr gwreiddiol, Rhodri Morgan


Un o sylwebyddion craffaf Cymru, Vaughan Roderick


Ac, wrth gwrs, mae Dafydd Iwan "Yno o Hyd" hefyd

sabato, agosto 29, 2015

Eryrod Pasteiog

Roedd y dail yn hynod o wyrdd y bore hwnnw, a ddylwn i ddim fod wedi synnu achos mae dail fel arfer yn wyrdd, felly synnais i ddim. Roedd yn ymateb call. Ni ŵyr y lliaws fod, fel rheol, fwy o ddail ar goeden nag sydd i goeden foncyffion. Ond fe fûm innau wastad yn un sylwgar, yn un gân o flaen y gweddill, a dyna pam nad oes neb yn fy hoffi, ac yn taflu ataf wrthrychau lu, boed yn gerrig, yn gyllyll neu’n gadeiriau ac unwaith stôl odro. Fe’i cedwais a’i defnyddio at ei phriod fwriad. Does gen i ddim buwch felly smaliais.

Stôl ar ôl,
Ar ôl mae stôl,
Ond be ddaw wedyn?
Sosej rôl.

Roeddwn fardd ym more glas fy llencyndod gynt.

Sosej rôl yn
RHEIBUS
fel eryr
pasteiog.

Ydi, mae’r hen chwedlau’n wir. Beirdd ddoe yw’r bwytwyr mawr; ac ar ôl oes o gynganeddu, hen gelf na ddeall neb ac na ddiolch neb amdani eithr cynganeddwyr, gan draflyncu cywyddau ânt dew gan swmp eu gallu; archwilient finiau’r archfarchnadoedd yn eu blys am englynion newydd ond methiant ddaw iddynt bob un oherwydd ni chewch mewn archfarchnad farddoniaeth a dyna pam fod Mei Mac bellach yn ugain stôn ac ni fydd yn gadael ei dŷ mwyach ond i odli.

Nid oes yn rhaid i feirdd penrhydd odli felly maen nhw’n dewach fyth fel rheol.

Ond methu’r pwynt ydwyf – yn ôl ato. Cerddais ar droeon i lawr y lôn fach tua’r ffridd brudd, grimp gan sychder, lle gwelsai’r hynafiaid ryfeddod yn y rhedyn a gwirionedd yn yr wybren faith gynt oddi fry; ac ynddi sêr gwib rif y gwlith yn ... gwibio.

Welais i mo hynny erioed, ond mi welais yno Dewi Llwyd, ac mi wn fod Dewi Llwyd yn licio wy wedi’i ffrio achos mi fydd weithiau’n gwisgo wy wedi’i ffrio am ei ben fel het, fel rockstar y werin bobl. Aethpwyd ag ef i’r ddalfa am fod rhaid; ofnai’r plant ei benwisg ac fe’i hymosodwyd arno gan wylanod a chan gathod, yn ffyrnig eisiau wy. Heidiodd am ei gylch bryfaid a rhedodd oddi wrthynt nerth ei draed ac yn wylofain – rhedodd i fyny’r bryn a lawr i’r glyn, rhwng yr eithin a’r grug a’r Melyn Mair, i geisio’u gwaredu, nes dod i orweddian yn lwmp di-anadl ar weiriau’r wern. Erbyn hynny, roedd yr wy wedi hen ddisgyn oddi ar ei ben gyda’r holl redeg, ac ar ôl hel ei feddyliau am ei ddiwrnod diweddaraf, ymlusgai’n wrthodedig tua thre, cyn parhau â’r cylch dieflig eto drannoeth.

Bu farw Dewi Llwyd yn ddeunaw oed. 

martedì, agosto 26, 2014

Y diwrnod mwyaf cyffrous erioed

Fydda i’n licio meddwl bod gan Dduw ryw afael ar beth dwi’n ei wneud, er mwyn i mi gael ei feio Fo am fy ngweithredoedd yn hytrach na fi’n hun. Dwi’m yn siŵr a ydi hynny’n gabledd ai peidio, chwaith, ond amwni dydi Duw ddim yn darllen Blog yr Hogyn o Rachub felly dwi’n saff y tro hwn.

Yn ddi-ffael mi wnaf un camgymeriad bob tro y deuaf yn ôl i’r Gogladd i ddiogi, sef mynd am dro i Landudno. Dwnim pam. Mae’n siŵr y deillia hyn o’r adeg pan oeddwn fachgen ac yr aeth y teulu cyfan i Landudno bron pob dydd Sadwrn i fusnesu a chael paned mewn lle posh ... fel arfer wedi’i ddilyn gan KFC achos roedd Anti Blodwen yn ffan mawr o KFC.

Mae o actiwli yn waeth na hyn.
 
Felly mi es yno yn meddwl y gallwn fy niddori fy hun rywfaint. Ar ôl hanner awr daeth yn berffaith amlwg na fyddai difyrrwch imi yng nghanol yr holl Saeson ‘na, felly’n ôl â fi i’r car yn ddigon siomedig a heb syniad beth i’w wneud â gweddill fy niwrnod. Ro’n i wedi hanner meddwl mynd i ‘sgota ond roedd hi’n wyntog, a dydi ‘sgota’n y gwynt fawr o hwyl, a dwi byth yn dal dim ond am wymon eniwe. Dwi’m yn gor-ddweud, dwi’n ‘sgotwr gachu. Fydda i’n hapus iawn i fwyta ffish ond dwi’n dallt dim am gyfrinachau eu bachu. ‘Sna ddim un o ‘ngwialenni i’n cael fawr o iws ‘di mynd.

Ond ar y rowndabowt neshi fethu troad Bangor, a dyma fi’n penderfynu ar ennyd yr awn am dro i Gaer. Dreuliais i’r holl ffordd rhwng Llandudno a fanno’n ystyried pam fy mod i’n gwneud hyn, ac yn meddwl bob troad mai troi’n ôl fyddai orau. Ond wnes i ddim achos fy mod i isio cinio, a waeth i mi gael rhywbeth yn Gaer ddim pe cyrhaeddwn yno. Wyddoch chi’r adegau hynny pan dachi’n ddigon ‘styfnig i anwybyddu’ch hun am ddim rheswm call? Ia, fel ‘na fuo hi.

Cyrraedd wnes i a pharcio’r car mewn ardal breswyl cyn cerdded i mewn i’r dre ei hun. Caffi eithaf gwag oedd y nod. Wn i ddim amdanoch chi, ond pan fydda i ben fy hun well gennai rywle go wag i fwyta rhywbeth neu baneidio, a hynny oedd fy mhrif gonsyrn. Y broblem ydi mae caffi gwag yn wag am reswm. Chofiais i mo hyn nes i’m panini cyw iâr pesto fy nghyrraedd yn ddiffygiol braidd o gyw iâr.

A minnau wedi cyrraedd Caer o’n i’n meddwl ‘sa waeth i mi wneud rhywbeth, er nad oedd fawr o awydd arna i wneud dim. Esi am dro i farchnad Caer, sydd bob tro’n siomedig (dani’n sôn Llandudno-siom ar y raddfa siomedigaethau yma) ond nesi gael pishyn bach o gaws am ddim o un stondin. Doedd o’m yn neis iawn, ond dwi’n foi bwyd am ddim. Dwi am dreulio fy henaint yn mynd rownd tai fy ffrindiau jyst cyn amser te, ar yr amod fy mod i’n cyrraedd henaint ac y bydd gen i ffrindiau bryd hynny. Dachi’n gweld, yn eu hanfod, i mi mae ffrindiau yn rhyw fath o insiwrans bwyd fydd yn talu mewn rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Diodda nhw sy’n rhaid tan hynny.

Hwn dio. Hwn dwisho bod.

Ar ôl fy mhum munud yn y farchnad mi heibiais y gadeirlan a phenderfynu mynd i mewn. Fydda i’n mynd i’r eglwys Gatholig gadeiriol yng Nghaerdydd weithiau – ddim i wasanaeth na dim, ond jyst i ista a gwagio fy meddwl. Dwi’n llawn sypreisys bach rhyfedd fel’na. Dwi’m cweit hyd yn oed yn siwdo-Gatholig, ond dwi’n fwy o siwdo-Gatholig na neb dachi’n ei nabod, dybiwn i. Chyrhaeddais i ddim mo’r seddi o gwbl yn y gadeirlan, ‘mond y siop, so esi allan yn ddigon sydyn achos o’n i’m isho rhoi pres jyst i fynd i ista i rywle a doedd dim awydd arna i wynebu syllu blin neb am beidio â rhoi cyfraniad.

Ar ôl treulio tua thair eiliad yn sbïo ar ryw gi oedd ‘na ddyn wedi’i wneud o dywod gwlyb (tair eiliad lon oedden nhw ‘fyd), mi esi i siop gemau cyfrifiadur. Fydda i’n licio chwarae ar y cyfrifiadur weithiau, ond dwi’m yn foi mawr am y peth chwaith. Dim ond un gêm a apeliodd, ond mi wnes i benderfyniad cydwybodol nad oedd ei hangen arna i, er bod yr ysfa i’w phrynu’n rhyfeddol.

Ydi, ma hon yn actiwal gêm.

Dwi’n teimlo fel bach o wirdo yn mynd i siopau gemau cyfrifiadur erbyn hyn a minnau’n mynd am 30 oed nesaf. Hen bryd imi gael hobi, ond gan na alla i ‘sgota na chynganeddu dwi’m yn meddwl bod ‘na ddim arall i’w wneud. Prynu dillad fyddai wedi bod yn syniad bryd hynny pan gamais i Primark. Welais i a Lowri Dwd ddynas yn gwisgo bocs cardbord amdani yn Primark Caer unwaith, so dwi’n meddwl fy mod i’n rhyw hanner gobeithio gweld rhywbeth felly yno unwaith eto. Ac mae angen tracsiwt newydd arna i ers tro byd.

Dim ond dillad shit welais i.

 Uchod: beth i'w wisgo os dachi ddim isho fi brynu peint i chi

Peidiwch â’m camddallt, nid Huw Ffash mohonof, fydda i’n gwisgo fel hwch sy wedi mynd drwy siop elusen. Ond mae gen i fy limits. Roedd ‘na ryw siop drws nesa i Primark oedd yn cau lawr, a phan wela’ i 70% o ostyngiad ar rywbeth dwi yno fel cath i gythraul, er y cymerodd amser weithio allan pa ochr oedd y dillad dynion a pha rai’r dillad merched. Os ti am groeswisgo gwna fo’n iawn, fel Mr Harris Cwm Cadnant. Bu farw ei fam o a dechreuodd o wisgo’i dillad hi, yn ôl Nain. Ddim ffycin dillad iwnisecs. Mae ‘na rai pethau na ddylai dyn eu gwisgo.

Fydda i fyw i weld hyn yn dderbyniol

‘Sna ddim gwaeth na phlant yn gwisgo dillad drud chwaith nac oes? Maen nhw’n neud hynny’n fwy ‘di mynd. Oedd ‘na ryw hogyn – dwnim, tua 11 oed ella – yn gwisgo ryw jaced siwt wrth ei fodd. Dwi jyst ... dwi jyst ddim yn dallt pam.

Un o’r pethau tywyllach amdana i, fel y bydd y rhai a’m hadwaen yn ei wybod, ydi na fedra i ddioddef plant chwaith. Wir-yr rŵan. Wna i unrhyw beth i osgoi cwmni plant. Dwi’m hyd yn oed yn mwynhau nhw ar You’ve Been Framed ‘blaw pan fydd pêl yn eu taro nhw drosodd. 

 Nob
 
O wel. To’n i methu penderfynu a oedd angen diod boeth ynteu oer arna i cyn dechrau ei throi hi tuag adra. So mi geshi goffi oer o Costa. Y tro cyntaf i mi yfad panad lawn o goffi, un oer oedd hi yn yr Eidal. Dwi’n cofio’r boi yn gofyn a oeddwn i’n gwybod bod cappuchino freddo yn oer yn hytrach na phoeth. Dwnim a lwyddish i actiwli gyfleu fy mod i’n gwybod hynny, achos o’n rhy brysur yn gwgu ar Saeson oedd yn mynnu dweud graçias wrth y gweinydd arall.
 
Ta waeth, o’n i’n teimlo’n digon o gont yn cerddad rownd Gaer efo panad oer, ddrud yn fy nwylo hogan-fach-5-oed i. Wnes i ddim mwynhau. Esi’n ôl at y car yn yr ardal grand, yn styffaglu i’w ffeindio ac yn ymwybodol iawn o’r ffaith ‘mod i’n edrych yn ddigon od wrth wneud hynny. Wn i fod pobol posh yn amheus iawn o rywun sy’n gwisgo trainers ac sy ddim yn loncian. Ond ei ffeindio a wnes. Dwi'n aml yn cyfeirio ataf fy hun fel y Golomen Ddynol achos fy ngallu i ffeindio fy ffordd i lefydd. Dwi mor rhyfeddol o dda am hyn y bydda i weithiau hyd yn oed yn ffeindio llefydd do'n i'm yn bwriadu eu ffeindio. Bendigedig.
 
Gyrhaeddais i’r car erbyn ugain munud wedi dau. Roedd y diwrnod mawr drosodd. Yrrais i adra’n canu’r holl ffordd, yn smalio ‘mod i’n ganwr enwog ar lwyfan gerbron miloedd. Fyddai’n licio meddwl ‘mod i’n rhywbeth dwi ddim; canwr enwog, awdur talentog, jiráff. Ond ar ddiwrnod pan mai’n llwyddiant mwyaf i oedd deffro allwch chi mo ‘meio i chwaith, na fedrwch?
 
Dyma'n llythrennol yr unig beth i mi ei fwynhau heddiw

sabato, dicembre 28, 2013

Priflythrennau Cymry Cymraeg Caerdydd

Dwi wedi denig. O ba le meddech chwi? Caerdydd de. Dwi’n y Gogs am rai wythnosau. Ydw, dwi yn licio Caerdydd ond maen nhw’n lot rhy libral i mi yno ac yn licio mynd i’r theatr a ‘SGWENNU LLYTHYRAU MEWN PRIFLYTHRENNAU ACHOS MAE CYMRY CYMRAEG CAERDYDD MOR BWYSIG. Wel, maen nhw’n meddwl eu bod nhw eniwe. Chwi a allwch ddyfalu fy marn ar hynny. Efallai yr ymhelaethaf ryw ddydd, os galla i feddwl am ffordd o fynegi fy hun na fydd yn arwain at gael stîd.

Sut ‘Ddolig fuodd? Mi ges un da ‘leni. Ddim yn dda iawn o ran anrhegion ond pa ddyn dros ei bump ar hugain a gaiff anrhegion da fel y cyfryw? Bydda i’n cael dillad fel mater o arfer. Dillad ffasiynol – lot rhy ffasiynol i mi. Y chwaer fydd yn eu dewis ac ma hi’n ffasiynol chwarae teg, well gennai’r ‘Jim Parc Nest ar ôl 10 peint a noson mewn ffos’ motîff fy hun de. Hefyd, mi ges fy anrheg flynyddol o galendr Llais Ogwan. Anrheg dda ydi hon, ond ro’n i’n meddwl bod ei lapio’n beth digon dibwynt gwneud. Pwy fyddai’n lapio calendr wir? Wel, Mam de. Ond cofiwch, hon ydi’r ddynas a brynodd cyw iâr inni eleni yn lle twrci drwy gamgymeriad.

Fydda i fy hun yn drist o weld cefn ar 2013 achos mi wnes i ei mwynhau’n ofnadwy ar y cyfan, yn bennaf achos dyma’r tro cyntaf imi fwynhau fy haf. Glywsoch chi hynny’n gywir – fydda i’m yn licio’r haf, yn bennaf achos mae’r byd a’i gi yn gwneud pethau ac yn mynd i wyliau cerddorol, sef un o’m casbethau. Os ydach chi isio dechrau sgwrs efo fi, peidiwch â dechrau drwy ddweud pa mor ‘ôsym’ oedd un. Wna i ddeutha chi be sy’n ‘ôsym’ – pizza, a phizza’n unig. Pizza a fodca.

Ac wrth gwrs brandi coffi. Dim ond yn ddiweddar y darganfûm rinweddau’n ddiod ryfeddol hon. Os nad ydych chi wedi cael brandi coffi mae’n dlawd iawn arnoch i’r graddau waeth i chi stopio.

Jyst, stopio.

Ta waeth, rhaid imi fynd i newid dillad sy ddim yn ffitio. Cadwch mewn cysylltiad ia.

lunedì, luglio 29, 2013

Cerddoriaeth a Dirmyg

Tydw i ddim yn gigydd – hynny yw, rhywun sy’n licio mynd i gigiau, yn hytrach na’r bobol trin anifeiliaid celain. Meindiwn i ddim fod yn gigydd o’r math hwnnw achos dwi’n rêl boi am gig, ac yn eithriadol ddrwgdybus o lysieuwyr. Be ydi’i gêm nhw dŵad?

Ond yn gyffredinol welwch chi mohonof mewn gig.  Er, dibynna hynny ar y math o gig sy dan sylw. Os oes ‘na ddigon o le mae’n bosib y byddaf o gwmpas. Ro’n i yng Ngŵyl Gardd Goll ddoe, ac mae hynny’n iawn imi achos ga’i nôl ‘y nghwrw a sgwrsio efo fy ffrindiau heb amharu ar neb ond amdanyn nhw. Allwch chi ddim gwneud hynny mewn llawer o gigiau bychain achos disgwylir bryd hynny i rywun roi gwrandawiad. Ydw, dwi’n un o’r rheiny y mae pawb yn gwgu arno mewn gig fach achos dwi’n cymdeithasu yn hytrach na gwrando. A phan fydda i wedi cael peint does neb na siarada i â nhw. Felly tueddu i gadw draw o’r gigiau hynny ydw i.

Yn bersonol, dwi byth wedi deall yr holl ‘mynd i gig i wrando’ thing. I mi, mae bandiau bob amser yn swnio’n well ar gryno-ddisg beth bynnag, a gwell gennai dalu tenar am CD y galla i ei chwarae dro ar ôl tro na mynd i weld rhywun yn canu oddi ar lwyfan ac wedyn gorfod talu am gwrw eniwe.

Oce, mae ‘na eithriadau. Cyn belled ag y mae gigiau Cymraeg yn y cwestiwn chewch chi ddim gwell na gig Bryn Fôn. Mae’r rheiny’n hwyl ar y diawl – mae pawb yn racs jibidêrs a phawb yn cydganu rhai o’n caneuon mwyaf poblogaidd, a fawr ddim ohonyn nhw’n ‘bobol miwsig’. Wyddoch chi y teip hwnnw sy’n mynd i gigiau bob munud. Gwallt cyrliog, sbectol sgwâr, chinos (o mam fach dwi’n casáu blydi chinos), pobl y gwnâi pythefnos yn hel defaid fyd o les iddynt. Meddaf i yn gyfieithydd i gyd...

Tydw i’m isio bod yn rhy ddirmygus cofiwch, dwi’n licio cerddoriaeth yn fawr iawn hefyd. Does ‘na ddim llawer o gigiau dwi wedi bod iddynt nad ydw i wedi’u mwynhau mewn difrif – Meic Stevens yn methu cofio ei eiriau yn Clwb rywbryd oedd y gwaethaf mae’n siŵr. Dyna oedd gwastraff pres. Ond dyna ni, hanner yr hwyl efo gig Meic Stevens ydi ceisio dyfalu pa mor chwil fydd o wrth gyrraedd.

Gan hynny dwi yn licio fy ngherddoriaeth Gymraeg. Mae ‘na lot o fandiau ac unigolion dwi’n eu hoffi – y mae'r casgliad CD’s sy’n y car yn eithaf rhyfeddod i rai pobl, gan amrywio o’r Ods i Hogia’r Wyddfa. Ac wrth gwrs Celt. Byddai peidio â chael CD Celt yn y car, a dŵad o Rachub, yn bechod marwol.

Ond dwi’n meddwl y band Cymraeg imi ei fwynhau fwyaf dros y blynyddoedd diwethaf ydi Gwibdaith Hen Frân. Mi brynais eu cryno-ddisg newydd heddiw a gyrru o amgylch Pen Llŷn yn gwrando arni (gan fynd ar goll am tua awr, fyddwn i’m llai coll ‘tawn i’n Japan i fod yn onest). Wn i ddim a ydi’r gymhariaeth wedi’i gwneud o’r blaen ond mae Gwibdaith yn debyg iawn, iawn i Hogia Llandegai – fersiwn gyfoes ydyn nhw. Fydda i ddim yn gallu stopio gwenu yn gwrando ar Gwibdaith.  Dwi’n siŵr i rai o bobl Pen Llŷn gael eithaf sioc fy ngweld i’n gwenu achos does gen i mo’r wên ddeliaf yn y byd. Mae’n edrych braidd fel bod rhywun ‘di selotêpio banana i’m hwyneb.

Fydda i’n fwy tebygol o fynd i gig tra dwi’n Gogs ‘fyd yn hytrach na Chaerdydd. Er gwaethaf ei rhinweddau, ac mae llawer iawn ohonynt, mae gan Gaerdydd wendidau mawr. Y peth dwi ddim yn ei licio am y brifddinas ydi nad ydw i’n nabod fawr neb sy heb swydd bonslyd. Celfyddydau, cyfryngau, cyfieithu, addysgu, Llywodraeth ... mae ‘na rywbeth annormal iawn am Gymry Cymraeg y ddinas, maent yn perthyn i’w byd bach eu hunain. ‘Ffug’ ydi’r disgrifiad casaf dwi wedi’i glywed am i’w disgrifio, er rhaid imi ddweud byddwn i ddim yn anghytuno. Ydi, mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio 'cael eu gweld' a chael eu nabod. Pe byddwn yn fentrus mi awgrymwn eu bod yn lleiafrif swnllyd a hunanbwysig sy'n gwneud fawr ddim lles i ddelwedd yr iaith. Ond gwell imi beidio bod mor fentrus â hynny. I fod yn deg, byddai hynny'n orgyffredinoli mawr.

Rhaid dweud, y mae rhaniad mawr, eithaf chwerw ar adegau, rhwng y Cymry Cymraeg dinesig – Caerdydd yn benodol – a’r Cymry Cymraeg cefn gwlad. Fel Cymro Cymraeg cefn gwlad (hynny ydi, o’r gogledd neu’r gorllewin yn hytrach na ‘chefn gwlad’ yn ei wir ystyr) sy’n byw yn y ddinas dwi wedi gweld dwy ochr y peth. Mae’r dirmyg sy gan y ddwy garfan at ei gilydd yn eithaf dwfn.

Ond wyddoch, maen nhw’n gwisgo chinos yn y ddinas. A tydi hynny, ym mha gyd-destun bynnag, jyst ddim yn iawn.

giovedì, luglio 25, 2013

Perthyn

Un o hoff jôcs pobol Rachub ydi (yr anfarwol Rachubiaid) “Faint o bobl sy ‘di marw ym mynwent Coetmor? Nhw gyd!”. Pobl ddoniol ydym ni, wyddoch.

Wn i ddim a ydw i wedi mynegi’n llawn hyn dros y degawd diwethaf (iep – mae ‘na neiniau ym Maesgeirchen sy’n iau na’r blog hwn – dwi ‘di bod o gwmpas yn llawer rhy hir), ond dwi’n caru Rachub. A dyma pam fy mod i yn Rachub ar hyn o bryd. Fel rheol, tydw i ddim yn licio pobl sy’n disgrifio’u hunain fel ‘mental’ - fel arfer dyma Saeson acen posh sy’n mynd ar bybcrol golffio ac yn yfed dau beint a shot o sambwca cyn chwydu a mynd adref a meddwl mai dyna noson dda – ond mi ydw i’n mental. Y mae’n bosib mai fi ydi’r unig berson yn hanes y byd, o Rachub, sydd wedi cymryd tair wythnos o wyliau i ffwrdd o’r gwaith, tair wythnos, er mwyn bod yn Rachub. Y mae rhywbeth difrifol am hyn.

Bydd y craffaf yn eich plith yn sylweddoli mai ond pan fydda i adref y bydda i’n ysgrifennu blogiadau fel hwn – anwleidyddol, dibwynt a di-strwythur. Ac mae hynny’n beth rhyfedd. Mae hyn yn digwydd bob tro y bydda i adra. Y mae rhywbeth yn y dŵr sy’n gwneud imi fod isio ‘sgwennu. Tydw i ddim yn gallu gwneud hynny yng Nghaerdydd – dwi byth wedi medru gwneud. Tydw i’m yn gwybod p’un ai Caerdydd sydd ar fai am beidio â’m hysbrydoli, rhaid imi gyfaddef tydw i byth wedi cael unrhyw ysbrydoliaeth o Gaerdydd. Cyn imi ddianc i’r brifysgol yn oes yr arth a’r blaidd yn y dyddiau cyn i Facebook droi pawb yn stelciwr, arferwn ysgrifennu’n aml. Cerddi, straeon byrion – you name it oedd Jês wedi’i ‘sgwennu. Ro’n i’n licio ysgrifennu cerddi yn fawr iawn, er fy mod i’n llawn ymwybodol o ba mor uffernol oedden nhw. ‘Sdim rhyfedd imi ddod yn olaf yn fy modiwl ‘Sgwennu Creadigol.

Os dachi’n crap ar farddoni, mi ddysgais, tydi prynu Odliadur ddim yn fuddsoddiad da.

Ond mae ‘na nofel ynof. Mae ‘na ddigonedd o straeon byrion ynof hefyd. Efallai cerdd gall ryw ddydd, pan fydd y mynyddoedd eto’n dywodfaen. Ond fedra i ddim mo’u hysgrifennu yng Nghaerdydd. A fedra i ddim dallt pam. Y funud esi i brifysgol mi stopiodd yr ysgrifennu. Rywsut, doedd gen i ddim byd i ‘sgwennu amdano.

Ers rhai blynyddoedd, fe ŵyr rhai ohonoch, dwi wedi bwriadu dod nôl i fyw i’r Gogledd. Am amryw resymau, sy ddim o’ch busnes chi, dydi’r big mŵf heb ddigwydd eto. Ond mi fydd. Ac ers rhai blynyddoedd deuthum yn ymwybodol o rywbeth yn y gwynt ar y ffrynt honno.

Dachi’n gweld, mae bod adref a bod yng Nghaerdydd yn teimlo’n wahanol. Tydw i ddim yn sôn am y cyferbyniad llwyr rhwng gwyrdd a llwyd, Cymraeg a Saesneg, gwirionedd cynhenid cefn gwlad a ffalsrwydd arwynebol y ddinas (wedi degawd o fyw mewn dinas fedra i dal ddim atal fy hun rhag meddwl mai pobl cefn gwlad sydd ora ym mhob agwedd ar bob dim erioed, a bod pobl y ddinas jyst ddim yn ei “dallt” hi ... ac os dachi ddim yn dallt be dwi’n ei feddwl wrth hynna, dachi o’r ddinas). Na, ddim sôn am y cyfryw bethau ydw i ond y teimlad ‘na.

Mi gymrodd, yn llythrennol, flynyddoedd imi amgyffred yn union yr hyn a deimlais. P’un ai’n cerdded o amgylch y lle yn sbïo ar yr adar neu’n prynu fodca a Llais Ogwan o Londis roedd y teimlad yno. Mae o arna i rŵan yn fy ystafell wely yn Nhyddyn Canol, ond nid yn Stryd Machen. Mae o i’w gael yn y Siôr, ond nid yn y Cornwall.

Perthyn ydi’r teimlad. Ac mae perthyn yn beth cynhenid, anesboniadwy y mae pob dyn yn erfyn amdano. A phan deimlo rhywun berthyn mi deimlo’n gyflawn. Ac felly dwi’n ei deimlo yn Rachub fach. A dyma pam dwi’n blogio. A dyma pam y bydd ‘na nofel ryw ddydd (rhag ofn i chi fy ngweld mewn ugain mlynedd a dweud “ble mae’r nofel ‘ma ta?” dyma ymwadiad - ddywedish i ‘rioed y câi ei chyhoeddi). A digon o straeon byrion. Ac efallai ambell gerdd.

 

Pentref digyffelyb
            ydyw Rachub,
Mae’n well na Thregarth -
            y mae hwnnw’n warth.

 
Oce – dim cerddi. Dwi’n addo.

mercoledì, giugno 29, 2011

Y Gath Wely

Hawddamor! Ma oriau hirach yn golygu nad oes gen i fawr o amser i chi ddim mwy. Wel, mae gen i’r amser ond mae amynedd yn rhywbeth arall. Dydi o’m yn hawdd dod adra a blogio wyddoch. A dwi’n meddwl bod wyth mlynedd o yfed penwythnosol gor-drwm yn dechrau effeithio arnaf. Dwi’n edrych tua 35 erbyn hyn. Yn wir mi dreuliais nos Wener ddiwethaf gan fwyaf yn gwylio Hogia’r Wyddfa ar S4C yn, wel, chwil gaib. A swni’n ei wneud eto. A dweud y gwir dwi’n meddwl y dylai Hogia’r Wyddfa fod ar y teli bob nos.

Mae ‘na rai pethau sydd mewn llefydd na ddylent fod. Gesi sgwrs efo Danny drws nesa’ am gathod y diwrnod o’r blaen, a dydi o na fi yn licio cathod ond yn eu goddef achos eu bod nhw’n cadw’r llygod mawr draw. Dwi’n licio llygod mawr llai na chathod de. Er, dydyn nhw ddim cweit mor ddrwg â sbwnjys. Gobeithio na wnaiff gwyddonwyr esblygu hybrid ll’godan fawr-sbwnj. Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm iddynt wneud hyn heblaw i’m dychryn i’n uffernol. Sy’n golygu ei fod fwy na thebyg yn gwbl anochel.

Ond ia, pethau mewn llefydd na ddylent fod. Soniais o’r blaen dwi’n siŵr am y gath fabwysiedig sydd acw yn Rachub. Mae Dad wedi mynd o licio’r peth i gwyno ei bod hi yno gormod, a gormod yno y mae hi os gofynnwch chi i mi. Siaradais â Mam dros y ffôn wythnos diwethaf, yn bur ddifynadd fel arfer dwi’n siŵr (mae hi’n haeddu mab gwell ... wel, mi gaiff fab gwell pan ma’ hi’n stopio dweud “you’re fat” bob tro mai’n fy ngweld – jipsan ddigywilydd), fod y gath bellach yn rhan o’r dodrefn acw. Mae hi’n cysgu acw bob nos ‘fyd. Ar fy ngwely i.

Gredish i fyth ŷm disodlid gan gath. Dydi fy ystafell i yn Rachub heb newid dim ers i mi adael adref flynyddoedd nôl, sy’n od ond eto’n wych o’m safbwynt i, gan wneud adra deimlo’n gynnes gartrefol, a hoffwn i ddim petai’n newid.

Fy mai ydi o mewn ffordd. Pan o’n i adra ro’n i’n ddigon hapus i adael i’r gath gysgu ar y gwely efo fi tra ro’n i’n gwylio’r Hotel Inspector nes rhoi fflich allan iddi cyn i mi gysgu. Ond diolch i Mam, mae’r gath wedi symud i mewn bron yn gyfan gwbl.

Felly dyna’r newyddion diweddaraf gan yr Hogyn. Mae ‘na gath yn cysgu yn fy ngwely a dwi’m yn rhyw hapus iawn am y peth.

martedì, febbraio 01, 2011

Lladd trychfilod

Dwi heb flogio fawr ddim fis dwytha oherwydd mynadd. Unwaith yr aiff rhywun i’r arfer o beidio â blogio hawdd ydi bodloni ar hynny. A minnau wedi bod yn brysurach yn Ionawr 2011 na’r un Ionawr arall ers cyn cof, er i fod yn onast dwi’m hyd yn oed yn cofio llynadd, wnaeth hi fawr o les i ‘nhymer ar y cyfan, a ddaru mi ddim mwynhau’r mis, yn ôl f’arfer, er i mi fwynhau bron bopeth a wnes. Ond dyna ni, styfnig dwi, ac wedi dweud na bawn yn mwynhau Ionawr do’n i fyth am wneud pa beth bynnag a wneuthum.

Felly call fyddai dweud ar ddechrau Chwefror y bydda i’n mwynhau. Dibynna llawer ar y rygbi. Mi all fy nhymer, a’r noson yn benodol, gael eu heffeithio’n ddirfawr gan ganlyniad rygbi. Os collwn ni nos Wener fydda i ddim allan yn hir. Mae’n gas gen i golli, sy’n drist achos dwi’m yn ennill fawr o’m byd. Yr unig beth fydda i’n ei ennill fydd gemau Monopoli wrth chwarae efo’r teulu, ond mi ellir yn hawdd gymharu hynny ag ennill gêm o ‘bwy sy’n mynd i ladd pwy yn gynta’ gydag unrhyw bry cop sy’n meiddio dod i ‘nhŷ i.

Fi sy’n ennill y gêm honno bob tro, afraid dweud, neu hyd yn hyn o leiaf. Gas gen i drychfilod. Sgen i mo’u hofn nhw, heblaw am gnonod sy’n troi arna i, ond os wela i un acw mi fydd y diawl farw oni lwydda ddianc dan y carped.

Ro’n i’n ofnadwy o gas pan yn hogyn bach (wel, iau – bach fydda i fyth rŵan). Doedd fawr fwy o ddileit yn fy mywyd na thynnu coesau dadilonglegs i gyd i ffwrdd a gweld pa mor bell y gallai fflio. A phan fu gan Nain ganhwyllau yn yr ardd, gwae’r trychfil a welswn oherwydd y câi farwolaeth danllyd anochel.

‘Sdim rhyfedd fy mod i fel ydw i.

martedì, dicembre 07, 2010

Lawr y lôn

Seiclwyr. Dylen nhw gadw at y llwybrau seiclo, neu, yn well fyth, brynu car. Well gen i ladd eirth gwyn na mynd i’r lên nesa’.

Motobeiciwrs. Dyma chi ffycars y ffyrdd, dwi wedi cwyno amdanyn nhw o’r blaen ‘fyd, yn sbydu’n wyllt a neud lol. A ‘sdim gwaeth mewn traffig na’u gweld nhw’n pasio pawb drwy’r canol.

Pobol sy ddim yn dweud diolch. Pan fyddwch chi’n gadael rhywun i fynd o’ch blaen a dydyn nhw’m yn codi llaw. Dyna chi ddiawliaid. Ac mae ‘na rai pobl sy’n lot waeth am hyn na’r lleill, ond rhag ofn i’r cachu hitio’r ffan wna i’m dweud tan i mi weld chi'n pyb.

Carfanau. Absoliwt ffycars.

Fflagiau Lloegr. Dim ond yn digwydd bob tua dwy flynedd fel rheol ond mae ‘na rywbeth yn nwfn enaid y Cymry yn casáu hyn â chas pur. Ac mae hynny’n fy nghynnwys i. Y peth gwaethaf i’w weld ar ffyrdd Cymru sy’n berwi fy ngwaed a gwneud i mi sgrechian ‘blydi Saeson’ i mi’n hun.

Y Cyflymslo. Wyddoch chi, y bobl ‘na sy’n mynd yn arafach na chi, ond ddim yn ddigon araf i chi allu eu pasio nhw heb yrru’n beryg neu oryrru’n echrydus. Ambell waith dwi wedi gweddïo am daflegrau ar adegau fel hyn.

Pawb heblaw amdanaf i. Yn gryno, ‘lly.

venerdì, luglio 30, 2010

Crynodeb byr o'r hyn a fu

Felly, a hithau’n ddechreuad newydd, efo gwedd newydd ac nid eithriadol ddeniadol i’r blog, fe fyddech yn disgwyl newid yn y cynnwys bid siŵr? Haha, na, rydych chi’n f’adnabod yn rhy dda erbyn hyn. Sut fues i’n diddori fy hun dros anialaf ddeufis y blogsffêr Cymraeg?

Cwpan y Byd oedd y prif beth, fel y gallwch ddisgwyl. Roedd cael Ffrainc a Pharagwai yn swîp y gwaith yn ddigon poenus ond beth oedd waeth oedd perfformiad yr Eidal. Hen bencampwriaeth ddigon ddiflas fuodd hi yn y diwadd dwi’n meddwl, wnes i ddim mwynhau’r pêl-droed fawr ddim – ond roedd gweld y boen ar wyneb ambell Sais yn yr Old Orleans yng Nghaerdydd, a ninnau’r Cymry ar ben ein digon, ar ôl gem yr Almaen yn lafoerus lawen.

Beth arall? Wel, mi ges ddyrchafiad, credwch ai peidio, ac wedi magu blas am Jagerbombs, yr wyf yn mynnu eu hynganu yn gwbl angywir (fel ‘jalapenos’ a ‘ffajitas’ – dwi’n mynd i ddweud y pethau ‘ma fel y mynnaf a’r un ffordd arall). Mi wnes ganu carioci am y trydedd gwaith yn fy mywyd, ac ro’n i’n dda. Mi fedra’ i ganu wyddoch. Ystod leisiol wael sydd gen i, ysywaeth, a chanwr enwog ni fyddaf fyth.

Dwi hefyd yn meddwl fy mod ychydig yn dalach, gwefr os bu un erioed.

Yn wir, ymwelais â Lloegr, gelyn wlad y Cymry lle mae popeth yn ddi-eithriad yn waeth, ddwywaith o fewn wythnos. Unwaith i Fryste, pan gymerwyd awr i’w chyrraedd o Gaerdydd ac awr a hanner i ddod o hyd i’r gwesty (dinas ddryslyd os bu un erioed), ac unwaith eto wedyn i fynd i Gaerdydd o’r Gogs i osgoi’r ŵyl llosgach a wancars genedlaethol yn Llanfair-ym-Muallt. Afraid dweud, dwi dal ddim yn licio Lloegr. Roedd yr ymweliadau y cyntaf i’r wlad ers tua dwy flynedd, ac ni âf yn ôl eto ar frys. Mae unrhyw wlad sydd â phentrefi Ham a Cheddar o fewn chwinciad chwannen i’w gilydd i’w hosgoi.

Dyna grynodeb byr o’r hyn a fu, a dyma fi felly’n ailddechrau go iawn ar y blogio wythnos cyn y Steddfod. Fel un sy’n brofiadol parthed yr hyn bethau, gallwn i ddim fod wedi ailddechrau ar adeg waeth oherwydd bod y nifoeredd sy’n darllen y blog wastad ar ei isaf wythnos y Nadolig ac wythnos y Steddfod Genedlaethol. Wn i ddim a ydw i’n mentro i Flaenau Gwent ai peidio, ond, os bydda i, mi fedrwch chi fetio y bydda i’n blogio amdano!

lunedì, gennaio 25, 2010

Dillad Dad a hanesion eraill

Bob tro y bydd rhywun yn cyrraedd adra mae dau sicrwydd. Y cyntaf yw bod Nain yn fwy gwallof nag erioed, ‘rhen gorigl gam iddi, ac y bydd Mam wedi prynu dau beth i mi. Y cyntaf ydi jel cawod. Tasech chi’n gweld faint o jel cawod sy’n fy llofft adra fe fyddech chi’n taeru ‘na fi ydi’r person glanaf fu. Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir, fi fydd y cyntaf i gyfaddef fod yn gas gen i folchi ac y bydda i dim ond yn gwneud o ddyletswydd. Ro’n i’n ddigon hapus yn cael dwy gawod yr wythnos yn y Brifysgol, sy’n ddrwg am fyfyriwr hyd yn oed. A gwyddom y ffieidd-dra myfyrwyr yn eu llawn ogoniant.

Yr ail beth fydd Mam wedi prynu ydi crysau-t. Mae ‘na ddwy ochr i’r geiniog hon, a’r ddwy ochr yn echrydus. Yn gyntaf, fydda i byth yn eu licio. Fydda i’n mynnu nad ydi hi’n eu prynu ond mi wnaiff beth bynnag – pwy ddiawl fu gan fam a wrandawodd? O ran hynny bydd yn prynu ambell un a phob un wan jac naill ai union yr un peth ond mewn lliw gwahanol, neu’n debyg uffernol.

These are the ones I got you from Cheshire Oaks – they’re expensive ones.
I don’t like them, Mam.
Oh well, never mind, they were only cheap.


Dyna ddudodd y sgriwan annwyl y tro hwn. Yr ail beth ydi bod gen i ddigonedd o ddillad beth bynnag. Tasa Broadway yn llwyfannu drama chavaidd ‘roll byddai’n rhaid gwneud ydi galw acw a gofyn cael benthyg dillad i gast cyfan. Y broblem efo fi ydi na fydda i’n lluchio dillad yn aml iawn, felly mae ‘na ddigonedd o sanau a phethiach yn yr ystafell sy’n hen fel y diawl ond sy’n rhywsut dianc fy ngolwg.

Yn bur ffodus byddaf yn rhoi trefn ar bethau heno, gan fod y bobl elusen wedi rhoi bag drwy’r drws. Dwnim os ydyn nhw isio sanau, ond byddan nhw’n cael pentwr bob tro y byddan nhw’n dod acw. Sion Corn y Sanau ydwyf yn wir.

Ond dyna drasig oedd gweld bod Dad wedi prynu dillad iddo’i hun. O, mam bach. Mae gan fy Nhad synnwyr ffasiwn ceffyl dall fel y mae hi, ond ar ôl i Mam ddweud bod angen rhagor o ddillad arno y peth olaf yr awgrymodd wrth ddweud hynny oedd y dylai brynu ei ddillad ei hun.

Felly, ac yntau wedi bod ym Mangor gydag Anti Rita, daeth nôl gyda dau ddiledyn erchyll. Y cyntaf oedd crys-t piws, sy’n rhy dynn iddo. Argol, os wyt ti’n cael dy mid-life creisis rŵan, Dad, yn dy oed a’th amser, fyddi di’n fyw am byth, feddyliais i. Yr ail beth oedd fflîsî arall fyth. Mae gan Dad fwy o fflîsîs na neb arall yn y byd, a phob un yn llwyd neu’n frown.

Pan fydda i’n hanner cant a chwech, dwi ddim isio bod fel Dad.

mercoledì, gennaio 13, 2010

Dyfodiad y dynion eira

Dyma’r eira’n ôl yng Nghaerdydd felly. Oherwydd y rhagwelir y bydd yn bwrw glaw y pnawn ‘ma, barith hi ddim. Dydw i ddim yn licio’r tywydd bob hyn a hyn ‘ma – dwisho lwmp go foddhaus ohono cyn symud ymlaen. Mae o fel yfed diod swigod. Wyddoch chi, pan gymrwch lymaid, a dachi’n cael y teimlad rhyfedd hwnnw wrth y chwarennau (glands i’r digyfieithwyr o’ch plith) sy’n dweud “ew, wnaeth honno’r tro”. Ond os cymrwch lymaid heb lawn cael y teimlad hwnnw rydych chi’n teimlo’n anghyflawn, a rhaid ceisio eto.

Fel yr ail dwi’n ei deimlo. Dwisho eira mawr am ambell ddiwrnod ac wedyn cawn symud ‘mlaen.

Dydw i ddim yn ymddiried mewn dynion eira i fod yn onest efo chi. Os ydych chi’n cerad i’r gwaith, a hynny’n o fuan hefyd, mae’r creaduriaid eisoes wedi’u codi. Gan ystyried nad ydi hi wedi bod yn bwrw eira yng Nghaerdydd tan hwyr y nos dwi’n dechrau poeni eu bod nhw’n codi’u hunain. Dyn ag ŵyr pwy fyddai’n codi cyn iddi wawrio i adeiladu dyn eira. Gwnaiff rhai pobl rwbath i fod yn wirion. Fel cael eu waled a’u ffôn wedi dwyn mewn un noson. Ffwcia chi, nid ‘y mai i ydi o bod Caerdydd yn bydew llawn lladron.

Mae’n beryg bywyd cerad ar hyd y strydoedd ‘fyd. Mae pawb i’w weld yn cerad ar y ffyrdd, gan fod graen ar y rheini. Mae’r palmentydd yn drybeulig o rewllyd a bydda’n well gan y lliaws risgio’r ceir na’r rhew, neu felly yr ymddengys.

Welish i hyd yn oed hen ddynas ar un o’r sgwtars hen bobl/pobl dew ddiog ‘na. Roedd hi’n ei heglu hi lawr Cornwall Road fel Colin McRae, ond, wel, yn fyw. Dydi’r henoed ddim y bobl fwya’ diogel ar y teclynnau, fe’ch sicrhâf. I’r gweddill ohonom sy’n ceisio cerad o amgylch Caerdydd, mae’r risg o geir, rhew a henoed ar y sgwtars ‘na yn ddigon i godi ofn ar rywun. Dwnim sut dwi wedi llwyddo llusgo’n hun o’r tŷ yn wyneb y fath arswyd.

Mae hefyd yn ei gwneud yn anoddach osgoi’r bobl elusen ar Heol y Frenhines. Pan fydd y llawr yn llithrig, bydda i’n cerdded fel pengwin – nid o eisiau, ond o raid. A dweud y gwir bydd rhywun yn dallt pam bod pengwins yn cerad felly erbyn hyn. Ond mae gan y bobl elusen ddawn ryfeddol o allu cerad yn normal, ac mae’n ddigon hawdd iddyn nhw eich dal chi’n ddirybudd.

“No, no, no” dwi’n dweud yn is bob sillaf wrth eu pasio’n araf, “I go back to work”. Dalith iddyn nhw wneud un diwrnod ohono, mwn.

mercoledì, dicembre 30, 2009

Nifer yr Ymwelwyr

BlogMenai sy’n dweud ei fod yn licio ‘syllu ar ei fotwm bol’ bob mis a sôn am nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld. Mae’r blogiau gwleidyddol yn boblogaidd iawn yn Gymraeg, wrth gwrs. Pan fydda i’n gwneud blogiad gwleidyddol bydd nifer y darllenwyr yn cynyddu’n eithriadol – hyd at dair gwaith yr arfer. Ond dwi wedi sylwi, er bod llai o sylwadau yn cael eu bwrw ar y blog hwn nag yn ei lencyndod flynyddoedd nôl, mae nifer y darllenwyr yn cynyddu, hyd yn oed pan y bydda i’n sôn am bethau dibwrpas fel cwyno am bobl gomon sy’n siopa’n Tesco. Ac, ydyn, mae pobol sy’n siopa’n Tesco yn gomon.

Fe’ch eithrir os gwnaethoch, fel y fi, nôl eich cinio o Tesco bach Cathays yn gynharach heddiw, afraid dweud.

‘Unique hits’ fydd yn mynd â’m bryd i, sef i raddau nifer yr ymweliadau unigol ac eithrio adnewyddu’r dudalen. Gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn dyma gymhariaeth rhwng ail chwe mis 2008 a’r chwe mis diwethaf. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2008 ymwelodd 3,747 o bobl â blog yr Hogyn o Rachub (y fi). Dydi hynny ddim yn swnio lot, ond yng nghyd-destun y byd blogio Cymraeg mae’n ddigon parchus, yn enwedig am flog personol. Eleni y ffigur yw 5,401 – sef cynnydd o 44%. Ydw, dwi’n smyg am hynny. Mae hynny wrth gwrs dal yn llai na nifer o flogiau Cymraeg (am wn i), ond dwi wedi bod o gwmpas ers chwe mlynedd a hanner a dachi’n bownd o ddechrau blino arna’ i, chwarae teg. A minnau arnch chi, afraid dweud.

Mae lot o hynny’n ymwneud â’r blogroll (dydi rôl blogiau ddim yn swnio gystal), a gynrychiolir yma ar y dde fel ‘Dwi’n darllen...’. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dallt sut mae gosod y teclyn, ond mae pawb arall wedi ei dallt hi ers misoedd. Mae pobl ddiflas fel y fi sy’n licio darllen blogiau (dan fwgwd ‘isio gweld y newyddion diweddaraf’ i guddio ‘dwi’n bôrd’) yn mynd o flog i flog o’r blogrolls i fusnesu ar farn pawb arall.

Fel y gwyddoch prin iawn fod gen i ddiddordeb ym marn neb arall. Tasech chi’n gorfod dioddef yr un bobl â mi fyddech chi’n dallt hynny. Er enghraifft, mae Haydn Glyn yn Dori, ac mae Ceren Sian yn gwadu bodolaeth disgyrchiant. Yr enghraifft gyntaf sydd waethaf, afraid dweud – yn bur drist mae’r ddwy enghraifft yn wir.

Mae genod a barn yn beth peryg. Na, dwi ddim yn dweud na ddylai fod gan ferched farn, er gwaethaf manteision amlwg hynny, ond yn sicr mae gwylio neu ddarllen newyddion yn gyfagos iddynt yn straen. Onid ydi’ch Mam, neu Nain, neu wraig neu rywun bob amser yn gorfod dweud “O diar, mae hynny’n drist” pan fydd rhyw ddrwg newyddion yn cael ei gyfleu yn y cyfryngau? Ac wedyn, pan ddaw rhywun arall i’r amlwg, “Tydi o’m yn ofnadwy am X yn marw yn X?” (fel arfer ‘plant’ yn rhywle nad ydych chi erioed wedi clywed amdano o’r blaen, megis y Swistir).

Reit, pethau i’w gwneud. Dwi dal heb drefnu be dwi’n ei wneud Flwyddyn Newydd. Dwi’n eithaf hapus cyfarch y degawd nesa’ yn Stryd Machen, yn gachu bants ar ôl yfed gwin drud ben fy hun ac yn rhegi i mewn i’r drych yn y lownj.

giovedì, dicembre 10, 2009

Uchelgais

Mae’n dweud lot am fy mywyd i mai un o’m huchelgeisiau parhaus yw gweld y gig Meic Stevens nesa’, pan fydd yn perfformio yng Nghaerdydd, cyn iddo ef ei hun fynd i wlad y dall a’r byddar (sydd, yn ôl y sôn, rhywle i’r de o’r A55 ger Conwy). Hoffwn i hefyd flasu foie gras eto. Unwaith dwi wedi’i flasu, ac fe’m hargyhoeddwyd ar fy union mai cam-drin chwïaid ydi’r ffordd i fynd. Fel dywed y Catholigion (nad ydwyf o hyd – fawr o syndod o ystyried y pydew pechadurus sydd imi’n fywyd) rhaid i chi fod yn fodlon dioddef. Yn fy stâd lled-Gatholigaidd rhydd i mi felly newid y mantra i mae’n rhaid i chwïaid fod yn fodlon dioddef.

Lle o’n i? O ia, uchelgais. Dydi pobl uchelgeisiol ddim yn impressio fi, dydi o ddim yn rhywbeth dwi’n ei barchu. Dydi bod yn uchelgeisiol chwaith ddim yn rhywbeth dwi’n ei amharchu – pawb at y peth y bo – ond ‘does gen i fawr o fynadd efo’r holl beth. A dweud y gwir, mae gen i tua’r un faint o uchelgais ag sydd gen i o fynadd.

Dwi methu cweit dallt beth sy’n ddeniadol am uchelgais. Isio mwy o bres, isio’r tŷ mawr yn y wlad, isio sgrîn plasma a char fflash. Dwi o’r feddylfryd, ‘i be?'

Hyd yn oed ymhlith criw o ffrindiau mae ‘na clash digon amlwg rhwng y rhai sydd efo uchelgais, a’r rhai sydd heb, ac mae’n gallu cythryddu’r ddwy ochr, gydag un llwyth yn gweiddi “Dachi’n ddiog!” a’r llall “Dachi’n faterol!”

Dwi’n meddwl o blith rhai pobl dwi’n eu hadnabod, mae smygrwydd mawr o du ambell un di-uchelgais gan nad ydi’r rhai mwy uchelgeisiol wedi cyflawni fawr ddim er gwaethaf eu huchelgais. Tai’m i sôn am hynny neu mi ga’ i ffrae gan rywun. Mae’n llawer well gen i roi ffrae na chael un.

Y clash mawr ydi, wrth gwrs, eiddo a gweithgareddau. Dydi “dwi newydd brynu Ferrari” neu “dwi’n treulio ‘Dolig yn Affrica” (pwy ddiawl fydda isio gwneud hynny wn i ddim myn uffern) ddim am wneud argraff ar rywun fel y fi. Os dywedwch chi hynny, fe ddywedir nôl wrthych eich bod chi’n boring. Dwi byth wedi dallt beth sydd o’i le efo’r agwedd honno ar fod yn boring.

Wyddoch chi hyn yn barod os ydych chi’n darllen yn rheolaidd: car sy’n gyrru, tŷ sy’n ddigon glyd, swydd a chi - daflwn ni dêc-awê a gwin da i’r fargen hefyd – sy’n iawn i greadur fel fi. Y peth olaf y byddwn i isio o fywyd ydi bob amser chwilio am yr her neu’r dasg nesa’ – fyddwn i’n ffendio hynny’n uffernol o ddiflas. Yn wir, fydda i’n ddigon hapus mynd i weld y Creawdwr Mawr ar ddiwedd f’oes yn gwybod nad ydw i weld cyflawni uffar o ddim byd.

Ac, wrth gwrs, mae gweld y dirymyg yn llygaid ambell un uchelgeisiol wrth weiddi hynny’n groch bob amser yn gwneud i mi wenu fel giât!

venerdì, luglio 24, 2009

Y Gog Dyfeisgar

Ha ha ha ha.
Ha ha ha ha.

Wel dwi’m yn ffwcin chwerthin. Mae Caerdydd yn dywyllach nag eithafoedd Mordor ac yn wlypach na thwat siarc.

Ro’n i’n chwerthin neithiwr, fodd bynnag. Ro’n i wedi recordio Dragon’s Den ar y VCR neithiwr, canys nad oes gennyf fodd arall o recordio rhaglenni, a gweld bod rhywun o ogledd Cymru arno. Dwi’n nabod Gogs. Dwi’n dallt fy mhobl. Dydyn ni ddim, er gwaethaf y ffaith ein bod fel hil yn oruchwych yn y rhan fwyaf o bethau, megis meddu ar wybodaeth werinol a hiliaeth ysbeidiol, ddim yn arloeswyr ar y cyfan.

Roedd y Gog wedi dyfeisio rhyw fath o gawod y gellir ei throi o’i hamgylch i ddadorchuddio’r toiled. Dwi ddim am geisio egluo’r peth canys ei fod yn warthus, sy ddim gwell o gael acen drwchus ystrydebol I do did this good invention here yes math o beth i’w gyflwyno. Mi chwarddais â hanner cywilydd ond llonder llawn fy nghalon – wedi’r cyfan ‘sdim dadlau felly y byddwn i’n cyfleu fy hun, oni bai gyda syniadau mwy erchyll.

Rhywbeth arall dwi wedi bod yn ei wylio, gan fod y cyri clybs drwy hap a damwain wedi bod yn brin yn ddiweddar, ydi Psychoville. ‘Sgen i ddim hiwmor ofnadwy o dywyll dwi ddim yn meddwl, ond dwi’n ei fwynhau’n ofnadwy. Yn bur eironig mae Psychoville wedi fy nghadw i mewn iawn bwyll, mae’n rhywbeth hollol wahanol i’r arfer, ac fe’m synnwyd gystal gyfuniad ydi hiwmor a llofruddiaeth. Dwi bob amser wedi gweld y cysylltiad doniol amlwg rhwng hiwmor a marwolaeth fy hun (hynny ydi, fi sy’n gweld y cyswllt, dwi ddim yn chwerthin yn llon wrth ystyrid fy nhranc anochel ac, fwy na thebyg, poenus, fy hun), ond mae’r rhaglen hon yn wych. Os cewch gyfle, dylech ei gwylio heb amheuaeth. Mae’r bennod olaf nos Iau nesaf, felly os nad ydych chi wedi ei weld ewch am yr iPlayer ar eich union.

Hefyd mae’n rhyddhad ar y naw bod Mock the Week wedi dychwelyd i’r sgrîn. Yr unig berson yn y byd na fyddai’n licio Mock the Week ac sy’n eu hiawn bwyll ydi Mam (a dwi’n dweud iawn bwyll o ddyletswydd yn hytrach na gwirionedd yn ei hachos hi – i fod yn onast mai off ei rocar). Yn hawdd dyma un o’r rhaglenni ffraethaf a fu erioed. Diolch byth amdano.

A diolch byth am hiwmor de, mae o wir yn cadw rhywun yn gall.

martedì, maggio 12, 2009

Helo o'r Eidal

Na, dwi ddim yn yr Eidal. Hoffwn i fod, ond dwi ddim.

Ewch i’r sarhad yn y blogiad ‘Nôl o Farselona’. Dilynwch y ddolen a gwnewch hynny a fynnwch ohono. Fedra i ddim dallt dim – pam fyddai rhywun o’r Eidal, sy’n licio cathod yn amlwg, yn dweud helo i mi? Os cyfieithwch y dudalen, ac fe ellir gwneud hyn (gwnewch yn Saesneg – fedra i ddim yn Gymraeg), fe sylwch fod y peth y tu hwnt i bob dealltwriaeth. Mi gefais dro ar gyfieithu fy mlog i Saesneg ar un o’r pethau hynny. Cyfieithwyd

Mai’n ffwcin boeth ‘ma

i

Fault heartburn ffwcin hot here


Sy’n ticlo fi os nad neb arall, dim ond am y ffaith dwi’n siŵr y byddai rhywun yn gallu dweud hynny’n Maesgeirchen ac y byddai’n gwneud synnwyr.

venerdì, aprile 24, 2009

A wnewch ateb y cwestiynau canlynol?

Peidiwch â phoeni, ‘does gen i ddim byd o sylweddol i’w ddweud heddiw a hithau’n ddydd Gwener. Er y rhyddid agos dwi ddim wedi mwynhau fy hun yr wythnos hon. Gellir yn aml gweld pa fath o dymer sydd arnaf drwy faint o flogiau y byddaf yn eu cynhyrchu. Os wyf fywiog a hapus, mi wna i un bob dydd. Os wyf ddifynadd a chrintachlyd, mi wnaf un gan fy mod yn teimlo ryw ffug ddyletswydd i wneud hynny.

Gellir felly dadansoddi fy mod wedi bod yn fasdad blin yr wythnos hon. Wrth gwrs, mi dreuliais y rhan fwyaf o’r blynyddoedd a fu yn flin, yn benodol yn ‘rysgol. Cofiaf un tro mewn ffug arholiad amhwysig nodwyd arno “A wnewch ateb y cwestiynau canlynol...” ac mi a ysgrifennais ‘na’ wrtho a symud ymlaen i’r dudalen nesaf.

Doedden ni ddim yn hapus iawn gwneud rhai yn Saesneg chwaith, yn dewis ysgrifennu ‘Ffwc Inglish’ ar y dudalen flaen a gwneud dim am weddill y wers. Mi ges rywfaint o ddileit gan un o’r athrawon fodd bynnag wrth iddo gyhoeddi, yn dra ddig, bod y cwricwlwm yn nodi bod yn rhaid i ni gael o leiaf un wers yn Saesneg y flwyddyn honno. “Gwrandewch yn astud,” meddai, “wan, tŵ, thri, ffôr, ffaif ... iawn, dyna lol ‘na drosodd”. Da ‘di Cofis.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro ac mi fytodd Lowri Llewelyn lond paced o grŵtons. Dyna pam ei bod hi’n gwrthod dod am rôl borc efo fi heddiw. Medda hi.

martedì, aprile 07, 2009

Cystadleuaeth

Gall rhai freuddwydio am roc a rôl ac enwogrwydd byd-eang, ymrwbio’n y mawrion a chyffuriau a rhyw a phrynu pymps sy werth dros £25 (tai’m i wneud ffasiwn beth) ond myfi a fyddwn fodlon pe cawn lwyfan bach a phiano wrth f’ymyl, yn canu i dorf o hen bobl tra bod eu hwyrion a’u hwyresau yn gwneud sŵn yn cefn yn gwneud popeth y gallant i beidio â gwrando arnaf. Ac mi a ganwn drwy’r nos, yn swyno’r gynulleidfa gyda ryw ddau foi arall, â’n harmonïau yn esgyn ar wynt tawel noson o haf.

Fydd hynny ddim yn digwydd achos dwi ddim y person gorau i gael fel rhan o dîm pan ddaw at gystadlu, sy’n gwyro o’r enghraifft uchod yn fwy nag y gobeithiais cyn ysgrifennu. Waeth i mi barhau, byddai peidio ‘mbach o gywilydd.

Mae’n siŵr mai dyna pam fy mod yn licio chwarae badminton a thenis ac yn casáu chwarae pêl-droed a rygbi. Fel rheol dwi’n unigolyn erchyll o anhunanol, ond dwi’n licio’r gogoniant a ddaw o fuddugoliaeth unigol. Mi wnes uno lluoedd gyda Ceren mewn gêm o Fonopoli unwaith – ffurfiem “Y Bartneriaeth” yn wyneb y golled o’n blaen yn erbyn Haydn Blin a’r Lowri Llewelyn (a oedd pen eu hunain) – ac wrth gwrs gwnaethom rogio. Collasom pan ganfu Haydn Blin ein twyllo a lluchio’r bwrdd chwarae. Gorymatebodd, ond cont blin fu hwnnw erioed.

Ond un peth a ddywedaf ydi, mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n gas gen i chwarae yn erbyn pobl nad ydynt yn gystadleuol. Enghraifft berffaith o hyn a gododd eto yn Monopoly (gyda llaw dwi ddim yn chwarae Monopoly yn aml, er gwaethaf yr awgrym o hynny a roddir yn y neges hon) pan landiodd y Llewelyn ar eiddo Lowri Dwd a hithau heb fawr o bres, gan achosi’r Dwd i ddatgan nad oedd yn rhaid iddi dalu.

W, mi gochais. Mae’r strîc gystadleuol yn ddwfn ynof p’un ag yw’n Fonopoli neu sboncen yn erbyn Ellen. Mae Ellen, y person a drodd fy meddwl oddi ar drywydd diniweidrwydd, yn ei thro wedi troi’n gystadleuol. Pan fydda i’n colli shot fydda i’n cicio’r wal, tra ei bod hi’n waldio’r bêl tuag ataf (y bitch uffar). Mae’n dangos bod cystadleuaeth yn magu cystadleuaeth.

Yr unig achos fedra i feddwl amdano lle y byddai’n hwyl bod yn erbyn gelyn digystadleuol ydi mewn rhyfel, neu o bosibl drafftiau achos am ryw reswm dwi BYTH yn ennill drafftiau. Dwi’n siŵr o waelod calon mai’r tro diwethaf i mi ennill gêm o’r bastad gêm honno oedd flynyddoedd yn ôl yn erbyn Nain, sydd, er gwaethaf aflwyddiant cyffredinol fy mywyd, yn gyflawniad digon pitw.