Sut ‘Ddolig fuodd? Mi ges un da ‘leni. Ddim yn dda iawn o ran anrhegion ond pa ddyn dros ei bump ar hugain a gaiff anrhegion da fel y cyfryw? Bydda i’n cael dillad fel mater o arfer. Dillad ffasiynol – lot rhy ffasiynol i mi. Y chwaer fydd yn eu dewis ac ma hi’n ffasiynol chwarae teg, well gennai’r ‘Jim Parc Nest ar ôl 10 peint a noson mewn ffos’ motîff fy hun de. Hefyd, mi ges fy anrheg flynyddol o galendr Llais Ogwan. Anrheg dda ydi hon, ond ro’n i’n meddwl bod ei lapio’n beth digon dibwynt gwneud. Pwy fyddai’n lapio calendr wir? Wel, Mam de. Ond cofiwch, hon ydi’r ddynas a brynodd cyw iâr inni eleni yn lle twrci drwy gamgymeriad.
Fydda i fy hun yn drist o
weld cefn ar 2013 achos mi wnes i ei mwynhau’n ofnadwy ar y cyfan, yn bennaf
achos dyma’r tro cyntaf imi fwynhau fy haf. Glywsoch chi hynny’n gywir – fydda i’m
yn licio’r haf, yn bennaf achos mae’r byd a’i gi yn gwneud pethau ac yn mynd i
wyliau cerddorol, sef un o’m casbethau. Os ydach chi isio dechrau sgwrs efo fi,
peidiwch â dechrau drwy ddweud pa mor ‘ôsym’ oedd un. Wna i ddeutha chi be sy’n
‘ôsym’ – pizza, a phizza’n unig. Pizza a fodca.
Ac wrth gwrs brandi coffi. Dim ond yn ddiweddar y darganfûm rinweddau’n ddiod ryfeddol hon. Os nad ydych chi wedi cael brandi coffi mae’n dlawd iawn arnoch i’r graddau waeth i chi stopio.
Jyst, stopio.
Ta waeth, rhaid imi fynd i newid dillad sy ddim yn ffitio. Cadwch mewn cysylltiad ia.
Nessun commento:
Posta un commento