venerdì, gennaio 03, 2014

Llygod

I Gymro, toes ‘na ddim cywilydd mewn cael llygod yn tŷ. Gwyddom ni fod llygod yn bethau digon bach, digon diniwed. Iawn, mae’n dangos nad ydych chi’n gwybod sut mae glanhau tŷ yn iawn ac mae ‘na rywbeth bach yn od amdanoch os ydych chi ddim yn meindio rhannu tŷ efo nhw yn hytrach na’u difa – efallai eich bod yn ddigon anffodus i edrych ‘tha ll’godan ac yn uniaethu â nhw, neu’n aelod o’r Blaid Werdd.

Mae llygod wedi’u canfod yn ein tŷ ni yn Rachub, yn yr atig, sef uwch fy llofft i. Y mae dal anifail yn peri emosiynau gwahanol hyd y gwn i. Pan ddalio rhywun lygoden, mae ‘na elfen o ‘geshi chdi’r basdad bach’ yn fwy na thristwch, ‘gei di’m cachu yn fy nghartref i mwyach’. Ond dim o weld un yn farw a feddyliai rhywun hynny, dwi’n meddwl. Os gwela i lygoden yn fyw, fydda i’n fwy tueddol o’i chyfarch na’i gwasgu dan droed.

Yna mae pysgod. Gan fod pysgod yn rhywbeth na allwn ni uniaethu â nhw, tydyn ni ddim yn teimlo fawr ddim tuag atynt, a phan ddalio rhywun bysgodyn (sydd, yn fy achos i, yn uffernol o ddigwyddiad prin) mi fydd rhywun jyst yn meddwl am beth i’w gael gyda fo i de. Achos allwch chi ddim fod yn ffrindia efo pysgodyn. Oce, mi fedrwch, os ydych chi’n feddyliol sâl, neu’n mynd ati rŵan i wneuthur hynny jyst er mwyn fy mhrofi i’n anghywir (ymwadiad: chi sy’n edrych yn wirion os ydych chi’n llwyddo gwneud hyn, nid fi ... a pheidiwch â g’neud ryw sylw clyfar am Aquaman achos dwim’ yn licio comics achos dwi’n 2ffycin8 oed). Ond fentra’ i ddweud na all neb uniaethu efo ‘sgodyn a dyna pam nad oes fawr o ots gan rywun ladd un.

Y mae’r llwynog yn un rhyfedd. Ar yr un ochr, mae llwynogod yn greaduriaid gosgeiddig, del – all neb na gwadu na gwrthddweud hynny. Ond mae llwynogod yn fasdads bach sydd angen eu rheoli’n gaeth. Dylai anifail mor ddel ddim ymddwyn mor hyll; felly mae pobol yn meddwl.

Y mae moch daear, ar y llaw arall, yn ffycin ofnadwy ym mhob ffordd.

Ac yn wir mae ambell anifail, fel llygod mawr (‘big maws’) a chocrotshans, y byddai lot ohonom actiwli’n cymryd eithaf diléit yn eu tranc, gan beintio sloganau YMLAEN Y DDYNOLIAETH a POBOL 1 FERMIN 0 dros Bont Borth i ddathlu’r peth. A pham lai – llygod mawr a chocrotshans ydi’n gelynion ni fel dynoliaeth. Allwch chi ddim cydfyw’n heddychlon â chocrotshan. A na, Radio Cymru, tydi hwnnw ddim yn syniad ar gyfer comedi radio. Peidiwch â meiddio.

Er nad ydw i isio meddwl am Gaerdydd, mae fy nhŷ i yn y ddinas fawr-ish led-ddrwg yn cael ymwelwyr digroeso. I fod yn onast efo chi, mae pob ymwelydd â ‘nhŷ i’n ddigroeso – tydw i ddim yn rili mwynhau cael pobl draw achos maen nhw’n gwneud llanast yno efo’u ‘sgidia. Tydw i ddim yn feudwy o bell ffordd ond fy nhŷ yw fy hafan a gwae unrhyw un a feiddio â’i hanharddu hyd yn oed fymryn. Ond heblaw am bobol, moch coed sydd lond y lle. Hap a damwain ydi eu ffawd nhw – bydd yr un cyntaf yn cael getawê drwy gael fflîch allan o’r drws cefn, ond os daw mwy nag un i’r amlwg dros y diwrnod maen nhw’n fwyfwy tebygol o gael fflîch lawr y pan. Achos, yn y pen draw, blydi mochyn coed dio, ac mae ‘nhŷ i’n bwysicach na moch coed.

Ta waeth, credaf i lygodan arall gael ei maglu gennym. Heddwch i’w llwch ac i’r bin â hi.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Peth gwaetha i gal yn ty yw llau gwely ne 'chinches' os ti'n byw ym Mhatagonia - a nage yn y gwely yn unig ma nhw'n lico cwtsho. fFycars o beth i gal eu gwarad nhw a dos nelo eu hymweliad ddim oll a brynti neu annibendod. Wi'n beio siopau elusennol. Rhaid bod yn ofalus os prynnid di unrhyw gelficyn o'r siopau neu os eid di dramor ar wylia, ti siwr o ddod nol a lleuen ne ddwy.