Mae llygod wedi’u canfod yn
ein tŷ ni yn Rachub, yn yr atig, sef uwch fy llofft i. Y mae dal anifail yn
peri emosiynau gwahanol hyd y gwn i. Pan ddalio rhywun lygoden, mae ‘na elfen o
‘geshi chdi’r basdad bach’ yn fwy na thristwch, ‘gei di’m cachu yn fy nghartref
i mwyach’. Ond dim o weld un yn farw a feddyliai rhywun hynny, dwi’n meddwl. Os
gwela i lygoden yn fyw, fydda i’n fwy tueddol o’i chyfarch na’i gwasgu dan
droed.
Yna mae pysgod. Gan fod
pysgod yn rhywbeth na allwn ni uniaethu â nhw, tydyn ni ddim yn teimlo fawr
ddim tuag atynt, a phan ddalio rhywun bysgodyn (sydd, yn fy achos i, yn
uffernol o ddigwyddiad prin) mi fydd rhywun jyst yn meddwl am beth i’w gael
gyda fo i de. Achos allwch chi ddim fod yn ffrindia efo pysgodyn. Oce, mi
fedrwch, os ydych chi’n feddyliol sâl, neu’n mynd ati rŵan i wneuthur hynny
jyst er mwyn fy mhrofi i’n anghywir (ymwadiad: chi sy’n edrych yn wirion os ydych chi’n llwyddo gwneud hyn, nid fi ... a pheidiwch â g’neud ryw sylw
clyfar am Aquaman achos dwim’ yn licio comics achos dwi’n 2ffycin8 oed). Ond fentra’ i ddweud na all neb uniaethu efo ‘sgodyn
a dyna pam nad oes fawr o ots gan rywun ladd un.
Y mae’r llwynog yn un
rhyfedd. Ar yr un ochr, mae llwynogod yn greaduriaid gosgeiddig, del – all neb
na gwadu na gwrthddweud hynny. Ond mae llwynogod yn fasdads bach sydd angen eu
rheoli’n gaeth. Dylai anifail mor ddel ddim ymddwyn mor hyll; felly mae pobol
yn meddwl.
Y mae moch daear, ar y llaw
arall, yn ffycin ofnadwy ym mhob ffordd.
Ac yn wir mae ambell
anifail, fel llygod mawr (‘big maws’) a chocrotshans, y byddai lot ohonom
actiwli’n cymryd eithaf diléit yn eu tranc, gan beintio sloganau YMLAEN Y DDYNOLIAETH a POBOL 1 FERMIN 0 dros Bont Borth i ddathlu’r
peth. A pham lai – llygod mawr a chocrotshans ydi’n gelynion ni fel dynoliaeth.
Allwch chi ddim cydfyw’n heddychlon â chocrotshan. A na, Radio Cymru, tydi
hwnnw ddim yn syniad ar gyfer comedi radio. Peidiwch â meiddio.
Er nad ydw i isio meddwl am
Gaerdydd, mae fy nhŷ i yn y ddinas fawr-ish led-ddrwg yn cael ymwelwyr
digroeso. I fod yn onast efo chi, mae pob ymwelydd â ‘nhŷ i’n ddigroeso – tydw i
ddim yn rili mwynhau cael pobl draw achos maen nhw’n gwneud llanast yno efo’u ‘sgidia.
Tydw i ddim yn feudwy o bell ffordd ond fy nhŷ yw fy hafan a gwae unrhyw un a
feiddio â’i hanharddu hyd yn oed fymryn. Ond heblaw am bobol, moch coed sydd
lond y lle. Hap a damwain ydi eu ffawd nhw – bydd yr un cyntaf yn cael getawê
drwy gael fflîch allan o’r drws cefn, ond os daw mwy nag un i’r amlwg dros y
diwrnod maen nhw’n fwyfwy tebygol o gael fflîch lawr y pan. Achos, yn y pen
draw, blydi mochyn coed dio, ac mae ‘nhŷ i’n bwysicach na moch coed.
Ta waeth, credaf i lygodan arall gael ei maglu gennym. Heddwch i’w llwch ac i’r bin â hi.
1 commento:
Peth gwaetha i gal yn ty yw llau gwely ne 'chinches' os ti'n byw ym Mhatagonia - a nage yn y gwely yn unig ma nhw'n lico cwtsho. fFycars o beth i gal eu gwarad nhw a dos nelo eu hymweliad ddim oll a brynti neu annibendod. Wi'n beio siopau elusennol. Rhaid bod yn ofalus os prynnid di unrhyw gelficyn o'r siopau neu os eid di dramor ar wylia, ti siwr o ddod nol a lleuen ne ddwy.
Posta un commento