giovedì, luglio 02, 2015

Beth sydd i faner?

Mi fûm i’n synfyfyrio am y ddadl ffyrnig sydd wedi digwydd dros y pwll mawr ynghylch baner y Taleithiau Cydffederal. Dwi’n meddwl y rheswm pam ydi bod eitha tipyn o bobl ar fy Facebook a Twitter yn ei gweld fel cam ymlaen cael gwared ohoni. Wedi’r cyfan, mae’n cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth.
 
Rhyw fath o, o leiaf. Nid y faner honno oedd baner ‘genedlaethol’ y Taleithiau Cydffederal eithr hon:
 
 
 
Felly mae yna ychydig o gamddealltwriaeth o’r faner ei hun. Yn UDA, yn dibynnu ar eich safbwynt, mae’n cynrychioli naill ai caethwasiaeth neu ryw fath o falchder rhanbarthol. Mae’n anodd braidd i unrhyw un o’r tu allan i UDA gynnig barn gall ar y mater, oherwydd does gynnon ni ddim wir deimladau dwfn yn ei chylch – byddai honni fel arall yn anonest braidd.
 
Does gen i fawr o farn ar y mater, ond yn reddfol, dwi’n rhyw feddwl y gall symbolau a ballu newid dros amser, ac felly y gall y faner gynrychioli heddiw rywbeth nas cynrychiolai mewn oes a fu; mae’n un o’r baneri hynny y gellid dadlau iddi gael ei hadhawlio o elfennau gwleidyddol mwy eithafol – wedi’r cyfan, dim ond eithafwyr asgell dde a hedfanai faner Sant Siôr mewn cof byw, ond adhawliwyd y faner honno ganddyn nhw i gynrychioli cenedl gyfoes, er dwi’n derbyn nad ydi honno’n gymhariaeth uniongyrchol.
 
Y cwestiwn ydi ymhle mae’r llinell? Os derbyniwn fod baner y Taleithiau Cydffederal o hyd yn cynrychioli hiliaeth yna mae’n deg cael gwared ohoni. Er hynny, ni fu gan bobl dduon i bob pwrpas yr un hawliau, ar bapur, â phobl wyn UDA hyd Deddf Hawliau Sifil 1964 – roedd hynny bedair blynedd ar ôl mabwysiadu’r fersiwn bresennol o’r Sêr a’r Stribedi (er mai parhad o fersiynau blaenorol ydi honno hefyd). Ydi baner UDA ei hun hefyd felly’n cynrychioli adeg o annhegwch cymdeithasol yn y wlad honno ac a ddylid ei newid?
 
Wn i ddim i fod yn onest. Ond mae’n codi cwestiynau difyr ynghylch yr hyn y mae baneri yn eu cynrychioli, a bod rhywfaint o ragrith yn perthyn i bobl yn nifer o genhedloedd Ewrop sy’n gefnogol o gael gwared ar faner y Taleithiau Cydffederal (er, fel y gwelwch o'r isod, dydi'r feirniadaeth y byddaf yn ei chynnig ddim wir yn berthnasol i fawr ddim o ddarllenwyr y blog hwn).
 
Yr hyn sydd gen i dan sylw ydi bod baneri nifer o wledydd yn Ewrop yn rhai sydd, i nifer o bobl ledled y byd, yn cynrychioli gormes, erledigaeth a thrais. Mae baner yr Undeb yn enghraifft berffaith. 
 
Dydi ymerodraethau ddim yn tyfu drwy fod yn neis. Ni fu erioed enghraifft o ymerodraeth neis. Fe’u crëir drwy ryfel, gormes a chreulondeb – does dim eithriad i hynny. Mae llawer o Brydeinwyr yn ymfalchïo yn eu baner heb ddeall yr hyn y mae’n ei golygu i gynifer o bobl eraill mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae hynny yr un mor wir am honno â tricolores Ffrainc neu Wlad Belg. Cynrychiolant ymddarostyngiad, rhaib a gwarth ar lefel y mae’n anodd ei dychmygu: a ddylid felly gael gwared ohonynt, a hwythau wedi cynrychioli rhywbeth mor ffiaidd ag imperialaeth a phopeth sydd a wnelo â hi?
 
Ym Mhrydain, rydyn ni’n eithaf anymwybodol o wir erchyllter yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hyn am i’r wladwriaeth lwyddo greu delwedd ddedwydd, waraidd ohoni (ac iddi gael ei phortreadu felly yn y cyfryngau hefyd – mae Carry on Up the Khyber yn ffilm dwi’n eitha ei licio ond mae’n enghraifft fyw o’r ddelwedd a feithrinwyd) felly hyd yn oed heddiw nid yw’r hyn a wnaeth i sathru’r gwledydd a'r bobl a orchfygasai’n hysbys iawn. Yn ‘ffodus’ i Brydain, roedd nifer o ymerodraethau a gydfodolai â’i un hi, fel rhai Ffrainc, yr Almaen, ac efallai Gwlad Belg fwyaf oll, wedi llwyddo bod yn waeth – er o drwch adain gwybedyn. Felly yn llygaid hanes fe’i gwelwyd fel ymerodraeth unigryw waraidd a theg. Delwedd gymharol efallai, ond anhaeddiannol tu hwnt.
 
Ond er yr hyn a wnaed dan y baneri hynny (nid yr Almaen; yn wahanol i wledydd eraill wynebodd yr Almaen yr hyn a wnaeth ac edifar, er o raid yn fwy nag angen, a hynny wedi ei threchu ym 1945, ymhell ar ôl diwedd ei hymerodraeth) – oll yn waeth o gryn dipyn na’r hyn a wnaeth y Taleithiau Cydffederal, ac roedd nifer o’r ymerodraethau hyn yn dal i orfodi dioddef ar bobl ymhell wedi i’r Taleithiau Cydffederal ddod i ben – ni fu erioed sôn am eu disodli.
 
Dylai Ewrop edrych arni ei hun cyn beirniadu America.
 
Efallai’r gwahaniaeth, dybiwn i y byddai rhai yn dadlau, ydi bod pobl dduon yn byw yn UDA sy’n gwybod hanes eu pobl yn y wlad honno, a bod y faner sydd yno’n gyson yn chwifio oddi uwch yn eu hatgoffa o’u dioddefaint.
 
Gall o leiaf rai ohonom yng Nghymru gydymdeimlo â hynny, dwi’n meddwl, er na ddylem haeru cymhariaeth uniongyrchol (byddai hynny’n gwbl anghywir). I mi fel Cymro Cymraeg, mae baner yr Undeb yn cynrychioli gormes. Mae’n gynrychioliad byw o syniadaeth wladwriaethol i ddileu fy hunaniaeth ddiwylliannol, ieithyddol a chenedlaethol gynhenid i; yn fwriadol ac yn faleisus. Dyna pam dwi’n teimlo rhyw ddicter distaw yn lle bynnag y gwela i’r faner honno yng Nghymru; mae’n sarhad arnaf i’n bersonol ac ar fy mhobl i. Felly mi fedraf ddeall sut mae pobl dduon yn UDA yn teimlo tuag at faner y Taleithiau Cydffederal, er ar lefel ac mewn ystyr gwahanol.
 
Ta waeth, sylwedd yr hyn dwi’n ceisio’i ddweud ydi hyn. Os gwaredu baner y Taleithiau Cydffederal, oni ddylai nifer fawr o fflagiau cenedlaethol gwladwriaethau Ewrop gael eu roi i’r naill ochr hefyd?

1 commento:

Dylan ha detto...

Y peth ynghylch y faner yma ydi bod bron pawb sy'n ymhyfrydu ynddi, yn syml iawn, yn rhaffu celwydd noeth am hanes y Rhyfel Cartref. Ers tri chwarter canrif, mae ymdrechion wedi bod i ail-ysgrifennu hanes trwy fynnu mai ffrae gyffredinol ynghylch 'hawliau'r taleithiau' oedd y casus belli. Ond gwyddwn yn iawn mai caethwasiaeth - a chaethwasiaeth yn unig - oedd asgwrn y gynnen. Pan ddatganodd y taleithiau cydffederal eu bod am adael yr undeb, roeddent yn gwbl glir ynghylch eu cymhellion: roedden nhw eisiau parhau i gaethiwo pobl croenddu, a doedd y taleithiau gogleddol ddim yn fodlon iddyn nhw wneud. Mae'u geiriau'n dweud hynny, ar ddu a gwyn.

Dydi'r ymdrechion i greu'r argraff mai un ffactor bitw yn unig oedd caethwasiaeth, o blith nifer o achosion diwylliannol eraill, jyst ddim yn dal dwr (yn gysylltiedig, mae'r un bobl hefyd yn pedlera'r celwydd nad oedd caethwasiaeth 'cynddrwg â hynny'). Baner hiliol oedd hi o'r dechrau'n deg, baner hiliol oedd hi am ganrif a hanner wedyn, baner hiliol ydi hi heddiw, a baner hiliol fydd hi am byth. Hilgwn ydi'r bobl sy'n ei chwifio, dim ots be mae nhw'n trio'u honni. Mae anonestrwydd ei hyrwyddwyr yn dangos na ddylid ymddiried ynddynt. Symbol plaen o oruchafiaeth honedig y dyn gwyn ydi hi, a dim byd arall. Does dim troi'n ôl o hynny, yn union fel nad oes gobaith o geisio ad-feddianu baner y Natsïaid. Cadewch ambell un ohonyn nhw mewn amgueddfa, ond llosgwch a chladdwch y lleill.

Ond mae gen ti bwynt am y faner Brydeinig. Hi oedd yn chwifio ar y llongau a gludasai'r caethweision yn y lle cyntaf, wedi'r cyfan.