Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.
Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”
Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.
Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.
Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.