mercoledì, ottobre 31, 2007

Pethau mae pobl gomon yn neud #1

Cael brecwast ym Macdonalds: mae hyn yn ffiaidd ac maen nhw wastad yn gwneud ar Heol y Santes Fair a Heol y Frenhines yng Nghaerdydd. Ni fyddwn yn ei gwneud petawn llwglyd i'r radd eithaf. Hoffaf eu McNuggets, a hoffaf dweud 'MacDonald' yn hytrach na 'MacDonalds', ond nid i frecwast, waeth pa mor brecwastaidd eu 'breakfast baps' dim ond yr isaf a'u prynant ar unrhyw achlysur.

martedì, ottobre 30, 2007

Llundain yn fras

Dw i byth wedi bod yn ffan o Lundain a dydw i dal ddim. Ar ôl gwylltio fod pawb isio mynd i’r gwely nos Sadwrn am un o’r gloch a siopa'r diwrnod wedyn, ni feddalodd fy nghasineb o’r ddinas. Er hyn, o’r hyn o amser a ges yno, mi wnes fwynhau ar y cyfan.

Ni wnes fwynhau'r Sul a’r siopa, ond mi ges i a Lowri Llewelyn ddiwrnod erchyll a hwyl. Ar ôl ymadael â phawb arall, a mynd ar y ffordd anghywir ar y tiwb, llwyddwyd i fynd i’r London Dungeon, mi arhosem yn y ciw am tua 50 munud cyn penderfynu nad oedd gwerth aros yno am awr a hanner arall. A hithau’n nos Sul, rhywsut ymlwybrem i gadeirlan St Paul, yn gobeithio cael arweiniad ar ôl cael cic owt o Starbucks. Nid yw Dur yn or-hoff ohonof fi fel y mae, ac fe aethon ni’r ffordd anghywir i chwilio am diwb, cyn cyrraedd gorsaf diwb a chanfod ei fod ar gau ar gyfer atgyweiriadau.

Nid af ymlaen. Y pwynt ydi dw i dal ddim yn licio Llundain a phrin iawn, iawn yr af yn ôl yno fyth.

Serch hyn cefais ddiwrnod o hwyl ddoe, gan guro Ceren ar gêm hir a hwyl o Monopoly.

giovedì, ottobre 25, 2007

Seimllyd

Doeddwn i methu neud o. Ni fedraf fynd i siop trin gwallt ar fy mhen fy hun. Fanno oeddwn i, o’i blaen, ond bu’n rhaid i mi droi’r ffordd arall. A minnau newydd brynu pâr o jîns fflêrs sylwais yn syth nad allwn eu gwisgo pe bai gwallt byr arnaf. Dw i’n licio edrych fel hipi ac ymddwyn fel josgin. Gadewch i mi fod.

Ond mae’n ddyfnach na hynny. Gwell deintydd na doctor (a dw i ‘di cael profiadau erchyll gyda’r ddau, coeliwch chi fi) na thorrwr gwallt. A beth bynnag, roedd fy ngwallt yn saim i gyd ac roedd cywilydd gennyf, ac nid oedd yr amynedd gennyf i gael cawod ddoe felly parhaf yn saim i gyd nes y caf heno.

Eillio, dyna beth arall nad ydw i’n hoff o wneud, er na hoffwn locsyn yn y lleiaf (locsyn yn air llawer gwell na barf, cofiwch). Ond mae eillio yn cymryd amynedd, hefyd, a dw i bob amser yn blorod ar ôl eillio (nid fy mod yn un sbotllyd fy naws, ni ches y rheini fyth, o bosib oherwydd fy mod yn seimllyd, wn i ddim, ond ar ôl eillio (dw i’n ailadrodd eillio’n ormodol) mi gaf ryw un neu ddau o gwmpas yr ên).

Dw i’n credu y byddaf yn fudur heddiw a chael pastai i ginio. Os seimllyd wyf, seimllyd bydd f’ymddygiad. Gweddaf fy hun gan fy ngwallt yr hwn heddiw, ac ni all na Duw na dyn fy atal.

mercoledì, ottobre 24, 2007

Ratatouille

Nid cyfrinach ydyw fy mod yn hoff o gartŵns. Yn y lleiaf. Pan oeddwn fachgen eisteddais am oriau yn ymhyfrydu yn He-Man a Daffy Duck a Thundercats a Postman Pat a phopeth oedd ar y teledu. Ond, i fod yn onest efo chi, ddaru’r arfer byth farw allan – byddwn i dal yn eithaf bodlon yn gwylio cartŵns fy mhlentyndod drwy’r dydd.

Mae’n loes calon i mi nad ydyn nhw neud cartŵns go iawn bellach. Rhyw lol graffeg ydi popeth. Rŵan alla’ i ddim dadlau nad ydi graffeg yn wych ac yn anhygoel, ond beth oedd yn bod efo cartŵns go iawn? Roeddwn i wrth fy modd yn y sinema yn ifanc ifanc yn eu gwylio ac roedden nhw’n dwyn fy nychymyg.

Be’ dw i’n drio’i ddweud ydi mi es i weld Ratatouille neithiwr (ac na, dydw i ddim yn siŵr os mai felly ei sillafu), oedd yn wych ond am y teimlad anghyfforddus bod Lowri Llew hithau yn hiraethu am y dyddiau y bu hithau ar y strydoedd yn dwyn sbwriel gyda’i chyd-cnofilod. Dw i’m yn gwybod ond dw i wastad yn cael y teimlad nad ydi graffeg dim ond i blant felly does gen i fawr o gywilydd mynd i’w gweld.

Eniwe, mi wnes i fwynhau, ac roedd gweld Haydn yn gwenu drwy’r ffilm yn od, bron yn annwyl, ond braidd yn crîpi.

martedì, ottobre 23, 2007

Heneiddio

Helo bobl ,dw i wedi bod yn eich esgeuluso yn ddiweddar, mi wn. Rhowch faddeuant i mi, ond does gen i fawr o ddim i’w ddweud. Fodd bynnag, ar ôl mynd allan efo gwaith nos Wener, a chanu o flaen pawb a gwneud rhywfaint o firi (maesho hwyl, does?) dyma fi’n neud rhywbeth nad ydw i wedi gwneud ers talwm - mynd allan ar nos Sadwrn mewn tracsiwt a hwdi. Lwcus nad aethon ni i’r unman newydd na phosh. Ni es i Clwb: oeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n dweud fy mod i’n laru ar y lle, ond dw i wedi ers ychydig.

Yn bersonol dw i’n hoffi, pe cawn y cyfle, gwisgo fel chav. Dw i wrth fy modd efo hwdis a thracsiwt a phâr o bymps (neu trainers, ys ddywedant heddiw, ond heb amheuaeth dw i’n un o’r chavwisgwyr mwyaf hen-ffasiwn sy’n bodoli).

Mi es a Lowri Llewelyn i siopa neithiwr ac ar ôl gorffen mi aethon ni drwy luniau Facebook - y rhan fwyaf ohonynt o’n blwyddyn ni yn Coleg. Daethpwyd i’r casgliad bod ein blwyddyn ni yn y brifysgol, heb amheuaeth, yn griw plaen a blêr o bobl ar y cyfan, ac nad yw geiriau fel ‘del’ a ‘smart’ yn gymwys iawn ar ein rhan.

Ond wyddoch chi beth, hefyd; dydw i ddim yn teimlo mor ifanc yn y galon a gwnes o’r blaen – dydi cyfrifoldebau a swydd ddim mor hwyl â hynny, heb son am boeni am bres. Os nad oes arian gennyf yn fyfyriwr, dyna ni – os does gen i ddim rŵan dw i’n cael panic. Dw i ddim yn meddwl bod y rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n “ifanc” ar ôl cael swydd ac ati. Pethau’n newid, tydyn.

Ac fe sylwem hefyd ein bod ni i gyd yn edrych lot hŷn, pob un ohonom. Iawn, dydyn ni ddim yn sylwi ein bod yn edrych yn wahanol, rydym yng nghwmni ein gilydd yn rhy aml i sylwi ar unrhyw beth felly, ond wrth edrych ar luniau mi ddaw’n amlwg ein bod yn raddol heneiddio ar y cyd ac yn newid, ac yn edrych yn ‘aeddfed’ o gymharu â’r pethau blêr, seimllyd a welwyd yn y lluniau. Ych, nid yw aeddfedu’n neis.

venerdì, ottobre 19, 2007

Mynd i Lundain efo'r Bobol Fowr

Dw i’n mynd i Lundain wythnos nesaf. Gwn fy mod wedi slagio’r lle i ffwrdd droeon ar y flog hon (er dim ‘stalwm, sy’n syndod) ond dw i wirioneddol yn edrych ymlaen at fynd erbyn hyn (nid yw hyn yn golygu fy mod i'n licio Llundain. Dw i ddim). Dydi o byth wedi apelio o'r blaen tan i'r hadau cymryd gwraidd. Mae’n siŵr fod hyn oherwydd fy mod yn mynd efo ffrindiau yn hytrach na hefo’r teulu (dw i’m ‘di defnyddio'r gair “hefo” ers gwn i ddim pryd!!) neu yn hytrach na ‘mynd i siopa’. Mi fyddaf yn ystyried Lloegr yn wlad tramor, a dw i wastad isio sesh dramor.

Ond dw i heb fod i Loegr ‘stalwm. Wir – dw i’m yn cofio’r tro diwethaf y bûm yno, er mae’n siŵr mai rhywbeth fel ar y ffordd i’r Alban yn gynharach eleni ydoedd. O ran aros yno am nos, dw i heb wneud hynny ers dros dair blynedd. Mae’n rhyfedd, ond mae Lloegr yn teimlo’n bell i ffwrdd i mi; wn i ddim os teimla neb arall yr un peth, ond mae mynd i Loegr fel mynd dramor am wyliau.

Rydym ni wedi trefnu’r Megabus ac mae’r hostel bron â chael ei drefnu hefyd. Ni fyddem yno ond am noson, ond bydd meddwi mawr yng nghalon gwlad y Gelyn.

Y broblem fawr ydi nad oes 'run ohonom yn adnabod Llundain yn dda iawn. Dw i’n fodlon dweud mai fi sy’n ei adnabod orau, a finnau wedi bod yno tua saith gwaith (tua 5 mlynedd yn ôl oedd y tro diwethaf i mi fynd) a phan oeddwn iau roedd gen i rywfaint o obsesiwn gydag Abaty Westminster.


Beth bynnag, os gall rhywun gynnig llefydd da i fynd i Lundain (a dim ryw glybiau techno crap neu lefydd a la Evolution Caerdydd) byddwn yn ddiolchgar iawn!

martedì, ottobre 16, 2007

Blac Shîp

"Distaw ydoedd yn y sinema
A chlywid y llwch yn llesgau
Ar y cadeiriau cochion,
Crensian y popgorn nas atseiniodd
Yn y gwyllgell;
A phump oedd yno,
A thri ohonynt yn bobl rili annoying o safbwynt y ddau arall, mae’n siŵr..."

-- Gruffydd ab yr Ynad Coch

Do, mi es i’r sinema, neu’r picture house, fel y dywed fy mam annwyl, neithiwr. Ac yn wir pump o bobl oedd yno; sef fi, Lowri Dwd (y Dwd), Aaron a rhyw ddau berson arall oedd yn gorfod dioddef ni’n chwerthin drwy’r ffilm, er nad ydw i o’r farn y bu iddynt hwythau fwynhau’r ffilm rhyw lawer. Ond gwnaethom ni.

Sôn am y ffilm Black sheep ydw i. Dylech chi fod wedi clywed amdano, un o’r ffilmiau Seland Newydd gwirion ‘na ydi o, am ddefaid yn lladd pobl. Does dadl, dyma fy math i o ffilm. Ma’n stiwpid, ond os na chwarddwch arno does donioldeb na digrifwch yn perthyn i chi.

Mawr awgrymaf i chi ei weld a ga’i erfyn arnoch i wneud. Mae ffilm mor hynod â hwn yn haeddu cynulleidfa o fwy na phump.


Os dachi’m yn licio ffilmiau gwirion, ar y llaw arall: ffyc off.

venerdì, ottobre 12, 2007

Ber Grybwylliad

Dw i’n siomedig ei bod yn debyg nad welaf y rygbi'r penwythnos hwn. Dw i’n hoff iawn o rygbi ac yn hoff iawn o bêl-droed - dw i’n meddwl y bu i mi wylio dros 90% o’r gemau ar y teledu yn ystod Cwpan Pêl-droed y Byd, a chyfran digon tebyg yn ystod y rygbi. Does dadlau, mae ffwtbol a rygbi yn wych, a Phêl-droed Americanaidd a golff yn crap. Ych, a chriced. Gas gennai griced. Efo dirmyg.

Ar ôl bod yn lloerig ddigon penwythnos diwethaf mi gefnogaf Ffrainc yn llwyr yfory. Dw i’m yn credu, i mi gefnogi Lloegr mewn unrhyw gêm erioed byth bythoedd, dim hyd yn oed yn fy nyddiau o Brydeindod ystyfnig, a fu amser maith yn ôl erbyn hyn. Colled Lloegr neu Angau. Dyna’r floedd, dyna’r gân.


O ia, ‘dan ni’n meddwl mynd i Lundain am wicend mewn pythefnos. Rhywun yn gwybod am hostel crap i aros ynddo?

martedì, ottobre 09, 2007

Dw isio etholiad!

Gan fy mod yn berson hynod ddiamynedd dydw i ddim yn hapus iawn na fydd etholiad maes o law. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith fel y gallwn eistedd yn ôl am noson a gweled y canlyniadau yn llifo i mewn tan y bore bach. Ond byddai hynny yn hunanol iawn ar fy rhan i. Dw i’m o’r farn fod Plaid Cymru cweit yn barod am etholiad eto, ac mi ddylai’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol bod yn falch.

Fel y gwyddom, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol (neith pobl plîs stopio dweud y Rhyddfrydwyr Democrataidd??!!) mewn penbleth a llanast. Pe byddai etholiad ar ddod mi fyddant yn cael eu gwasgu rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn Lloegr, ac yng Nghymru dw i’n meddwl y byddant yn colli hanner eu seddi. Mi fyddai’r Ceidwadwyr yn curo Brycheiniog, a Phlaid Cymru yn mynd â Cheredigion.

Ond wn i ddim am ffawd y Blaid yn gyffredinol, chwaith. Mi fyddwn i’n disgwyl curo yng Ngheredigion ac Arfon, ond mae’r teimlad annifyr yna yng nghefn fy meddwl mai prin y byddai canlyniad Ynys Môn yn newid rhyw lawer, ac y byddai’n parhau’n goch. Efallai, efallai, y bydd dwy flynedd arall o Lafur yn San Steffan yn ei throi’n werdd drachefn. Ond ar wahân i’r pum sedd hyn, fedra’ i ddim gweld unrhyw seddau eraill i Blaid Cymru - er y byddai Llanelli yn ddiddorol iawn ar ôl canlyniad diweddar fis Mai.

Mi ddylai’r Ceidwadwyr fod yn ddiolchgar hefyd. Dydyn nhw ddim am ennill etholiad. Gŵyr pawb hyn, nid ydynt yn barod. Mi fyddant yn gallu, debyg, ennill llond dwrn o seddau yng Nghymru i ychwanegu at yr hyn sydd ganddynt - Preseli Penfro, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, rhyw 6-7 sedd ar y cyfan. Ond, hyd yn oed yn llygad cenedlaetholwr fel fi, mae Brown yn cael ei amgyffred fel arweinwr llawer gwell na Cameron, a gwleidydd mwy profiadol sy’n gallu arwain gwladwriaeth. Wn i ddim beth ydi Cameron, ond dw i’m yn ei weld felly.

Ac er y byddai pleidlais Llafur yn disgyn yng Nghymru, nhw fyddai’r blaid fwyaf, a nhw fyddai’n buddio o etholiad buan. Mae Brown ar ei fis mêl, mae’r polau’n awgrymu hynny, a dydi’r polau ddim am wella i Lafur cyn 2009, mi dybiaf. O’r herwydd, yn dibynnu ar ymateb y pleidiau eraill, gall 2009 fod yn flwyddyn ofnadwy i Lafur Cymru (er, Duw ag ŵyr pwy fydd yn buddio, os rhywun - sbïwch ar Blaid Cymru yn 2005 a Phlaid Cymru yn 2007!) Mawr obeithiaf hynny, wrth gwrs, ond y Torïaid fyddai’n buddio yn fwy na neb.

Dw i o’r farn bod Gordon wedi gwneud camgymeriad eithriadol drwy beidio â galw etholiad rŵan. Efallai bod hynny’n anghywir, wrth gwrs, ond mae 10 mlynedd mewn llywodraeth yn hir iawn i blaid ar y lefel Brydeinig, ac mae eisoes arwyddion bod Lloegr, o leiaf, yn dychwelyd at ei gwreiddiau Torïaidd. Byddai etholiad rŵan wedi sicrhau 4 blynedd i Brown ‘wireddu ei weledigaeth’. Yn fy marn i, yr hyn mae o wedi ei wneud ydi rhoi cyfle gwych i’r Torïaid ennill yn 2009 a rhoi hoelen fawr yn arch y Blaid Lafur yng Nghymru.

lunedì, ottobre 08, 2007

Penblwydd Hapus i Ceren

Iawn? Ydych chi am wybod am y penwythnos yn ei chyflawnder? Na? Digon teg. Ond mi gewch fân atgofion.

Mi fu Ceren yn dathlu ei phenblwydd (heddiw mae ei phenblwydd, felly os ti’n darllen o’r Ganolfan, Penblwydd Hapus! Gan Fi. Mwah) ac mi aethon ni i’r Mochyn Du i wylio gêm Lloegr.

Dw i a Ceren wedi penderfynu ein bod ni ddim yn licio Saeson achos maen nhw’n gwneud gormod o sŵn ac yn dweud pethau Seisnigaidd iawn, megis ‘Super work Jonny!’ a ‘Go on Paul my son!’, yn ôl y disgwyl, mi dybiaf, ond yn yr achos hwn siomedig, ar y lleiaf, oedd gweled y disgwyliadau hyn yn cael eu gwireddu. Roedd y ddau ohonom mor ddig fel y buon ni’n crynu am tua hanner awr ar ôl y gêm, gan ddyheu angau ar ein Gelynion.

Fe dreuliwyd prynhawn ar wely Lowri Llewelyn yn archwilio Facebook a busnesu ar sgyrsiau pawb arall yno. Penderfynwyd yn unfrydol mai fy mhroffil i ydyw’r gorau. Fodd bynnag.

Mae gennyf i gopi DVD o Tarka the Otter i’w wylio heno. Wn i ddim pa beth ydyw mewn gwirionedd, ond bydd rhaid i mi lwytho’r chwaraewr DVD Tesco yn gyntaf. Fedrai’m g’neud ryw bethau felly.

mercoledì, ottobre 03, 2007

Bwyta amser cinio

Dw i’m yn denu a dw i’m yn dew. Dwi ‘di colli llawer o bwysau eleni, stôn i gyd, ond dros y ddeufis diwethaf mae’r bol a drechwyd yn ei ôl. Wn i ddim pam, ond mi gredaf mai cyfuniad o bastai a pheidio â cherdded i’r gwaith ydyw. Gyda’r myfyrwyr eto’n ôl yn Y Waun Ddyfal a’r cyffiniau, mae angen i mi gerdded, achos does gen i ddim lle i barcio, felly cyn bo hir mi eith y bol drachefn.

Ond mae pastai yn broblem arall. Wn i ddim beth i gael i ginio bob dydd, wyddoch chi. Byddaf yn aml yn hoffi baget neu’i debyg, ond maen nhw’n eithaf drud os cewch un bob dydd. Mae hynny’n beth digon iach i’w fwyta, cofiwch. Ond yn ddiweddar mi dw i wedi bod yn poeni am arian, felly mae bwyd brasterlawn, afiachus wedi cymryd fy mryd o’r Cornish Bakehouse yng nghrombil y ddinas.

Nid lle afiachus na bwyd afiachus sydd yno - dim ond os ydych chi’n mynd yno mor aml ac ydwyf innau yn ddiweddar. Pasteiod, sleisys pitsa, sleisys efo stêc neu gyw iâr a madarch, mmm. Ond mi roddaf stop ar hynny, ac nid af yno gymaint o hyn ymlaen.

Ond beth i fwyta wedyn, fe’ch clywaf yn gweiddi’n groch ar sgrin eich cyfrifiadur (os mai dyma’r achos; calliwch er mwyn Duw)? Wel, mi fyddaf yn mynd am dro weithiau i Boots neu rywle i gael rhyw lap i fwyta. Y broblem ydi, ond am eu hymhongarwch llwyr a’r bobl fain hurt sy’n eu bwyta, ac er eu bod yn flasus, nid ydynt yn fy llenwi. Dw i’m yn foi salad, ond mi fyddwn yn ei gael i ginio, pe na fyddai’r dognau y gellir eu prynu mor bitw ac efo sawsys od. Ac eniwe, ma’n wir, mae salad i gwningod.


Llwgu gwna’ i’n diwedd.

martedì, ottobre 02, 2007

Craishyn

Tai’m yma i gega ond mae’r ffaith bo creision Caws a Nionyn 2c yn ddrytach na Halen a Finag yn Tesco bach Cathays yn rong. A ph’un bynnag, meddwl oeddwn i, ond am creision plaen a Halen a Finag, pa greision sydd wirioneddol yn blasu fel yr hyn a hysbysebir ar y paced?

(Pedied neb â dywedyd ‘Kitchen Crisps Halen a Phuper’. Seriws, pwy FFWC sy’n prynu creision HALEN A PHUPUR?)