Gan fy mod yn berson hynod ddiamynedd dydw i ddim yn hapus iawn na fydd etholiad maes o law. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith fel y gallwn eistedd yn ôl am noson a gweled y canlyniadau yn llifo i mewn tan y bore bach. Ond byddai hynny yn hunanol iawn ar fy rhan i. Dw i’m o’r farn fod Plaid Cymru cweit yn barod am etholiad eto, ac mi ddylai’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol bod yn falch.
Fel y gwyddom, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol (neith pobl plîs stopio dweud y Rhyddfrydwyr Democrataidd??!!) mewn penbleth a llanast. Pe byddai etholiad ar ddod mi fyddant yn cael eu gwasgu rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn Lloegr, ac yng Nghymru dw i’n meddwl y byddant yn colli hanner eu seddi. Mi fyddai’r Ceidwadwyr yn curo Brycheiniog, a Phlaid Cymru yn mynd â Cheredigion.
Ond wn i ddim am ffawd y Blaid yn gyffredinol, chwaith. Mi fyddwn i’n disgwyl curo yng Ngheredigion ac Arfon, ond mae’r teimlad annifyr yna yng nghefn fy meddwl mai prin y byddai canlyniad Ynys Môn yn newid rhyw lawer, ac y byddai’n parhau’n goch. Efallai, efallai, y bydd dwy flynedd arall o Lafur yn San Steffan yn ei throi’n werdd drachefn. Ond ar wahân i’r pum sedd hyn, fedra’ i ddim gweld unrhyw seddau eraill i Blaid Cymru - er y byddai Llanelli yn ddiddorol iawn ar ôl canlyniad diweddar fis Mai.
Mi ddylai’r Ceidwadwyr fod yn ddiolchgar hefyd. Dydyn nhw ddim am ennill etholiad. Gŵyr pawb hyn, nid ydynt yn barod. Mi fyddant yn gallu, debyg, ennill llond dwrn o seddau yng Nghymru i ychwanegu at yr hyn sydd ganddynt - Preseli Penfro, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, rhyw 6-7 sedd ar y cyfan. Ond, hyd yn oed yn llygad cenedlaetholwr fel fi, mae Brown yn cael ei amgyffred fel arweinwr llawer gwell na Cameron, a gwleidydd mwy profiadol sy’n gallu arwain gwladwriaeth. Wn i ddim beth ydi Cameron, ond dw i’m yn ei weld felly.
Ac er y byddai pleidlais Llafur yn disgyn yng Nghymru, nhw fyddai’r blaid fwyaf, a nhw fyddai’n buddio o etholiad buan. Mae Brown ar ei fis mêl, mae’r polau’n awgrymu hynny, a dydi’r polau ddim am wella i Lafur cyn 2009, mi dybiaf. O’r herwydd, yn dibynnu ar ymateb y pleidiau eraill, gall 2009 fod yn flwyddyn ofnadwy i Lafur Cymru (er, Duw ag ŵyr pwy fydd yn buddio, os rhywun - sbïwch ar Blaid Cymru yn 2005 a Phlaid Cymru yn 2007!) Mawr obeithiaf hynny, wrth gwrs, ond y Torïaid fyddai’n buddio yn fwy na neb.
Dw i o’r farn bod Gordon wedi gwneud camgymeriad eithriadol drwy beidio â galw etholiad rŵan. Efallai bod hynny’n anghywir, wrth gwrs, ond mae 10 mlynedd mewn llywodraeth yn hir iawn i blaid ar y lefel Brydeinig, ac mae eisoes arwyddion bod Lloegr, o leiaf, yn dychwelyd at ei gwreiddiau Torïaidd. Byddai etholiad rŵan wedi sicrhau 4 blynedd i Brown ‘wireddu ei weledigaeth’. Yn fy marn i, yr hyn mae o wedi ei wneud ydi rhoi cyfle gwych i’r Torïaid ennill yn 2009 a rhoi hoelen fawr yn arch y Blaid Lafur yng Nghymru.
Nessun commento:
Posta un commento