martedì, settembre 18, 2018

Arweinydd Newydd Plaid Cymru

Helô stalwm!

Ac na, mi wn i. Dwi ddim yn aelod o Blaid Cymru. Ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes gen i farn ar y ras arweinyddol sydd wedi bod yn mynd rhagddi. A dweud y gwir, dwi wedi bod yn ei dilyn yn gymharol agos. Go brin y byddai unrhyw un o’r ymgeiswyr yn gwneud imi ail-ymuno â’r Blaid (yn y byrdymor o leiaf); fy niffyg disgyblaeth fy hun sy’n gyfrifol am hynny’n fwy na dim. Ond gyda gwleidyddiaeth fel y mae, mae hyd yn oed fy mhleidlais i Blaid Cymru wedi bod dan amheuaeth yn ddiweddar. Go brin fy mod i’r unig un sy’n teimlo felly.

Nid newid arweinydd ydi’r ateb i bopeth, wrth gwrs. Mae gan Blaid Cymru broblemau a ffaeleddau eraill. Mi fuaswn i’n dadlau bod llawer o’r rheiny wedi ymwreiddio yn ystod cyfnod Leanne Wood fel arweinydd. Ond mae angen arweinyddiaeth o’r top hyd yn oed ar bethau y tu ôl i’r llen. ‘Does gen i’m cip ecsgliwsif y tu ôl i’r llen ar hyn, ond mae’n bur amlwg fod pethau mawr yn bod yn fewnol sydd angen eu sortio, a bod morâl ar y cyfan yn y Blaid wedi bod yn isel.

Er nad ydw i’n aelod mwyach, dwi’n ffrindiau da efo llawer iawn o aelodau cyffredin. Fedra i ddim siarad dros bawb, ond mae’r rhwystredigaeth dwi wedi’i chlywed ganddynt am gyfeiriad a pherfformiad y Blaid yn llachar o amlwg, ac mae’r arweinyddiaeth bresennol yn rhan o’r rhwystredigaeth honno. Hefyd, mae’r shifft oddi wrth Leanne Wood dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn amlwg iawn hefyd – fedra i nodi sawl unigolyn sydd wedi cefnogi LW yn frwd dros y blynyddoedd (er gwaetha’u hamheuon diweddar) sydd wedi newid i Rhun ap Iorwerth ac Adam Price dros gwrs y ras. Ac o ran ambell un o’r rheiny, dwi’n synnu efo’u newid meddwl.

Ta waeth, p’un a ydych chi’n cytuno â fi ai peidio, dyma fy marn ddidwyll i ar yr ymgeiswyr.

 

Leanne Wood

Dydi hi ddim yn newyddion nad ydw i’n ffan o Leanne Wood fel arweinydd. Dwi wedi sôn am y pethau sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf yma, yma, yma ac yma. Ofer imi fynd dros yr un hen ddadleuon felly; erys imi bob beirniadaeth flaenorol yn berthnasol o hyd. Ond mae jyst ambell beth i’w nodi yn ystod y ras.

·         Leanne Wood wnaeth y sialens i bobl i’w herio. Ar ôl i hynny ddigwydd mae hi’n amlwg yn hollol pissed off efo’i dau wrthwynebydd (Adam Price yn benodol) am feiddio ateb yr her. Roedd gwneud y sialens ynddo’i hun hefyd jyst yn arwydd arall o ddiffyg crebwyll gwleidyddol Leanne Wood, y mae’r enghreifftiau ohonynt yn niferus.

·         Roedd yn berffaith amlwg ar Sharp End, ac yn ôl yr adar bach yn ystod yr hystings, fod y gagendor rhwng Leanne Wood a’r ddau arall yn fawr, o ran syniadau ac o ran y gallu i gyfathrebu. Dyna pam fod troad wedi bod yn y ras ei hun. Ond nid Leanne sydd wedi perfformio’n arbennig o wael mewn dadleuon, yn hytrach, mae hi wedi digwydd dod yn erbyn dau berson sy’n sylweddol well dan y fath amodau na hi.

·         Y mae ei thactegau hi dros y ras wedi bod yn annifyr – mae hi wedi canoli ei hymgyrch o gylch fod yn wrth-Doriaïdd (teg iawn) ond gan ensynio’n gryf y byddai Rhun ap Iorwerth neu Adam Price yn ddigon hapus i’w gwahodd i lywodraeth, er bod y ddau wedi bod yn gwbl glir na wnaent weinidogion o Geidwadwyr. Gwleidyddiaeth fudur ydi honno.

·         Mae ei hobsesiwn efo’r Rhondda yn mynd ar nerfau pobl erbyn hyn – mae hi’n fwyfwy crebachu’n AC etholaethol nag yn arweinydd Cymru gyfan.

·         Os mae Leanne Wood yn ennill bydd Plaid Cymru’n cael ei hanalluogi fel Llafur dan Corbyn. Mae’r gefnogaeth iddi ymhlith aelodau etholedig (nid cynghorwyr) yn drybeilig o wan. Mae’n amlwg nad ydi’r bobl sy’n gorfod gweithio gyda hi fwyaf yn hyderu ynddi. Petasen nhw, mi fyddai ganddi fwyafrif clir ohonynt yn datgan eu cefnogaeth iddi.

Mae’n annheg cyfeirio at gyfnod Leanne Wood wrth y llyw fel ‘arbrawf’. Doedd o ddim yn arbrawf – hi enillodd y ras. Nid ‘methiant o arbrawf’ fu ei hethol. Jyst methiant fu ei harweinyddiaeth hyd yma.

 

Adam Price

Mi allech chi ysgrifennu traethawd am Adam Price. Un hir a difyr. Mae o’n sicr yn enigma yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae ganddo garisma, mae ganddo syniadau, mae o llawn egni. Dwi’n parchu Adam Price yn fawr.

Rŵan, o ran syniadau fodd bynnag, mae Adam bach yn hit and miss. I fod yn deg, mae o’n lot mwy hit na miss ond mae’r misses yn gallu bod yn eithaf mawr ac yn eithaf aml. Hynny ydi, mae’n o’n cael ambell sdincar, ond dydi hynny ddim o reidrwydd yn feirniadaeth. Mae’n dangos byrbwylledd ac efallai mymryn o ddiffyg crebwyll gwleidyddol, ond os oes angen syniadau ar unrhyw wlad yn y byd, Cymru ydi’r wlad honno. Dywedodd AP ar y Sunday Politics Wales sbel yn ôl na fyddai o fyth yn ymddiheuro am fod yn ddyn syniadau, ac ni ddylai ychwaith. Ond fedra i ddim ond â chael yr argraff y byddai well iddo eistedd lawr a meddwl pethau drwodd yn fwy trylwyr cyn eu cyhoeddi i’r byd a’r betws.

Dydw i ddim yn gwybod beth yn union sy’n digwydd ym mhen Adam, ond dwi’n gwybod nad ydw i’n ddigon clyfar i ddallt. Roedd ei gynigion diweddar ar chwyldroi’r system dreth yn anhygoel. Fedra i ddim rhoi sylw ar eu hymarferoldeb na dim felly, ond dwi’n parchu pobl yn meddwl mewn ffordd gwbl wahanol, arloesol.

Ond mae un consyrn penodol sydd gen i am arweinyddiaeth bosibl Adam Price (a dwi’n meddwl y byddai’n rhaid iddo wir weithio ar hyn petai’n ennill). Nid ei syniadau na’i feddwl rhagorol ydi’r rheiny na’i garisma diymwad – ond ei allu i gyfleu pethau i bobl gyffredin.

Un o leins gorau diweddar Price oedd ar y rhaglen Sunday Politics Wales y cyfeiriais ati uchod. Wales is an oasis of stasis in a sea of change. Mae honno’n chwip o frawddeg. Mae hi’n wych ac yn wir a does gen i ddim amheuaeth y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n darllen hwn yn cytuno. Y broblem ydi byddai’r rhan fwyaf o bobl yn clywed hynny ac yn meddwl ‘be ffwc?’ – a dyna’r broblem. Dwi’n amau gallu Adam Price i gyfleu ei weledigaeth a’i syniadau i’r lliaws a’u gwerthu mewn ffordd ddealladwy. Dydi Plaid Cymru ddim angen canolbwyntio ar bolisïau (er bod eu hangen arnynt) ond yn hytrach ei neges, a dwi’n poeni y gallai’r Blaid dan Adam Price gael ei gorlethu â pholisïau ar draul neges. Dyna, bosib, un o’r pethau aeth o’i le yn 2016.

 

Rhun ap Iorwerth

Mae ‘na rai sy’n gweld Rhun ap Iorwerth fel ychydig bach o ‘Plaid Cymru’n mynd ôl at fel yr oedd’ ond mae honno’n ddadl wan. Efallai bod RaI yn dod drosodd fel gormod o steady hand ond mi ddadleuwn i nad ydi hynny’n wir. Wedi’r cyfan, dechreuodd ei yrfa wleidyddol drwy adael swydd fras yn y BBC i sefyll mewn isetholiad nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai’n ei ennill. Roedd honno’n risg bersonol ac roedd hynny’n cymryd gyts i’w wneud – anodd peidio â parchu hynny. Digwydd bod, mi chwalodd ei wrthwynebwyr y tro hwnnw, ac yn 2016 roedd o’n sefyll ar fwyafrif mwyaf Cymru, gan drechu Llafur a’r Ceidwadwyr ill dau yn y rhannau o Fôn y maen nhw gryfaf. Hynny mewn etholiad pan ostyngodd pleidlais y blaid mewn dros hanner o etholaethau’r wlad

Yr un mater sydd wedi codi’i ben wrth drafod Rhun yn gyson wrth gwrs ydi Wylfa ac ynni niwclear. Mae Adam Price a Leanne Wood wedi ceisio manteisio ar hynny, ond dydw i ddim yn siŵr os ydyn nhw wedi llwyddo. Y gwir ydi, dydw i erioed wedi clywed Rhun ap Iorwerth yn canu clodydd ynni niwclear; i’r gwrthwyneb, mae’n gryf dros ynni adnewyddadwy. Efallai ei fod mewn sefyllfa anodd yn ei etholaeth ei hun ond mae o wastad wedi bod yn ymarferol – os ydi Wylfa newydd yn gorfod digwydd, rhaid gwneud y gorau ohoni. Mae hynny’n rhesymol, a dwi’n parchu rhesymoldeb.

Dydi’r naratif sydd wedi ceisio cael ei roi o’i gylch am fod yn ddyn â diffyg syniadau ddim yn un teg chwaith. Mae gan Rhun syniadau, gall unrhyw un sy’n gwrando arno wybod hynny. Ond gall Rhun hefyd gyfleu neges ac mae’n berffaith amlwg ei fod yntau’n deall taw’r neges sydd bwysicaf mewn gwleidyddiaeth. Wrth gwrs mae angen ei hategu gan bolisïau a syniadau, ond negeseuon, nid maniffestos, sy’n ennill etholiadau.

A phwy well na chyn-ddarlledwr i gyfleu’r neges honno mewn difri? Dydi o ddim yn syfrdan fod Rhun yn dda ar y teledu ac yn ôl y sôn wedi gwneud argraff fawr ar gynulleidfaoedd yr hystings gyda’i allu i gyfathrebu. Ond yr hyn y galla i weld Rhun ap Iorwerth yn ei wneud ydi siarad efo pobl gyffredin o bob cwr o’r wlad fel na alla i ddychmygu’r ddau ymgeisydd arall yn ei wneud, os dwi’n onest.

Mewn adeg wleidyddol wallgof, mae’n bwysig cael lleisiau call. Mae Rhun ap Iorwerth yn llais call. Peidiwch â diystyru’r fath gryfder yn y cyfnod sydd ohono.

Mae hefyd wedi rhoi pwyslais mawr ar gynnwys cynifer o bobl yn rhengoedd y Blaid â phosibl. Eto, mae hyn jyst yn strategaeth gall, nid mwy na llai. Does dim angen i’r Blaid o reidrwydd symud i’r canol gwleidyddol, ond mae’n bwysig i bobl o bob math (o fewn rheswm) sy’n coelio mewn annibyniaeth deimlo’n gyfforddus oddi mewn iddi a thaw hynny yw ei chanolbwynt a all uno’r lluoedd. A Duw ag ŵyr, mae dirfawr angen ar Blaid Cymru mwy o manpower.

 

Casgliad

Leanne Wood ydi’r continuity candidate. Mae o i fyny i aelodau’r Blaid a ydyn nhw am i’r 6 blynedd diwethaf barhau a ph’un ai a ydyn nhw’n fodlon ar le y maen nhw rŵan fel plaid. Os ydi’r aelodaeth yn fodlon ar eu sefyllfa bresennol, mae’n dangos imi fod y Blaid mewn lle cwbl anobeithiol.

Byddai Adam Price yn dod ag egni a syniadau i’r arweinyddiaeth. Byddai’n gallu apelio’n ehangach na Leanne Wood. Byddai o’n ffyrnig mewn dadleuon teledu ac yn y Senedd. Ond mae ei fyrbwylledd chwedlonol yn risg i’r Blaid. Ai risg, yng ngwir ystyr y gair, sydd ei hangen arni? Ai byrbwylledd mewn cyfnod mor fyrbwyll ydi’r ffordd ymlaen?

Yn fy marn i, Rhun ap Iorwerth ydi’r ymgeisydd cywir ar yr adeg hon. Gall gyfleu neges a deall pwysigrwydd gwneud hynny. Gall siarad â phobl ac o flaen y camerâu. Gall hefyd wrando ar syniadau eraill a chydweithio pan fo angen. Mae’n gall, ond wedi dangos y bydd yn cymryd risg, hyd yn oed un bersonol, pan fo’r cyfle’n codi. Gall yn sicr hefyd ymestyn apêl y Blaid.

Fy hun, mae’n berffaith glir pwy ydi’r dewis gorau. Gall sefyllfaoedd newid. A phan fo sefyllfaoedd newid, gellir bod angen pobl newydd. Ond ar gyfer y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni, Rhun yw’r un.
 

3 commenti:

Chris Jones ha detto...

Dadansoddiad ardderchog. Dw i'n cytuno.

Unknown ha detto...

A ydy enw Rhun yn broblem gyda'r ddi gymraeg? A fydd e'n anfon neges subliminal bod Cymraeg yw iaith y Blaid? (eto)

Ioan ha detto...

Cytuno! Rhun 1, Adam 2, Wood 3!