Y mae’n
rhyfedd imi y dyddiau hyn deimlo bod angen imi fwrw bol dros rywbeth
gwleidyddol ar ffurf blog. Dwi dal yn greadur annatod wleidyddol ei anian; ond
yn un sydd wedi’i ddadrithio gan wleidyddiaeth pleidiau, gyda hynny wedi
treiddio i raddau i’m holl sbectol wleidyddol ar y byd. Dwi heb fawr o otsh
ddim mwy. Dydw i ddim yn hoffi byw mewn gwlad sydd wedi’i pholareiddio megis;
ceidwadaeth ddiangen ddideimlad ac atgas, y dde bell yn hawlio rhyddid barn, a’r
chwith yn bloeddio rhyddfrydaeth gan ei hanffurfio a’i gwyro i’w safbwyntiau eu
hunain. Aros a Gadael. De a Gogledd. Anffyddwyr a’r ffyddiog. Label i bawb a
phawb isio label. Pob leffti’n snowflake a phawb sy’n anghytuno â’r chwith yn
ffasgydd. Yr unig bolareiddio sydd ei hangen ar ein gwlad – Cymreictod a
Phrydeindod – yn fudan a minnau yng nghanol hyn oll yn meddwl bod pawb arall yn
ffycwits.
A neb yn
dysgu o’r cyfan. Dyna sydd efallai’n corddi fi. ‘Sneb yn dysgu o ddim. Dwi’n
ddigon hapus i bobl dwi’n anghytuno â nhw beidio â dysgu gwersi, mae’n haws
naddu arnynt wedyn, ond pan fo pobl dwi’n cytuno â nhw’n peidio â dysgu mae ‘na
rwystredigaeth ddofn, anobeithiol yn dyfod drosof.
Paham mai
gamwn a’m gwylltiodd heddiw? I’r rhan fwyaf o bobl mae honno’n frawddeg y
gallen nhw ddweud na feddylient y byddent yn ei hysgrifennu fyth. I fi, roedd
hi’n fater o amser.
Y term
sarhaus gammon sy gen i dan sylw. Os
dydych chi ddim yn gwybod beth mae’n ei olygu, dyma ddisgrifiad Urban Dictionary
ohono, ond yn fras mae’n cyfeirio at ddynion hŷn (moel a thatŵiog yn aml) o
fryd Brexit; rhagfarnllyd, ia, ond hefyd ddi-addysg a dosbarth gweithiol.
Dydw i ddim
yn rhannu safbwyntiau’r bobl hyn, felly pam fod hynny’n fy ngwylltio? Mae amryw
resymau, ond yr un sylfaenol dwi’n meddwl ydi gan bwy y daw’r term ac at bwy y
mae’n ei gyfeirio. Term ydi o gan bobl ddinesig, dosbarth canol, siwdoryddfrydol
(mae’r defnydd o siwdo yma’n flog ynddo’i hun, ond yn ddefnydd bwriadol), yn
aml gyfforddus eu byd, efallai’n iau sy’n gryf o blaid aros yn yr UE – pobl dwi’n
amlach na pheidio’n uniaethu’n â nhw ar lefel wleidyddol, ond yn llai ar lefel
bersonol. Maen nhw’n defnyddio’r term i gyfeirio i bob pwrpas at y dosbarth
gweithiol (neu, o leiaf, wrth ei ddefnyddio bob tro’n cyfeirio at bobl sy’n
digwydd bod yn ddosbarth gweithiol): y dosbarth ŷm magwyd ynddo, yn rhannu
llawer o’i agweddau ar fywyd ac yr ydw i’n uniaethu ag ef ar lefel bersonol
mewn ffordd na alla i â’r dosbarth canol – a chyfeirio ato’n ddilornus. Dydi gammon ddim yn foi canol oed dosbarth
canol sy’n rheolwr llinell i hanner dwsin o bobl ac yn dreifio Audi bum mlwydd
oed. Y bobl ar y gwaelod ydi’r rhain, ond fy mhobol i ydyn nhw. Fy hunaniaeth,
nid fy ngwleidyddiaeth i, sy’n llwythol; sydd ynddo’i hun yn un gwahaniaeth
sylfaenol rhwng y dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol.
Mynegais i
cyn y refferendwm (sy’n gefndir i fy meddylfryd yma, y gallwch ei ddarllen yma
os oes gennych chi awr sbâr) y credais yr oedd yr agwedd uchelael, sarhaus, ddiystyriol
hon at bobl dosbarth gweithiol, sydd wedi bod yn datblygu’n araf ers ryw ugain
mlynedd, am arwain at golli’r refferendwm. Trafodais agweddau at faterion
cymdeithasol ac economaidd ond yn y bôn awgrymais taw’r agwedd uchod oedd un o’r
prif resymau y gallai Brexit ddigwydd. Wna i ddim ailadrodd popeth yma, ond dwi’n
mynd i awgrymu y’m cyfiawnhawyd gan ddemograffeg y canlyniad.
Oherwydd
hynny, dwi ddim yn rhannu’r dicter a’r dirmyg sydd gan gynifer o bobl Aros at y
bobl bleidleisiodd o blaid gadael. Dwi’n flin am lot o bethau – dwi’n flin am
golli’r refferendwm, dwi’n flin does dim am ddod o’r ffaith i’r ymgyrch Gadael
gelwydda a thwyllo’n ariannol, dwi’n flin am ragrith rhai o’r prif leisiau dros
Adael, a’u hunan-fudd ynddo a’u hamharodrwydd i ddelio â sefyllfa y crëon nhw. Er,
dwi hefyd yn flin am i’r ymgyrch Aros gynnal ymgyrch gwbl bathetig eu hunain,
ac am i lawer o ladmeryddion cryfaf Aros fod yn gyfrifol at greu’r hinsawdd
wleidyddol arweiniodd at hyn yn y lle cyntaf drwy eu hymdriniaeth dros
flynyddoedd lawer o’r bobl bleidleisiodd dros Adael.
Eu ffroenucheldra
maith nhw arweiniodd at sbeit y bleidlais i Adael; sylwer eironi un o ystyron y gair gammon yn y cyd-destun hwnnw.
Er, dydw i
ddim yn flin â phobl bleidleisiodd i adael achos dwi ddim yn coelio bod eu
rhesymau dros eisiau gadael yn ddi-sail nac yn ddi-werth – dydi hyd yn oed barn
stiwpid ddim yn farn annilys. A chas gen i’r dôn gron bathetig gan bobl f’oedran
i ac iau am ddwyn ein dyfodol gennym; nid am nad oes elfen o wirionedd i hynny ond
mi wn i’n iawn pan y bydda i neu chi’n hŷn pleidleisio dros yr hyn dwi’n ei
gredu a wnaf i, ddim pleidleisio i blesio pobl eraill waeth pwy ydyn nhw.
Ond yn ôl at
y gamwn. Iawn, mae o’n derm dilornus a sarhaus – a fawr otsh gen i am hynny –
ond mae’n hynny at grŵp o bobl (fel y dywedais, yn aml dosbarth gweithiol,
cymdeithasol geidwadol a di-addysg) sydd wedi’u dilorni cyhyd gan grŵp arall (dosbarth
canol, rhyddfrydol-chwith, addysgiedig) nes eu bod wedi’u suro’n llwyr. Y cyfan
mae’r gammon yn ei wneud ydi:
1. Atgynferthu
ffroenucheldra dosbarth canol at y dosbarth gweithiol a wnaeth gyfraniad
helaeth at golli’r refferendwm yn y lle cyntaf
2. Caledu
agweddau Brexit nifer yn y dosbarth hwnnw.
A’r peth
rhwystredig ydi nad ydi pobl yn gweld hynny. Dim newid tacteg. Dim argyhoeddi
ar lefel ddealladwy y gall pobl uniaethu â hi. Y mae’r traddodiad o ddilorni
barn pobl isaf cymdeithas yn rhy sefydledig, i’r graddau y mae baw isa’r domen
y llywodraeth Geidwadol hon yn gallu defnyddio’r dirmyg hwnnw i guddio’u dirmyg
a’u drwgweithredu eu hunain atynt.
Ac am yr
union resymau hynny, petai rywsut, rywfodd, ail refferendwm, byddai’r canlyniad
bron yn union yr un peth. Blog yr Hogyn o Rachub 14 Mehefin 2018; fi ddywedodd
gyntaf chwi gofiwch. Y drasiedi ydi, er bod pobl o’r ddwy ochr na fyddai byth
yn newid pleidlais petai ail refferendwm, mae lliawns yn y canol a allai wneud
hynny, ond sydd ddim am wneud oherwydd safon ein disgwrs a’n dadl wleidyddol.
Ond dydw i
ddim yn siŵr beth a’m hysgogodd i ysgrifennu’r uchod. Yn y bôn, er fy mod i
wedi hen ddysgu’n wleidyddol fod dy ddiffinio dy hun yn ddogmatig yn dwp, dwi’n
ochri efo’r ochr ryddfrydol, econonomaidd-chwith i bethau, a dal yn gryf o
blaid Aros. Ac efallai fy mod innau wedi suro am fy mod i’n disgwyl i bobl o
fryd tebyg fod yn gallach eu disgwrs yn lle efelychu’r ochr draw, ac yn ofer
ddisgwyl iddynt ddysgu gwersi am pam ein bod ni yn lle’r ydym ni’n awr.