domenica, gennaio 26, 2014

Ein Cyfaddawd Ni

Mae’n anodd bod yn Gymro Cymraeg â pheidio â chael llond bol ar bopeth. Ond mae o’n teimlo weithiau fel petai holl rymoedd y byd hwn yn uno yn ein herbyn. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sydd wedi sylwi, dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf yn benodol, fod straeon a sylwadau gwrth-Gymraeg yn dod yn bethau mwy cyffredin nag yr oedden nhw rai blynyddoedd ynghynt. Beryg y bu ffigurau’r cyfrifiad yn fêl ar fysedd y lleiafrif hyll hwnnw yng Nghymru, nad yw’n lleiafrif dibwys gwaetha’r modd, sy’n casáu’r Gymraeg ac yn ddirmygus o’r rhai ohonom sy’n ceisio’i siarad a’i harddel. I’r rhai sy’n ymosod arnom o’r tu hwnt i Glawdd Offa – pobl sy’n gwybod dim am Gymru, heb sôn am ystadegau cyfrifiadau, ond am yr hyn a arddelo’u rhagfarn – nid a wna’r un ganran na ffigur wahaniaeth i’w barn druenus. Byddai’n rhy ddiflas peidio â phigo ar leiafrif y mae’n dderbyniol ei sarhau, wedi'r cyfan.

Duw ag ŵyr.

Ond dwi’n siŵr o un peth. Y mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg fel petaent yn amlhau – y cyfan yn ensynio pam ddylai’r di-Gymraeg orfod cyfaddawdu i’r lleiafrif gwirion sy’n mynnu dal ynghlwm wrth iaith a ddylai fod wedi hen farw wrth i weddill y byd esblygu? Y gair allweddol ydi ‘cyfaddawd’. Nefoedd, dwi wedi cael llond bol ar bobl yn dweud neu’n ensynio eu bod yn gorfod ‘cyfaddawdu’ i siaradwyr Cymraeg.

Beth ydi’r cyfaddawd erchyll hwn a wna’r di-Gymraeg yng Nghymru? Dysgu rhywfaint o’r iaith frodorol yn yr ysgol yn lle rhywbeth “call” fel Sbaeneg neu Fandarin; ffieiddio ar y ffaith fod rhai swyddi yn Gymraeg ‘hanfodol’ (os cofiaf yn iawn, 2% o swyddi yn y sector cyhoeddus sy’n ffitio’r disgrifiad hwn - un o bob 50); dioddef arwyddion mawr gyda dwy iaith arnynt ac, o ia, palu arian mewn i sianel na allan nhw mo’i deall. Erbyn 2016 bydd cyllid y Sianel yn £74.5m -llai na £25 y pen i bawb yng Nghymru, i’w roi ffordd arall. Bŵ-ffycin-hŵ.

Efallai y dylent ystyried a deall, hyd yn oed yn fras, ein cyfaddawd ni.

Gwasanaethau eilradd yn Gymraeg – ym mhob maes posibl. Gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth yn dragywydd. Cael ein bychanu, ein gwawdio a’n dilorni’n gyson gan rai pobl yn ein gwlad ein hunain neu dros y ffin, a gyfiawnheir â rhyddid mynegiant, a hynny heb fyth gael y cyfle i ateb yn ôl. Ein gweld ein hunain yn troi’n lleiafrif hyd yn oed yn ein cadarnleoedd traddodiadol, bron yn ddiymadferth i wrthdroi’r sefyllfa.

Derbyn na allwn fyw ein bywydau - hyd yn oed weithiau gwneud y pethau mwyaf sylfaenol - drwy gyfrwng ein hiaith ein hunain, yn ein gwlad ein hunain, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle’r ydym yn niferus neu’n fwyafrif clir.

Pwy Saesneg ei iaith erioed a aeth i garchar, neu a fynychodd brotest, neu hyd yn oed a lofnododd ddeiseb, am yr hawl i fyw o leiaf rai elfennau o’i fywyd yn Saesneg yng Nghymru? Pwy yn wir.

Ydi, mae dwyieithrwydd yn gyfaddawd. Ond ein cyfaddawd ni ydi o – cyfaddawd unochrog a gorfodol a orchmynnwyd ar y Cymry Cymraeg. Cyfaddawd nad oes gennym ddewis yn ei gylch eithr ei dderbyn. Pan fyddo’r rhai sy’n ein casáu'n uchel eu croch, neu rywrai'n cwestiynu’r cyfaddawdau a wnân nhw erom ni, byddai’n syniad da iddynt gymryd ond munud i feddwl am wir natur dwyieithrwydd yng Nghymru.

Ein cyfaddawd ni ydi o.

5 commenti:

Neilyn ha detto...

Cytuno pob gair Hogyn, ti'n llygad dy le. Ma' hon yn safbwynt elfennol bwysig.

Dwi'n meddwl hefyd y bod hi'n bwysig pwysleisio'r ffaith mai 'iaith y byd' yw'r Saesneg erbyn heddiw, nid iaith unigryw Lloegr a'r DU (tafodieithoedd o'r Saesneg yw etifeddiaeth Lloegr bellach, nid fy mod i'n bychanu'r etifeddiaeth hynnu o gwbl). Er bod rhai yn amlwg yn hapus i ddefnyddio'r ffaith honno fel dadl i ladd ar Y Gymraeg, y gwir ydi mai gosod Y Cymry ar yr un lefel a mwyafrif gwledydd eraill y byd sy'n arddel dwyieithrwydd y mae'n ei wneud.

Mae'r erthyglau sydd wedi ymddangos yn y papurau Saesnig dros y blynyddoedd diwethaf yn 'galaru'r' ffaith fod Y Saesneg yn iaith fyd-eang erbyn heddiw, yn cydnabod i hyn effeithio'n negyddol ar hunaniaith a diwylliant Lloegr/Y DU, a'r dadleuon di-ben-draw dros ddysgu ieithoedd tramor i blant Lloegr, yn helpu yn fy nhyb i i esbonio rhywfaint o'r cenfigen amlwg tuag at iaith Cymru - achos yn y bon, dyna'n union sydd tu ol i'r agweddau negyddol, cenfigen pur!

Felly - daliem ati!

Anonimo ha detto...

Fel athro, credaf fod y cwymp erchyll mewn safonau addysg yng Nghymru yn rhoi esgus i bobl droi ei sylw at y Gymraeg. Mae pobl yn chwilio am esgus cyfleus. Mae'r ystadegau diweddar am y lleihad parhaus yn y rhai sy'n astudio ieithoedd tramor yng Nghymru'n fwled pellach iddynt.

Christian Kelsey ha detto...

Rwy'n cytuno gyda'ch pwynt chi. Does dim clem gyda fi pam mae pobl di-Gymraeg yn gallu dweud bod nhw'n gorfod 'goddef' y Gymraeg pan cyn lleied yn cael ei wneud, yn cymharu â'r Saesneg.

Mae canlyniadau'r Cyfrifiad 2011 wedi fy siomi ond fel rhywun 22 oed fy hun, rwyf wedi gweld cynydd ynglyn â phobl fy oedran i sy'n parhau i'w siarad.

Am faint; dyna'r cwestiwn nag yw e.

Alwyn ap Huw ha detto...

Mae gan y wraig 'cw cyfnither sydd yn gweithio yn Nhesco Cyffordd Llandudno, pan fydd hi ar ddyletswydd byddwyf yn mynd at ei thil hi er mwyn cael sgwrs fach deuluol "sut mae mam, sut mae'r plantos" ac ati. Er gwaetha'r ffaith ein bod yn amlwg yn adnabod ein gilydd fel Cymry Cymraeg bydd y gyfnither, pob tro, yn darllen cyfarwyddiadau o'i chyfrifiadur yn y Fain "Do you need any bags"' "Have you got a Clubcard" ac ati. Cwbl pathetig, i ddweud y gwir ond yn "typical" o ardaloedd a theuluoedd Cymraeg sy'n poeni dim am yr iaith gan ei fod mor "naturiol"

Ychydig yn ôl mi fûm yn Nhesco Llaneirwg, un o stadau Tai Cymdeithasol mwyaf Prydain; lle byddai pobol Cymraeg Posh Caerdydd byth yn siopa. Roedd yr hogan wrth y til wedi clywed fi'n siarad Cymraeg efo fy chwaer wrth ddisgwyl ein gwasanaethu a chawsom wasanaeth Cymraeg Cyflawn gwbl di ofyn.

Mi fûm yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd pythefnos yn ôl a chael fy sganio, a chael ymateb cellweirus gan y giard mewn Cymraeg pur "mae'n amlwg bod ti'n Gog dim arian yn dy boced!"

Dwi erioed di bod i Drgeana, erioed di yfed yn y Mochyn Du, ond rwy'n gweld Caerdydd y Gymreiciach bellach nac ydy pen uchaf Dyffryn Conwy. Un mewn deg sy'n gallu'r Gymraeg yn y ddinas; a maer un yn ei ddefnyddio ar draws y ddinas. Un mewn tri sy'n gallu'r Gymraeg ym mhen uchaf Dyffryn Conwy - ond prin ar y naw yw'r defnyddwyr!

Anonimo ha detto...

Mae siarad Cymraeg yng Nghaerdydd yn arwydd o hunaniaeth, yn hytrach na rhywbeth mae pobl yn gallu fforddio ei wneud ond os mae nhw eisiau. Dwi'n dweud hyn o dyfu lan yng Nghaerdydd, gadael am flynyddoedd a nawr byw yno eto.