Stôl ar ôl,
Ar ôl mae stôl,
Ond be ddaw wedyn?
Sosej rôl.
Roeddwn fardd ym more glas fy llencyndod gynt.
Sosej rôl yn
RHEIBUSfel eryr
pasteiog.
Ydi, mae’r hen chwedlau’n wir. Beirdd ddoe yw’r bwytwyr
mawr; ac ar ôl oes o gynganeddu, hen gelf na ddeall neb ac na ddiolch neb amdani eithr cynganeddwyr, gan
draflyncu cywyddau ânt dew gan swmp eu gallu; archwilient finiau’r
archfarchnadoedd yn eu blys am englynion newydd ond methiant ddaw iddynt bob un
oherwydd ni chewch mewn archfarchnad farddoniaeth a dyna pam fod Mei Mac
bellach yn ugain stôn ac ni fydd yn gadael ei dŷ mwyach ond i odli.
Nid oes yn rhaid i feirdd penrhydd odli felly maen nhw’n
dewach fyth fel rheol.
Ond methu’r pwynt ydwyf – yn ôl ato. Cerddais ar droeon i lawr y lôn fach tua’r ffridd brudd, grimp gan sychder, lle gwelsai’r hynafiaid ryfeddod yn y rhedyn a gwirionedd yn yr wybren faith gynt oddi fry; ac ynddi sêr gwib rif y gwlith yn ... gwibio.

Bu farw Dewi Llwyd yn ddeunaw oed.