sabato, agosto 30, 2008

Y Daith Bysgota Fwyaf Aflwyddiannus Fu

Nid blogiwr y Sadwrn mohonof fel rheol ond heddiw fe wnaf eithriad. Dwi newydd fod yn pysgota gyda fy arch-elyn y mae’n fy ngharu’n ddarnau sef Dyfed Flewfran.

Gwn eich meddwl. Wedi’r aflwyddiannau lu y’u cofnodwyd ar y flog hon: paham? Erbyn hyn, dydyn ni ein dau ddim yn siŵr chwaith.

Prynwyd yr abwyd ac ambell i declyn ac aethpwyd i Benmon, lle, yn ôl dyn y siop ym Miwmares, y mae mecryll. Y ffycar celwyddgar.

Taflem ein bachau i’r môr ar ôl dod o hyd i fan fach ddelfrydol. Ni ddaeth y bachau’n ôl. Y môr a’u hawliasant, a ninnau symudasem.

Rŵan, yn y fan newydd fe aeth pethau o ddrwg i waeth i mi. Fe lwyddodd Dyfed ei hun gael ambell i gynnig arni. Y tro cyntaf yno, mi aeth fy rîl i bobman a sbwyliwyd y tafliad hwnnw. Digwyddodd yr un peth yr eildro wrth i’r cont snagio.

Rhoddais drefn ar y rîl a’r wialen, yn gwbl hyderus o’u gallu i ddal fy nhe. Ffŵl ydw i. Erbyn hynny roedd dim digon o linyn ar ôl ar y rîl ac ychydig fetrau a lwyddais ei luchio. A dyna ddiwedd ar fy niwrnod i.

Ar ôl ambell snagiad arall dyna hanes Dyfed wrth iddo anfwriadol (gobeithiaf) fy socian gan Lucozade.

Dw i byth isio mynd i ‘sgota eto.

venerdì, agosto 29, 2008

Byw yn yr Ardd, er nad wyf

Am y tro cyntaf erioed neithiwr mi wyliais Byw yn yr Ardd ar S4C. Wn i ddim pam y gwnes wneud hyn. Credaf i Keeping Up Appearences ddod i ben ar UKTV Gold, sydd y math o raglen y bydd rhywun yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, yn benodol ar b’nawn Sul efo pen mawr.

Dydw i ddim yn gwybod beth a wnaeth i mi ddechrau gwylio. Nid garddwr mohonof, ac yn wahanol i un cyfaill penodol nid wyf yn honni’r ffasiwn beth. Yn wir, mae cefn gardd Stryd Machen yn frith o chwyn a gwlithod a phryfaid, a phrin iawn y bydda i’n treulio amser yno yn y tywydd hwn. Pan oeddwn fachgen, roedd pethau’n wahanol ac roeddwn yn hoff o dyfu pethau yng ngardd Nain, ond diflannodd yr awydd wrth i mi dreulio’r penwythnosau yn crwydro stryd Pesda yn gwneud ffyc ôl.

Wn i ddim beth a ddisgwyliais – ro’n i’n disgwyl rhywbeth tebyg i ‘Gardener’s World’, y byddaf yn ei osgoi yn yr un modd â bydd Brandon Monk yn osgoi actio, ond ni chefais fy siomi.

Wn i ddim os mai Bethan Gwanas ydoedd, neu’r ffaith bod ‘na bethau wirioneddol diddorol ar y rhaglen, fel cadw gwenyn, tyfu llysiau rhyfedd fel blodfresych porffor, a hyd yn oed gwrach, ond fe’m tynnwyd i mewn yn llwyr a mwynhau’r rhaglen o ddifrif. Mae’n swnio’n wirion ond roedd ‘na rhywbeth gwirioneddol Cymreigaidd amdani a wnaeth i mi deimlo’n gynnes braf. Go on, rhowch gynnig arni wythnos nesa’.

Nid yn aml y bydda i’n dweud “Da iawn S4C”, ond, da iawn S4C. Os dachi’n gallu cael rhywun fel Y Fi i fwynhau rhaglen arddio, mae hynny’n rhywbeth eitha’ da.

giovedì, agosto 28, 2008

Y Freuddwyd Wleidyddol Rwsiaidd Fawr

Prin yw pobl y byd, hyd y gwn i, sy’n breuddwydio’n wleidyddol. Dwi, ar y llaw arall, yn unigolyn prin (dim ond un ohonof sydd, wedi’r cwbl). Neithiwr mi gefais freuddwyd i raddau gwleidyddol tu hwnt.

Wel, ddim ‘tu hwnt’. Roeddwn allan am sesiwn gyda Dmitry Medvedev a Vladimir Putin. Rŵan, roedd yr Arlywydd Medvedev isio dewis Prif Weinidog, sef naill ai fi fy hun neu Vladimir Putin. Yn anobeithiol roeddwn wedi hen benderfynu na fyddwn yn cael y swydd, felly mi feddwais yn wirion, a doedd yr Arlywydd ddim yn hapus iawn a dweud y lleiaf.

Daeth un o’m ffrindiau ataf i ymuno â’r hwyl, o bosibl Ellen er na allaf gadarnhau hyn, a ddywedodd wrthyf nad oedd yr Arlywydd yn hoffi Vladimir yn fawr iawn a fi oedd y ffefryn o bell ffordd i gael y swydd, ond yn dilyn fy ymddygiad nid oedd gobaith i mi ei chael. Eisteddais y tu allan i’r dafarn yn y glaw yn ysmygu ac yn droednoeth. Nid y fi fyddai Prif Weinidog Rwsia, wedi’r cwbl.

Sy’n profi fy mod yn seicig, achos fydda i byth yn Brif Weinidog ar Rwsia, pa beth arall y byddaf yn y bywyd hwn.

mercoledì, agosto 27, 2008

England's athletes...

Glywais hyn ar hap tua hanner awr wedi deg neithiwr ar BBC News 24, dweud y cyfan rili ...


"England's ... er .... Britain's atheletes have returned home to a hero's welcome..."

martedì, agosto 26, 2008

Pe bai'r cofnod yn llên feicro, llên feicro aflwyddiannus byddai

Mawr ddyfalaf na chaf fawr uniaethu gan ddweud hyn ond dwi wrth fy modd efo blas Ibruprofen. Mae hyn hefyd yn wir am Calpol biws, y bydd nifer ohonoch yn cytuno â mi, sydd gangwaith gwell na’r oren. Os mae o’n ddigon da i blant mi ddylai fod yn ddigon da i oedolion, dyna’r oll uda i.

Hefyd, ar drywydd cwbl wahanol, oes ‘na rhywun arall yn meddwl nad ydi “yn rhad ac am ddim” yn gwneud synnwyr? Nid ffasgydd ieithyddol ym mowld Ellen Angharad neu Ffrainc mohonof, ond mae ‘na rhywbeth anghywir iawn am yr ymadrodd hwn. Ni all rhywbeth fod yn rhad ac am ddim. Yr un neu’r llall ydi o. Dyna ddiwadd arni.


Gorffennaf ar nodyn trist. Cefais freuddwyd dros y penwythnos, mi gredaf, fod gennyf wallt hir unwaith eto drachefn, a’i fod eto’n tyfu’n drwchus fel y buodd cyn y ddamwain berocseid ar ddechrau 2005. Diwrnod trist i ni gyd ydoedd, yn wir.

venerdì, agosto 22, 2008

Y Daith Newydd

Wrth i’r cyfog gwag o orfod gweld Prydain yn gwneud yn dda yn y Gemau Olympaidd ddechrau’n araf bach dod i derfyn, â’r gobaith o weld Llundain yn gwneud uffar o smonach ohoni yn 2012 ddechrau cynnau, mae gen i reswm go iawn i ddathlu achos dwi’n mynd ar wyliau.

Profodd trefnu gwyliau i Lydaw yn ormod o drafferth yn y diwadd, a p’un bynnag roedd y fferi yn uffernol o ddrud. Felly dwi, â’r Ceren, ar ôl cael pwl o anobaith a meddwl na fydden ni’n mynd i’r unman wedi’r cyfan, yn mynd i gamfihafio yn Amsterdam.

Rŵan, wn i ddim llawer am Amsterdam o ddifrif, er y gwn yn iawn sut i gamfihafio. Mi wn bod yno hen buteniaid budur yno, a waci baci (hwrê!), a chamlesi a beiciau (ddim o’r diddordeb mwyaf i mi’n bersonol), ond dyna ni. A chaws, diolch byth, achos dwi’n hoffi caws. A dwi’n gobeithio ar y diawl bod y cwrw yn weddol rhad yno.

Ond cyn hynny, arbed arian y gwnaf, a mynd i’r Gogledd (sy’n gwastraffu arian petrol, ond dal os arhosaf yng Nghaerdydd ‘runig beth wna i ‘di ffycin meddwi a gwario £70 y nos).

Unrhyw dips ar Amsterdam, dywedwch gyfeillion. Ond peidiwch â bod yn rhy fudur.

mercoledì, agosto 20, 2008

Llydaw

Mae Llydaw yn rhywle dwi bob amser wedi bod isio mynd iddo. Wn i ddim pam, ond mae ardaloedd y Celtiaid, y Fro Gymraeg, y Gaeltacht, Ynysoedd y Gorllewin a Llydaw Lydewig, wastad wedi fy atynnu. Mae rhywbeth dwfn yn fy swyno am glywed iaith Geltaidd arall yn cael ei siarad yn naturiol mewn ardal arall. Yn wir, dwi’n cael fy swyno yn clywed cymunedau Cymraeg de Cymru, hyd yn oed, ar daith anaml i’r gorllewin.

Yn ôl fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, mae’r cymunedau Llydaweg eu hiaith, i bob pwrpas, wedi diflannu erbyn heddiw. Fe’i ceir yng ngorllewin a de’r wlad, ond prin y’i clywir. Wn i ddim a fydd tafarn yno y gallwn fynd iddi a’i chlywed o’m cwmpas - os gallwn gerdded i lawr y stryd a’i chlywed ymhlith yr henoed a phlant (annhebyg iawn gyda phlant - tua 2% o siaradwyr Llydaweg sy’n iau na deunaw) - wn i ddim a oes iddi gadarnleoedd bellach. Os dyna ganfyddaf, mi fydda i’n drist, oblegid bod y ffawd honno’n un sy’n parhau’n gwmwl dros ddyfodol y Gymraeg, a phrin fod hwnnw’n gwmwl y’i trechir byth.

Ond i’r diawl â meddyliau felly, y pwynt ydi dwi a’m cyfaill selog, sy’n hoff o bizza ac yr arferai yfed chwerw, Ceren, yn mynd i Lydaw i wersylla rhywbryd fis nesaf ac am geisio rhoi trefn ar y daith honno heno. A dwi’n edrych ymlaen yn arw.

Dwi heb adael Cymru ers mis Hydref 2007, a hynny i’r lle sy’n codi’r casineb erchyllaf ynof, sef Llundain. Yn wir, dwi heb adael Ynysoedd Prydain ers dwy flynedd a hanner - a hynny i Brâg i yfed. Dwi’n gwybod fy mod yn ailadrodd nad oes ots gen i am hyn, ond byddai newid sîn wir yn ddelfrydol iawn. Mae’n iawn mynd adref i’r Gogledd nawr ac yn y man, dwi’n mynd mewn pythefnos am wythnos, ond dydi hi ddim yn frêc sy’n gwneud i rywun deimlo’n egnïol a bywiog, oherwydd mynd o gartref i gartref y mae rhywun, nid dychwelyd adref ar ôl absenoldeb.

P’un bynnag, os oes gan rywun unrhyw syniadau am Lydaw, am leoedd gwersylla gweddol rhad, am lefydd i fynd ac ati, bwriwch sarhad isod a chewch fy niolch tragwyddol (h.y. pythefnosol).

martedì, agosto 19, 2008

Cachu Deryn

Mwy na digon trahaus ydwyf i allu dweud y galla i wisgo fel y mynnaf ac edrych yn weddol gall. Iawn, mi gyfaddefaf, nid goth o’r radd flaenaf y byddwn, ond dwi’n iawn efo popeth arall, fwy neu lai. Yr un olwg na fedrai er fy myw edrych yn hanner call ynddo ydi’n ffurfio, crys a thei ac ati. Rŵan, nid y peth deliaf mohonof p’un bynnag ond efo crys a thei dwi ar fy ngwaethaf - sydd, gadewch i mi eich sicrhau, yn bur ffycin ofnadwy.

Ond ow, ond ow, ond ow, mi gachodd dderyn ar fy mhen ddoe. Yn bur ffodus, yn fy ymdrech parhaus, ond nad digalon o aflwyddiannus, i fod yn cŵl, roeddwn yn gwisgo sbectols haul, neu shêds fel y bydd pobl sy’n ymdrechu i fod yn cŵl yn ei ddweud, ar fy mhen. Yn bur ffodus tarodd y cachu hwnnw ac arbedwyd fy ngwallt yn gyffredinol. R’on i’n meddwl mai diferyn mawr o ddŵr o’r coed ydoedd, tan i mi sylwi nad brown a gafaeladwy mo dŵr. Cywir oedd fy namcaniaeth a bu’n rhaid i mi olchi fy ngwallt yn y gweithle.

lunedì, agosto 18, 2008

Meddwi'n Babyddol a Dragon's Den

Daeth sawl cyfnod ac eiliad i’m rhan pan ddywedais na fedrwn i droi yn unigolyn rhyfeddach, ond yn ddiweddar mae fy nhuedd i olrhain alcohol gydag obsesiwn mewn bod yn Babydd yn dro od, a dweud y lleiaf. Maent yn bethau rhyfedd i'w cyfuno, ond dwi'n llwyddo gwneud, rhywsut. Bob tro y byddaf yn feddw, dwisho bod yn Gatholig. Ydi hynny'n naturiol?

Dwi wedi hen gyrraedd y cam yn fy mywyd lle nad ydw i’n adnabod fy hun yn chwil. Y peth gwaethaf ydi’r ffaith nad ydi fy ffôn lôn yn cadw nodau bodyn a anfonwyd yn ei gof, felly nid yn anaml y bydda i’n cael negeseuon yn dweud “ffyc off” neu “hahaha” y bore wedyn, a heb fath o syniad pam.

Prin iawn y proffwydais y byddwn byth yn dweud hyn, ond mae’r tueddiad tuag at yr absẃrd ac od hyn yn fy chwildod yn peri i mi feddwl y dylwn yfed yn llawer callach. Gwn yn iawn, cystal â chwithau, nad ydi hyn am ddigwydd, ond byddaf yn dal i’w ystyried waeth bynnag.

Mae dydd Llun yn iawn ar y funud oherwydd bod Dragon’s Den ymlaen. Dwi ddim ‘wrth fy modd’ efo Dragon’s Den ond mi fydda i’n hoffi gweld pobl yn methu cymaint â neb arall. Mae’n gwneud i mi feddwl yn aml pe bawn yn cael syniad gwerth chweil y byddwn yn mynd â gofyn am eu pres (ond ddim i Deborah Meadon achos hen gotsan fu honno erioed).

Do, dw i wedi ystyried y peth yn fanwl. Mi allwn i weithio yn dda gyda James Khan a Duncan Bannatyne (yr oeddwn i’n meddwl am flynyddoedd, tan yn lled-ddiweddar, mai Duncan Valentine oedd ei enw). Mae Peter Jones yn ormod o isio bod yn enwog ac ymrwbio yn y mawrion (dwi’n casáu’r dywediad hwnnw ond yn mynnu ei ddefnyddio nawr ac yn y man), ac mae’r boi sbectol Paphitis yn troi arna i achos mae’n hefru ymlaen am ei blant. Fetia i rywbeth ‘u bod nhw’n fastads bach.

Wrth gwrs, ‘sgen i ddim craffter busnes - yn wir, y mae pysgod tun ar silffoedd Morristons sydd â gwell sgil na minnau o ran hynny, sy’n golygu na fyddai’n ŵr busnes byth. Ai cyfieithu yw fy ffawd dragwyddol?

Siŵr o fod.

venerdì, agosto 15, 2008

Cymry'r Gemau Olympaidd

Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y Gemau Olympaidd. Am ryw reswm fydda i’n hoffi javelin ac mi fedraf wylio’r deifio (dwi mond yn dweud hynny oherwydd y bu i mi ei weld yn chwilio am newyddion a phenderfynu gwylio’r gweddill ohono), ond ar wahân i hynny dyma’r tro dwi’n teimlo sympathi dros y bobl hynny sy’n casáu pêl-droed ond sy’n cael cachlwyth ohono bob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.

Ond mae ‘na ddimensiwn gwbl wahanol i’r Gemau Olympaidd. Y peth ydi, dwi’n teimlo wedi fy eithrio yn gyfan gwbl, oherwydd ‘does 'na’r un tîm sy’n fy nghynrychioli i, na’r un tîm felly nid o reidrwydd i mi ei gefnogi, ond y gallaf ei gefnogi.

Ga’i roi enghraifft. Y ddynes beicio, Nicole Cook. Iawn, da iawn hi ac ati ond wyddoch chi, uffern o ots gen i os Cymraeg ydi hi neu ddim. O ran y Gemau Olympaidd, Prydeines ydi Nicole Cook. Prydain bia’r llwyddiant. Nid Cymru. Mae hi’n cynrychioli baner Prydain – baner nad yw’n ei chynrychioli, hyd yn oed.

Buddugoliaeth Brydeinig ydyw. Dyna ddiwedd arni. Pam fod cymaint o Gymry, hyd yn oed y rhai cenedlaetholgar, yn mynnu cefnogi hynny? Dwi jyst ddim yn dallt.

Cymraes ai peidio, sut ydw i, fel un sydd ddim hyd yn oed yn credu ym modolaeth Prydain y wladwriaeth, yn fod i hyd yn oed godi gwên? O waelod perfeddion fy myw, alla i ddim, oherwydd cynrychioli gwlad arall, sy’n amherthnasol i mi, y mae hi. Cynrychioli baner estron, yr wyf yn casáu’r hyn y mae hi’n sefyll drosto, y mae hi.

Dyna y mae hi, a phob ryw athletwr arall sy’n hanu o Gymru, yn ei gynrychioli ar hyn o bryd. Iawn, i’r rhai ohonoch sydd yn Brydeiniwr, digon i’r. I’r “cenedlaetholwyr” sy’n mynnu eu cefnogi, dydyn nhw ddim yn eich cynrychioli – felly pam eu cefnogi? Ffycin ddeffrowch, myn uffern i.

giovedì, agosto 14, 2008

Cyfuniadau

Ceir cyfuniadau sydd at fy nant, a rhaid nad ŷnt. Dwi’n cofio, a minnau’n llai (neu’n ifancach p’un bynnag) fe’m gwrthyrrwyd gan y ffaith bod fy ffrind, Rhys BH, yn hoffi brechdanau cig oen a sbred siocled. Hyd fy myw i’r funud hon ei hun ni allaf ddychmygu'r ffasiwn gyfuniad afiach a fwytäed, yn llawen heb orfodaeth, gan un o’r ddynol ryw.

Un arall sy’n troi arnaf ond sy’n boblogaeth ymhlith y boblogaeth gyffredinol ydi siocled a chreision. Mae’n gwneud i mi deimlo’n sâl. Bydd rhai yn hoffi panad a ffag, a rhai yn hoffi ryvita efo menyn, ond un o’r cyfuniadau od dwi’n hoffi ohonynt ydi brechdan pasta, yn fenyn difeiriog i gyd gyda brith saws tomato. A chyfuniad arall hyfryd, wrth gwrs, brechdan lobsgóws, er mai brechdan anodd ei pherffeithio ydyw.

Ac, heb ymhelaethu gormod, dydi naill ai bwyd môr neu nionod ar bizza ddim yn iawn. Yn foesol, grefyddol ac yn rhesymegol felly.

A beth am nytars sy’n mynnu rhoi caws mewn brechdan ffishffingars, neu ofnadwyon lu’r byd a fynnant gymysgu sôs coch a grefi ar blât – yn enwedig cinio Sul? Ewch ymaith, fudryddion!

Un cyfuniad ddi-frechdan sy’n afiach ydi Snakebite, wrth gwrs. Ac ydych chi erioed wedi clywed am Chinese? Hanner chwerw, hanner lagyr, yn ôl y sôn. Ac un cyfuniad sy’n gwneud i mi isio chwydu hyd eithaf gallu fy stumog ydi fodca a chôc – mae o wastad wedi troi arnaf – yr oglau yn fwy na dim, am ryw reswm.

A phan fyddaf yn cerdded i’r gwaith dwi’n mynd heibio bar coffi Harleys sy’n gwerthu pei twrci a ham, sy jyst ddim yn swnio’n iawn imi.

Ond wrff cwrs, fel y mae nobs yn ei ddweud (PAM ffwc y mae rhai pobl yn ddweud 'wrff cwrs'?), fy marn i ydi hyn oll. Siŵr Dduw bod rhai ohonoch, bobl sâl, allan yno’n hoff o nionyn ar eich pizza neu gôc yn eich fodca, wn i ddim.

Ond, ew, mae ‘na bobl afiach allan yno. Wyddoch chi pwy ydych chi. A dachi’n troi arna’ i.

martedì, agosto 12, 2008

Llawysgrifen

Dydw i ddim yn rhywun mor ddiflas â fy mod yn trafod hyn yn aml â neb ond un o’r pethau sydd gennyf i a’m ffrind dwyfol a rhyfedd Lowri Llewelyn yn gyffredin ydyw’r ffaith nad ydym yn hoff o Comic Sans. Dyma’r ffont i bobl drist sy’n meddwl eu bod yn crazy wrth ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Windings. Dyna ‘di ffwcin crazy; ceisiwch chi feiddio cyfieithu gan ei ddefnyddio, ond Comics Sans? Tai’m i glywed y lol ‘ma fwyach.

Microsoft Sans Serif ydi fy hoff ffont i, wedi’i ddilyn gan Arial, er wrth ysgrifennu â’m llaw mae fy g a’m a yn union ‘run fath â Times New Roman.

Sôn am ysgrifennu â llaw, ydach chi’n cofio yn ‘rysgol fach mai peth pwysicaf, yn ôl yr athrawon, y câi ei ddysgu i chi oedd sut i wneud llawysgrifen gysylltiedig? Fi ydi’r unig un dwi’n ei nabod, yn fater o ffaith, sy’n dal i ysgrifennu llythrennau cyswllt - mae pawb arall yn eu gwneud ar wahân erbyn hyn. Ond hen lawysgrifen flêr ferchetaidd sydd gennyf erbyn hyn sy’n edrych fel trywydd malwen feddw ar ei ffordd adref o’r dafarn. Fedra i ddim helpu gwneud y ffasiwn beth, wrth gwrs; felly ŷm addysgwyd, a dwi’m yn un am newid.

P’un bynnag, llai o’r malu cachu ‘ma, gen i bethau gwaeth i’w gwneud.

lunedì, agosto 11, 2008

Crynodeb byr iawniawn

Mae hi wedi bod yn wythnos ers i mi flogio, a’r rheswm am hynny ydi’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mae arna i ofn na allaf ddweud popeth a wnes yn ei gyflawnder, a p’un bynnag mae’r rhan helaethaf ohono’n dra-gywilyddus. Heb sôn am fod yn berchen ar hici gywilyddus ers nos Fercher yn Maes B (sydd DAL yno), aeth dydd Iau yn wirion wrth siarad â Trebor Edwards gyda Ceren. Daeth rhyw ddyn arall atom a fanno fu am ychydig, ac mi ofynnodd Trebor wrthyf a oeddwn yn hoff o Rhys Meirion. Ew, ydw, medda fi, llais mawr tenor arno. Wel, ebe Treb, dyma fo wrth dy ymyl ers meitin. Ro’n i’n teimlo’n wirion.

Tai’m i ddweud mwy am f’anturiaethau Eisteddfodol. Nid fy mod yn cofio’u hanner. Cywilydd bu i mi feddwi ar faes yr Eisteddfod, ond wir-yr, os am roi bar yno a’m cael innau yno, beth arall fydd y canlyniad?

Ond dyna ni, yr oll sydd gen i bellach ydi poced wag. Fe’ch gwelaf yfory, gyfeillion, normal service a ballu eto bryd hynny.

mercoledì, agosto 06, 2008

.cym

Ai fi ydi'r unig un yng Nghymru gyfan sy'n meddwl bod .cym yn swnio'n erchyll ac y byddai rhywbeth fel .cmr yn fwy addas?

lunedì, agosto 04, 2008

I ♥ Daf Iw - a straeon eraill

Mae rhai pethau sydd mor ofnadwy o randym a gwych fel y byddai’n anghywir peidio â’u rhannu. Ddoe oedd, o bosib yn ei gyflawnder, y diwrnod mwyaf randym yn fy mywyd. Dechreuodd wrth i mi a Ceren fynd i Sain Ffagan, gyda’i chwaer sef Glesni yr wyf hefyd yn gweithio gyda hi (helo Glesni!), cael cinio yno, ni ein tri (gallwch chi ddim dallt pa mor randym ydi hwnnw heb fod yno) i yfed alcohol a gwrando ar farddoniaeth yn y man ymladd ceiliogod. Doeddwn i ddim cweit yn dallt sut i hyn ddigwydd ac mi bendronais am ateb na chefais.

Mi fethodd Ceren a fi’r bws yn ôl i ganol y dref, a bu’n rhaid i mi eistedd efo rhaw yng nghar Glesni, wrth i ni bigo i mewn i’r Halfway am beint. Yn y pen draw fi a Ceren oedd yno, wrth i bobl fynd a dod, a chan ganu Cân yr Orsedd mi wnaethom ein ffordd at y Mochyn Du, sydd efallai’n llai randym na gweddill y diwrnod.

Peintiau yn ein dwylo o hyd mi gerddasom i’r Duke of Clarence pell. Wedi dyfeisio gêm ganu ac odli y gwnaethom ei chwarae’r holl ffordd yno, a chael ambell i olwg od wedi’u bwrw atom, cyrhaeddem. Rŵan, oedd yr enwogion out in force yno bryd hynny: Dafydd Iwan, Ffion Dafis, Leanne Wood. Am ryw reswm fe ges i sticer yn dweud “I ♥ Daf Iw” gan Elin Sbrowt (eto, sylwer, mae hyn yn eithaf randym), ac fe’i gwelodd, ac am ryw reswm neu’i gilydd mae bellach llun ohonof ar gamera Dafydd Iwan wrth iddo ofyn i mi fod yn y llun ‘ma.

Fe’i atgoffais, er nad oedd yn cofio, wrth reswm, o’r tro diwethaf i mi ei gyfarfod a’m ffôn lôn yn canu “Yma o Hyd” a fynta’n edrych yn wirion arna i, a dyma fi o’i flaen y tro hwn efo sticer “I ♥ Daf Iw” (ro’n i’n gweld hyn yn ddoniol iawn, ond dwi’n meddwl fy mod wedi rhoi rhywfaint o fraw i’r hen Dafydd – dwi’n siŵr y tynnwyd y llun iddo gofio cadw ffwrdd o’r stalker hwn os fe’i gwelai eto).

A dwi’n cofio dweud wrth Ffion Dafis: “Byddwch ddistaw chi, Ffion Dafis” – nid mewn ffordd gas, cofiwch, dwi’n llawer mwy cas yn fy sobrwydd na’m meddwod.

Nos Sadwrn mi siaradais efo Kelly Pobol y Cwm sy ‘di diflannu o Bobl y Cwm, a synnu bod hogiau wrth ein hymyl yn yfad côc a lagyr. Am ryw reswm roedd Iwcs yno y tu ôl i’r bar yn syrfio ac mi allaf ddweud y prynwyd peint i mi y mae Iwcs wedi’i syrfio. Sy’n ffwc o beth i allu’i ddweud.

Ew, mi fydd ‘rhen Hogyn yn cael hwyl efo’r sêr o bryd i’w gilydd, er, dwi’m yn argyhoeddedig eu bod nhw’n cael cystal hwyl efo fi.

venerdì, agosto 01, 2008

Tapas ac mae Sbaniard a Mecsicas 'run peth

Reit, wn i ddim pam yn union mai dyma fy ffawd ond mae’r trychfilod yn Stryd Machen mewn ffwl swing ar y funud. Heblaw am fosgito yn yr ystafell wely neithiwr, yn mynd biiiiiiiiiiiiiz a finnau’n ei daro ac mae’n o’n smwj ar hyd y wal erbyn hyn, fu’n rhaid ymwared â dau bry cop arall a thair gwlithen neithiwr. Dwi’n siŵr nad oes dim amdanaf sy’n atyniadol i slygs. Yn ddiau, mae tebygolrwyddau, ond fel unigolyn hallt byddech chi’n meddwl y byddant yn cadw draw ohonof.

Ta waeth am hynny, fedra i ddim treulio drwy’r dydd yn cwyno am drychfilod. Dwi’n mynd am tapas heno. Dwi wedi cael tapas unwaith o’r blaen: y tro hwnnw roeddwn yn chwil gach eisoes (wedi deffro am 1 a chael fy mheint cyntaf tua 2, a hithau’n tua 6) a bu i mi ond cael un peth, gan ddatgan yn chwerw bryd hynny “Mae’n fach braidd”. Do, cefais rybudd ynghylch disylwedd-dod tapas ond ni thybiais fyth na fyddai’n llenwi pryf – neu wlithen yn f’achos i. Felly mae’n rhaid i rywun fwyta cryn dipyn ohono.

Yn ogystal â hyn dwi’m yn gwybod os taw peth Sbaenaidd neu Fecsicanaidd ydi tapas; felly mi wneith hi Wikipedia wedyn. Does ‘na fawr o wahaniaeth rhwng Sbaenwyr a Mecsicaniaid, wrth gwrs, hwythau oll yn fwstashios mawr sombreros diog budur, ond mi fydda i yn hoff o baella neu fajita (yr wyf yn mynnu ei ynganu yn anghywir).

Un peth sydd wastad wedi fy rhyfeddu, fodd bynnag, yn enchiladas achos dwi byth wedi cael un, ond wastad wedi ffansi rhoi cynnig arnynt. Felly dyna mi wnaf heno, oni theimlaf yn slimiwr o fri a chael tapas.

Na, dwi’m yn meddwl chwaith.