Visualizzazione post con etichetta penwythnos. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta penwythnos. Mostra tutti i post

lunedì, aprile 11, 2011

Diwrnod efo'r Anifeiliaid

Mi ges fy ffordd a dydd Sul fe aeth tri ohonom, yr Hogyn, Lowri Dwd a Lowri Llew, i Sŵ Bryste. Gyda phobl amrywiol, y Dwd yn un ohonynt nos Wener, yn llwyddo fy hudo i bob tafarn bosib dros y penwythnos mi gyrhaeddodd bwynt nos Sadwrn lle mi ges banic mawr a rhedag adra yn barod i fynd i’r sŵ.

Ro’n i’n meddwl y buasai Sŵ Bryste yn fwy na Chaer ond ro’n i’n hollol anghywir. ‘Does ‘na ddim eliffant na theigr na chamel na jiráff yn agos at y lle. Wel, welish i mohonynt. Ond dyna ni, mae Sŵ Gaer yn anferthol, ac amwni mae pawb ‘di gweld eliffant a jiráff o’r blaen, ac mae camels yn fasdads blin, a theigrod yn blydi beryg. Dwi ddim yn poeni rhyw lawer os bydd y teigrod yn marw allan yn ystod ein hoes ni, po fwyaf diogel y byd i bobl, po hapusaf y byddwyf i.

Dachisho gwbod be oedd fy hoff bethau i? Oes siŵr, dyma pam eich bod chi’n darllen. Y fruit bats. O’dd nhw’n lyfli, ‘swn i wedi mynd ag un adra yn y fan a’r lle. Doedda nhw ddim yn gwneud rhyw lawer blaw dringo’r rhaffau de. A dweud y gwir roedd lot o’r anifeiliaid i weld yn ddiog iawn. Wnaeth y gorilas ddim byd. Ni edrychodd y panda coch arnom ac mi guddiodd y llewod yng nghefn eu lle nhw felly ni welsom mohonynt fawr ddim.

Ceir yn Sŵ Bryste ddegau o grwbanod o bob maint. Dwi’n licio crwbanod ond wnaethon nhw fawr o ddim ychwaith. Wel, maen nhw fatha rhech dydyn? A ‘dwn i ddim am y twilight zone, fel y’i gelwid, achos i anifeiliaid y nos yr oedd, ac yn anffodus roedd y lle mor dywyll ni fedrasom ni weld fawr ddim. Wnaethon ni syllu ar danc gwag am bum munud yn trio dod o hyd i anifail.

Ni phrofasai’r acwariwm yn llwyddiant mawr chwaith, ac mi ddadleusom pam bod ‘na ffrij llawn ffishffingyrs yno. Er mwyn i’r pysgod eu bwyta, meddaf i, a dwi’n sticio wrth hynny. Dio’m fel petaen nhw yno fel rhybudd i be sy’n digwydd i ffish sy’n ceisio dianc nadi?

Ac felly mi adawsom y sŵ, ar ôl cael diwrnod da, er po fwyaf i ni ddadansoddi’r peth yn Harvester gyda’r nos (achos dani’n classy) y lleiaf llwyddiannus y swniodd, yn enwedig wrth i ni rywsut fethu dinas fwyaf Cymru ar y ffordd nôl a chanfod ein hun 16 milltir i ffwrdd ac nid ymhell o Lantrisant. Ddealltish i ddim sut lwyddon ni wneud hynny a dwi’m callach rŵan.

lunedì, aprile 04, 2011

Pen-y-fan a'r lle

I’r rhai hyddysg yn eich plith, fe wyddoch i Rachub fod ryw hanner ffordd i fyny Moel Faban, sydd fawr fwy na bryn yng nghyd-destun y Carneddau. Ac felly mi dreuliais ddeunaw mlynedd o’m magwraeth hanner ffordd i fyny mynydd. Gall rhai pobl ganu eu bod yn feibion y mynydd. Gesi fy magu ar un – yn ddigon llythrennol.

Pam dwi’n malu cachu am hyn? Wel, achos dwi’n licio mynyddoedd. Mae ‘na ddynas mae Nain yn llnau iddi hi, Mrs Owen, sy’n byw ar lannau’r Fenai yn wynebu ardal Dyffryn Ogwen a chanddi olygfa hyfryd o’r Carneddau a’r Glyderau yn eu holl ogoniant – heblaw bod y sgonsan wirion yn casáu mynyddoedd. Alla i ddim dallt neb sy’n dweud y ffasiwn bethau, mae mynyddoedd ymhlith pethau gorau’r ddaear naturiol. Ond dyna ni, ma pobol Sir Fôn yn meddwl bod Mynydd Parys yn fynydd, er nad ydio fawr fwy na phentwr o gopor yn y bôn.

Does ‘na ‘run mynydd yng Nghaerdydd wrth gwrs; yr uchaf yr ewch ydi drwy wyrthiau mwg drwg neu ddringo i ben Stadiwm y Mileniwm, er na alla i’n swyddogol roi sêl bendith ar yr un o’r ddau beth. Mae’n rhaid dianc o’r ddinas i ddod o hyd i fynydd.

Felly aethasom ddydd Sadwrn tua’r gogledd, gan heibio’r Cymoedd, fel sy’n gall, at ardal Pen-y-fan, mynydd uchaf y De. Ac yntau’n sefyll 886m uwch y môr dydi o fawr fwy na’r hyn y gallai’r Wyddfa ei gachu, ond dyna ni, ei ddringo a wnaethom.

Am fasdad tew sy’n ‘mestyn am smôc bob tro dwi’n clywed y gair ‘heini’, dwi’n hoff o ddringo mynyddoedd. Efallai’r atgofion o losgi eithin ar Foel Faban yn fach ydi sail y peth, nôl yn nyddiau Ysgol Llanllechid, a Meical Hughes yn nôl leitar o Siop Bob yn tua naw oed. Chewch chi’m neud hynny rŵan os dachi’n naw oed; gwirion, yn de?

Neu efallai mai sail y peth ydi fy nghariad llwyr at Foel Faban (er i mi ei llosgi hi...). I fod yn sad a phersonol am eiliad, ben Foel ydi fy lle gorau yn y byd i gyd ac mae bod ar ei phen yn edrych lawr dros Ddyffryn Ogwen hyd Gastell Caernarfon ac ymylon Môn ar y gorwel bob tro’n codi fy nghalon, ac yn gwneud i mi gofio’n ddiamheuaeth pam fy mod i’n genedlaetholwr, hyd yn oed ar dduaf ddyddiau anobeithiol hanes diweddar cenedlaetholdeb y Cymry.

Ta waeth, ‘rôl cerdded am ryw awr a hanner, gan ddisgwyl hanner awr arall yn y broses i adael Ceren i ddal i fyny, mi gyraeddasom.

So, ia, aethon ni i Ben-y-fan a nôl lawr. Iep, dyna’r stori.

martedì, marzo 15, 2011

Un peth ...

Un peth a anghofiais am Glwb Ifor, a minnau yno’n gwylio Bryn Fôn nos Sadwrn, oedd pa mor amhosibl ydyw cael gwared ar y stamp. Mae o dal yno. Synnwn i ddim o edrych nôl i mi gael un tragwyddol gydol fy nhair blynedd yn y brifysgol.

Un peth nad oeddwn yn ei gael oedd black eye. Mae gen i un ar y funud, â’m talcen yn brifo, ar ôl brwydr ag anhysbys wrthrych. Neu ddwrn. Flynyddoedd nôl dywedodd Danny Karate yn ysgol i mi fod imi wyneb na allai neb ei daro, felly dwi’n dewis credu’r cyntaf o’r damcaniaethau. Er, mi oedd hynny ddegawd yn ôl a dwi ddim ymhleth y pethau deliaf ar y ddaear mwyach. A dweud y gwir dwi’n eithaf llanast.

Un peth dwi’n ei gasáu ydi bod efo pobol sydd yn llanast. Cafodd Haydn Blin, mwyaf dig y ffermwyr, docynnau am ddim i’r gêm yn erbyn y Gwyddelod ac mi gynigiodd y tocyn i mi. Mi dderbyniais – roedden nhw werth £70 wedi’r cwbl, a byddai curo’r Gwyddelod, pe hynny ddigwyddid, yn gwneud i mi deimlo’n gynnes braf.

Mi fyddai wedi ond nid aeth pethau rhagddynt yn wych. Dechreuodd y gêm a minnau dal adra. Do’n i heb glywed smic gan Haydn, er gwaethaf ceisio cysylltu, ac yn meddwl ei fod wedi gwerthu’r tocynnau neu wedi cael rhywun arall i fynd efo fo, felly mi agorais Fudweiser adra a sibrwd ‘cont’ dan fy ngwynt sawl gwaith. Ta waeth, ar ôl yr anthemau, mi ffoniodd.

Roedd hi’n ras wyllt i’r stadiwm, ond rhwng cael tacsi mi lwyddasom gyrraedd y seddi erbyn tua 13 munud i mewn i’r gêm. Ond, fel pe na bai’n amlwg o’r dechrau, daeth yn gynyddol amlwg bod Haydn wedi meddwi. Yn uffernol. Erbyn ugain munud i mewn i’r gêm, roedd yn cysgu.

Ond pwy gafodd y piss wedi’i gymryd allan ohono am awr olaf y gêm? Fi. Gan bobl o resi a seddau maith i ffwrdd. Pwy a oedd yn gorfod ymddiheuro i bawb na allai basio i fynd am bisiad neu i’r bar ac a oedd yn gorfod dringo drosto? Fi. Pwy a geisiodd ei anwybyddu pan chwarddai iddo’i hun yn ei drwmgwsg? Fi.

Dwi byth yn mynd i’r stadiwm efo blydi Haydn eto.

martedì, marzo 01, 2011

Troelli trwstan

Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.

Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”

Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.

Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.

Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.

A dyma pam bod gen i hawl i fod yn paranoid.  

lunedì, febbraio 14, 2011

Ffŵa grâ

Er fy mod i’n parhau i deimlo’n sâl a does dim modd o gwbl gweld y blydi doctor achos dydyn nhw ddim yn atab y ffôn (seriws rŵan, dydi hyd yn oed y doctor ddim yn atab ffôn i fi erbyn hyn), mi wnes fwynhau’r penwythnos. Gwyliasom y gêm yn y Cornwall yn Grangetown. Gêm dda, meddwn i wrth fy hun. Dwi ddim yn cofio llwyr ganolbwyntio ar gêm cymaint ers talwm. Ta waeth, mi wnaeth ambell beint, a mi benderfynasom nad aem i dre, er gwaetha’r ffaith bod Meic Stevens yn cynnal un o’i lu gigau diwethaf – er bod ganddo bron ddegawd i ddal fyny efo Dafydd Iwan yn hynny o beth!

Penderfynwyd mynd i’r Bae am fwyd. Mae ‘na fwytai bach digon da yn Grangetown cofiwch, Merolas yn frenhines yn eu mysg, ond nid oeddem wedi bod am fwyd yn y Bae ers talwm – doeddwn i heb fod, sut bynnag. Ond hynny wnaed ac aethpwyd i fwyty Cote. Lle posh ydi Cote, a’r tro cyntaf i mi fod yno. Gwin da, a ffish pai da iawn (a elwid yn ‘paramentir’ sy’n swnio’n debycach i rywle yn Middle Earth na phastai pysgodyn posh).

Ond mi ges i ddechrau rywbeth na chefais ers hydoedd, mewn ymgais i ddarfod o flaen fy ngwell mae’n siŵr - minnau’r unig un efo crys-t o Peakcocks yn y bwyty cyfan – a chael foie gras.

Cofier rŵan parthed popeth mai fi sy’n iawn a chi sy’n rong. Gas gennyf baté, ond mi a fwytawn foie gras fora, ddydd a nos. Ac fel un a arferai gadw chwïaid, fel anifeiliaid anwes wrth gwrs a’u trin â’r ffasiwn gariad a sylw nad a ddangosais na chynt na wedyn ... wel, at chwadan de ... efallai yn wir nad ydw i’n or-hoff o’r ffordd y caiff y chwadan ei thrin wrth greu foie gras. Ond nid oes lle i egwyddorion na moesau yw’r bwrdd bwyd a minnau’n talu £6.95 am sdartar.

Os oes, yn wir, raid gorfodi chwadan i fwyta er mwyn creu’r fath beth, druan arni, fawr ots gen i yn y bôn – y tafod sydd drechaf yn yr achos hwn.

lunedì, dicembre 06, 2010

Fela mai a fela fydd

Minnau a ddysgynnais nos Wener. Iawn, mi gyfrannodd alcohol at hyn ond i fod yn deg mi gyfrannodd y rhew ato hefyd. Dyma fi’n llithro am fy ôl a disgyn ben yn gyntaf ar y croncrid, heb na llaw na het i ysgafnhau’r trawiad. Wn i ddim am faint yr o’n i’n anymwybodol o’n ro’n i’n blydi oer yn deffro – o ystyried ei bod hi’n blydi oer eniwe dwi’m yn meddwl fy mod allan ohoni am ry hir, diolch byth. Fe’mh elpwyd gan anhysbys wron i godi. Ta waeth, mi gollais fy waled hefyd (ella na fo a’i gymrodd, wnim wir) so ta waeth gystal noson oedd hi, doedd hi ddim yn noson lwyddiannus.

Es i ddim am ddoctor, wrth gwrs – maen nhw’n fy ngweld i’n rhy aml, ond dwi yn teimlo fel brechdan, ychydig yn chwil, ac mae ‘mhen i’n brifo – ac mae gen i flas gwaed, ond ddim gwaed, yn fy ngheg. Rhyfedd, bryderus fyd.

Fel y gallwch ddychmygu felly, doedd gweddill y penwythnos byth am fod yn llawn gweithgarwch. I’r gwrthwyneb, pwdu am fy waled wnes i ... bwdish i ddim am fy mhen, fydda’n well gen i fod wedi cadw fy ngherdiau a tharo’n hun a llithro ddwywaith yn galetach.

Strach ydi colli cerdiau yn fwy na dim. Mae’n fwy o strach achos dim ond wythnos dwytha y cefais gerdyn banc newydd. A minnau’n fwy dwl na’r arfer, torri’r llall wnes i yn meddwl bod cerdyn arall a gyrhaeddodd yn cyfateb i’r cyfrif cyfredol, ond ro’n i’n rong ac wedi bod yn defnyddio cyfrif hollol wahanol ers ychydig wythnosau. Sy’n profi o leiaf waeth faint y sobraf neu a daraf fy mhen hyd poen, fydda i byth llawn llathen.

lunedì, febbraio 22, 2010

Gweled y goleuni a'r gwin

Mi ges felly’r penwythnos a ddymunwyd bron â bod. Ddywedish yn slei, er nad yn gyhoeddus, na fyddwn yn yfed, ond mae yfed ar y penwythnos yn arfer gen i sy’n anodd iawn, iawn ei dorri – mae’n arfer oes i bob pwrpas. Ces fotel o win nos Wener a hithau’n wyth o’r gloch – bues yn ddigon hallt arnaf fy hun na chawn yfed cyn hynny pe mynnwn yfed. Mynnais ac mi oedd gen i ben digon annifyr drannoeth.

Treuliwyd dydd Sadwrn yn hynod ddiog, nid o ben mawr ond o eisiau, yn bennaf yn gwylio reslo. Ro’n i wrth fy modd efo reslo yn fy arddegau, roedden ni gyd a dweud y gwir, ac yn licio mynd i dŷ Daniel Ffati i wylio ac i chwarae reslo ar y cyfrifiadur – wel, fi a Sion Bryn Eithin beth bynnag. Pan ddealltish i mai ffug oedd y cyfan, wel, dyna diwedd arni i mi i bob pwrpas. Gadawodd dwll yn fy mywyd, o! Y prynhawniau Sadwrn araf a dreuliwn yn nhŷ Nain slawer dydd yn gwylio reslo! Mi aethant.

Ond yn ddiweddar dwi’n dechrau mwynhau eto. Mae ‘na elfen gref o crinj wrth reslo a’r actio ynghlwm wrtho, ond ‘mbach o hwyl ydio wedi’r cyfan. Mae’n rhyfedd hefyd gweld rhai o’r reslwyr ŷm magwyd â hwy ar ddechrau’r ddegawd ddiwethaf yn dal wrthi.

Dim ond dwy fotel o win coch oedd yn y tŷ nos Sadwrn. Mi wnes benderfyniad cydwybodol nad oeddwn am yfed lager na chwerw, ond wn i ddim pam – dim digon ohonynt mi dybiaf. Gwin wyth mlwydd oed oedd y targed, cofiwch – mae’r llall yn 13 eleni ac yn disgwyl am achlysur. Bosib noson etholiad, cawn hwyl a hanner blogio’n fyw ar ddigwyddiad gwleidyddol mawr y flwyddyn gan ollwng gwin dros y carped rhwng bloeddio buddugoliaeth a chrio.

Ew, dydd Sul. Roedd ‘na hanner meddwl arnaf fyd i’r offeren yng nghadeirlan Dewi Sant ond es i ddim wedi’r cwbl, yn ôl fy arfer diog. Lidl ddaru fi fynd i. Mi freuddwydiais neithiwr fy mod ar y ffordd i’r nefoedd, cofiwch, ond na allwn gweit gyrraedd, a digwyddodd rhywbeth rhyfedd rhwng cwsg ac effro pan oleuwyd popeth o’m cwmpas, er bod fy llygaid ar gau, a theimlais yn heddychlon a bodlon a mewn cwmpeini, ond ddim yn ddiogel iawn – roedd hynny’n gyfuniad od. Breuddwyd, wrth gwrs. A minnau’n ddigon nerfus ar ôl cael dòs dydd Sul o raglenni am ysbrydion yng Ngwlad Thai dyna wraidd y peth yn hytrach na phrofiad crefyddol difrifol, mi dybiaf. Er, mai’n braf meddwl weithiau.

lunedì, luglio 27, 2009

Noson yng nghwmni'r hipis

Mi deimlish i’n fudur ddydd Sadwrn. Bai Lowri Llewelyn oedd hyn. Fe’m gwahoddwyd ganddi gyda’i chariad Rhodri i fyned i dafarn y Lansdowne yn Nhreganna. Er bod gen i ben mawr o fath ‘doedd dim awydd aros adref arna’ i, ac roeddwn i’n meddwl bod yr honiad y cawn gerddoriaeth fyw yn ffordd wahanol o dreulio nos Sadwrn. Ymlaciol, di-gyffro – gwahanol.

Felly pan fu i mi gyrraedd ac y gofynnwyd i mi dalu tair punt wrth y drws gan foi gwyn efo dredlocs a locsyn, roeddwn yn amheus. Heibio’r ardal tylino cefn, heibio’r logos CND, heibio’r blewiach wynebol di-ben-draw, ro’n i’n teimlo ychydig allan o le mewn tracsiwt Lonsdale. Do, roeddwn wedi cyrraedd rhyw ŵyl amgylcheddol werdd, sy ddim y lle gorau i fod os, fel y fi, nad ydych yn licio hipis fawr fwy na phlancton.

Aethasom i eistedd yn yr ardd gefn wedi gwrandawiad byr ar y gerddoriaeth oedd yn cael ei ganu gan ddyn a oedd yn amlwg efo tŷ budur (mae gen i lygaid am y pethau hyn). Roedd ‘na ffair y tu allan yn y maes parcio, er yn anffodus iawn ffair grefftau ydoedd. Wel, ffair grefftau aflwyddiannus oherwydd na welais arian yn newid dwylo unwaith yno. Nid fy mod i’n synnu o weld y cynnyrch cartref shabi.

O’m rhan i ro’n i’n ddigon amheus a ninnau’n eistedd wrth y garafan a oedd yn gwerthu bwyd, sef chilli i lysieuwyr a the camomeil i enwi rhai o’r ystod organig. Dwi ‘di deud fy marn am fwyd organig o’r blaen. Ma’n shait. Cawsom fygyr cig maes o law, gan parhau i eistedd wrth y babell Tibet Rydd wag.

Serch hynny, yno’r eisteddem yn bur fodlon nes i’r ddynes erchyllaf a welais ddod i’r llwyfan a dechrau ynganu’r unig beth ar ddaear sydd cyn waethed â rap Cymraeg: barddoniaeth Saesneg (ro’n i a Rhodri wedi cael sgwrs am hyn yn gynharach, felly ni chollwyd eironi’r peth arnom). Byddwn fel rheol yn dweud y byddai Shakespeare yn troelli’n ei fedd o’i chlywed, oni bai am y ffaith yr ysgrifennodd hwnnw ddigonedd o gachu ei hun.

Ta waeth, ‘doedd fy anoddefgarwch pur ac amlwg ddim am gilio, er mae’n rhaid i mi ddweud bod y dydd Sadwrn hwnnw’n sicr yn wahanol i’r rhai arferol – rhywbeth i ddweud wrth y wyrion arfaethedig. Cawsom gyri am 12:30 mewn rhyw fwyty Indiaidd yn Nhreganna, cyn i mi gael tacsi adref a chael sgwrs ddiddorol â’r gyrrwr am ffliw moch.

lunedì, febbraio 16, 2009

Hogyn call

Y ffordd dwi’n deimlo’n awr dwi’n amau dim fy mod newydd gael penwythnos rygbi. Yn rhannol gysylltiedig â chyfrifoldebau’r wythnos, ro’n i’n hogyn da ac ni chefais sesiwn anferth ar y penwythnos. Roedd rhywbeth gwag am dim ond ennill y Saeson o wyth pwynt ar ôl y gyflafan a broffwydolwyd, ond curo Sais ydi curo Sais ac mi a’i cymeraf. Fe wyliem y gêm yn Nos Da sydd gyferbyn â’r stadiwm. Trodd hwnnw’n ddigon diddorol ond roedd ‘na lwyth o genod yno’n tynnu lluniau a malu cachu yn hytrach na chymryd sylw o’r gêm oedd braidd yn ddiflas.

Ategwyd hynny wrth i mi gael trafferth yfed o ddifri. Dwi ddim yn cofio gorffen gwaddod ‘run beint heb bron â chwydu. Roeddwn hefyd yn flinedig ond dwi wastad yn flinedig y dyddiau hyn – henaint ydi o, uda i rŵan.

Roedd ‘na awyrgylch go dda yn Nos Da hefyd (welish i Edi Bytlar yn ffilmio’i ddyddiadur fideo ‘na) ond fedra i ddim yn fy myw ymuno pan fydd pobl yn gweiddi ‘Way-ules! Way-ules!’, hyd yn oed pan fyddaf yn y stadiwm. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sy’n ffendio rhywbeth yn wrthun am y gair hwnnw.

Felly ro’n i adra erbyn 10.30 yn gyfrifol fy myd. Pan fydda i isio bod yn gyfrifol mi fedraf fod ac yn hynod felly. Gan ddweud hynny gallaswn fod wedi mynd allan drwy’r nos a theimlo mor ddi-lun ag ydwyf ar y funud. Am y tro cyntaf ers hydoedd deffroais y bore hwn yn glaforio, ac chyda clust wleb. Ro’n i’n meddwl mai gwaedu oeddwn i, ond na, eithr clusthylifog.

Wnes i hyd yn oed gael cawod ar fora Llun am y tro cyntaf ers cyn cof. Dydi peidio â chael cawod yn y bora ddim yn beth newydd, gyda llaw. Fydda i’n un o’r rhai hynny sy’n hoffi cael cawod gyda’r nos, a theimlo’n ffres o flaen Pobol y Cwm a Chwis Meddiant, achos ‘blaw am Nant Conwy mae’r gogs i gyd i’w gweld yn curo’r Hwntws, ond mae trefn naturiol i bopeth mwn.

lunedì, dicembre 15, 2008

Colli Hanner Diwrnod

Mi fydd rhywun yn ddig iawn pan fyddo wedi colli hanner y diwrnod yn cysgu oherwydd diod a’r hanner arall i ben mawr. Un felly fu’r Sadwrn i mi – ddeffrois i ddim tan ar ôl un o’r gloch y pnawn, a phrin y gallais godi am hanner awr go dda ar ôl deffro.

Fydda i’n licio trefn efo deffro a byth yn deffro’n hwyr erbyn hyn. Bai gweithio ydi hynny. Be ydi’r dywediad Saesneg ‘na?

Early to bed, early to rise,
makes a man healthy, wealthy and wise
.

Dwi ‘di deud erioed bod y Saeson wastad yn siarad bolycs ac mae’r uchod yn dystiolaeth o hynny. Fydda i’n codi’n fore ac yn cysgu’n weddol fuan erbyn hyn, ac er fy noethineb tragwyddol dwi ddim yn gyfoethog ac yn bell o fod yn iach. I fod yn onest, ‘sneb fawr salach na fi.

Ta waeth am hynny, ddilynais i mo’r cyngor uchod ddydd Sadwrn. Stryffaglais lawr y grisiau yn fy nresin gown wrth i’r muriau gylchdroi o’m hamgylch. O flaen y teledu, yn gwylio pethau nad oeddwn isio’u gwylio, yr oeddwn nes mentro i’r Gourmet Chinese achos ro’n i’n llwglyd erbyn hynny.

Mae dau Chinese yn agos i’m cartref. Yr ail yw Victory, sy’n ofnadwy o le budur a dydi’r hen ddyn, hynod annifyr, sy’n gweithio yno ddim yn fy nallt i’n siarad a dydw i ddim yn ei ddallt o chwaith. Gwna hyn ein cyfathrebu’n anodd. Mae gan y Gourmet Chinese enw twyllodrus, fel sydd gan bob têc-awê Chinese os meddyliwch chi am y peth am eiliad, ac mae’n agos iawn, ac ar ôl cyrraedd adref ohono do’n i methu bwyta dim, a theimlais yn sâl drachefn wrth ddod ar draws cymal cnoillyd yn fy mhorc.

Y broblem fawr gyda chodi’n hwyr ydi bod cloc y corff yn mynd yn wallgof, ac ro’n i fyny tan tua thri yn gwylio ffilmiau gachu (y gwnes eu mwynhau’n fawr).Ydi wir, mae ‘mywyd i’n wyllt weithiau.

martedì, dicembre 02, 2008

Santes Bibiana - fy hoff ffrind newydd

Teg dweud ar ôl fy anturiaethau'r penwythnos hwn mae’n hen bryd i mi dderbyn na fyddaf Babydd byth. Mae Pabyddion yn gweddïo i seintiau, fel y gwyddoch os ydych chi’n deall y pethau hyn. Anglicanaidd ydw i. Un peth da am fod yn Eglwys Lloegr ydi ‘sdim angen i ni fynd i’r eglwys mewn difrif - wel, ‘sneb arall yn, a fydda i’n dilyn y crowd pan gwyd yr angen.

Ond saint y diwrnod i chi heddiw ydi un hynod, hynod addas imi. Diwrnod Santes Bibiana ydi’r 2il o Ragfyr (yn ogystal â bod yn ben-blwydd i Kinch a Britney Spears ac yn Ddiwrnod Cenedlaethol Laos – ni fyddaf yn dathlu’r un, wrth gwrs), ac ar hap y des ar ei thraws. Dyma, heb os nac oni bai, y santes i mi.

Hi yw santes lleygwyr benywaidd, salwch meddwl, epilepsi a dioddefwyr artaith. Allwch chi ddim dadlau ei fod yn gyfuniad diddorol. Ond mae ‘na ddau beth arall y mae hi’n nawddsantes arnynt. Yn gyntaf, y cur pen.

Onid yw’n eironig fod gennyf gur yn pen heddiw? Na? O wel.

Ond yn fwy at fy nant, Santes Bibiana yw nawddsantes y pen mawr. Onid yw’r Pabyddion yn meddwl am bopeth? Fyddech chi’n meddwl mewn difrif y dylai rywun ddioddef oherwydd gwenwyno eu corff a chwydu mewn sincs Anti Betty (stori hir, nid adroddaf), ond na. Pan fyddo’r bore Sadwrn, Sul, neu’r Llun yn aml (dwi’n ddigon hen i ddioddef o’r pen mawr deuddydd erbyn hyn) yn unig a phoenus a sâl, bydd Santes Bibiana yno yn edrych drosof i.

A chwara teg iddi ‘fyd, ‘rhen goes.*

*Ydi rhywun yn cael cyfeirio at seintiau fel ‘yr hen goes’ neu ydi hynny’n sacrilijiys / anaddas?

martedì, novembre 11, 2008

Mae gwleidyddion isio stopio fi rhag cael hwyl a gwneud drygoni fel penwsos 'ma. Gawn nhw ddyrnu 'u hunain.

Gan i mi gysgu tair awr nos Sul, a oedd efallai bron yn ddigon i gotsan fel Thatcher ond dydi o ddim i mi, doeddwn i methu ysgrifennu blogiad ddoe. Ond pwy arall allai fod wedi?

Ges i un o’r penwythnosau gorau i mi ei gael ‘stalwm. Fe es gyda Ceren ar ôl gwaith nos Wener, a heb sylwi yn y lleiaf fe feddwodd y ddau ohonom gymaint y bu i’r ddau ohonom gyrraedd ein cartrefi perthnasol am tua 11, cafodd y ddau ohonom chwydfa ac ni fwytodd ‘run ohonom ddim byd i de. Yn bersonol fedra i ddim coginio wedi meddwi, ‘sgen i ddim mynadd, ac i fod yn onest pan fyddaf chwil prin fy mod isio bwyta beth bynnag.

Gan eiddgar ddisgwyl y rygbi roedden ni ein dau yn y Mochyn Du cyn i’r lle agor fore Sadwrn. Doeddwn i ddim efo pen mawr bryd hynny, ond mae’r ffaith y cymerodd bron ddwyawr yn union i ni orffen ein peint cyntaf yn adrodd rhywfaint o’r hanes. O! Bu meddwi! Bu balchder! Cafwyd siom y golled a’r syfrdan o weld bod Dai Sgaffalde yn smygu. Ac yntau’n un o fawrion y genedl ac yn fodel rôl i filoedd digyfrif o ieuenctid Cymru, ma fo jyst yn rong gneud ffasiwn beth de.

Bu iddi fwrw’r nos. Mi wlychais innau, mi wlychodd y rhan fwyaf ohonom. Cawsom gân yn Pica Pica, cefais ffeit go iawn efo Lowri Dwd (a rhoi stid i’r gont) ac mi welais Rhys fy ffrind moel yn rhedeg sef rhywbeth nad ydw i wedi ei weld o’r blaen, neu mae’n bosib erbyn hynny ro’n i’n rhy chwil i ddallt dim.

Ro’n i adref yn weddol fuan cofiwch. Nid ataliodd hynny i mi yfed potel o win ar ôl cyrraedd adref (cachu rhad o Lidl, 14%, £3 - dyma yw byw am un o’r gloch y bore efo DVD Bottom yn gwmni) a chynhyrfu o weld y rhybuddion y byddai corwyntoedd yng Nghaerdydd yn dechrau gwireddu y tu allan.

Ond yn y pen draw, gyfeillion, mi gysgais; cysgu fel nad oedd yfory, fel pe bai’r corwynt yn fy chwythu i wlad breuddwydion ffiaidd, fel pe nas gwelwn drannoeth.

Mi wnes, wrth gwrs, ond i fod yn onest dwi dal ‘di ffwcin blino.

lunedì, settembre 22, 2008

Yr Uffern Daith

Taswn wedi rhedeg y marathon deirgwaith ac wedyn ‘di gorfod cael sgwrs efo Lowri Llewelyn, ni fyddwn fwy blinedig nag wyf ar hyn o bryd. Fy mai ydi’r peth oherwydd fy mod yn ystyfnig. Gair Lowri Llewelyn amdanaf oedd ‘ystyfnig’, gyda llaw, y geiriau a ddefnyddiwyd gennyf i oedd ‘penderfynol’ neu ‘anturus’.

Gwraidd y blinder a’r anghydfod ydi’r daith a wnaed i Aberystwyth ar y penwythnos. Tai’m i mewn i siarad am y meddwi ac ati, ond wedi gweld bod Lord of the Rings ar y teledu yn Y Llew Du a slagio off myfyrwyr a Saeson a digio am fod yr Academi yn hen gapel a drowyd yn dafarn ond eto yn ddigon bodlon cael peint yno, mi drodd pethau’n eithaf llanast. Hidia befo am hynny.

Yn lle mynd i fyny’r A470, sy’n lôn erchyll, ddiflas ar y gorau adegau, penderfynais fel y gyrrwr fynd drwy Gaerfyrddin. Rŵan, mi aeth pethau rhagddynt yn ddigon di-hid a hapus ar y ffordd yno, a minnau’n cael gweld rhywfaint o Sir Gaerfyrddin ac, am y tro cyntaf, y Geredigion arfordirol y tu hwnt i fae Aber. Gwych.

Ond dydi gwneud bron unrhyw beth ddwywaith mewn cyfnod mor fyr ddim yn hawdd. Ar y ffordd nôl cymerwyd troad anghywir, yn rhyw le, rhyw bryd, ac mi ddechreuais betruso fymryn wrth ddod i mewn i Lanymddyfri, gan wybod yr iawn nad y ffordd honno ddeuthum. Ar ôl cyrraedd Pontsenni, lle bynnag uffern mae Pontsenni, daethpwyd o’r diwedd at Aberhonddu a llwyddwyd dilyn y A470 nôl i Gaerdydd. Ni welwyd mo Chaerfyrddin na’r M4, felly o leiaf yn y canol rhywle pan ofynnwyd a oeddem wedi ei heibio, gallwn ddweud yn onest ein bod.

Dwi byth yn mynd nôl o Aberystwyth “drwy Gaerfyrddin” eto.

giovedì, maggio 15, 2008

Cynllunio fy nghosb

Oherwydd colled y ffôn dwi’n cosbi fy hun drwy beidio â mynd allan y penwythnos hwn. I fod yn onest dwi’m wedi fy argyhoeddi mai dyma’r peth teg i wneud – wedi’r cyfan, gall unrhyw ynfytyn golli ffôn, er bod mynd drwy ddeg ffôn ers symud i Gaerdydd yn warthus a, na, nid cyfeirio at Ellen Angharad na Haydn ydwyf. Go wir.

Serch hyn, a minnau’n mynd adref am benwythnos hir yr wythnos wedyn, efallai yr af allan y penwythnos hwn am sawl rheswm. Wel un, sef cystadleuaeth yr Eurovision (er bod Dogfael i’w weld yn ffan). Rhaid i mi gyfaddef, byddaf yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, ond gan gasáu’r ffaith fy mod. Erchylltra o’r radd flaenaf ydyw ac ni wnaiff na dyn na Duw fy argyhoeddi fel arall.

Gan ddweud hynny fydda’ i ddim isio bod allan yn gwylio Cwpan yr FA yng Nghaerdydd a minnau’n eithaf dyheu i’w gweld yn colli. Peidiwn â mynd i mewn i’r rhesymau dros hynny, ond dwi’m yn licio CPD Caerdydd a fydda’ i fyth.

A beth bynnag, mi ga’i wylio Doctor Who ar yr iPlayer. Mi gollais fy ffôn, dwi’n haeddu sesiwn i godi f’ysbryd, yn siŵr?

venerdì, gennaio 04, 2008

Penwythnos Dialcohol Perffaith

Helo. Dim meddwi’r penwythnos hwn. Fe fydd yn benwythnos rhyfedd iawn. Dw i’n dechrau cynllunio o’i gwmpas yn barod. Y peth cyntaf hanfodol ar gyfer penwythnos sobor ydi Doritos a dip Nionyn a Garlleg. Maent yn gwneud dip Nionyn a Garlleg yn Morristons ond efo ‘herbau’, ac ond am basil ac oregano does ymddiriedaeth gennyf mewn herbau. Felly i ASDA bydd yn rhaid mynd. Dw i’n meddwl yr af am dro i Lidl heno, hefyd, i gael bargen, a minnau heb fod ers oes pys, yn de.

Yr ail beth ydi rhywbeth da ar y teledu. Yn bur ffodus, yr hwn benwythnos mae Cwpan yr FA ar y teledu, a Man Utd yn chwarae, mi fyddaf felly yn gwbl fodlon â hynny, yn Ddoritos i gyd.

Y trydydd peth ydi o bosibl ffilm dda, yn enwedig os ydych chi, megis Y Fi, yn casáu crap fel rhaglenni dawnsio ac Ant a ffwcin Dec. Rŵan, dydw i ddim yn un i fynd i nôl DVD o siop i’w wylio ben fy hun, ond mae cael ffilm dda ar y teledu yn gwbl hanfodol. Mae hyn yn rhywbeth nad ydw i wedi ymchwilio iddo eto. Os ddim, bydd rhaid i mi ddiddori fy hun gyda Facebook am y rhan helaethaf o’r dydd, cyn i Match of the Day gychwyn. Ar ôl hwnnw bydd ‘na ryw ffilm gynhyrfus o’r 80au ar, ni synnwn.

Yn bedwerydd; cwrw. Iawn, penwythnos sobor, ond pwy ddywedodd peidio ag yfed? Mi neith gan slei o Fosters y tro i mi. Ac mi fydd yn gymorth i mi gysgu, sef rhywbeth nad ydw i wedi arfer ei wneud ar nos Sadwrn.

A dyna ni, dau bys i’m hiechyd corfforol a bawd i fyny i’m hiechyd meddyliol. Os aiff pethau rhagddynt yn iawn, ni wisgaf o gwbl, a mynd o amgylch y tŷ yn fy mhyjamas yn gwenu’n slei a meddwl fy mod yn ciwt. Sy’n ddigon teg.

lunedì, novembre 27, 2006

Diwrnod i ffwrdd

Dw i wedi cymryd y fraint o rhoi ddiwrnod ffwr' i fi'n hun. Gan fod y coleg mor ddibwynt dw i wedi penderfynu aros adref a chynllunio fy ngwersi (heb son am fynd i Lidl i brynu mozzarella). Yn ogystal, mae gen i wddf sych ar y funud a prin y medraf siarad.

Reit, dw i'm am son wrthoch chi am y penwythnos. Roedd o'n rybish. Oeddwn i adra digon cynnar i weld y blydi Briodas Fawr (er, rhaid imi gyfaddef, dw i wedi bod yn ei dilyn yn selog hyd yn hyn). Problem mwyaf S4C ydi eu bod nhw'n rhoi y rhaglenni da neu gweddol i gyd i mewn ar y penwythnos, megis Y Briodas Fawr, Johnathan a Cnex. 'Sdim rhyfedd fod y ffigurau gwylio mor isel os mai dyna maen nhw am ei wneud.

Braf hefyd gweld y bydd Yr Alban yn annibynol cyn bo hir, ys wetws hwynt. Cymru fydd nesa', gewch chi weld. Er, na fydd hynny'n cael gwared o'r llygod o'r ty 'ma, oni bai fod y Gymru Rydd yn mynd ati ar ymgyrch ddwfn o ymwared a hwynt o 437 Newport Road efo'i holl luoedd a grym. Fe'u clywais yn mynd o amgylch y waliau neithiwr yn fy ngwely. Bastads. Dw i ofn i un mynd i mewn i'r gwely efo fi a phlannu'i hun rhwng fy nghoesau, dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl am y ddwyawr cyn y bu imi lwyddo cysgu neithiwr.

Bwyd yn barod. Ta ra!