martedì, maggio 31, 2011

Cocodamol

Oherwydd Haydn Blin a'i fileindod (natho fy ngwthio a doedd 'na'm cyfle mul i fi ddisgyn yn gall) dwi mewn byd bach gwahanol ar y funud ac yn drygd yp ar gocodamol. Ma'n brofiad diddorol. Nid argymhellaf.

giovedì, maggio 26, 2011

Mae Lowri Dwd ac ASDA yn gyfuniad peryglus

Siopa bwyd, fy hoff fath o siopa. Dwi’n siŵr fy mod wedi sôn droeon am beryglon siopa hungover neu siopa bol gwag. Maen nhw’n andros o beryglus, ond nid dyna sydd gen i mewn golwg heddiw gyfeillion, naci wir. Ceir math o siopa bwyd hynod beryglus. Enw’r math hwn o siopa bwyd ydi siopa bwyd Lowri Dwd.

A hithau heb gar na thrafnidiaeth bersonol, bydd Lowri Dwd yn rheolaidd gymryd mantais ohonof ac yn dod yn y car i Morrisons neu ASDA neu i ba le bynnag dwi’n penderfynu mynd. Y broblem o safbwynt yr Hogyn ydi ei bod hi’n gofyn os ydw i’n mynd siopa bwyd nid pan fo angen siopa bwyd go iawn arnaf, ond pan fo angen manion arnaf. Y math o bethau y gallaswn eu cael yn Tesco bach Grangetown pe dymunwn. Ond â minnau mor hoff o yrru – caiff, mi gaiff yr Amazon fynd i ffwcio – mae’r daith i’r siopau mawr yn anochel.

Y broblem graidd ydi bod Lowri a minnau’n ddylanwad drwg iawn ar ein gilydd. Mae’n gyfuniad o “w, mae hwnnw’n edrych yn neis”, “ma hwnna’n fargen a ti’n licio’r rheinia” a “g’wan, sbwylia dy hun”.

Nos Fawrth oedd hi, ac ar ôl bod yn IKEA, i ASDA mawr y Bae aethasom. Gas gen i’r ffycin lle a deud y gwir, ond fela mai. Pa fanion yr oedd eu hangen arnaf, meddech chwi? Tri pheth, ffishffingars, grefi ac afalau. Mi fuaswn i’n hapus iawn yn bwyta ffishffingars efo grefi, er gwybodaeth i chi. Fy hoff bryd ar ôl noson allan yn y Brifysgol pan oedd y byd jyst yn lle gwell ffwl stop oedd sglodion, grefi a ffishcêc. ‘Sna fawr o wahaniaeth rhwng fersiynau cacenaidd a byseddol pysgod.

Yn y diwedd mi lwyddais wario deg punt ar hugain, ar dair potel o win coch a phapur toiled ymhlith pethau eraill, fel orennau (be dwi byth yn ‘u buta) ac, wrth gwrs, pitsa gan y Doctor Oetker. Wnes i fyth ddallt pam bod hwnnw’n ddoctor, rhaid i mi ddweud.

Ac wrth gwrs, y peth mwyaf dibwynt o’r cyfan, llyfr croeseiriau hawdd. Dwi’n llwyddo argyhoeddi fy hun bob tro fy mod i’n mwynhau croeseiriau ac fy mod i’n eithaf da arnyn nhw. Hunan-dwyll o’r radd flaenaf. Fedrai’m cwblhau hyd yn oed hanner un o’r ffycin pethau. Hawdd, wir.

A than i mi wylio Breakfast bora ‘ma, doeddwn i ddim yn gwybod bod y ffasiwn swydd â Phengwinolegydd. Y mae’n rhyfedd o fyd, ys dywedodd Delwyn.

martedì, maggio 24, 2011

Afal

Ai fi ydi'r unig un sy'n ffeindio bod bwyta afal yn fy ngwneud i'n sylweddol fwy llwglyd?

lunedì, maggio 23, 2011

Cwsg hyfryd gwsg

Henffych gyfeillion! Fel y gwelwch mae'r blog wedi bod yn cysgu yn ddiweddar ac mi fydd yn cysgu ychydig yn fwy hefyd. Mae bywyd go iawn yn brysur ar y funud felly sgen i'm amser i chi. Ond mi fydd gennyf faes o law. Gaddo paddo ping pong.

giovedì, maggio 12, 2011

Smalwod

Arferais innau fod yn ifanc hefyd. A phan oeddwn ifanc a hyfryd, mi dreuliais nosweithiau lawer o ofn pur rhag ofn i'r Smalwod ddod i'm hambygio. Unrhyw un arall yn cofio?






lunedì, maggio 09, 2011

Y Cam Nesaf i Blaid Cymru

Os daeth unrhyw gysur o etholiad 2011, hynny oedd o leiaf fod proffwydo pawb arall gynddrwg â’m un i! Mae’n dangos sut y gall ambell bleidlais fan hyn fan draw newid lliwiau gwleidyddol yn sylweddol. Ond yr unig ffon fesur ydi nifer y seddi. Roedd etholiad 2011 yn fethiant gwleidyddol mawr i Blaid Cymru.

Wedi cael amser i feddwl am y peth a rhoi emosiwn i un ochr, hoffwn gynnig ambell sylw a hynny’n fras – ‘sdim pwynt gwastraffu geiriau ar Blaid sy ddim yn gwrando.

Dwi’n gweld eisoes yr un ymateb gan y Blaid i’r hyn a ddigwyddodd – cymysgedd o esgusodion, ceisio edrych ar yr ochr orau pan nad oes un mewn gwirionedd, mynnu mai chwarae’r gêm hir ydyw ac felly nad oes angen poeni. Mae hunanfoddhad yn un o nodweddion gwaethaf Plaid Cymru. Mae’r Blaid yn hoff o feddwl bod ei chanlyniadau diweddar yn ‘blip’ bob tro. Cadarnhaodd 2011 fod dirywiad Plaid Cymru wedi bod yn gyson – dyma’r trydydd etholiad gwael o’r bron iddi. Nid ffliwc mo hynny, mae ‘na resymau pendant drostynt.

Beth oedd y rhesymau? Cwestiwn anodd efo ateb syml, dybiwn i, ac ateb y soniwyd amdano eisoes. Mae gan Blaid Cymru seiliau cadarn – mae’r drefniadaeth yn dda, y cyllid yn dda, mae iddi ddigon o wirfoddolwyr a pheiriant etholiadol trawiadol. Felly pam bod Llafur yn gallu gwneud cystal ag y mae heb y pethau hynny?

John Dixon oedd yn iawn: gwahaniaethau. Mae’r gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn gwbl, gwbl anweledig. Rhydd i bawb ei farn, ond does fawr amheuaeth am hyn; mae gan Blaid Cymru ofn dirfawr o’i phwynt gwerthu unigryw, sef ei chenedlaetholdeb. Nid oes dim yn ei hymgyrchu dros y blynyddoedd wedi awgrymu ei bod yn blaid ddigyfaddawd genedlaetholgar.

Does dim ots pwy ydi’r arweinydd mewn gwirionedd os ydi Plaid Cymru yn parhau i fod mor bathetig yn yr ystyr hwn. Heb ei chenedlaetholdeb, ni all gadw ei phleidlais graidd na sicrhau pleidleisiau newydd. Does ‘na fawr o bwynt manylu ar natur ei chenedlaetholdeb – mae annibynniaeth a’r sylw pathetig a gaiff yn enghraifft amlwg iawn – achos bod y diffyg ohono mor amlwg. Nid dyma blaid Saunders na Gwynfor, ac mae hynny’n gondemniad llwyr.

Mi ellir cymharu hyn â’r SNP. Er bod sefyllfa wleidyddol Cymru a’r Alban yn gwbl wahanol mae gwers amlwg sef bod yr SNP wedi llwyddo drwy fod yn hyderus yn ei chenhadaeth genedlaetholgar. Dydi Plaid Cymru ddim. Plaid o reolwyr ydi hi. Lle mae’r tân yn ei bol?

Ta waeth. Rhaid i’r Blaid rŵan fewnsyllu arni ei hun, ac ystyried y ffordd ymlaen. “Dysgu gwersi o’r etholiad hwn” fu’r gri am dri etholiad bellach. Yn ôl ei hanes diweddar, ‘sgen i ddim ffydd y bydd Plaid Cymru yn gwneud hyn yn y dyfodol agos. Ac, efallai, mai dyna'r broblem fwyaf oll.

giovedì, maggio 05, 2011

Proffwydoliaeth Derfynol

Ro’n i’n gobeithio gwneud map bach neis a phopeth i chi ond yn anffodus does gen i ddim un felly bydd yn rhaid i chi fodloni ar y canlynol. Mae’n debyg y bydd rhai ohonoch yn anghytuno’n chwyrn, yn enwedig am ranbarth y de-ddwyrain. Y gwir ydi mae pethau mor agos yn y rhanbarthau mae’n anodd iawn gwybod o ddifrif beth sydd am ddigwydd, a mater o ddyfalu ydi hi’n y bôn. Fydda ni gallach yr adeg hon yfory ... rhywfaint, o leiaf!

Yr Etholaethau


Aberafan, Alun a Glannau Dyfrdwy, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Castell-nedd, Cwm Cynon, De Caerdydd a Phenarth, De Clwyd, Delyn, Dwyrain Abertwe, Dwyrain Casnewydd, Dyffryn Clwyd, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Gorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Casnewydd, Gŵyr, Islwyn, Merthyr Tudful a Rhymni, Ogwr, Pen-y-bont, Pontypridd, Rhondda, Torfaen, Wrecsam (26)

Aberconwy, Arfon, Caerffili, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Llanelli, Ynys Môn (8)

Gorllewin Clwyd, Mynwy, Preseli Penfro, Trefaldwyn (4)

Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd (2)

Y Rhestrau


Gogledd Cymru: Ceidwadwyr 2; Plaid Cymru 1; Llafur 1

Canolbarth Cymru: Llafur 3; Ceidwadwyr 1

Gorllewin De Cymru: Plaid Cymru 2; Ceidwadwyr 2

Canol De Cymru: Ceidwadwyr 2; Plaid Cymru 1; Gwyrddion 1

Dwyrain De Cymru: Llafur 1; Ceidwadwyr 1; UKIP 1; Democratiaid Rhyddfrydol 1


Llafur                       31 (+5)
Ceidwadwyr             12 (-)
Plaid Cymru             12 (-3)
Dems Rhydd              3 (-3)
UKIP                           1 (+1)
Gwyrddion                 1 (+1)

mercoledì, maggio 04, 2011

Diwrnod olaf, argraffiadau olaf

Y peth da am ddweud bod proffwydo etholiadol ond yn ‘hwyl’ ydi bod rhywun yn edrych ychydig yn llai gwirion os aiff pethau’n draed moch. At y diben hwnnw, ychydig o hwyl ydi proffwydo. Ond wir, dyna ydi hi, er gwaethaf dadansoddi, tueddiadau, mathemateg, polau a sïon, dyfalu mae unrhyw un wrth wneud yn y bôn. Mae’n eithaf trist fy mod i yn ystyried proffwydo etholiadau yn hwyl!

Ta waeth, heddiw ydi diwrnod olaf yr ymgyrch, y cyfle olaf i’r pleidiau ein hargyhoeddi. ‘Does fawr neb wedi fy ‘argyhoeddi’ i mewn difri calon – fel y mwyafrif o bobl dybiwn i, dwi’n gwneud fy meddwl i fyny ac yn sticio ato doed a ddêl. A welsoch chi’r ddadl arweinyddol echnos ar y BBC? Mae’n debygol efallai na wnaethoch ... roedd o am 10.40 gyda’r nos sy’n blydi stiwpid o amser i ddarlledu rhywbeth o’r fath achos prin welodd neb mohoni swni’n ei feddwl.

Lwcus mewn ffordd ‘fyd. Yn seiliedig ar honno, cafodd Ieuan Wyn Jones ddadl wael ar y cyfan a chynhesodd y gynulleidfa fawr ddim ato (er, i fod yn deg, cynhaliwyd y drafodaeth yng Nghasnewydd, un ardaloedd gwannaf y Blaid – efallai pe’i cynhelid yng Nghaernarfon fyddai hynny’n wahanol). Doedd Carwyn Jones fawr well na siwt. Roedd Nick Bourne yn weddol dda. Dwi’m yn cytuno efo fawr ddim o’i bolisïau ond mae’n cyfleu ei hun fel gŵr bonheddig a didwyll. Ac er nad ydi Kirsty Williams at fy nant, hi enillodd y ddadl yn hawdd iawn. Ond gan na ddarlledwyd y drafodaeth am amser call, ni chaiff effaith ar y bleidlais yfory.

Fe roddaf broffwydoliaeth derfynol yfory. Dim blog byw eleni, achos fydda i’m yn cael lot o hwyl nos yfory dwi’m yn meddwl. P’un bynnag dwisho gwylio Psychoville cyn y sioe ganlyniadau.

Ond dyma ambell synfyfyriad cyn yfory. O’i hymddygiad, ma’n ymddangos bod Llafur yn poeni’n arw am yfory – mae hi’n hysteraidd ar bob tro. Awgryma hynny nad ydi Llafur yn hyderus o ennill mwyafrif yfory, sef yr unig ganlyniad derbyniol iddi mewn gwirionedd. Mae tactegau’r blaid honno’n fwyfwy anghredadwy, o gelwydda yn Aberconwy (a all fod o fudd iddi yn etholiadol) i antics Wayne David yng Nghaerffili (a fydd, yn groes i’w fwriad, heb amheuaeth o fudd i Blaid Cymru ... a hynny mewn etholaeth sy’n ymddangos yn gynyddol anoddach i’w galw).

Ym mhob etholiad Cynulliad, Plaid Cymru sydd â’r lleiaf o waith i’w wneud o ran cael y bleidlais graidd allan i bleidleisio ... mae honno’n fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad nag unrhyw etholiad arall. Ar y llaw arall, rhaid i’r pleidiau eraill weithio’n galetach i wneud hynny, a neb mwy na’r Ceidwadwyr. Teimla rhywun fod Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, yn fwy tebygol o bleidleisio na rhai arfordir y Gogledd, am y rheswm syml mai Cymry ydynt gan fwyaf. A fydd refferendwm y bleidlais amgen yn mynd â’r cefnogwyr i’r blychau pleidleisio? Dwi’m yn meddwl. Ond efallai jyst digon mewn llefydd fel Gorllewin Clwyd ac Aberconwy. Dwi’n meddwl y bydd Aberconwy’n drybeulig o agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Buaswn i ddim yn rhoi punt i lawr arni!

Ta waeth, mae rhywun yn teimlo erbyn hyn bod elfen o hyder tawel gan y Ceidwadwyr. Mae cael pleidlais gadarn, solet, ddi-newid fel sydd ganddynt yn gysurus iawn, ond mae’n amddiffyniad gwael yn erbyn twf enfawr ym mhleidlais plaid arall. Fydd Gorllewin Caerfyrddin ddim yn aros yn las eleni, dwi bron yn sicr o hynny. A dwi o hyd yn meddwl mai Llafur aiff â Gogledd Caerdydd, sy’n biti mewn ffordd achos mae Jonathan Morgan yn un o aelodau gorau’r Cynulliad a’r amlycaf o’i blaid yno.

P’un bynnag, mae hi’n rhy hwyr i ganfyddiadau erbyn hyn, yn rhy hwyr i newid fawr ddim. Ar y funud dwi’n teimlo bod Aberconwy, Trefaldwyn, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Chaerffili yn rhy agos i’w galw.

Yfory, proffwydoliaeth derfynol!

lunedì, maggio 02, 2011

Syndrom '99

Fel y dywedais ym mlogiad ddoe, mae argraffiadau yn bethau peryglus, a thybio yn waeth fyth. Mwyaf euog o’r pechod hwn yw Plaid Cymru. Ers degawd mae Plaid Cymru wedi bod yn orhyderus am ei chyfleoedd mewn etholiadau, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at cyfres o ganlyniadau sy’n ymddangos yn drychinebus. Dim ond un etholiad dros y degawd diwethaf, sef rhai cyngor 2008, sydd wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus iddi. Y mae rhai o’i gwleidyddion mwyaf profiadol ac amlwg wedi darogan canlyniadau gwych, ac yn y broses wedi llwyddo i argyhoeddi sylwebyddion, boed hwythau’n rhai yn y wasg neu’n rhai anffurfiol fel y blogiau.  Dyn ag ŵyr, mi lwyddodd y Blaid f’argyhoeddi i ymhlith nifer o bobl eraill y byddai 2010 yn etholiad gwych, ond hyd yn oed o safbwynt gwrthrychol roedd yn bell o fod. Darllener sampl o amryw flogiau gwleidyddol o’r llynedd i weld hynny.

‘Syndrom 99’ y buaswn i’n disgrifio’r duedd hon ym Mhlaid Cymru, oherwydd ei bod yn duedd sydd wedi amlygu ei hun ers etholiadau rhagorol 1999, y ‘daeargryn tawel’ honedig nas gwireddwyd mewn difrif. O Leanne Wood yn honni bod ganddi dros hanner pleidlais y Rhondda yn 2001 i Adam Price ac eraill yn gogoneddu arolygon barn di-nod, o saith sedd 2010 i fuddugoliaeth 2009, mae’n sicr yn un o nodweddion gwaethaf y Blaid!

Rŵan, mae’r Blaid yn blaid gymharol ifanc o ran ei hoedran, yn arbennig felly llawer o’i hymgeiswyr, ac efallai bod ieuenctid y Blaid yn yr ystyr hwn wedi arwain at orfrwdfrydedd ar sawl achlysur sy’n deillio o ddiffyg profiad. Gwn nad ydw i mewn sefyllfa i bregethu achos dwi ddim yn ganfasiwr nac ymgyrchydd na dim tebyg, ond efallai bod tuedd i gredu os bydd rhywun yn dweud wrthoch ar stepen y drws eich bod yn sicr o’u pleidlais eu bod yn dweud y gwir. Ac mae’n sicr yn y Blaid barodrwydd i anwybyddu polau piniwn llai ffafriol (fel y rhai diweddar), a rhoi sylw i rai ffafriol (fel rhai tua blwyddyn yn ôl a chynt).

Dwi’n sefyll wrth yr hyn a ddywedais ddoe, sef bod gan Blaid Cymru fomentwm, ac nad oes gan unrhyw un o’r pleidiau eraill mohono, a bod ganddi hwnnw ar yr adeg gywir. Dydi hynny ddim yn golygu bod ganddi ddigon o fomentwm, nac yn tynnu oddi ar y ffaith y gallai’r momentwm hwnnw fod wedi dod yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth mawr. Os o gwbl.

Pam fy mod i’n dweud hyn yn hunanbwysig i gyd felly? Ddyweda’ i pam – mater o amgyffred ydi hynny hefyd, o ddarllen a chlywed. Oes, mae gan Blaid Cymru y gwynt yn ei hwyliau, ond yn debyg i’r degawd diwethaf dwi’n poeni efallai bod y llong yn mynd tua’r creigiau ac nid yr hafan unwaith eto. Dydw i ddim yn cyfeirio at unrhyw sedd yn benodol, gyda llaw, nac yn smalio fy mod i rhywsut yn gwybod yn well na neb arall ... dwi’n gwbl ymwybodol o’r ffaith fy mod i ddim! Ond rhaid bod yn realistig hefyd. Efallai bod y polau piniwn wedi bod yn hael i Lafur (ac efallai ddim), ond mae’n berffaith amlwg y bydd gogwydd sylweddol ati eleni, ac ni all unrhyw sedd, o Fôn i Fynwy, rywsut gael ei heithrio rhag y duedd honno. Mae ffactorau lleol ar waith ymhobman, ond mae’r gogwydd cenedlaethol cyffredinol hefyd.

Teimlaf fod Syndrom '99 yn araf lithro nôl mewn i ymgyrch y Blaid eleni. Ni ddylid gadael iddo wneud.

domenica, maggio 01, 2011

Argraffiadau o'r ymgyrch

Mae argraffiadau personol a sïon yn bethau peryglus a chamarweiniol ac mae’r blog hwn yn llwyr ymhyfrydu ynddynt. Sôn ydwyf wrth gwrs am yr etholiadau a gynhelir wythnos yma. Dwi wedi bwrw pleidlais bost eisoes, hyd yn oed ar y refferendwm diflas. ‘Ia’ wnes i bleidleisio, ond dydw i ddim yn deall y system yn dda iawn. Dwi’n deall bod rhywun yn rhestru ymgeiswyr, a beth sy’n digwydd i’r pleidleisiau dewis cyntaf, ac ail ddewis, ond dwi ddim yn dallt er fy myw y trydydd dewis. Efallai y gwnaiff rhywun call egluro’r peth i mi ryw ddydd.
Ta waeth, ‘sgen i ddim syniad, a llai byth o ddiddordeb mewn difrif, yng nghanlyniad y refferendwm hwnnw; mae etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn llawer pwysicach. Dwi eisoes wedi gwneud mân broffwydoliaeth am eleni (gan anghytuno â sawl un wrth eu llunio) ond mae fy meddwl yn raddol newid. Mae rhai seddau y mae’r sibrydion yn llu ohonynt, a rhai nad ydyn ni’n clywed dim yn eu cylch gan fod y canlyniad yn gwbl sicr, waeth beth a ddywedir ar flog gwaethaf Cymru.
Ond gadewch i mi fod o ddifrif am eiliad. Mae ‘na ryw fath o gonsensws yn datblygu am y canlyniad; ar y dechrau ro’n i’n teimlo fy mod i’n mynd rhywfaint yn groes i hynny, ond dwi ddim yn siŵr a ydw i mwyach. Ro’n i’n dueddol o feddwl y buasai Llafur yn gwneud cystal ag awgrym y polau piniwn ond dydi’r Hogyn ddim mor siŵr mwyach. Ai fi ydi’r unig un sy’n amgyffred bod ymgyrch y blaid Lafur yn eithriadol o fflat, ac nad oes wedi’r cwbl frwdfrydedd i bleidleisio dros Lafur er mwyn ‘amddiffyn Cymru’? Os cawn arolwg barn arall cyn yr etholiad, mi fydd y canlyniadau yn ddiddorol.
Gadewch i mi ymhelaethu. Mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn gymharol ddistaw, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn targedu eu hadnoddau. Pwy all eu beio? Dyma’u cryfder, ac yn yr etholiad hwn dyma’r peth callaf i’w wneud o gryn dipyn. Ond mae Llafur wedi bod yn ddistaw iawn ers sbel.
Mae tair damcaniaeth i egluro diffyg gweithgarwch Llafur. Y cyntaf yw bod y blaid yn gyfrinachol ddod i’r casgliad y bydd 2011 yn flwyddyn anoddach na’r disgwyl iddynt, ac mai gwell ydi peidio â thynnu gormod o sylw at eu hunain o’r herwydd. Hynny yw, maen nhw wedi colli calon i raddau – yn anochel mi fydd Llafur yn gwneud yn well nag yn 2007, o ran seddau a phleidleisiau, ond bod y mwyafrif y tu hwnt i’w cyrraedd. Ac os na chânt fwyafrif, wel, wnaethon nhw fyth dweud y byddan nhw’n ei gael!
Mae’r ail ddamcaniaeth yn sicr yn wir i raddau, waeth beth fo’r gwir yn llawn – gall Llafur ddim cynnal ymgyrch barhaus o bwys oherwydd nad ydi’r drefniadaeth, y cyllid na’r gwirfoddolwyr ganddynt i wneud hynny. Yn wir, er mor beryg ydi amgyffred, mae rhywun yn dirnad mai Llafur yn wir sydd â’r peiriant etholiadol gwannaf yng Nghymru erbyn hyn, er bod ganddynt y fantais nad oes angen iddynt ymgyrchu o ddifrif yn y rhan fwyaf o’r Cymoedd a’r dinasoedd: mae canlyniadau diweddar yn cuddio’r gwendid hwn, er yn amlygu cryfder y bleidlais Lafur graidd.
Mae’r drydedd ddamcaniaeth efallai’n agosach ati na’r cyntaf – mae Llafur yn hyderus. Dydyn nhw ddim isio gwneud dim byd yn anghywir, ac felly’n dewis gwneud dim byd o gwbl. Maen nhw’n cael ymateb da ar stepen y drws, yn enwedig mewn rhai ardaloedd, sy’n cael ei atgyfnerthu gan y polau cadarnhaol. Sylwer bod Llafur yn Llanelli yn gwneud llawer mwy o sŵn na Llafur yng Ngorllewin Caerfyrddin neu Aberconwy.  Mae’r post hwn ar flog Saesneg yr Hen Rech yn ddiddorol i’w ddarllen o ran hynny. 
Er i mi grybwyll ambell waith bod pethau’n edrych yn ddu ar y Blaid, dwi ddim mor siŵr am hynny bellach chwaith, er fy mod i’n eithaf sicr fy marn na chaiff bymtheg sedd eleni. Ar ôl dechrau siomedig i’r ymgyrch, mae’n gynyddol amlwg bod ymgyrch y Blaid yn fwy effeithiol nag ymgyrchoedd y pleidiau eraill. Ddechreuodd hi yn bur anweledig, er gwaethaf ei hymdrechion, ond debyg bod hynny’n newid i raddau. Fy argraff i ydi bod gan Blaid Cymru fomentwm, a hynny ar yr adeg gywir ... yn wir, mae’n bosibl ei bod yn rhy hwyr erbyn hyn i’r pleidiau eraill ddal y Blaid i fyny o ran hynny. ond wir, gwell iddi beidio â gorgyffroi – dylid dysgu o 2009 a 2010.
Pa oblygiadau sydd i’r amgyffred cyffredinol hwn? O safbwynt personol, mae ambell un. Bydd Aberconwy’n frawychus o agos ond dwi’n sticio i feddwl mai Plaid Cymru aiff â hi. Drws nesa’ yng Ngorllewin Clwyd mi fydd hi eto’n agos, ond erbyn hyn dwi’n rhyw amau mai’r Ceidwadwyr aiff â hi yn y pen draw. Mae goblygiadau i hynny o ran y rhestr ... dwi’n amau hefyd y bydd y Blaid yn cael mwy o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr erbyn hyn, yn y Gogledd o leiaf.
 Yn y Canolbarth, buaswn i bellach yn ffafrio Plaid Cymru yn Llanelli. O drwch blewyn, gallai fod yn frwydr agos iawn eto. Dwi’n dal i feddwl mai Llafur fydd yn cipio Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, ond pwy ag ŵyr mewn difri! Un peth na fuaswn i’n ei wneud ydi llwyr ddiystyru’r Ceidwadwyr yma. Tua’r gogledd i Drefaldwyn, dwi’n dal i feddwl y bydd y Ceidwadwyr yn fuddugol yma, ac y byddant hefyd yn cadw Preseli Penfro.
Yn y de, tueddaf i feddwl y bydd Julie Morgan yn trechu Jonathan Morgan. Ond dwi ddim mor siŵr am Ganol Caerdydd – o ystyried natur a hanes y sedd mae’n ddigon posibl y bydd hi’n ras deirffordd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd. Dwi wedi meddwl y buasai Llafur yn adennill hon ers ychydig, ond mae’n anodd ei galw. Yn reddfol, buaswn i’n gachwr ac yn darogan y bydd y sedd yn aros yn felen.
Un sedd sy’n cael mwy a mwy o sylw ydi Caerffili, ac sy’n dechrau cynhyrchu mwy a mwy o sïon wrth i amser fynd heibio. Mae’n un sedd efallai lle y mae sïon a gwybodaeth leol yn fwy o werth nag unrhyw bôl piniwn. Os nad ydych chi’n ymddiried mewn sïon gan bleidiau amdanynt eu hunain, mae sïon pleidiau eraill amdanynt efallai’n agosach ati, yn enwedig pan fônt yn ddigon diduedd. Yn ôl y sôn, mae Ceidwadwyr yng Nghaerffili yn meddwl mai Ron Davies sy’n mynd â hi ar hyn o bryd.
Un sylw bach olaf ydi Ynys Môn. Dwi ddim yn meddwl y gwelwn ni sioc yma, ond dwi’n meddwl y caiff IWJ sioc o weld maint ei fwyafrif.
Af i ddim i oblygiadau o ran seddau ar hyn o bryd, ond yn gryno mae’n ymddangos bod gan Blaid Cymru fomentwm, bod y Dems Rhydd yn targedu’n ffyrnig, bod y Ceidwadwyr rhwng petrus a thawel hyderus, a Llafur naill ai’n hyderus neu’n gwbl analluog. Tybed a ydi’r argraffiadau hynny’n gywir!