Wrth gwrs, mae Dad
yn llwyddo bod yn rhan o’r mics. Mae’n mynd yn wirion yn ei henaint. Wel, dwi’n
dweud henaint; neithiwr roedden ni’n cael rhyw sgwrs am Rachub a mynegodd Dad
ei fod yn ddifyr iawn clywed holl hanesion y pentref a siarad amdano ers ei eni
56 mlynedd yn ôl. Cyn i Mam ei gywiro ei fod yn 61 erbyn hyn. Felly yn amlwg
mae Dad wedi dechrau ar y daith honno a wna pobl wrth heneiddio, sef ymddwyn yn
iau.
A minnau’n Rachub,
y mae’n amlwg mai blogiad am Rachub fydd hwn. Ro’n i yn nhŷ rhai o bobl y
pentref rai diwrnodau yn ôl, a ninnau’n trafod Rachub ei hun – dachi’n gweld,
nid y fi ydi’r unig berson ar y Cread sy’n licio Rachub ychydig bach yn fwy nag
sy’n iach neu’n normal gwneud; perthyno’r nodwedd hon i bawb a fagwyd yma.
Trafod oeddem ni pam fod pobl Rachub mor annibynnol ac unigryw, yn enwedig o’i chymharu
â phentrefi eraill Dyffryn Ogwen fel Tregarth. Cafwyd ateb. Yn wahanol i ochr
draw’r Dyffryn, ni fu Rachub erioed yn dir y Penrhyn gan mwyaf ac ni fu’r bobl
felly dan bawen yr Arglwydd Penrhyn i’r fath raddau. Mae hyn oherwydd mai tir
rhydd a gafwyd yma. Nid tir comin mo hynny – tir rhydd ydi tir y gall unrhyw un
ei hawlio, allwch chi ddim gwneud hynny i dir comin. Ac felly manteisiodd pobl
Rachub ar hynny a chodi tai yma.
A dyna fi wedi
llwyddo cael ‘Rachub’ saith gwaith mewn i baragraff. Ond mae’r uchod yn gwneud
synnwyr – Yr Achub, wrth gwrs, ydi
Rachub, a thir rhydd ydi ystyr achub.
Felly nid yn unig hanes ar wahân braidd y pentref sy’n gwneud ei phobl mor
annibynnol (neu, yn fwy gonest, yn ddirmygus o bawb arall yn y byd), mae Rachub
ei hun yn golygu ‘Tir Rhydd’. Y mae’r cliw yn yr enw.
Pan fydd Rachub yn codi, bydd pedwar ban byd yn syrthio dan ei grym.
Ddysgais i’r noson
honno hefyd am ffatri go anarferol a fodolai yn y pentref ddegawdau maith yn
ôl. Ffatri gocos oedd hi. Daethpwyd â chocos o Aberogwen yr holl ffordd i fyny
at Rachub, sydd rai milltiroedd i ffwrdd, i gael eu canio yno. Roedd gan gemist
o Pesda batent ar ryw brisyrfatuf, a gafodd ei roi efo’r cocos ar ôl eu tynnu o’r
cregyn a’u berwi. Rŵan, dim ond D gesi mewn TGAU Busnes ond fedra i hyd yn oed
weld anfanteision i lobio llond trol o gocos hanner ffordd i fyny mynydd i gael
eu canio o safbwynt ymarferoldeb. Ta waeth, roedd yn rhaid cau’r ffatri yn y pen
draw achos rhoddwyd y cocos a’r dŵr poeth i mewn i’r tuniau’n syth, gan adael
twll oeri ynddynt – weithiodd hynny ddim yn aml a ffrwydrodd digonedd ohonynt,
i’r fath raddau y gwnaeth hyd yn oed bobl arw llethrau Moel Faban roi’r gorau
iddi.
Ond roedd gennym
ni ambell beth yma ers talwm – cyn fy oes i. Siop sglodion oedd un. Roedd yna
ddyn o Rachub, a symudodd i ffwrdd flynyddoedd yn ôl, a ddaliodd ddig yn erbyn
yr Almaenwyr byth ers iddyn nhw ollwng bom ar siop jips Rachub yn ystod y
rhyfel. Ond wedi hynny roedd yna siop jips
go arbennig i’w chael yma, un sydd wedi fy rhyfeddu i ers imi gyntaf glywed
amdani. Wn i ddim a oedd enw ar y siop ei hun, ond yr oedd hi’n un fudr – y futraf
efallai – a chafodd ei rhedeg gan ddynes a adnabuwyd gan yr enw anhygoel
braidd, Madam Chips. Buasai fy Nain
Eidalaidd yn sôn amdani ddigon – ‘she was
a filthy woman’ – yn smygu wrth ffrio’r sglodion mewn hen fraster. Wrth gwrs,
âi Dad yno’n aml, a haerid mai’r sglodion budron hynny oedd y rhai gorau a
gafwyd erioed.
Mi ddysgais
rhywbeth od echdoe hefyd – mae’n od achos dwi’n un i freuddwydio’n eithaf aml. Yn aml dwi’n breuddwydio am Rachub, ond dydi
hi ddim yn Rachub arferol achos weithiau mae yna farchnad dan do, ac unwaith
roedd yna siop Cadwalader’s wrth cae swings do’n i erioed wedi’i gweld o’r
blaen.
Ond yn ddi-ffael
mae yna nodwedd ryfedd ymhob breuddwyd. Ar Ffordd y Mynydd – stryd uchaf ein huchel bentref – mae yna dafarn ym myd breuddwydion o’r enw'r Caellwyngrydd. Mi
af i mewn yno weithiau, un dywyll a distaw ydi hi. Ro’n i’n gwybod yr enw Caellwyngrydd
cofiwch ond ddim efo syniad lle roedd o. Mi ydach chi’n gwybod lle mae hyn yn
mynd. Caellwyngrydd ydi’r hen enw ar dopiau Rachub. Nid yn unig hynny, ond
roedd fy nheulu (neu berthnasau sy’n rhan o’r llwyth fyddai’n well disgrifiad)
yn arfer dominyddu’r ardal honno, fel rhyw faffia lleol. Pam y byddwn i’n breuddwydio’r fath beth, wn i
ddim. Efallai fod yna wybodaeth etifeddol goll yng nghefn meddwl pawb.
Do wir, dwi wedi
cael wythnos hynod o blwyfol. Tydw i ddim isho mynd yn ôl i Gaerdydd ddydd Sul
achos mae Rachub yn grêt – i’m dyfynnu fy hun wrth gyfaill unwaith; Mae Rachub yn well na Fenis. Sydd,
efallai, yn mynd â phlwyfoldeb bach yn rhy bell.
Ond, wrth gwrs, mae Rachub yn well na Fenis.
Rhywle arall drwy lygada rhywun o Rachub. Swiflwch.