Ond pwy ddylai mewn difrif
boeni am dwf y blaid?
Alla i ddim ategu fawr fwy at
yr hyn sydd wedi’i ddweud a’i ysgrifennu eisoes. Wrth gwrs, y Ceidwadwyr fyddai’r
collwyr mwyaf. Byddai UKIP yn eu hatal nhw rhag ennill seddi ac yn peri iddynt
golli nifer o rai eraill. Yn wir, fe allai’r Ceidwadwyr gael cweir a hanner
oherwydd llwyddiant UKIP ... byddai tua 10% ledled Prydain i’r blaid yn farwol
i obeithion y Ceidwadwyr o ddal eu gafael ar rym yn San Steffan.
Wrth gwrs, oherwydd natur y
system bleidleisio, mae’n annhebygol ar hyn o bryd y gwelwn ASau UKIP o gwbl ...
efallai y gall Nigel Farage ennill sedd os dewisa’r un gywir i’w chystadlu ond
hyd yn oed petai’r blaid yn sicrhau’r un lefel o gefnogaeth a gafodd ddydd Iau
mewn etholiad cyffredinol, prin y byddai’n ildio mwy na llond llaw o seddi
iddi.
Ond daeth un peth hefyd i’r
amlwg ddydd Iau, ond rhywbeth nad yw wedi cael dyledus sylw. Ni ddaeth holl
bleidleisiau UKIP o du Ceidwadwyr. Yn wir, does dim amheuaeth bod perfformiad
UKIP wedi atal Llafur rhag ennill degau o seddi ledled y wlad, os nad mwy. Pam hynny,
meddech chi, â Llafur ac UKIP mor wahanol i’w gilydd?
Byddai’r etholiadau wedi bod
yn ddiddorol eithriadol pe cynhelid etholiadau mewn cadarnleoedd Llafur, ac mi
dybiaf y buasem wedi gweld twf i UKIP yn yr ardaloedd hynny hefyd. Nid i’r un
graddau, ond mi fyddai twf a haeddai sylw.
Mi egluraf pam. Tan ychydig
ddegawdau yn ôl roedd ‘na fath o bleidleisiwr sy’n brin eithriadol bellach –
mae ‘nhaid yn un ohonynt ond mae yntau’n ei 80au erbyn hyn ... y Tori dosbarth
gweithiol. Llwyddodd y Ceidwadwyr i golli’r bleidlais hon tua’r 70au ac yn sicr
yn yr 80au, a phrin y bodolai o gwbl erbyn y 90au. I bob pwrpas natur y
bleidlais hon ydi pobl dosbarth gweithiol sy’n tueddu at bolisïau asgell dde ar
nifer o faterion ... efallai bod mwy ‘traddodiadol’ yn ddisgrifiad gwell nag ‘asgell
dde’. Yn sicr o blith y garfan hon y denodd BNP bleidleisiau ychydig
flynyddoedd yn ôl, ac mae UKIP yn gwneud hynny rŵan.
Er, mi fyddwn i’n
pwysleisio, yn wahanol i rai pobl swnllyd, tydw i ddim yn meddwl bod UKIP yn ‘BNP
parchus’ o gwbl – tydi UKIP, er gwaetha’r ffaith ei bod yn blaid boncyrs i
raddau helaeth, ddim yn blaid hiliol fel yw’r BNP, a tydi gwrthwynebu mewnfudo
ar raddfa fawr ddim yn hiliol chwaith. Dylai rhai cenedlaetholwyr Cymreig sy’n
cwyno am lefel y mewnfudo i’r Fro Gymraeg gofio hynny. Un o broblemau cenedlaetholwyr
yng Nghymru ydi NAD ydyn nhw’n cwyno am y peth.
Ta waeth, erbyn heddiw mae’r
Tori dosbarth gweithiol yn beth prin ar y diawl mewn termau etholiadol OND mae ‘na
ddigonedd o bobl dosbarth gweithiol sydd i’r dde o bleidiau fel Plaid Cymru neu
Lafur, yn benodol efallai ar faterion cymdeithasol yn fwy nag ar faterion
economaidd. A rhywsut, mae rhywun yn amgyffred fod UKIP yn gartref digon
naturiol i’r bobl hyn – dyma, gyda llaw, etholwyr sydd y dyddiau hyn naill ai’n
pleidleisio i Lafur o arfer, neu’n rhai o’r miliynau o bobl dosbarth gweithiol
sydd wedi troi eu cefn ar y broses etholiadol yn gyfan gwbl. Pobl ydyn nhw a fyddai’n
uniaethu â phlaid Geidwadol 40 mlynedd yn ôl ond nid un heddiw (o ganlyniad i
Magi Thatcher yn fwy na dim ... fe lwyddodd hithau i newid y Ceidwadwyr lawn
cymaint ag y llwyddodd i newid y sbectrwm gwleidyddol cyfan, a Phrydain fel
gwlad).
Tydi o ddim yn gymhariaeth
uniongyrchol ; mae UKIP yn ffactor digon rhyfedd yng ngwleidyddiaeth Prydain
achos dydi hi ddim ar yr un sbectrwm gwleidyddol â’r pleidiau eraill. Mae ei
gosod i’r dde o’r Ceidwadwyr yn orsymleiddio enfawr. Os ydych chi eisiau
cymharu UKIP â phlaid arall mae’r dewis amlwg y tu hwnt i Fôr yr Iwerydd ar
ffurf y blaid Weriniaethol – plaid ‘libertaraidd’ ydi UKIP.
Amser a ddengys a yw Prydain
yn barod am blaid o’r fath yn y prif ffrwd. Dwi’n amgyffred ar ôl ennill
etholiadau Ewrop yn 2014 – sy’n edrych yn debygol mi dybiaf – y caiff UKIP
etholiad siomedig ar y cyfan yn 2015 (h.y. o ran nifer yr ASau a enilla), ac y
bydd yn agor y drws i lywodraeth Lafur ar ryw ffurf neu’i gilydd. Wedyn bydd yr
hwyl go iawn yn dechrau os bydd y Ceidwadwyr am yddfau ei gilydd a’r dde
Brydeinig yn rhanedig fel nas gwelwyd o’r blaen. A hefyd, wrth gwrs, bydd
Llafur mewn sefyllfa anodd, yn gorfod delio ag economi a fydd o hyd yn
ansefydlog, a hynny gydag arweinydd sydd eisoes wedi profi ei hun braidd yn
aneffeithiol.
Bosib bryd hynny y bydd
sefyllfa UKIP yn cryfhau, yn sicr os bydd y Ceidwadwyr yn rhanedig, ac na fydd
o hyd refferendwm wedi’i gynnal ar fater Ewrop. Ond prin y gallwch gynnal y
math hwnnw o fomentwm heb unrhyw ASau o gwbl, a ffrwtian hyd diffodd o bosibl
yw ffawd y blaid – er tydw i’m yn dweud hynny â sicrwydd.
Ond yr her i UKIP ydi nid
gwasgu ar y bleidlais Geidwadol draddodiadol, eithr hudo’r Torïaid dosbarth
gweithiol ‘traddodiadol’, sydd fel y dywedais, erbyn hyn yn Llafurwyr neu’n
apathetig.
Anodd yw dychmygu y bydd y
blaid yn llwyddo i wneud hynny’n ddigonol i fod yn rym ar lefel San Steffan. Os
oes mae hi, gallai geiriau Farage fod etholiadau ddydd Iau yn ‘game changer’
fod wedi taro’r hoelen ar ei phen.