Mae’r traddodiad (lled-ddiweddar ei hun) o ddarogan seddi Cymru yn ystod etholiad
wedi eithaf diflannu’n ddiweddar, ond mi fues i wastad yn un a fwynhaodd wneud,
a dwi ddim yn meddwl ei fod yn ymarfer cwbl ddibwynt chwaith. Felly wedi imi
addo ar Twitter wneud, dyma fi wrthi’n ei wneud ac yn edifar yn llwyr y fath
addewid dwp.
Dwi ddim am fynd i fanylder eithriadol, fel ag y gwnes bron degawd
yn ôl yn 2010 ond yn hytrach am ddarogan fesul dipyn. Gan fod amser yn brin y
tro hwn, dwi am ddarogan ar hap wyth sedd ymhob blogiad, felly bydd yna
gyfanswm o bum set darogan ac yna mae’n siŵr Darogan Terfynol fymryn cyn yr
etholiad.
Wna i ddim i fanylder yma am sut ydw i’n gweld yr etholiad
yn mynd yn gyffredinol – fydd lle i wneud hynny yn nes ymlaen – ac ni fydd fy
marn na’m dymuniadau yn rhan o’r darogan.
Ond dyma nodi felly y seddi gaiff eu darogan (diolch i ryw
wefan neud pethau mewn trefn random de)
Blogiad 1
Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Maldwyn, Dwyfor
Meirionnydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir benfro, Wrecsam, Rhondda, Gorllewin
Clwyd
Blogiad 2
Delyn, Preseli Penfro, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg,
Castell-nedd, Caerffili, Gorllewin Abertawe, Llanelli
Blogiad 3
Arfon, Ceredigion, Gorllewin Caerdydd, Pontypridd, Blaenau
Gwent, Aberafan, Dwyrain Casnewydd, Torfaen
Blogiad 4
Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrdwy, Dwyrain Abertawe, Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr, Mynwy, De Clwyd, Ogwr, Brycheiniog a Maesyfed
Blogiad 5
De Caerdydd a Phenarth, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Cynon,
Gorllewin Casnewydd, Gŵyr, Dyffryn Clwyd, Ynys Môn, Islwyn
Nessun commento:
Posta un commento