DELYN
Mwyafrif: 4,250 (10.8%)
Mae Delyn yn y
gogledd-ddwyrain yn etholaeth sydd wedi bod ar restr dargedau’r Ceidwadwyr ers
sbel erbyn hyn, ond heb lwyddiant hyd yma. Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae’r
polau’n araf ond yn sicrh yn polareiddio, gyda Llafur yn dal i fyny â’r
Ceidwadwyr fymryn, hyd yn oed os ydyn nhw ymhell y tu ôl i ganlyniad 2017.
Y mae’r Blaid
Brexit hefyd yn cael eu gwasgu yn y polau, ond rhaid cofio dydyn nhw ddim yn
sefyll ymhob sedd, ond maen nhw’n gwneud yn dda mewn polau seddau unigol. Dwi’n
tybio y gallent, fel mewn nifer o seddi, wneud digon o ddifrod i’r Ceidwadwyr i’w
hatal rhag cipio’r sedd.
Llafur yn cadw
PRESELI PENFRO
Mwyafrif:
314 (0.8%)
Sedd Stephen
Crabb ydi hon, ac roedd ei fwyafrif y tro diwethaf yn eithriadol o fechan. Mae adeg
arferol byddai hon yn un y byddai’n dychwelyd at y blaid Lafur (18 mlynedd ers iddi
ei hennill ddiwethaf). Ond fel ag y mae pethau’n yr etholiad hwn, y bet gorau
fyddai ar i Crabb gadw ei sedd gyda mwyafrif uwch.
Ceidwadwyr
yn cadw
MERTHYR TUDFUL
Mwyafrif: 16,334 (48.7%)
Byddai’n cymryd
mwy na daeargryn i’r blaid Lafur golli Merthyr, er roedd y Ceidwadwyr yn ennill
bron un o bob pump o bleidleisiau yma tro diwethaf yn agos at fod yn un ynddo’i
hun. Mae Merthyr wedi cael ei dynodi fel sedd sy’n dir ffrwythlon i BP, a dydy
hi ddim yn annhebygol mai nhw ddaw’n ail y tro hwn. Ond chaiff hynny ddim
effaith ar y canlyniad, a bydd hon yn aros yn gadarn goch.
Llafur yn cadw
BRO MORGANNWG
Mwyafrif:
2,190 (4.1%)
Gyda’r holl
sylw y mae’r Fro’n ei gael y tro hwn, mae’n hawdd anghofio nad ydi hon yn ultra marginal – mae gan Alun Cairns
fwyafrif o dros ddwy fil. Y gred ydi fod y pact PC-DRh-Gwyrddion yn hwb mawr i
Lafur yma, ond mae’n hollol amhosibl gwirioneddol ddarogan sut y bydd
pleidleisiau’n cyfnewid. Faint o genedlaetholwyr a rhyddfrydwyr fydd yn mynd am
y Gwyrddion yn lle Llafur?
Y cwestiwn
pwysicaf dwi’n meddwl ydi faint mwy o bleidleiswyr Llafur sydd yma. Fel y
dywedais uchod mae’r polau’n agosáu ond rhaid cofio mae Llafur dal y tu ôl i
lefelau 2017 – fy ngreddf i ydi y bydd hynny’n ddigon iddi gadw seddi ond ddim
yn ddigon iddi herio am lawer mwy o seddi.
Mae’n hawdd byw
mewn swigen. Ond y tu allan iddi, dydy pawb ddim yn casáu Alun Cairns, a dylai
polio cyfredol y Ceidwadwyr fod yn ddigon iddo gadw ei le yn San Steffan.
Ceidwadwyr
yn cadw – mwyafrif uwch
CASTELL-NEDD
Mwyafrif: 12,631 (33.0%)
Ar lefel leol a
lefel etholiadau’r Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi cynnig her i’r blaid Lafur
yng Nghastell-nedd, ond ni welwyd erioed y fath her yn dod i’r fei ar gyfer
etholiadau San Steffan. Byddwn i’n disgwyl rhywbeth tebyg y tro hwn – Llafur yn
ei chadw’n hawdd gyda Phlaid Cymru a BP yn brwydro am yr ail safle.
Llafur yn cadw
CAERFFILLI
Mwyafrif: 12,078 (29.3%)
Fel
Castell-nedd uchod, mae Caerffili’n sedd, ar lefel leol a Chynulliad, lle mae
Plaid Cymru bob amser wedi herio, ac megis yr uchod, aflwyddo. Ond mae’r gêm yn
un gryn wahanol yma i etholiadau San Steffan. Dydy Plaid Cymru heb ddod cystal
ag ail yma ers 2005, gyda’r Ceidwadwyr ac UKIP yn ail yma ers hynny. Gallai fod
yn dir ffrwythlon i BP, a gallai hynny ddifrodi cyfleoedd y Ceidwadwyr o gadw’r
ail safle. Ac eto, y gwir plaen ydi, waeth beth fo manion cyfnewid
pleidleisiau, mae Caerffili bron yn sicr o ddychwelyd aelod Llafur i San
Steffan gyda mwyafrif cyfforddus.
Llafur yn cadw
GORLLEWIN ABERTAWE
Mwyafrif: 10,598 (28.5%)
Yn wahanol i ddwyrain
y ddinas, pleidleisiodd trigolion Gorllewin Abertawe o blaid aros yn yr Undeb
Ewropeaidd, ac mae hynny ynddi ei hun yn awgrymu y caiff y Ceidwadwyr drafferth
agosáu at Lafur yma, nac y bydd pleidleisiau BP yn dyngedfennol yma.
Anodd coelio o
fewn cof fod hon yn sedd darged bwysig i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Cawson nhw
draean o’r bleidlais yma yn 2010, ond i gael 3.4% y tro diwethaf. Hyd yn oed yn
2019 mae llu o seddi yng Nghymru nad oes gobaith i Lafur eu colli, gyda hon yn
eu plith.
Llafur yn cadw
LLANELLI
Mwyafrif: 12,024 (29.8%)
Sedd ag iddi
ddwy stori. Yn y Cynulliad, mae Llanelli bob amser wedi bod yn frwydr agos,
gystadleuol rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac roedd gan Blaid Cymru obeithion
mawr i’r sedd flynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn mae ei gobeithion yma’n wantan a’i
pherfformiad yn ddigon sigledig – daeth yn drydydd yma i’r Ceidwadwyr am y tro
cyntaf ers 1992 yn 2017. Hyd yn oed yn y sefyllfa annhebygol tu hwnt y byddai
pob Dem Rhydd yn benthyg pleidlais iddi y tro hwn (mae Llanelli’n rhan o’r
Pact), byddai’r Blaid dal ymhell ar ei hôl hi.
Pleidleisiodd
Llanelli i adael yr Undeb Ewropeaidd a dwi’n meddwl y bydd hi’n agos iawn
rhyngddi hi, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru am yr ail safle. Go brin fod gan Nia
Griffith le i boeni.
Llafur yn cadw
Nessun commento:
Posta un commento