lunedì, luglio 31, 2006

Penwythnosa

Fel un o Besda, nos Wener a nos Sul yw fy mhenwythnos. Anaml a'i allan i Fethesda ar nos Sadwrn. Felly, fel arfer, nos Wener a nos Sul es allan. Oeddwn i'n eithaf siomedig neithiwr am na chafwyd loc-in yn y Vic, a dylwn wedi aros yn yr annwyl Sior, mi gredaf, er y bu imi bron a lladd hen ddyn wrth y tai bach (stori byr).

Er hyn dw i heb wneud llawer dros y penwythnos, a heb actiwli meddwi. Dachi'n gwybod y teimlad gwaetha? Ceisio yfed a methu achos unai bo gynnoch chi ben mawr (nid yn lythrennol, bydda chi'n yfed mwy efo pen mawr mi dybiaf) neu eich bod newydd bwyta clamp o bizza. Dyna wnes i, wrth gwrs.

Deep pan ydi'r boi. Dw i'm yn dallt y wimpy weeds bach sy'n cael thin cryst. Deep pan ydi pizza dyn go iawn. Digon o gaws, digon o dopping, a stumog llawn. Mae thin cryst fel y cwrw ddialcohol 'na, neu fel tost heb fenyn neu Llafur heb y streak gwrth-Gymraeg. Ddim yn iawn. Annuwiol. Ffiaidd. Anfad. A phawb a'u bwytant. Dachi'n gwybod pwy ydach chi.

Iasgob mae'r blog 'ma'n dirywio.

venerdì, luglio 28, 2006

Anlwc

Mae rhai pobl yn lwcus; ennill y loteri, ffeindio tenar ar lawr o bryd i'w gilydd, wastad yn rhoi'r tostar ar y setting cywir. Nid myfi. Dw i'n berson anlwcus iawn ar y cyfan, rhwng pennau gliniau (ydw, dw i dal i gwyno am hynny) a mynd i bysgota a sylweddoli ar garreg bod handlen y rîl wedi disgyn off yn Duw a ŵyr ymhle (sydd, os ydych chi'n deall pysgota, yn golygu nad medrwch bysgota).

Blin oeddwn y bore 'ma hefyd yn derbyn drwy'r post gwrthodiad o'm cais am fudd-dal analluogrwydd. Dw i'n iawn rwan, wrth gwrs, ond am dros fis doeddwn i ddim ac yn methu gweithio, a gwrthodwyd y budd-dal ar y sail nad oeddwn i wedi gweithio digon yn ystod y ddau flynedd ddiwethaf er mwyn ei haeddu. Wel, naddo, ffycin myfyriwr ydw (oeddwn) i. Taswn i'n iach byddwn i wedi medru gweithio a chael arian a medru talu'r hanner-rhent o £125 am y tŷ yng Nghaerdydd am y mis ond na, nis medrwn. A dydi o'm fel fy mod i'n rhyw sgyman oedd yn ffugio, a dydw i'm ychwaith wedi mynd ar y dôl fatha llwyth o bobl dw i'n abod. A dw i'n flin iawn.

'Sdim lwc yn digwydd imi fyth. Bu imi ennill £12 ar scratchcard unwaith (a'i wario oll ar all you can drink for a tenner yn Yates yn syth bin). Ffwcin mynadd.

mercoledì, luglio 26, 2006

Y Pysgotwyr

Bydd lot o'r blog yma dros yr haf yn cael ei ymrwymo i'm hanesion bysgota, mi gredaf. Ddoe, tua Bae Treaddur yr es, gyda Dyfed a Kinch (yr un blewog a'r un jinjyr). Kinch ddywedodd bod 'na rywle yno o'r enw Mackrel Rock, er chafon ni fawr o facrell a dweud y gwir. Dim ond draenogiaid.

Na, dw i'm yn malu cachu; fe fu inni ddal chwe draenog ym Mae Treaddur. Ond, i chwi'r rhai ddi-Gysgeir, mae draenogiaid, yn ogystal a meddwl y creaduriaid pigog sy ddim yn fod i yfed llefrith ond mae pawb yn ei roi iddyn nhw bethbynnag, yn golygu bass. A dw i'n dallt yr enw, hefyd, oherwydd mae gan y bygars bigau ar eu cefn a bu inni gyd cael ambell i nip annifyr ganddynt (yn eu cael yn ol drwy waldio'u pennau a'u diberfeddu). Er, bu imi'n bersonol golli dros hanner fy 'traces' a phwysynnau.

Ar y pryd doedden ni ddim yn sicr beth yn union oedd y petha 'ma. Dw i byth wedi gweld draenog o'r blaen. Ond mi es tua Gwalchmai (sef y lle mwyaf stiwpid yn y byd, sy'n cynnwys capel o'r enw Capel Coch sydd ddim yn goch ac Eglwys Gatholig sydd yn edrych fel bwthyn). Nyni a goginiasom ddau o'r rhain i de, heb y syniad cyntaf o sut mae di-esgyrnu pysgod na dim, a mi lwyddais innau lyncu mwy o esgyrn na sy'n iach (ac o'i herwydd dw i wedi rhoi off mynd i'r lle chwech am cyn hired a sy bosib).

Yfory dw i'n cael fy mlas gyntaf ar bysgota llyn yn Llyn Alaw, a heno mae Grandad yn coginio y ddraenog fwyaf a ddaliais (dau bwys a hanner) a mi a'i fytaf i de.

venerdì, luglio 21, 2006

Cyri cangarw

Ffacinhel mai'n boring 'ma. Does gen ddim i'w wneud ond hel llwch ar fy sbecdols a gweiddi 'aw!' bob tro dw i'n cymryd cam gam.

Y nos ydi'r waethaf beth yn y byd. Eshi gwely am naw neithiwr a gwylio Bad Girls am awr, cyn y crap annioddefol ond adictif o'r enw Big Brother, ac wedyn Gordon Ramsay's F-Word cyn ceisio cysgu. Mi wnaeth imi feddwl am fwydydd egsotig.

Triodd Gordon grocodeil neithiwr, a hoffwn innau wneud hefyd. Eithaf prin, mewn difri, yw fy mhrofiad o fwydydd gwahanol: estrys a siarc ydi'r mwyaf mentrus ydw i wedi bod, er mae gennai restr o'r hyn beth hoffwn eu blasu. Ci, er enghraifft. Os mae o'n ddigon da i Korea, ma'n ddigon da imi (dw i'm am hyd yn oed mentro gwneud jocs sal am hot dogs). Zebra, hefyd: strips streips, efallai? Cangarw hefyd, oeddan nhw'n gwerthu cyri cangarw yn Llanberis ychydig yn ol dw i'n cofio. Siwr bod 'na ddigon o gic iddi. HA!

Iesu dw i angen job.

giovedì, luglio 20, 2006

Pysgodio!

Dw i erioed wedi bod yn hoff iawn o bysgota, ers fy mod yn sbrog a'm cefnder Arfon yn mynd a fi i bob mathia o lefydd; Caergybi, Llanddona, Moelfre, i bysgota. Afraid dweud prin iawn fy mod innau'n dal dim ond gwymon a bagiau Tesco, ond dal hwyl a gefais. Efallai bod ar gof rhai ohonoch fy mod wedi ailgydio yn y pysgota flwyddyn diwethaf, a bob tro yr oeddwn i'n cyrraedd traeth cyrraeddodd hefyd y trai. Ond ddoe cefais y fraint(?) o gwmni Dyfed, sydd byth wedi pysgota yn ei fywyd, a mynd dros y bont i Fôn i ddal pysgod. Ym Miwmares bu inni brynu ddigon o lygwns a sliwennod tywod i wagio Afon Menai.

Ffwrdd â ni felly, thua Penmon, a chael hyd i le bach da imi gael dysgu'r Dyfed yr hyn oll a wyddwn am bysgota. Wedi lwyddo dysgu iddo gastio'i wialen (oedd yn ddigon pell mewn i fedru dal crancod, o leiaf), deuchreuon ni ar y pysgota go iawn. Buan iawn y bu inni sylweddoli bod yna ddigon o bysgod yno, ond y rhai bach 'na sy methu llowcio bachyn ond yn medru'n iawn cnoi'r abwyd. Felly aethon ni i Fiwmares ar y pier.

Wedi dioddef llwyth o bobl yn gofyn 'ydach chi wedi dal rhywbeth?' dechreuon ni golli ychydig o fynadd. Er, mi lwyddais ddal pysgodyn, o leiaf;


Oeddwn i braidd yn anhapus gyda'r bachiad felly mi benderfynais i ddefnyddio'r bach fel abwyd (ac o fuan fe'i rhwygrwyd gan eraill bysgod y môr), a hwythau'n dianc fy machyn, ond mi oedd o'n ddiawl o lot well na be ddaliodd Dyfed ...


sydd, hyd yn oed ar eich cyntaf drip bysgota, ddim yn drawiadol iawn. Fodd bynnag, yn flinedig ac yn siomedig llwyddon ni gyrraedd Spar Biwmares a phrynu rhywbeth i fwyta (aethon ni i'r siop Sglod a 'Sgod lleol ond roedd hwnnw wedi cau, a Biwmares oll yn ein erbyn yn dal unrhyw fath o bysgodyn call - hyd yn oed o Neptunes), oedd yn drewi o lygwns. Adra euthum yn y diwedd, yn benderfynol o rhyw ddiwrnod ddychwelyd, a dod a bri bysgodol yn ôl thua Rachub fach a Gwalchmai.

lunedì, luglio 17, 2006

Galwadau amheus

Os dach chi newydd ymuno gyda fi, lle ddiawl fuoch chi ar hyd y tair mlynedd diwethaf? Gynnoch chi lot o ddal fyny i'w wneud...

Llawn ddisgwyliaf i bawb poeri eu dirmyg arnaf, a'm cnoi gan llid cyn fy mhoeri allan drachefn, ond dw i'm angen gwybod beth mae pawb arall yn wneud. Y gyfrinach i beidio a bod yn gefnigennus ydi peidio a chymryd diddordeb ym mywydau neb arall. Dw i'n ffeindio hynny'n hawdd iawn gwneud ('sdim pwynt smalio fy mod i'n adnabod pobl diddordol. Dw i ddim. Mae fy ffrindiau i'n cynnwys ffermwyr blin, jinjyrs lu, ffrîcs drwynfawr a phobl o Bontypridd), ond dim pam y caf i fy ffonio am hanner awr wedi pedwar yn y bore ym Methesda gan bobl yn cael hwyl yn Abersoch. Ie, Dyfed y Blewfran a'r self-styled 'Fôn y Pry', yn camddweud lyrics yr Irish Rover a dweud 'reu' hyd syrffed.

Piti 'fyd. Bu imi anghofio bod Wakestock ymlaen, felly penwythnos da a gefais. Oni bai am fod yn hollol hamyrd nos Wener (mi ganais am ben cadeiriau yn Nhŷ Isaf; ia, efo crytsh) a mynd i weld Jac yn y Bocs nos Sadwrn yng Nghlwb Rygbi Bethesda a chwerthin hyd syrffed. Noson gwahanol allan, am unwaith, a bu imi fwynhau. Dw i'm yn un am y theatr, rili. A dweud y gwir, mae'n gas gennai theatr, ond mae hiwmor budur a rhegi bob amser yn codi fy nghalon.

Heddiw, dw i am wneud byrgyr imi'n hun ar y barbiciw i ginio, a threulio'r prynhawn yn diawlio'r ffycin haul. Casau'r haf.

venerdì, luglio 14, 2006

Corddi

Dw i'n casau peidio gwybod pethau. Cefais i nodyn bodyn neithiwr yn dweud MAE GEN I SBOT AR FY NHIN gan rif anghyfarwydd, ac er cyn gymaint a dw i'n meddwl mai Dyfed oedd o wn i ddim go iawn achos dw i methu ffeindio allan. Oeddwn i wedi synnu pa mor ddig oeddwn i yn methu gwybod pwy oedd y person 'ma, dw i'n siwr bu bron imi gael hartan. Mi ffonia i nhw eto heddiw a gweld. Grr.

Es i'r ysgol ddoe i weld yr hen athrawon yn Nyffryn Ogwen efo Helen, a sylwi bod Dyffryn Ogwen yr un mor wael o le ag erioed, a'r athrawon dal yn edrych yn eitha iwsles (haha, sori), yn gwneud dim ond pori blog y Kymro Kanol a brolio am ba mor hei-tec ydi'r ysgol rwan. A mae o, efo ryw projectors ar y byrddau gwyn a bobmathia. Da iawn nhw.

Mai'n unarddeg y bore a dw i'n synfyfyrio am beth wnai. Yn ddiweddar dw i'n meddwl fy mod i weld ymweld a bob un peth yn Wikipedia tua dwywaith drosodd, a gwylltio am y pethau lleiaf (fel tecsts anhysbys). Mae bod yn ty am wythnosau yn gwneud i rywun gael short ffiws a mynd yn ddig am y pethau lleiaf. Mi ymwaredaf ohoni drwy wneud bechdan beicyn mi gredaf. Hwyl!

martedì, luglio 11, 2006

Dr. Sion

Hoho oeddwn i jyst rwan yn mynd drwy fy llyfrau bras o Ysgol Dyffryn Ogs a sylweddoli pa mor gas oeddem ni oll efo'n gilydd, yn amlwg doedd gennai fawr o feddwl am Jarrod...


na Sion...


nac ychwaith dyfodol yr hen Sion druan...


Sbit imij o Gwawr, actiwli.

Hogyn o Rachub BA

Da dwi!

Son am gywilydd! Mynd o flaen miloedd o bobl (go iawn) i ysgwyd llaw yr is-ganghellor (sy'n siarad Cymraeg fel Almaenwr efo annwyd) gyda crytsh. A Dad yn gweiddi allan tra fy mod i'n llusgo ar draws y llwyfan fel malwoden ar Nytol. Mamma mia. Byth eto, diolch i Dduw. Dw i'n BA. A mae'n teimlo'n eitha normal, a diddorol clywed enwau canol rhyfedd pawb arall na wyddais cynt (Huw Peris!!!!!!)

Eniwe mi gurodd Yr Eidal Gwpan Y Byd a dyna'r peth pwysicaf. Mi wyliais i o'n hotel efo Dad, drws nesa' i ryw bobl od nad hoffais. Aros yn Holland House oedd y teulu, poni welwch-chwi, sy'n le eithaf drud, ac yn amlwg iawn nid nyni oedd yr unig rai yno yn ceisio edrych yn gyfoethog ond ddim. Oedd y rhai wrth ein hymyl yn amlwg yn bobl efo 'mbach o bres ar yr ochr, ond eto heb ronyn o urddas na diwyg iddynt.

Tasa gin i bres, byddwn i'r person mwyaf urddasol yn y byd a fydda gin i fonoglass a bwstash mawr llwyd (am rhyw reswm yn ddiweddar dw i wedi bod yn galw mwstash yn bwshtas achos ma'n swnio'n well) a thop hat. Beth bynnag, dyma'n fi'n Rachub drachefn am oes pys, felly gwell imi beidio breuddwydio gormod.

domenica, luglio 09, 2006

Mam a'i STD

Aeth Mam i Argos heddiw a chael cynnig STD. Chwarae teg, mi brynodd gamera digidol newydd i mi yn sbesial oherwydd fy mod i wedi llwyddo cael gradd, a chafodd gynnig STD gan y ddynes tu ol i'r til. Medda hi, ddynas wirion. STU port oedd o, a dyma Mam yn fy ngalw i yna i dweud os oeddwn i isho un, a na medda fi. A dyma hi'n egluro wedyn pam y bu iddi fy ngalw, achos nad oedd hi'n gwybod 'beth oedd STD', cyn mynd ymlaen i ofyn imi os oeddwn i, a gofyn i Dad (a ddywedodd "na", yn amlwg ddim callach rhwng STD ac STU port ei hun).

Reit, dw i'n mynd i Gaerdydd mewn 'chydig. Graddio 'fory. Casau'r lol graddio 'ma. Dw i'n fodlon fy mod wedi pasio a dyna ni, dw i'm yn licio'r holl seremoni sy'n mynd efo hi. Ond dyna ni, gyda Mam wedi ordro DVD ac wrth gwrs llwythi o luniau ac ati, byddaf i ar y llwyfan 'fory, efo ffwcin crytsh. Iesu maesho gras a mynadd.

venerdì, luglio 07, 2006

Meistr y Gegin

Dw i'n wych. Na, go iawn, mi dw i yn. Mae'n sgiliau coginio i yn gwella o hyd ers blynyddoedd, ac yn sicr wedi gwella ers dechrau prifysgol (o ffyc, dw i'm yn prifysgol ddim mwy nadw? God, mae amser yn mynd yn sydyn pan ti'n blogio) achos bod yn rhaid imi. Mi wnes fy hoff saig heddiw, Chille Con Carne. Hi yw'r peth gorau y medraf i ei choginio, ac unwaith eto roedd Dad a'r chwaer wrth eu boddau. Dw i'n wych hefyd ar wneud cawl, cyri a thost, ac mae wedi ei nodi sawl gwaith gan sawl un amrywiol fod fy nhatws mash ymysg y tatws mash gorau a geir. Ia, go wir.

Felly oeddwn i'n meddwl i fy hun yn y gegin, wrth wrando ar amrywiol ganeuon y llapllop (sy'n cynnwys bob math o gerddoriaeth amrywiol, o Dafydd Iwan i Beethoven i Kentucky AFC ac i 'Mama Get The Hammer There's A Fly On Papa's Head'), faint ydw i wedi newid ers prifysgol? Wedi'r cyfan, dechreuais flogio dros dair mlynedd yn ol bellach, a cofnod o fy amser yn y brifysgol ydi hi, a dweud y gwir. Ond dw i wedi newid, rhywfaint:

  • Mae fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well o lawer. Sydd fawr o sioc o ystyried mai Cymraeg y bues i'n ei hastudio ('bues', marw isho dweud 'yn astudio'!)
  • Dw i'n dewach. Tua tair ston yn dewach.
  • Mae gennai sbecdols, a dw i'n edrych yn geeky (os nad yn oleuedig)
  • Am rhyw reswm, dw i'n meddwl fy mod i'n fyrrach.
  • Dw i'n hoffi lagyr. D'on i ddim cyn mynd i brifysgol.
  • Cyn mynd i Gaerdydd oeddwn i'n feirniaid gwael iawn o gymeriad. Erbyn hyn dw i'n llawer craffach (o bosib oherwydd fy sbecdols o dair diwrnod)
  • Dw i'n ynganu 'Carling' fel 'Cahlehn' pan dw i'n siarad Susnaeg
  • Mae'n Susnaeg ysgrifenedig a llafar yn waeth, ac a dweud y gwir dw i'n meddwl bod fy Nghymraeg llafar yn waeth hefyd
  • Dw i dal ddim yn gwybod be 'di ansoddair (dydi hynny ddim yn newid, nacdi?)

Felly dyna ni. Dw i wedi datblygu i fod yn hen lanc od iawn ar y cyfan. Hir oes i mi, uda i.

giovedì, luglio 06, 2006

Symud Ymlaen

Mae pethau'n symud ymlaen gyda fi. Dw i wedi cael Scan MRI ac wedyn heddiw dw i'n mynd i nol fy sbecdols o Fangor. Jason pegleg sbeccy four-eyes go iawn y byddaf. Er, fe fydd hi'n neis medru darllen yn gall unwaith eto. Mae'n rhaid imi ddefnyddio'r sbecdols i ddarllen, gwylio'r teledu a mynd ar y cyfrifiadur. Sydd, ar y funud, drwy'r dydd oni bai am pryd dw i'n cysgu.

Echnos roeddwn i'n Bodedern, am y tro cyntaf ers talwm, yn gwylio gem Yr Eidal a'r Almaen. Kinch rhoddodd wadd imi yno, fynta'n gefnogwr brwd o'r Almaen, a minnau o'r Eidal. Felly dyma ni'n dau yno'n gwylio'r gem, fi yn gwisgo crys yr Eidal a fynta'n ei grys Almaen, yn edrych fel bo Hitler a Mussolini wedi mynd am beint gyda'i gilydd. Dim ots rili, achos Yr Eidal oedd y gora. Ha!

Reit, dw i'm wedi cael brecwast felly mi af i wneud hynny. Dim mwy i adrodd ddim mwy, dachi'n gweld.

martedì, luglio 04, 2006

Henoed

Nefoedd mae pethau''n anodd arnaf. Dw i'n gwybod sut mae hen bobl yn teimlo rwan. Ers dyddiau maith, ac wythnosau, wrth gwrs, yr unig beth alla' i wneud ydi mynd ar y cyfrifiadur, wedyn ar y llapllap, wedyn gwylio fideo dwi'm isho gwylio (gwyliais i James and the Giant Peach diwrnod o'r blaen am awr a hanner. Roedd y llun yn rhy dywyll ond doeddwn i methu ffiguro allan sut i'w newid) cyn mynd i'r ardd i edrych ar bethau. A dydi shed a gwair fawr o'm byd i edrych arnynt.

Y peth waethaf ydi fod fy ymennydd yn dechrau pydru'n ara' deg. Dw i heb ysgrifennu cerdd ers misoedd, a mae pob ysbrydoliaeth wedi mynd. Fydda i'n hoffi 'sgwennu cerddi (yn Gymraeg, wrth gwrs, mae cerddi Susnag yn od. Dydi iaith y Sais ddim yn iaith farddonol) ond dyna ni. Dw i'm yn berson sylwgar iawn. Clwyddau, actiwli. Dw i'n sylweddoli yn y pethau drwg o hyd; dyna mae pawb yn ei ddweud. Chi'n gwybod, dw i'n cofio rhyw hogan yn gofyn imi o'r blaen (dw i'm yn cofio pwy) os oedd hi'n edrych fel sguthan 'di gwisgo fel oedd hi. Wel wyt, atebais innau'n onast, a dyma hi'n pwdu efo fi. Ydi o mor ddrwg dweud y gwir fel mai?

Y gwir fel mai ar y funud: dw i'n ddiflas ac wedi blino o hyd, ac yn fy ngwely cyn 10 o'r gloch bob nos (i gael 'setlo mewn'). Crunchy Nut Cornflakes a phanad gyda'r bore. Syllu ar bethau drwy'r dydd. MRI scan 'fory, edrych 'mlaen imi gael gwneud rhywbeth arall am unwaith.

sabato, luglio 01, 2006

Mynd drot drot

Wel, herc herc eniwe. Dw i wedi dechrau mynd am dro 'rownd y bloc' er mwyn gweld pwy sy o gwmpas y lle, a chael ambell i sgwrs efo ambell i berson. Er, dw i'n cael trafferth ysgrifennu hyn. Dw i'm licio cyfaddef ond mae darllen yn anoddach ers cryn dipyn a dw i'n eitha balch rwan fy mod i'n cael sbecdolion. Os dwi'n cau fy llygad dde, fedra i ddim darllen hwn efo'r chwith. Casau llygaid chwith.

Diolch i Dduw bod gemau Cwpan y Byd wedi ailddechrau drachefn. Fel efallai y gwyddoch, Yr Eidal yw fy nhîm i, gan fod Nana'n Eidales ac am nad ydi Cymru byth mewn unrhyw gystadleuaeth fyth. Iawn, so dw i'n hanner-Sais, ond chefnoga i fyth mo Lloegr. Ych, mae gweld bob man wedi plastro efo'u fflagiau a'r teledu yn son am ddim arall wir yn troi arnaf. Dw i'n gobeithio bod Portiwgal yn curo heddiw a'i bod yn BRIFO.

C'mon Portiwgal!