mercoledì, luglio 31, 2013

Rhun ap Iorwerth a Syniadau

Ni ddylai rhywun fel fi fod efo rheswm i gwyno am hyn y dweud y gwir, ond fedra i ddim ond â gwneud. Wedi’r cyfan, dwi wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ddwywaith yn y gorffennol a dwi ond yn 28 oed – y gwir ydi, wrth fynd yn hŷn dwi wedi sylwi nad ydi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn fy siwtio i. A dwi ddim yn meddwl, waeth beth fo daliadau gwleidyddol rhywun na chryfder y daliadau hynny, fod bod yn rhan o blaid wleidyddol i bawb. Digon teg, yn de?
 
Er bod lle i ddadlau ym mhob plaid wleidyddol werth ei halen, mae egwyddorion craidd y dylid cytuno arnynt. Ym Mhlaid Cymru, dyrchafu’r iaith ac annibyniaeth ydi’r ddau beth hynny. Dyna dwi'n ei feddwl eniwe. Dwi’n cytuno â’r rheiny o waelod calon, ond wedi amgyffred yn y gorffennol diffyg ewyllys ynghylch yr iaith ar adegau o du’r arweinyddiaeth. Rhyw deimlo oeddwn hefyd nad ydi’r drws yn agored ym Mhlaid Cymru i bobl sydd ar y dde wleidyddol. Tydw i ddim yn llwyr. O ran daliadau economaidd galla i bron â bod yn gomiwnydd, ond ar faterion cymdeithasol dwi’n geidwadwr mawr. Ddim at y graddau fy mod i isio saethu hipis ... dim ond rhoi slap iddynt a dwyn eu wîd.
 
Ond dydw i ddim isio trafod gwendidau na rhinweddau’r Blaid yma. Achos, yn y pen draw, 90% o’r amser mewn unrhyw etholiad, ymgeisydd y Blaid ydi’r un dwi isio iddo ennill. Ddim bob un tro, ond y mwyafrif llethol o weithiau.
 
A gan hynny, wrth gwrs mai Rhun ap Iorwerth ydw i’n ei gefnogi yn Ynys Môn, er nad oes gen i bleidlais. Roeddwn i’n un o’r rhai a amheuai’r sibrydion amdano’n ymgeisio, ond roeddwn i’n falch o glywed y byddai’n sefyll, ac ar ôl ei glywed ers hynny does dim amheuaeth ei fod yn ymgeisydd delfrydol i’r etholaeth honno.  Ac yn ymgeisydd cryf. A, rhaid dweud, y math o ymgeisydd y dylai unrhyw blaid wleidyddol fod yn falch o’i gael. Y mae unrhyw un sy’n rhoi i’r naill ochr yrfa lwyddiannus – a chymharol hawdd, sori cyfryngis! – am yr hyn a dybiaf sy’n swydd anodd, ddiddiolch yn aml, ac am dâl llai mi dybiaf, yn union y math o berson y dylem eu croesawu yn y byd gwleidyddol. Ac mae Rhun ap Iorwerth y math o (ddarpar!) wleidydd sydd ei angen ar Blaid Cymru. Dim dowt. Dim dowt.
 
Y mae’r isetholiad hwn hefyd yn un pwysig tu hwnt – rhywbeth nad oes neb wedi rhoi dyledus sylw iddo. Mae’n penderfynu a gaiff Llafur fwyafrif yn y Cynulliad ai peidio. Mae’n brawf mawr o gymaint y mae’r gwynt yn hwyliau Plaid Cymru hefyd. Mae’n brawf i arweinyddiaeth Leanne Wood. Y mae hefyd, i raddau llai, yn brawf i’r Ceidwadwyr ac UKIP ac yn gipolwg (bach iawn) ar sut y gallai’r frwydr honno ddatblygu. Dyma isetholiad pwysig iawn.
 
 minnau felly ddim yn aelod o unrhyw blaid, gallaf wneud rhywbeth dwi’n licio’i wneud, sef mynegi fy marn yn rhydd, a chynnig safbwynt diduedd hefyd. Ga’i ganmol a beirniadu fel y mynnaf. Os ydych chi’n aelod o blaid wleidyddol, fodd bynnag, rhaid i chi fod yn fwy disgybledig.
 
Felly fel chi mi dybiaf, dwi’n anghrediniol o sut mae blog Syniadau wedi ymateb i ymgyrch Rhun ap Iorwerth dros yr wythnosau diwethaf. Dechreuodd drwy bwdu, yna dilorni, cyhuddo ymgeisydd ei blaid ei huno gelwydda ac, yn goron ar y cyfan, mae’n dweud heddiw y byddai’n drychineb pe câi ei ethol. Tydw i ddim erioed yn cofio aelod o blaid wleidyddol yn mynd ati’n gwbl fwriadol, mewn etholiad mor hanfodol bwysig â hwn, i danseilio’r ymgeisydd sy’n sefyll dros ei blaid ar bob cyfle posibl. Dim jyst unrhyw aelod ydi o chwaith, cyn belled ag y mae aelodau Plaid Cymru nas etholir yn y cwestiwn, does fawr amlycach dybiwn i. O ystyried y feirniadaeth lu y mae Syniadau wedi’i chynnig ar Dafydd Êl a’i ddiffyg disgyblaeth, y mae’n rhagrith o’r radd flaenaf.
 
A hyn i gyd dros un mater – Wylfa B – gwendid canfyddedig Plaid Cymru yn yr etholiad hwn y mae Llafur wedi bod yn pigo arno dro ar ôl tro. Pe na bai gan y Blaid ymgeisydd cystal, sydd wedi cyfleu ei weledigaeth yn glir ac yn onest, gallai Llafur fod wedi cael llawer iawn o sbort efo hyn. Yn lwcus, achos cryfder yr ymgeisydd hwnnw, mae’n ymddangos nad ydi Llafur wedi gwneud hynny. Yn wir, y mwyaf y maen nhw wedi sylwi na allan nhw danseilio ymgyrch y Blaid na Rhun ap Iorwerth drwy sôn am Wylfa B, y lleiaf y maen nhw wedi’i drafod.
 
Ond dyna ni, pam ceisio’i danseilio tra bod rhywun yn ei blaid ei hun yn gwneud hynny, gan ennyn sylw’r Western Mail a nifer ar Twitter yn y broses? Yn fy marn i, mae ymddygiad Syniadau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn warthus. Ychydig wythnosau y mae wedi’i gymryd imi fynd o fwynhau’r blog (er anghytuno ag o ar nifer o bynciau), i feddwl ei fod yn chwerthinllyd, yn blentynnaidd ac yn bwdlyd. Dwi'n eithaf sicr nad fi ydi'r unig un sydd wedi digio i'r diawl â fo.

A hefyd, mae’n sarhaus o’r ymdrech enfawr mae cynifer o aelodau’r Blaid – ac mi dybiaf rai pobl nad ydynt yn aelodau – wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf i gefnogi ymgyrch y Blaid i gadw’r sedd. Y mae geiriau Syniadau gystal ymosodiad ar waith caled pob un wan jac ohonynt ag ydyw ar yr ymgeisydd ei hun.
 
Ta waeth...
 
Er fy mod i’n eithaf siŵr na fydd Rhun ei hun yn darllen, hoffwn ar lefel bersonol ddymuno pob hwyl iddo at yfory. Fo ydi’r ymgeisydd gorau i Fôn, ynys sy’n agos at fy nghalon innau hefyd. Bydd yn Aelod Cynulliad penigamp ac yn gynrychiolydd gwych i Sir Fôn – pobl Môn, nid Syniadau, a brofir yn iawn drwy ei ethol yfory.

 

lunedì, luglio 29, 2013

Cerddoriaeth a Dirmyg

Tydw i ddim yn gigydd – hynny yw, rhywun sy’n licio mynd i gigiau, yn hytrach na’r bobol trin anifeiliaid celain. Meindiwn i ddim fod yn gigydd o’r math hwnnw achos dwi’n rêl boi am gig, ac yn eithriadol ddrwgdybus o lysieuwyr. Be ydi’i gêm nhw dŵad?

Ond yn gyffredinol welwch chi mohonof mewn gig.  Er, dibynna hynny ar y math o gig sy dan sylw. Os oes ‘na ddigon o le mae’n bosib y byddaf o gwmpas. Ro’n i yng Ngŵyl Gardd Goll ddoe, ac mae hynny’n iawn imi achos ga’i nôl ‘y nghwrw a sgwrsio efo fy ffrindiau heb amharu ar neb ond amdanyn nhw. Allwch chi ddim gwneud hynny mewn llawer o gigiau bychain achos disgwylir bryd hynny i rywun roi gwrandawiad. Ydw, dwi’n un o’r rheiny y mae pawb yn gwgu arno mewn gig fach achos dwi’n cymdeithasu yn hytrach na gwrando. A phan fydda i wedi cael peint does neb na siarada i â nhw. Felly tueddu i gadw draw o’r gigiau hynny ydw i.

Yn bersonol, dwi byth wedi deall yr holl ‘mynd i gig i wrando’ thing. I mi, mae bandiau bob amser yn swnio’n well ar gryno-ddisg beth bynnag, a gwell gennai dalu tenar am CD y galla i ei chwarae dro ar ôl tro na mynd i weld rhywun yn canu oddi ar lwyfan ac wedyn gorfod talu am gwrw eniwe.

Oce, mae ‘na eithriadau. Cyn belled ag y mae gigiau Cymraeg yn y cwestiwn chewch chi ddim gwell na gig Bryn Fôn. Mae’r rheiny’n hwyl ar y diawl – mae pawb yn racs jibidêrs a phawb yn cydganu rhai o’n caneuon mwyaf poblogaidd, a fawr ddim ohonyn nhw’n ‘bobol miwsig’. Wyddoch chi y teip hwnnw sy’n mynd i gigiau bob munud. Gwallt cyrliog, sbectol sgwâr, chinos (o mam fach dwi’n casáu blydi chinos), pobl y gwnâi pythefnos yn hel defaid fyd o les iddynt. Meddaf i yn gyfieithydd i gyd...

Tydw i’m isio bod yn rhy ddirmygus cofiwch, dwi’n licio cerddoriaeth yn fawr iawn hefyd. Does ‘na ddim llawer o gigiau dwi wedi bod iddynt nad ydw i wedi’u mwynhau mewn difrif – Meic Stevens yn methu cofio ei eiriau yn Clwb rywbryd oedd y gwaethaf mae’n siŵr. Dyna oedd gwastraff pres. Ond dyna ni, hanner yr hwyl efo gig Meic Stevens ydi ceisio dyfalu pa mor chwil fydd o wrth gyrraedd.

Gan hynny dwi yn licio fy ngherddoriaeth Gymraeg. Mae ‘na lot o fandiau ac unigolion dwi’n eu hoffi – y mae'r casgliad CD’s sy’n y car yn eithaf rhyfeddod i rai pobl, gan amrywio o’r Ods i Hogia’r Wyddfa. Ac wrth gwrs Celt. Byddai peidio â chael CD Celt yn y car, a dŵad o Rachub, yn bechod marwol.

Ond dwi’n meddwl y band Cymraeg imi ei fwynhau fwyaf dros y blynyddoedd diwethaf ydi Gwibdaith Hen Frân. Mi brynais eu cryno-ddisg newydd heddiw a gyrru o amgylch Pen Llŷn yn gwrando arni (gan fynd ar goll am tua awr, fyddwn i’m llai coll ‘tawn i’n Japan i fod yn onest). Wn i ddim a ydi’r gymhariaeth wedi’i gwneud o’r blaen ond mae Gwibdaith yn debyg iawn, iawn i Hogia Llandegai – fersiwn gyfoes ydyn nhw. Fydda i ddim yn gallu stopio gwenu yn gwrando ar Gwibdaith.  Dwi’n siŵr i rai o bobl Pen Llŷn gael eithaf sioc fy ngweld i’n gwenu achos does gen i mo’r wên ddeliaf yn y byd. Mae’n edrych braidd fel bod rhywun ‘di selotêpio banana i’m hwyneb.

Fydda i’n fwy tebygol o fynd i gig tra dwi’n Gogs ‘fyd yn hytrach na Chaerdydd. Er gwaethaf ei rhinweddau, ac mae llawer iawn ohonynt, mae gan Gaerdydd wendidau mawr. Y peth dwi ddim yn ei licio am y brifddinas ydi nad ydw i’n nabod fawr neb sy heb swydd bonslyd. Celfyddydau, cyfryngau, cyfieithu, addysgu, Llywodraeth ... mae ‘na rywbeth annormal iawn am Gymry Cymraeg y ddinas, maent yn perthyn i’w byd bach eu hunain. ‘Ffug’ ydi’r disgrifiad casaf dwi wedi’i glywed am i’w disgrifio, er rhaid imi ddweud byddwn i ddim yn anghytuno. Ydi, mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio 'cael eu gweld' a chael eu nabod. Pe byddwn yn fentrus mi awgrymwn eu bod yn lleiafrif swnllyd a hunanbwysig sy'n gwneud fawr ddim lles i ddelwedd yr iaith. Ond gwell imi beidio bod mor fentrus â hynny. I fod yn deg, byddai hynny'n orgyffredinoli mawr.

Rhaid dweud, y mae rhaniad mawr, eithaf chwerw ar adegau, rhwng y Cymry Cymraeg dinesig – Caerdydd yn benodol – a’r Cymry Cymraeg cefn gwlad. Fel Cymro Cymraeg cefn gwlad (hynny ydi, o’r gogledd neu’r gorllewin yn hytrach na ‘chefn gwlad’ yn ei wir ystyr) sy’n byw yn y ddinas dwi wedi gweld dwy ochr y peth. Mae’r dirmyg sy gan y ddwy garfan at ei gilydd yn eithaf dwfn.

Ond wyddoch, maen nhw’n gwisgo chinos yn y ddinas. A tydi hynny, ym mha gyd-destun bynnag, jyst ddim yn iawn.

venerdì, luglio 26, 2013

Rhwng y Fynwent a'r Capel

Ddoe, dysgwyd bod pawb ym Mynwent Coetmor wedi marw. Nid dyma’r achos bob tro. Pan fydda i yno, mi fydda i’n fyw. Un diwrnod mae’n bur debyg y bydda i’n farw yno, ond wrth imi ysgrifennu’r blog hwn dwi dal yn fyw. Neu efallai wedi marw a mynd i’r Rachub fawr yn yr awyr. Anodd dweud weithiau.
 
Ond mi af ambell waith i Fynwent Coetmor. Y mae’r llu beddi yno’n fy nhristau. Cynifer o bobl, a chyn lleied o ddagrau’n weddill iddynt. Does neb mwyach i alaru am y rhan fwyaf ohonynt. Pobl dda, pobl ddrwg – y mae hanes ym mhob beddrod, na ŵyr amdano’n awr. Hyd yn oed pe priodwn i a chreu Hogiau a Genod bach o Rachub, fydd neb i alaru amdana innau ychwaith ar ôl pwynt penodol.
 
Y rheswm yr af i Fynwent Coetmor ydi i weld Taid. Rŵan, mi ddylwn ddweud ar y pwynt hwn nad adnabûm ‘nhaid yn iawn o gwbl. A dweud y gwir defnyddiais ei farwolaeth fel esgus i beidio â mynd i’r ysgol y diwrnod wedyn am fod gen i wers ymarfer corff - a doedd dim ar ddaear nad a ddefnyddiwn fel esgus i osgoi’r rheiny. Ond mae rhywun yn teimlo rheidrwydd weithiau i weld pobl, yn enwedig pan fônt yn y gro. Does unman imi fynd i weld Anti Blodwen neu Nanna - aethon nhw i’r pedwar gwynt ar wasgar, er y bydd rhywun yn cofio amdanynt, ac yn ymwybodol ohonynt, o dro i dro.
 
Tydw i ddim yn anffyddiwr, dachi’n gweld. Y mae anffyddiaeth yn rhy syml a dideimlad imi. Does fawr ddim sy’n ein rhwygo o’n dynoliaeth gynhenid na’r rhesymeg oeraidd, hyll a gynigia.
 
Felly gan hynny mi ddywedaf fy mhader bob nos – fy nghyfrinach fawr, os mynnwch – ac mi af i feddwl a sgwrsio â’r bod mawr weithiau, sy’n gysur dieithriad, a gobeithio bod Anti Blodwen a Nanna a hyd yn oed Taid (y lleiaf tebygol o’r tri i fod fyny grisiau mentrwn ddweud) yn olreit.
 
Y broblem efo Taid ydi, wel, mi fydda i’n dweud  fy mod i’n mynd i’w weld ond tydw i heb ers blynyddoedd. Fedra i fyth ffeindio’r bedd, a tydi o ddim isio imi wneud – un felly oedd o. Cofiaf yn iawn o’i gynhebrwng, na fynychais, y ‘stori’; roedd yn ddiwrnod llonydd ac wrth ei roi i’r pridd bu hyrddiad mawr o wynt, a dywedodd pawb ar unwaith ‘Wil oedd hwnna’n deutha ni gyd bygyr off’.  
 
Stori ‘pobol y pentra’ os bu un erioed. Os bydd ‘y pentra’ yn dweud rhywbeth, gwae’r rhai na wrandawant. A thrwy hynny mae pentrefi’r gogledd (a phob cyffelyb bentref am wn i) yn magu rhyw deimlad o berthyn a phlwyfoldeb.
 
Un noson yn y Siôr, cyfarfûm â ffrind ysgol fach nad oeddwn wedi’i gweld ers rhai blynyddoedd, na wnaf i mo’i henwi yma er fy mod i’n gwbl siŵr nad ydi hi’n gwybod beth ydi blog heb sôn am ddarllen yr un gora yn y byd. Fel sy’n rhaid, trafod yr hen ddyddiau oedden ni yn ‘rysgol fach - fydda i, yn wahanol i lot o bobl, yn licio hel atgofion o’r fath, tydw i ddim yn ei weld fel conversation filler, mae’n rhywbeth naturiol a hwyl i’w siarad amdano - ac, wrth gwrs, pa mor bril ydi pobl Rachub.
 
Mi symudodd hi i Gerlan ychydig fisoedd ynghynt, a’i chariad wedi dweud wrthi mae’n siŵr ei bod hi’n falch o fod wedi symud o’r Bronx (Rachub, yn eithaf di-os, ydi Bronx Dyffryn Ogwen – er gwybodaeth y mae hefyd Beverly Hills swyddogol i’w gael, ond yn Nhregarth mae hwnnw). Ac er mai adrodd stori oedd hi, daeth ‘na fflach i’w llygada a thinc anghrediniol i’w llais. Dwi’n adnabod y cyfuniad yn berffaith glir. Dyma ymateb pobl Rachub at rywun sy’n meiddio sarhau Rachub. Ond roedd ei hymateb i’r hyn a ddywedodd ei chariad, yn ei geiriau hi, wedi fy llonni’n rhyfeddol.
 
Ddywedish i wrtho fo, “Ti’n galw ffycin Rachub yn Bronx? Sgynno chi’m hyd yn oed capal yng Ngerlan ... mae gynnon ni DRI!”
 
Felly chwi gofiwch, os ydych chi am geisio dilorni Rachub i un o’r trigolion, peidiwch â gwneud:
 
1.     Onid ydych chi’n barod i gael cweir; neu
2.     Onid ydych chi’n dod o rywle sydd ag o leiaf bedwar capel yno

giovedì, luglio 25, 2013

Perthyn

Un o hoff jôcs pobol Rachub ydi (yr anfarwol Rachubiaid) “Faint o bobl sy ‘di marw ym mynwent Coetmor? Nhw gyd!”. Pobl ddoniol ydym ni, wyddoch.

Wn i ddim a ydw i wedi mynegi’n llawn hyn dros y degawd diwethaf (iep – mae ‘na neiniau ym Maesgeirchen sy’n iau na’r blog hwn – dwi ‘di bod o gwmpas yn llawer rhy hir), ond dwi’n caru Rachub. A dyma pam fy mod i yn Rachub ar hyn o bryd. Fel rheol, tydw i ddim yn licio pobl sy’n disgrifio’u hunain fel ‘mental’ - fel arfer dyma Saeson acen posh sy’n mynd ar bybcrol golffio ac yn yfed dau beint a shot o sambwca cyn chwydu a mynd adref a meddwl mai dyna noson dda – ond mi ydw i’n mental. Y mae’n bosib mai fi ydi’r unig berson yn hanes y byd, o Rachub, sydd wedi cymryd tair wythnos o wyliau i ffwrdd o’r gwaith, tair wythnos, er mwyn bod yn Rachub. Y mae rhywbeth difrifol am hyn.

Bydd y craffaf yn eich plith yn sylweddoli mai ond pan fydda i adref y bydda i’n ysgrifennu blogiadau fel hwn – anwleidyddol, dibwynt a di-strwythur. Ac mae hynny’n beth rhyfedd. Mae hyn yn digwydd bob tro y bydda i adra. Y mae rhywbeth yn y dŵr sy’n gwneud imi fod isio ‘sgwennu. Tydw i ddim yn gallu gwneud hynny yng Nghaerdydd – dwi byth wedi medru gwneud. Tydw i’m yn gwybod p’un ai Caerdydd sydd ar fai am beidio â’m hysbrydoli, rhaid imi gyfaddef tydw i byth wedi cael unrhyw ysbrydoliaeth o Gaerdydd. Cyn imi ddianc i’r brifysgol yn oes yr arth a’r blaidd yn y dyddiau cyn i Facebook droi pawb yn stelciwr, arferwn ysgrifennu’n aml. Cerddi, straeon byrion – you name it oedd Jês wedi’i ‘sgwennu. Ro’n i’n licio ysgrifennu cerddi yn fawr iawn, er fy mod i’n llawn ymwybodol o ba mor uffernol oedden nhw. ‘Sdim rhyfedd imi ddod yn olaf yn fy modiwl ‘Sgwennu Creadigol.

Os dachi’n crap ar farddoni, mi ddysgais, tydi prynu Odliadur ddim yn fuddsoddiad da.

Ond mae ‘na nofel ynof. Mae ‘na ddigonedd o straeon byrion ynof hefyd. Efallai cerdd gall ryw ddydd, pan fydd y mynyddoedd eto’n dywodfaen. Ond fedra i ddim mo’u hysgrifennu yng Nghaerdydd. A fedra i ddim dallt pam. Y funud esi i brifysgol mi stopiodd yr ysgrifennu. Rywsut, doedd gen i ddim byd i ‘sgwennu amdano.

Ers rhai blynyddoedd, fe ŵyr rhai ohonoch, dwi wedi bwriadu dod nôl i fyw i’r Gogledd. Am amryw resymau, sy ddim o’ch busnes chi, dydi’r big mŵf heb ddigwydd eto. Ond mi fydd. Ac ers rhai blynyddoedd deuthum yn ymwybodol o rywbeth yn y gwynt ar y ffrynt honno.

Dachi’n gweld, mae bod adref a bod yng Nghaerdydd yn teimlo’n wahanol. Tydw i ddim yn sôn am y cyferbyniad llwyr rhwng gwyrdd a llwyd, Cymraeg a Saesneg, gwirionedd cynhenid cefn gwlad a ffalsrwydd arwynebol y ddinas (wedi degawd o fyw mewn dinas fedra i dal ddim atal fy hun rhag meddwl mai pobl cefn gwlad sydd ora ym mhob agwedd ar bob dim erioed, a bod pobl y ddinas jyst ddim yn ei “dallt” hi ... ac os dachi ddim yn dallt be dwi’n ei feddwl wrth hynna, dachi o’r ddinas). Na, ddim sôn am y cyfryw bethau ydw i ond y teimlad ‘na.

Mi gymrodd, yn llythrennol, flynyddoedd imi amgyffred yn union yr hyn a deimlais. P’un ai’n cerdded o amgylch y lle yn sbïo ar yr adar neu’n prynu fodca a Llais Ogwan o Londis roedd y teimlad yno. Mae o arna i rŵan yn fy ystafell wely yn Nhyddyn Canol, ond nid yn Stryd Machen. Mae o i’w gael yn y Siôr, ond nid yn y Cornwall.

Perthyn ydi’r teimlad. Ac mae perthyn yn beth cynhenid, anesboniadwy y mae pob dyn yn erfyn amdano. A phan deimlo rhywun berthyn mi deimlo’n gyflawn. Ac felly dwi’n ei deimlo yn Rachub fach. A dyma pam dwi’n blogio. A dyma pam y bydd ‘na nofel ryw ddydd (rhag ofn i chi fy ngweld mewn ugain mlynedd a dweud “ble mae’r nofel ‘ma ta?” dyma ymwadiad - ddywedish i ‘rioed y câi ei chyhoeddi). A digon o straeon byrion. Ac efallai ambell gerdd.

 

Pentref digyffelyb
            ydyw Rachub,
Mae’n well na Thregarth -
            y mae hwnnw’n warth.

 
Oce – dim cerddi. Dwi’n addo.