Wn i ddim a ydw i wedi mynegi’n llawn hyn dros y degawd
diwethaf (iep – mae ‘na neiniau ym Maesgeirchen sy’n iau na’r blog hwn – dwi ‘di
bod o gwmpas yn llawer rhy hir), ond dwi’n caru Rachub. A dyma pam fy mod i yn
Rachub ar hyn o bryd. Fel rheol, tydw i ddim yn licio pobl sy’n disgrifio’u
hunain fel ‘mental’ - fel arfer dyma Saeson acen posh sy’n mynd ar bybcrol
golffio ac yn yfed dau beint a shot o sambwca cyn chwydu a mynd adref a meddwl
mai dyna noson dda – ond mi ydw i’n mental. Y mae’n bosib mai fi ydi’r unig
berson yn hanes y byd, o Rachub, sydd wedi cymryd tair wythnos o wyliau i
ffwrdd o’r gwaith, tair wythnos, er
mwyn bod yn Rachub. Y mae rhywbeth difrifol am hyn.
Bydd y craffaf yn eich plith yn sylweddoli mai ond pan
fydda i adref y bydda i’n ysgrifennu blogiadau fel hwn – anwleidyddol, dibwynt
a di-strwythur. Ac mae hynny’n beth rhyfedd. Mae hyn yn digwydd bob tro y bydda
i adra. Y mae rhywbeth yn y dŵr sy’n gwneud imi fod isio ‘sgwennu. Tydw i ddim
yn gallu gwneud hynny yng Nghaerdydd – dwi byth wedi medru gwneud. Tydw i’m yn
gwybod p’un ai Caerdydd sydd ar fai am beidio â’m hysbrydoli, rhaid imi
gyfaddef tydw i byth wedi cael unrhyw ysbrydoliaeth o Gaerdydd. Cyn imi ddianc
i’r brifysgol yn oes yr arth a’r blaidd yn y dyddiau cyn i Facebook droi pawb
yn stelciwr, arferwn ysgrifennu’n aml. Cerddi, straeon byrion – you name it oedd Jês wedi’i ‘sgwennu. Ro’n
i’n licio ysgrifennu cerddi yn fawr iawn, er fy mod i’n llawn ymwybodol o ba
mor uffernol oedden nhw. ‘Sdim rhyfedd imi ddod yn olaf yn fy modiwl ‘Sgwennu
Creadigol.
Os dachi’n crap ar farddoni, mi ddysgais, tydi prynu
Odliadur ddim yn fuddsoddiad da.
Ond mae ‘na nofel ynof. Mae ‘na ddigonedd o straeon byrion ynof hefyd. Efallai cerdd gall ryw ddydd, pan fydd y mynyddoedd eto’n dywodfaen. Ond fedra i ddim mo’u hysgrifennu yng Nghaerdydd. A fedra i ddim dallt pam. Y funud esi i brifysgol mi stopiodd yr ysgrifennu. Rywsut, doedd gen i ddim byd i ‘sgwennu amdano.
Ers rhai blynyddoedd, fe ŵyr rhai ohonoch, dwi wedi
bwriadu dod nôl i fyw i’r Gogledd. Am amryw resymau, sy ddim o’ch busnes chi,
dydi’r big mŵf heb ddigwydd eto. Ond mi fydd. Ac ers rhai blynyddoedd deuthum
yn ymwybodol o rywbeth yn y gwynt ar y ffrynt honno.
Dachi’n gweld, mae bod adref a bod yng Nghaerdydd yn
teimlo’n wahanol. Tydw i ddim yn sôn am y cyferbyniad llwyr rhwng gwyrdd a
llwyd, Cymraeg a Saesneg, gwirionedd cynhenid cefn gwlad a ffalsrwydd arwynebol
y ddinas (wedi degawd o fyw mewn dinas fedra i dal ddim atal fy hun rhag meddwl
mai pobl cefn gwlad sydd ora ym mhob agwedd ar bob dim erioed, a bod pobl y
ddinas jyst ddim yn ei “dallt” hi ... ac os dachi ddim yn dallt be dwi’n ei
feddwl wrth hynna, dachi o’r ddinas). Na, ddim sôn am y cyfryw bethau ydw i ond
y teimlad ‘na.
Mi gymrodd, yn llythrennol, flynyddoedd imi amgyffred yn
union yr hyn a deimlais. P’un ai’n cerdded o amgylch y lle yn sbïo ar yr adar
neu’n prynu fodca a Llais Ogwan o Londis roedd y teimlad yno. Mae o arna i rŵan
yn fy ystafell wely yn Nhyddyn Canol, ond nid yn Stryd Machen. Mae o i’w gael
yn y Siôr, ond nid yn y Cornwall.
Perthyn ydi’r teimlad. Ac mae perthyn yn beth cynhenid,
anesboniadwy y mae pob dyn yn erfyn amdano. A phan deimlo rhywun berthyn mi
deimlo’n gyflawn. Ac felly dwi’n ei deimlo yn Rachub fach. A dyma pam dwi’n
blogio. A dyma pam y bydd ‘na nofel ryw ddydd (rhag ofn i chi fy ngweld mewn
ugain mlynedd a dweud “ble mae’r nofel ‘ma ta?” dyma ymwadiad - ddywedish i
‘rioed y câi ei chyhoeddi). A digon o straeon byrion. Ac efallai ambell gerdd.
Pentref
digyffelyb
ydyw Rachub,Mae’n well na Thregarth -
y mae hwnnw’n warth.
1 commento:
Mi fuaswn i'n mynd â'r peth gam ymhellach drwy ddweud bod Dyffryn Ogwen yn endid cwbl ar wahân o ddim a nunlla arall wrth drafod y cysyniad o 'berthyn'. Nonsans llwyr, wrth gwrs, gan bod gan bawb ei Besda ei hun. Ond...
Dwi newydd symud yn ôl i Pesda ar ôl chwe mlynedd ('blynedd' - sodia'r blydi treigliad weird 'na) o fyw gwta ddeg milltir (deng, my arse) i ffwrdd. Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, dychwelyd oedd y nod. Mi oedd hynny'n 'given' o'r diwrnod y gadewais i. Fues i erioed am beint yn y pentre dros dro; dim ond dod yn ôl i Pesda yn rheolaidd am sesh ac aros yn nhŷ Mam a Dad cyn dychwelyd i 'nghartref a 'nheulu fy hun y bore wedyn. Mae'n cael ei fynegi'n aml gan lu o bobl Pesda (for Pesda, read 'a'i holl bentrefi satellite') - a gan bobl yn Pesda hefyd - sef bod 'na 'rwbath am Pesda'. Dwi'm yn gwbod be ydi'r rwbath hwnnw sy'n cymell hen ddynion i edrach tua'r Carneddau a chymryd anadliad ddofn, ond dwinna'n ei deimlo fo hefyd.
Posta un commento