venerdì, luglio 26, 2013

Rhwng y Fynwent a'r Capel

Ddoe, dysgwyd bod pawb ym Mynwent Coetmor wedi marw. Nid dyma’r achos bob tro. Pan fydda i yno, mi fydda i’n fyw. Un diwrnod mae’n bur debyg y bydda i’n farw yno, ond wrth imi ysgrifennu’r blog hwn dwi dal yn fyw. Neu efallai wedi marw a mynd i’r Rachub fawr yn yr awyr. Anodd dweud weithiau.
 
Ond mi af ambell waith i Fynwent Coetmor. Y mae’r llu beddi yno’n fy nhristau. Cynifer o bobl, a chyn lleied o ddagrau’n weddill iddynt. Does neb mwyach i alaru am y rhan fwyaf ohonynt. Pobl dda, pobl ddrwg – y mae hanes ym mhob beddrod, na ŵyr amdano’n awr. Hyd yn oed pe priodwn i a chreu Hogiau a Genod bach o Rachub, fydd neb i alaru amdana innau ychwaith ar ôl pwynt penodol.
 
Y rheswm yr af i Fynwent Coetmor ydi i weld Taid. Rŵan, mi ddylwn ddweud ar y pwynt hwn nad adnabûm ‘nhaid yn iawn o gwbl. A dweud y gwir defnyddiais ei farwolaeth fel esgus i beidio â mynd i’r ysgol y diwrnod wedyn am fod gen i wers ymarfer corff - a doedd dim ar ddaear nad a ddefnyddiwn fel esgus i osgoi’r rheiny. Ond mae rhywun yn teimlo rheidrwydd weithiau i weld pobl, yn enwedig pan fônt yn y gro. Does unman imi fynd i weld Anti Blodwen neu Nanna - aethon nhw i’r pedwar gwynt ar wasgar, er y bydd rhywun yn cofio amdanynt, ac yn ymwybodol ohonynt, o dro i dro.
 
Tydw i ddim yn anffyddiwr, dachi’n gweld. Y mae anffyddiaeth yn rhy syml a dideimlad imi. Does fawr ddim sy’n ein rhwygo o’n dynoliaeth gynhenid na’r rhesymeg oeraidd, hyll a gynigia.
 
Felly gan hynny mi ddywedaf fy mhader bob nos – fy nghyfrinach fawr, os mynnwch – ac mi af i feddwl a sgwrsio â’r bod mawr weithiau, sy’n gysur dieithriad, a gobeithio bod Anti Blodwen a Nanna a hyd yn oed Taid (y lleiaf tebygol o’r tri i fod fyny grisiau mentrwn ddweud) yn olreit.
 
Y broblem efo Taid ydi, wel, mi fydda i’n dweud  fy mod i’n mynd i’w weld ond tydw i heb ers blynyddoedd. Fedra i fyth ffeindio’r bedd, a tydi o ddim isio imi wneud – un felly oedd o. Cofiaf yn iawn o’i gynhebrwng, na fynychais, y ‘stori’; roedd yn ddiwrnod llonydd ac wrth ei roi i’r pridd bu hyrddiad mawr o wynt, a dywedodd pawb ar unwaith ‘Wil oedd hwnna’n deutha ni gyd bygyr off’.  
 
Stori ‘pobol y pentra’ os bu un erioed. Os bydd ‘y pentra’ yn dweud rhywbeth, gwae’r rhai na wrandawant. A thrwy hynny mae pentrefi’r gogledd (a phob cyffelyb bentref am wn i) yn magu rhyw deimlad o berthyn a phlwyfoldeb.
 
Un noson yn y Siôr, cyfarfûm â ffrind ysgol fach nad oeddwn wedi’i gweld ers rhai blynyddoedd, na wnaf i mo’i henwi yma er fy mod i’n gwbl siŵr nad ydi hi’n gwybod beth ydi blog heb sôn am ddarllen yr un gora yn y byd. Fel sy’n rhaid, trafod yr hen ddyddiau oedden ni yn ‘rysgol fach - fydda i, yn wahanol i lot o bobl, yn licio hel atgofion o’r fath, tydw i ddim yn ei weld fel conversation filler, mae’n rhywbeth naturiol a hwyl i’w siarad amdano - ac, wrth gwrs, pa mor bril ydi pobl Rachub.
 
Mi symudodd hi i Gerlan ychydig fisoedd ynghynt, a’i chariad wedi dweud wrthi mae’n siŵr ei bod hi’n falch o fod wedi symud o’r Bronx (Rachub, yn eithaf di-os, ydi Bronx Dyffryn Ogwen – er gwybodaeth y mae hefyd Beverly Hills swyddogol i’w gael, ond yn Nhregarth mae hwnnw). Ac er mai adrodd stori oedd hi, daeth ‘na fflach i’w llygada a thinc anghrediniol i’w llais. Dwi’n adnabod y cyfuniad yn berffaith glir. Dyma ymateb pobl Rachub at rywun sy’n meiddio sarhau Rachub. Ond roedd ei hymateb i’r hyn a ddywedodd ei chariad, yn ei geiriau hi, wedi fy llonni’n rhyfeddol.
 
Ddywedish i wrtho fo, “Ti’n galw ffycin Rachub yn Bronx? Sgynno chi’m hyd yn oed capal yng Ngerlan ... mae gynnon ni DRI!”
 
Felly chwi gofiwch, os ydych chi am geisio dilorni Rachub i un o’r trigolion, peidiwch â gwneud:
 
1.     Onid ydych chi’n barod i gael cweir; neu
2.     Onid ydych chi’n dod o rywle sydd ag o leiaf bedwar capel yno

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Mi wnes i hoffi darllen hwnna....

Dafydd Llewelun ha detto...

Paaid tithau a dilorni Tregarth neu mi roi dy groen di ar y pared oblegid yn Nhregarth erstalwm y maged fi. Mae gennyf atgofion melys am Dregarth fy mhlentyndod ond mae'n rhaid cyfaddef fod y lle fel pentrefi eraill yn Nyffryn Ogwen wedi newid llawer er gwaeth erbyn hyn.

Dafydd Llewelun ha detto...

http://llawrdyrnudafyddllewelyn.blogspot.co.uk/