giovedì, luglio 02, 2015

Beth sydd i faner?

Mi fûm i’n synfyfyrio am y ddadl ffyrnig sydd wedi digwydd dros y pwll mawr ynghylch baner y Taleithiau Cydffederal. Dwi’n meddwl y rheswm pam ydi bod eitha tipyn o bobl ar fy Facebook a Twitter yn ei gweld fel cam ymlaen cael gwared ohoni. Wedi’r cyfan, mae’n cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth.
 
Rhyw fath o, o leiaf. Nid y faner honno oedd baner ‘genedlaethol’ y Taleithiau Cydffederal eithr hon:
 
 
 
Felly mae yna ychydig o gamddealltwriaeth o’r faner ei hun. Yn UDA, yn dibynnu ar eich safbwynt, mae’n cynrychioli naill ai caethwasiaeth neu ryw fath o falchder rhanbarthol. Mae’n anodd braidd i unrhyw un o’r tu allan i UDA gynnig barn gall ar y mater, oherwydd does gynnon ni ddim wir deimladau dwfn yn ei chylch – byddai honni fel arall yn anonest braidd.
 
Does gen i fawr o farn ar y mater, ond yn reddfol, dwi’n rhyw feddwl y gall symbolau a ballu newid dros amser, ac felly y gall y faner gynrychioli heddiw rywbeth nas cynrychiolai mewn oes a fu; mae’n un o’r baneri hynny y gellid dadlau iddi gael ei hadhawlio o elfennau gwleidyddol mwy eithafol – wedi’r cyfan, dim ond eithafwyr asgell dde a hedfanai faner Sant Siôr mewn cof byw, ond adhawliwyd y faner honno ganddyn nhw i gynrychioli cenedl gyfoes, er dwi’n derbyn nad ydi honno’n gymhariaeth uniongyrchol.
 
Y cwestiwn ydi ymhle mae’r llinell? Os derbyniwn fod baner y Taleithiau Cydffederal o hyd yn cynrychioli hiliaeth yna mae’n deg cael gwared ohoni. Er hynny, ni fu gan bobl dduon i bob pwrpas yr un hawliau, ar bapur, â phobl wyn UDA hyd Deddf Hawliau Sifil 1964 – roedd hynny bedair blynedd ar ôl mabwysiadu’r fersiwn bresennol o’r Sêr a’r Stribedi (er mai parhad o fersiynau blaenorol ydi honno hefyd). Ydi baner UDA ei hun hefyd felly’n cynrychioli adeg o annhegwch cymdeithasol yn y wlad honno ac a ddylid ei newid?
 
Wn i ddim i fod yn onest. Ond mae’n codi cwestiynau difyr ynghylch yr hyn y mae baneri yn eu cynrychioli, a bod rhywfaint o ragrith yn perthyn i bobl yn nifer o genhedloedd Ewrop sy’n gefnogol o gael gwared ar faner y Taleithiau Cydffederal (er, fel y gwelwch o'r isod, dydi'r feirniadaeth y byddaf yn ei chynnig ddim wir yn berthnasol i fawr ddim o ddarllenwyr y blog hwn).
 
Yr hyn sydd gen i dan sylw ydi bod baneri nifer o wledydd yn Ewrop yn rhai sydd, i nifer o bobl ledled y byd, yn cynrychioli gormes, erledigaeth a thrais. Mae baner yr Undeb yn enghraifft berffaith. 
 
Dydi ymerodraethau ddim yn tyfu drwy fod yn neis. Ni fu erioed enghraifft o ymerodraeth neis. Fe’u crëir drwy ryfel, gormes a chreulondeb – does dim eithriad i hynny. Mae llawer o Brydeinwyr yn ymfalchïo yn eu baner heb ddeall yr hyn y mae’n ei golygu i gynifer o bobl eraill mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae hynny yr un mor wir am honno â tricolores Ffrainc neu Wlad Belg. Cynrychiolant ymddarostyngiad, rhaib a gwarth ar lefel y mae’n anodd ei dychmygu: a ddylid felly gael gwared ohonynt, a hwythau wedi cynrychioli rhywbeth mor ffiaidd ag imperialaeth a phopeth sydd a wnelo â hi?
 
Ym Mhrydain, rydyn ni’n eithaf anymwybodol o wir erchyllter yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hyn am i’r wladwriaeth lwyddo greu delwedd ddedwydd, waraidd ohoni (ac iddi gael ei phortreadu felly yn y cyfryngau hefyd – mae Carry on Up the Khyber yn ffilm dwi’n eitha ei licio ond mae’n enghraifft fyw o’r ddelwedd a feithrinwyd) felly hyd yn oed heddiw nid yw’r hyn a wnaeth i sathru’r gwledydd a'r bobl a orchfygasai’n hysbys iawn. Yn ‘ffodus’ i Brydain, roedd nifer o ymerodraethau a gydfodolai â’i un hi, fel rhai Ffrainc, yr Almaen, ac efallai Gwlad Belg fwyaf oll, wedi llwyddo bod yn waeth – er o drwch adain gwybedyn. Felly yn llygaid hanes fe’i gwelwyd fel ymerodraeth unigryw waraidd a theg. Delwedd gymharol efallai, ond anhaeddiannol tu hwnt.
 
Ond er yr hyn a wnaed dan y baneri hynny (nid yr Almaen; yn wahanol i wledydd eraill wynebodd yr Almaen yr hyn a wnaeth ac edifar, er o raid yn fwy nag angen, a hynny wedi ei threchu ym 1945, ymhell ar ôl diwedd ei hymerodraeth) – oll yn waeth o gryn dipyn na’r hyn a wnaeth y Taleithiau Cydffederal, ac roedd nifer o’r ymerodraethau hyn yn dal i orfodi dioddef ar bobl ymhell wedi i’r Taleithiau Cydffederal ddod i ben – ni fu erioed sôn am eu disodli.
 
Dylai Ewrop edrych arni ei hun cyn beirniadu America.
 
Efallai’r gwahaniaeth, dybiwn i y byddai rhai yn dadlau, ydi bod pobl dduon yn byw yn UDA sy’n gwybod hanes eu pobl yn y wlad honno, a bod y faner sydd yno’n gyson yn chwifio oddi uwch yn eu hatgoffa o’u dioddefaint.
 
Gall o leiaf rai ohonom yng Nghymru gydymdeimlo â hynny, dwi’n meddwl, er na ddylem haeru cymhariaeth uniongyrchol (byddai hynny’n gwbl anghywir). I mi fel Cymro Cymraeg, mae baner yr Undeb yn cynrychioli gormes. Mae’n gynrychioliad byw o syniadaeth wladwriaethol i ddileu fy hunaniaeth ddiwylliannol, ieithyddol a chenedlaethol gynhenid i; yn fwriadol ac yn faleisus. Dyna pam dwi’n teimlo rhyw ddicter distaw yn lle bynnag y gwela i’r faner honno yng Nghymru; mae’n sarhad arnaf i’n bersonol ac ar fy mhobl i. Felly mi fedraf ddeall sut mae pobl dduon yn UDA yn teimlo tuag at faner y Taleithiau Cydffederal, er ar lefel ac mewn ystyr gwahanol.
 
Ta waeth, sylwedd yr hyn dwi’n ceisio’i ddweud ydi hyn. Os gwaredu baner y Taleithiau Cydffederal, oni ddylai nifer fawr o fflagiau cenedlaethol gwladwriaethau Ewrop gael eu roi i’r naill ochr hefyd?