Visualizzazione post con etichetta ewrop. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta ewrop. Mostra tutti i post

sabato, marzo 29, 2014

Gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop

Yn Ewrop heddiw, mae pum prif wladwriaeth: y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen a’r Eidal. Ond os edrychwch yn fanylach arnynt, dim ond un ohonynt sydd mewn difrif yn cyfrif fel cenedl-wladwriaeth, sef Yr Almaen. Y mae’r Almaen, ar ryw ffurf neu’i gilydd, wedi bod yn rhan o’r un endid gwleidyddol ers dros fileniwm, gan rannu diwylliant ac iaith gyffredin, er y bu’n amryw deyrnasoedd, tywysogaethau a dinasoedd rhydd am lawer o’r amser hwnnw ar ffurf cynghrair. Am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw bu’n endid ar ffurf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond ni ddaethai’n wladwriaeth gwbl unedig tan 1918 pan draflyncwyd yr hen deyrnasoedd amrywiol a ffurfiai’r Almaen yn gyfan gwbl gan y llywodraeth ganolog. 

Rydych yn siŵr o wybod nad ydi’r Deyrnas Unedig yn genedl-wladwriaeth, nac ychwaith Sbaen, gyda phob un ag amryw bobloedd o drasau a diwylliannau gwahanol. Mae hyn hefyd yn wir am Ffrainc, er bod y wladwriaeth honno wedi bod yn fwy llwyddiannus o lawer yn ffrwyno’r hunaniaethau unigol sydd i’w cael yno.

Ond debyg nad ydi’r rhan fwyaf ohonoch yn gyfarwydd â sefyllfa’r Eidal o ran hyn, gan felly dybio mai cenedl-wladwriaeth ydi hi. Ond rydych chi’n anghywir i dybio hyn. Y mae’r Eidal yn llawn hunaniaethau lleol ac ieithoedd gwahanol, ac yn wladwriaeth ag iddi sylfeini gwantan iawn.

Yn wir, mae cenedlaetholdeb Eidalaidd yn deillio yn fwy o ystyriaethau daearyddol, sy’n deillio’n ôl i gyfnod y penrhyn Eidalaidd fel talaith Rufeinig, ac ystyriaethau gwleidyddol a chymdeithasol, nag ymdeimlad o wir undod cenedlaethol. Unwyd y penrhyn ym 1870 – ac roedd y diffyg cenedlaetholgar ym meddyliau nifer o bobl bryd hynny. Dwi’n meddwl i ŵr o’r enw Massimo d’Azeglio, a fu’n Brif Weinidog Teyrnas Sardinia – ei roi orau pan ddywedodd ‘Rydym ni wedi creu’r Eidal. Nawr, mae’n rhaid creu Eidalwyr’.

Llwyddwyd i wneud hynny i raddau. Ond ddim yn llwyr o gwbl. Mae map ieithyddol yr Eidal yn gwneud i hyd yn oed Sbaen edrych yn unffurf. Er bod pawb yn siarad Eidaleg safonol (fwy na heb) mae ‘na amrywiaeth enfawr o ieithoedd yn cael eu siarad yno, o Feniseg yn Fenis, Napolitaneg yn ardal Napoli, Sardineg yn Sardinia, Sisilianeg yn Sisili, heb sôn am bocedi o Almaeneg, Ffrangeg, Ladin a Slofeneg, ymhlith eraill. Byddai rhai yn galw rhai o’r ieithoedd hyn yn dafodieithoedd, ond coeliwch chi fi, byddai’r siaradwyr a nifer fawr o ysgolheigion, yn dadlau fel arall. Roedd fy nain bob amser yn mynnu y siaradai dair iaith: Eidaleg, Saesneg a Napolitaneg.

Ond nid yn unig y mae’r Eidal yn llawn rhaniadau ieithyddol ond mae rhai gwleidyddol mawr yno hefyd. Bosib i chi glywed am y Lega Nord, sy’n blaid ranbarthol ddadleuol sy’n ymgyrchu dros ogledd yr Eidal (yn amrywio rhwng mwy o ffederaliaeth ac annibyniaeth i Padania, sef gogledd yr Eidal) ac sy’n profi cryn lwyddiant ym mron bob etholiad. Y mae hefyd fudiadau sy’n arddel annibyniaeth i Sardinia a De Tyrol ymhlith eraill.

Y mae’r gwledydd bychain yn codi ledled Ewrop ein hoes ni. Ond cael a chael ydi hi hefyd mewn difri. Mae’r polau o hyd yn awgrymu mai lleiafrif sydd o blaid annibyniaeth yn Yr Alban, a dydyn ni ddim yn gwbl sicr i ba raddau yr aiff Sbaen i atal ei rhanbarthau rhag gwahanu oddi wrthi. Serch hynny, yn fy marn i, os ydych chi’n chwilio Ewrop am y wladwriaeth nesaf bosibl, nid at Brydain na Sbaen y dylech edrych, ond yn hytrach at Fenis y dylech droi.

Mae gan Fenis gryn hanes, y mae llawer o bobl yn gwbl anymwybodol ohono heddiw. Bu’n wladwriaeth annibynnol am dros 1,100 o flynyddoedd, ac yn rym morwrol a masnachol sylweddol am lawer o’r cyfnod hwnnw, er y daeth i ben ym 1797 pan gafodd ei goresgyn gan Napoleon. Wedi hynny’n bu’n rhan o Awstria am flynyddoedd nes dod i ddwylo Teyrnas yr Eidal ym 1866. Dydi hi fawr o syndod bod ymdeimlad cenedlaethol cryf i’w gael yno hyd heddiw.

Wrth gwrs, â hanes mor ogoneddus a hirfaith does syndod yn hynny o beth – i’w roi mewn cyd-destun, sefydlwyd Gweriniaeth Fenis o leiaf ganrif a hanner cyn i’r Alban uno’n un deyrnas, ac ond ychydig ddegawdau ar ôl sefydlu Islam. Y gwir ydi, does ‘na ddim llawer o genhedloedd yn Ewrop sy’n hŷn na Fenis.

Ond heddiw mae’r naratif cenedlaetholgar Fenetaidd cyfoes wedi datblygu, a hynny yn wahanol i’r Alban, Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandrys a hyd yn oed Cymru, yn ddistaw iawn, i’r graddau mai prin yw’r rhai sy’n ymwybodol ohono. Ond ystyriwch hyn, ym mhob arolwg barn a gynhaliwyd es tua 4 blynedd, mae mwyafrif trigolion Fenis wedi dweud eu bod o blaid annibyniaeth. Mae hynny’n fwy na Chatalwnia, ac yn sylweddol fwy na’r Alban.

Efallai i chi ddarllen stori am hyn ar y BBC yn ddiweddar. Cynhaliodd Fenis bleidlais gwlad - hynny yw refferendwm heb rwymedigaeth gyfreithiol - i weld barn y cyhoedd ar annibyniaeth. Pleidlais ar-lein oedd hi, ond credir yn gyffredinol fod y bleidlais yn agos ati o ran y farn a fynegwyd. Pleidleisiodd 89% o blaid annibyniaeth. Fawr o syndod, efallai, mewn refferendwm ar annibyniaeth a gynhaliwyd gan bobl o blaid annibyniaeth; nes i chi gael gwybod bod tua 63% o bobl Fenis wedi bwrw pleidlais ynddo.

Mae, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rwystrau i’r rhai sydd o blaid annibyniaeth. Fel yng nghyfansoddiad Sbaen, nid oes darpariaeth i ranbarthau’r Eidal wahanu o’r wladwriaeth ganolog. Ond nid oes gan yr Eidal ychwaith hanes o orthrymu’r rhanbarthau fel Sbaen, ac mae ei llywodraeth ganolog fel arfer naill ai’n wan neu’n llawn trafferthion, heb yr undod na’r penderfyniad gwleidyddol, nac yn wir synaidaeth gadarn ar undod cenedlaethol, i wir wrthsefyll ymgyrch hirhoedlog, drefnus gan un o’r rhanbarthau.

Petaech chi’n gallu betio ar hyn, ac yn ffansi bet ar wladwriaeth nesaf Ewrop, dybiwn i na fyddech ar eich colled petaech yn ei roi ar Fenis.