Does 'na ddim lot o yrfaoedd sydd ag elfen fwy personol iddynt na chyfieithu, a dydi cyfieithwyr ddim yn licio gwaith ei gilydd yn aml iawn - neu, yn hytrach, elfen gref o 'fi sy'n iawn ac fi sydd orau' ydi o. Ac mi ydan ni'n cwyno amdanom ein gilydd hefyd, o gwyno am gyfieithwyr llawrydd sydd methu â chyfieithu ond yn ennill arian gwell na rhai mewn cwmnïau, i gwmnïau sy'n argyhoeddedig mai dim ond y nhw all gyfieithu'n safonol, i gyfieithwyr y Llywodraeth a allai gyfieithu'r Cofnod cyfan yn fewnol, a llawer mwy yn gwbl ddidrafferth, petaent yn cyfieithu cymaint o eiriau y diwrnod ag unrhyw gyfieithydd arall sydd ddim yn gweithio i'r Llywodraeth...
Mae rhai yn cyfieithu'n llawer rhy llythrennol, eraill yn rhy llafar, ac eraill yn gwneud i'r pethau symlaf swnio fel dogfen gyfreithiol gymhleth. Mae eraill yn meddwl y gallan nhw gyfieithu jyst achos bod ganddyn nhw Gymraeg da, ac eraill sy'n arloesol i'r graddau eu bod yn creu treigladau newydd sbon na welwyd mohonynt erioed.
O be mae o werth, fydda i'n licio meddwl fy mod i'n dda wrth fy ngwaith, a bod gennyf fy arddull fy hun a bod honno'n un addas a darllenadwy. Fydda i hefyd yn meddwl, yn ddigon trahaus, fod gen i rywfaint o ddawn am droi pethau cymhleth yn Saesneg yn bethau syml yn Gymraeg. Ond dw i'n gwybod bod 'na gyfieithydd yn llechu'n rhywle a fyddai'n darllen fy ngwaith ac yn meddwl ei fod o'n dda i ddim. A beryg mi feddyliaswn yr un peth amdano yntau. Byd bach felly ydi byd y cyfieithydd.
Dydi hynny ddim yn meddwl bod cyfieithwyr yn bitchy. Dydyn nhw ddim - mae rhai o'm ffrindiau gorau i'n gyfieithwyr. Er, dw i'n dallt yn iawn y disgrifiad a wnaed ohonynt gan ffrind i ffrind - paranoid bunch of freaks. Mi ydan ni'n gallu bod yn paranoid iawn am ein gwaith ein hunain, ac mae cyfieithu yn un o'r gyrfaoedd hynny sydd yn atyniadol iawn i bobl, wel, od. Od iawn ar adegau.
Ddywedish i wrthoch chi erioed fod gen i benglog o Ffrainc yn y bathrwm?
Ta waeth, rhyw ddadleuon felly y byddwn ni'n eu cael ym myd bach cyfieithu ond mae 'na un peth 'dan ni i gyd yn gytûn amdano - dydach chi ddim yn gallu cyfieithu. Na, dydach chi ddim. Does 'na dim yn gwylltio cyfieithydd yn fwy na rhywun yn dweud "dw i'n cyfieithu yn gwaith hefyd (noder rheswm)" pan nad ydyn nhw actiwli yn gyfieithydd. Dealladwy yn tydi? Sgil ydi cyfieithu, a dydi o ddim yn sgil y gall pawb ei meistroli - hyd yn oed os oes ganddyn nhw Gymraeg cystal â William Morgan.
Yrŵan, mi ges ddadl fach efo Siân Tir Du (sy'n blogio hyd yn oed yn llai aml na fi erbyn hyn) am gyfieithu Twitter, ar Twitter. Ddaru mi awgrymu ei bod yn well i gyfieithwyr beidio â heidio ato i helpu allan gan ei fod yn well i gael pobl 'gyffredin' (er diffyg gair gwell, ond i gyfieithydd mae unrhyw un sydd ddim yn gyfieithydd yn gyffredin iawn) greu'r peth er eu budd nhw. Prin fod yna gyfieithydd sydd heb o leiaf unwaith syrthio i'r fagl 'cyfieithu er cyfieithwyr eraill', sy'n dueddol o ddigwydd yn arbennig mewn swyddfa gan y bydd rhywun arall yn prawfddarllen eich gwaith.
Ond na, ebe Siân.
A Siân oedd yn iawn.
Dw i 'di bod yn cyfieithu bach o Twitter yn ddiweddar, yn benodol achos dydw i ddim yn y gwaith ar y funud - wedi'r cyfan, peth diwethaf dwisho'i wneud ydi cyfieithu'n wirfoddol ar ôl diwrnod o gyfieithu. Argoledig. Mae 'na lot iawn iawn o gyfieithiadau Twitter - nifer a gymeradwywyd - yn ffycin uffernol. Dydw i ddim yn jyst cyfeirio at y ffordd mae pethau'n cael eu geirio, ond yn hytrach pethau sylfaenol fel sillafu a threiglo. Fydd Twitter, pan gyhoeddir y fersiwn Gymraeg, yn siop siafins.
Iawn, bitshiad da oedd lot o'r uchod, ond wir-yr, apêl fach hefyd i rywun sy'n licio'i Dwityr erbyn hyn - os ydach chi ar Twitter a bod ganddo chi Gymraeg da, rhowch gynnig ar ei gyfieithu neu jyst dewis o blith y cyfieithiadau mae eraill wedi'u cynnig, achos y ffordd mae hi beryg fydd y fersiwn Gymraeg mor wael na fydd neb isio'i defnyddio hi beth bynnag