Visualizzazione post con etichetta caerdydd. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta caerdydd. Mostra tutti i post

lunedì, gennaio 06, 2014

Caerdydd vs. Hogyn o Rachub

Ni fûm erioed yn betrus o gyhoeddi blog o'r blaen ond mi ydw i rywfaint y tro hwn. Ond weithiau mae'n rhaid i rywun ei fynegi ei hun, ac mae hyn wedi bod yn dod ers sbel.

Fe sylwch fy mod i yn cael ambell i ddig ar Gaerdydd yn eithaf aml. Efallai ei fod yn bryd imi gyfiawnhau fy hun, achos tydi Caerdydd ddim rili yn haeddu hynny. Y mae hi’n ddinas wych, a dwi wedi bod yn ffodus treulio fy ieuenctid yno’n camfihafio. Na, tydw i ddim yn uniaethu efo’r lle. Tydw i ddim yn “caru’r” lle. Ond mae o’n lle gwych, ac mae’n haeddu cael ei gydnabod felly.

Does ‘na fawr o amheuaeth gen i, er fy mod wrth fy modd â’r ddinas, fod lwmp go dda o’m hagwedd at y ddinas yn deillio o’r ffaith fy mod i jyst isio symud oddi yno, a dychwelyd i’r Gogledd, a fy mod i raddau’n chwerw am fy mod i’n aflwyddiannus yn gwneud hyd yma.

Mae rhesymau go bendant gen i am symud i’r Gogledd – rywsut, mae o jyst yn teimlo fel y peth “iawn” i’w wneud. Debyg fod ‘na elfen o euogrwydd fy mod i yng Nghaerdydd yn mwynhau gormod yn hytrach na chyfrannu at yr ardal lle’m magwyd. A soniais o’r blaen am berthyn, plentyn hiraeth.

Ond yn y cyfamser, o weld f’ardal i’n dirywio, mewn nifer o ffyrdd ond yn benodol iawn yn ieithyddol, fedra i ddim ond â theimlo mai yma y dylwn fod. Tydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n edifar dychwelyd chwaith (o ddewis y swydd/amser cywir). Wn i ddim neb sydd wedi gadael Caerdydd am eu hadref nhw ac edifar; y mae pob un ohonynt yn teimlo i’r carn iddynt wneud y peth iawn, ac yn dweud yn ddieithriad nad a symudent yn ôl i’r brifddinas fyth. A phan ydach chi’n treulio amser i ffwrdd o Gaerdydd allwch chi weld agwedd wahanol arni nag os ydych chi yn y swigen: y mae rhywbeth ffals amdani. Mae’n arwynebol: mae’n ddiawledig o anodd esbonio, ond dwi’n meddwl y bydd pawb sydd naill ai wedi symud o Gaerdydd, neu sy’n mynd yno’n aml am ba reswm bynnag, yn dallt yr hyn sy gen i wrth ddweud hynny.

Ta waeth, amlinellaf y ddau reswm mae Caerdydd – er gwaethaf popeth – yn mynd ar fy nerfau. Ac er mwyn ceisio bod yn gryno, mi hepgoraf CF1.

Y mae’r cyntaf yn un syml: pethau i’w gwneud. Dwi’n meddwl ei bod yn hilariws cynifer o bobl (nid dim ond y rhai sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda llaw) yn dweud bod ‘na llwyth i’w wneud yng Nghaerdydd ond ‘sdim byd ‘adref’. Dyma i chwi’r bobl sy’n mynd i’r un llefydd bob wythnos, yn cwrdd â’r un bobl o hyd, ac yn gwneud yr un pethau o hyd, yn gylch mawr o undonedd.

Dyma’r bobl sy’n cymdeithasu efo pobl sydd jyst fel nhw, achos mewn dinas mi allwch ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi – yn wahanol i lefydd mwy cefn gwlad, lle mae’ch ffrindiau yn eithaf tebygol o fod yn wahanol iawn i’w gilydd jyst achos ‘na nhw sydd yno (sydd, os ca’i ddweud, ddim yn eu gwneud yn llai o ffrindiau). A dyma’r bobl sydd â’r haerllugrwydd i alw Cymry Cymraeg cefn gwlad yn ‘gul’. “Symudish i ffwrdd achos bod o’n gul, mae Caerdydd lot mwy agored”.

Reit ... ac wrth gwrs mi ddywedan nhw bethau fel hyn heb feddwl eu bod nhw efallai fymryn yn sarhaus i’r Cymry bach syml ‘na yn y gogledd a’r gorllewin.

Yr ail ydi’r Gymraeg; ac i raddau'r Cymry Cymraeg sydd yno. Nid pawb o bell ffordd - taswn i’n mynd ati rŵan i wneud ymosodiad eang ar holl Gymry Cymraeg y ddinas fydda gen i ddim ffrindiau, yn llythrennol - ond mae ‘na elfen gref (a mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw, “fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn shit. Mae’n wir y clywch Gymraeg mewn rhai ardaloedd penodol - os nad penodol iawn - o Gaerdydd. Ac mae’n wir fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.

Ac mae’r pwyslais yma ar y dyfodol – mae ‘na ddyfodol i’r iaith yng Nghaerdydd – sy'n fy mlino ac yn fy nhristáu. O, am gryfder fyddai gennym yn yr hen gaerau pe gallasem fod wedi aros yn yr hen fröydd. Tydi’r economi ddim am ganiatáu i hynny ddigwydd am rŵan, ond mae cynifer ohonom o Gaerdydd o ardaloedd mwy gwledig, mwy Cymraeg, a allai wneud cymaint o wahaniaeth yn byw yn ein bröydd genedigol. Ac mae lot fawr, fawr isio gwneud hynny, ond heb fodd i wneud hynny, alla i sicrhau hynny i chi.

Ond dyma sy’n fy ngwylltio, y sôn am ‘gryfder’ yr iaith yn y ddinas.

11%.

Dyna gryfder y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ydi pethau mor ddu arnom fel bod 11% yn rhywbeth i’w ddathlu? Ydi cynnydd bach o 4,000 o siaradwyr (1%!) ym mhrifddinas Cymru rhwng 2001-11 yn rhywbeth i’w groesawu, neu yn rhywbeth i’w gywilyddio ynddo? Faint o’r 36,000 sy’n honni siarad Cymraeg sy’n byw eu bywydau gan mwyaf yn yr iaith, neu'r â’r iaith yn brif iaith iddynt? Ddim nhw i gyd. Fyddai awgrymu hanner yn deg?

Dyma bobl sy'n dweud bod 'na fwy o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd nag sydd yng Ngheredigion bellach fel petai hynny'n beth da!

Ac felly mae’n gwawrio ar rywun yr hyn ydi’r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae cynifer yn licio meddwl eu bod nhw’n gyfran barchus o boblogaeth y brifddinas, ar gynnydd o ran maint a hyder. Ond ddim dyna ydyn nhw. Lleiafrif dibwys, amhwysig ydyn nhw – neu, mi ddylwn i ddweud, ydym ni. A dwi’n ymwybodol iawn o hynny – yng Nghaerdydd dwi’n rhan o leiafrif pitw. Oes ots os ydyw’n lleiafrif prysur, gweithgar? I raddau (bach). Ac mae'r hyder  hwnnw'n aml yn gallu cael ei gyfleu fel hunanbwysigrwydd. Ta waeth...

11%. Mae hynny’n llai na Sir y Fflint. Go figure.

Ac os dyna’r ‘dyfodol’ disglair y mae rhai’n ei addo, pan gyfeiriant at ‘ffyniant’ y Gymraeg yn y brifddinas - mai hwnnw ydi'r peth y dylem ymhyderu ynddo, yn obaith i Gymru gyfan - mi gânt ei gadw. Byddai’n well gen i farwolaeth yr iaith na’n bod yn gweld y sefyllfa druenus pan fydd y Cymry Cymraeg yn 11% yng Ngwynedd neu Fôn ... neu hyd yn oed yn Nyfed o ran hynny. A dwi’n meddwl, pan ddaw ati, dyna sy’n fy nghorddi fwyaf. Mae llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd, boed yn frodorion y ddinas neu’n bobl sydd wedi symud yno, yn meddwl ei bod yn esiampl dda o ran y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod Caerdydd, pan mae’n dod ati, jyst yn dangos pa mor erchyll o ymylol y gallasai'r Cymry Cymraeg fod yn eu gwlad eu hunain un diwrnod.

Ond waeth i mi orffen ar nodyn cadarnhaol ac ategu’r hyn a ddywedais i ddechrau. Mae Caerdydd yn ffantastig – dwi ddim yn beio neb am fod isio byw yno, yn enwedig pan fônt yn ifanc ac isio gwneud drygioni. Dwi wedi treulio blynyddoedd hapusaf fy mywyd yn yr hen ddinas ddrwg ‘na. Ond o godi ‘mhen o’r swigen, mi alla i weld yr ochr arall, lai dymunol, iddi, ac yn sicr byddwn i byth bythoedd isio i’r gogledd na’r gorllewin ei hefelychu, achos yn y bôn, mae un Caerdydd yn ddigon.
 

lunedì, luglio 29, 2013

Cerddoriaeth a Dirmyg

Tydw i ddim yn gigydd – hynny yw, rhywun sy’n licio mynd i gigiau, yn hytrach na’r bobol trin anifeiliaid celain. Meindiwn i ddim fod yn gigydd o’r math hwnnw achos dwi’n rêl boi am gig, ac yn eithriadol ddrwgdybus o lysieuwyr. Be ydi’i gêm nhw dŵad?

Ond yn gyffredinol welwch chi mohonof mewn gig.  Er, dibynna hynny ar y math o gig sy dan sylw. Os oes ‘na ddigon o le mae’n bosib y byddaf o gwmpas. Ro’n i yng Ngŵyl Gardd Goll ddoe, ac mae hynny’n iawn imi achos ga’i nôl ‘y nghwrw a sgwrsio efo fy ffrindiau heb amharu ar neb ond amdanyn nhw. Allwch chi ddim gwneud hynny mewn llawer o gigiau bychain achos disgwylir bryd hynny i rywun roi gwrandawiad. Ydw, dwi’n un o’r rheiny y mae pawb yn gwgu arno mewn gig fach achos dwi’n cymdeithasu yn hytrach na gwrando. A phan fydda i wedi cael peint does neb na siarada i â nhw. Felly tueddu i gadw draw o’r gigiau hynny ydw i.

Yn bersonol, dwi byth wedi deall yr holl ‘mynd i gig i wrando’ thing. I mi, mae bandiau bob amser yn swnio’n well ar gryno-ddisg beth bynnag, a gwell gennai dalu tenar am CD y galla i ei chwarae dro ar ôl tro na mynd i weld rhywun yn canu oddi ar lwyfan ac wedyn gorfod talu am gwrw eniwe.

Oce, mae ‘na eithriadau. Cyn belled ag y mae gigiau Cymraeg yn y cwestiwn chewch chi ddim gwell na gig Bryn Fôn. Mae’r rheiny’n hwyl ar y diawl – mae pawb yn racs jibidêrs a phawb yn cydganu rhai o’n caneuon mwyaf poblogaidd, a fawr ddim ohonyn nhw’n ‘bobol miwsig’. Wyddoch chi y teip hwnnw sy’n mynd i gigiau bob munud. Gwallt cyrliog, sbectol sgwâr, chinos (o mam fach dwi’n casáu blydi chinos), pobl y gwnâi pythefnos yn hel defaid fyd o les iddynt. Meddaf i yn gyfieithydd i gyd...

Tydw i’m isio bod yn rhy ddirmygus cofiwch, dwi’n licio cerddoriaeth yn fawr iawn hefyd. Does ‘na ddim llawer o gigiau dwi wedi bod iddynt nad ydw i wedi’u mwynhau mewn difrif – Meic Stevens yn methu cofio ei eiriau yn Clwb rywbryd oedd y gwaethaf mae’n siŵr. Dyna oedd gwastraff pres. Ond dyna ni, hanner yr hwyl efo gig Meic Stevens ydi ceisio dyfalu pa mor chwil fydd o wrth gyrraedd.

Gan hynny dwi yn licio fy ngherddoriaeth Gymraeg. Mae ‘na lot o fandiau ac unigolion dwi’n eu hoffi – y mae'r casgliad CD’s sy’n y car yn eithaf rhyfeddod i rai pobl, gan amrywio o’r Ods i Hogia’r Wyddfa. Ac wrth gwrs Celt. Byddai peidio â chael CD Celt yn y car, a dŵad o Rachub, yn bechod marwol.

Ond dwi’n meddwl y band Cymraeg imi ei fwynhau fwyaf dros y blynyddoedd diwethaf ydi Gwibdaith Hen Frân. Mi brynais eu cryno-ddisg newydd heddiw a gyrru o amgylch Pen Llŷn yn gwrando arni (gan fynd ar goll am tua awr, fyddwn i’m llai coll ‘tawn i’n Japan i fod yn onest). Wn i ddim a ydi’r gymhariaeth wedi’i gwneud o’r blaen ond mae Gwibdaith yn debyg iawn, iawn i Hogia Llandegai – fersiwn gyfoes ydyn nhw. Fydda i ddim yn gallu stopio gwenu yn gwrando ar Gwibdaith.  Dwi’n siŵr i rai o bobl Pen Llŷn gael eithaf sioc fy ngweld i’n gwenu achos does gen i mo’r wên ddeliaf yn y byd. Mae’n edrych braidd fel bod rhywun ‘di selotêpio banana i’m hwyneb.

Fydda i’n fwy tebygol o fynd i gig tra dwi’n Gogs ‘fyd yn hytrach na Chaerdydd. Er gwaethaf ei rhinweddau, ac mae llawer iawn ohonynt, mae gan Gaerdydd wendidau mawr. Y peth dwi ddim yn ei licio am y brifddinas ydi nad ydw i’n nabod fawr neb sy heb swydd bonslyd. Celfyddydau, cyfryngau, cyfieithu, addysgu, Llywodraeth ... mae ‘na rywbeth annormal iawn am Gymry Cymraeg y ddinas, maent yn perthyn i’w byd bach eu hunain. ‘Ffug’ ydi’r disgrifiad casaf dwi wedi’i glywed am i’w disgrifio, er rhaid imi ddweud byddwn i ddim yn anghytuno. Ydi, mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio 'cael eu gweld' a chael eu nabod. Pe byddwn yn fentrus mi awgrymwn eu bod yn lleiafrif swnllyd a hunanbwysig sy'n gwneud fawr ddim lles i ddelwedd yr iaith. Ond gwell imi beidio bod mor fentrus â hynny. I fod yn deg, byddai hynny'n orgyffredinoli mawr.

Rhaid dweud, y mae rhaniad mawr, eithaf chwerw ar adegau, rhwng y Cymry Cymraeg dinesig – Caerdydd yn benodol – a’r Cymry Cymraeg cefn gwlad. Fel Cymro Cymraeg cefn gwlad (hynny ydi, o’r gogledd neu’r gorllewin yn hytrach na ‘chefn gwlad’ yn ei wir ystyr) sy’n byw yn y ddinas dwi wedi gweld dwy ochr y peth. Mae’r dirmyg sy gan y ddwy garfan at ei gilydd yn eithaf dwfn.

Ond wyddoch, maen nhw’n gwisgo chinos yn y ddinas. A tydi hynny, ym mha gyd-destun bynnag, jyst ddim yn iawn.

venerdì, febbraio 04, 2011

Cymru, Lloegr, fflêrs a chowboi bŵts

Dyma ni eto felly. Cymru a Lloegr. Gêm agoriadol y Chwe Gwlad. Caerdydd. Nos Wener. Dwi wedi cyffroi digon i biso’n hun. Siŵr o fod y gwna i hynny erbyn tua deg. Ond ni fydd ots gen i os trechir y Sais. Does dim gwell deimlad hyd dywyllaf orwelion y bydysawd.

Y mae rygbi rhyngwladol wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i ers i mi ddod i Gaerdydd yn gyntaf dros saith mlynedd nôl, felly dyma’r seithfed bencampwriaeth i mi ei gweld yma. Doedd fawr o lwyddiant yn perthyn i’r cyntaf a welais yn 2004. Ond y flwyddyn wedyn, blwyddyn y Gamp Lawn ‘gyntaf’, oedd y bencampwriaeth orau i mi’n bersonol. O ydw, dwi’n cofio cic Henson yn y Mochyn Du. Chwalu’r Alban a gwylio’r gêm ym mudreddi Wyverne Road. Bod ym Mharis ar gyfer gêm Ffrainc – a dyna oedd gêm. Cweir i’r Eidalwyr, ac yna curo Iwerddon – sy’n hawdd yn cystadlu â Lloegr ar gyfer gwobr ‘Cas Dîm Rygbi’r Hogyn’ – yn y gêm derfynol.

Dydi Cymru heb golli yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ers i mi fyw yma, nid fy mod yn hawlio unrhyw glod am hynny. Wel, efallai ‘chydig. A dwi wedi cyrraedd oedran lle dwi’n gyson pissed off bod cymaint o chwaraewyr yn iau na mi.

Ta waeth, daw’r crys rygbi allan fel y gwna ar gyfer pob gêm, ynghyd â rhai o’m hoff ddillad. Ar hyn o bryd mae ‘na ddau beth. Y cyntaf ydi’r jîns fflêrs. Dwi wedi dweud o’r blaen faint dwi’n hoffi’r rhain ond mae’r rhai a brynais yn fflêri-dêri go iawn de. Ychwaneger at hynny fŵts cowboiaidd sy’n rhoi dwy fodfadd o daldra i mi a dwi’n rêl y boi. Dewch ‘laen, petaech chi’n 5’8 fydda chi’m yn troi eich trwyn ar fod yn 5’10, boed hynny ond am ychydig oriau!

Do, mae’r cynnwrf wedi dechrau. A bydd gweld ambell un sy’n casáu rygbi yn cwyno am yr holl ffys am y saith wythnos nesaf ond yn goron ar y cyfan!

mercoledì, settembre 15, 2010

Clywed dim

Yn ein grŵp ni, dwi’n un o’r bobl olaf i glywed pob dim – wyddoch chi, y pethau cyfrinachol, gwleidyddiaeth y criw etc – ac mae hynny gan amlaf oherwydd un prif reswm. Fydd neb yn dweud wrtha i achos bod pawb yn gwybod nad oes gen i fawr o ddiddordeb. Mae hyn yn ymestyn i lawer o bethau, dwi ddim balchach gwybod be mae neb arall yn ei wneud i fod yn hollol onest. Dwi’n cael digon o drafferth gwybod be dwi’n ei wneud hanner yr amser.

Ar ddydd Llun dwi byth yn gwybod be dwi’n ei wneud. Gan amlaf mae’r ôl-hangover ar ei anterth, ond yn ddigon rhyfedd mae dydd Llun yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn i mi – yn y gwaith, yn y tŷ. Er enghraifft, ro’n i’n teimlo’n ofnadwy ddydd Llun (er ro’n i’n teimlo’n waeth ddoe ac i fod yn onast efo chi dwi’m yn teimlo’n dda iawn heddiw achos mi gysgish ddeg awr neithiwr sy ddim yn iach i ddyn na duw) ond pan gyrhaeddais adref mi fu i mi lanhau’r tŷ nes ei fod yn sgleining a hefyd gwneud digon o fwyd i bara deuddydd.

Ro’n i’n bod yn gynhyrchiol, yn doeddwn.

A hithau’n ddydd Mercher fodd bynnag mae rhywun yn dechrau cael teimlad o’r hyn y bydd y penwythnos yn ei addo. Mae Rhys yn gadael Caerdydd am Lanelli, sy ‘chydig fel gadael Cate Blanchett am Anti Marian ond wrandawiff hwnnw ddim, ffwrdd â fo, felly mi fydda ni’n cael diwrnod llawn o gamfihafio mewn amryw rannau o’r ddinas. Y llefydd lle cafwyd hwyl ar hyn y blynyddoedd – y Tavistock, y Maci, y Mochyn Du. O na fyddai Shorepebbles, heddwch i’w lwch, yn fyw o hyd.

Taswn i, a minnau yma ers saith mlynedd hudol erbyn hyn (a saith mlynedd nôl do’n i’m disgwyl byw mor hir â hyn heb sôn am fod dal yn byw yng Nghaerdydd), yn gorfod dewis fy hoff le yma y Tavistock fyddai hwnnw o hyd. Daeth yn gyrchfan i Gymry dwyrain y ddinas erbyn diwedd ein blwyddyn ar Russell Street, ond wn i ddim ai dyma’r achos bedair blynedd yn ddiweddarach. Un broblem fawr efo’r Tavistock oedd y pen ar y peintiau, fe allech chi agor ski slope arnyn nhw, wyddoch chi, y math o ben sy’n digon mawr nes peri i chi ei sgubo efo biarmat i’r blwch llwch, ond chewch chi’m blychau llwch mewn tafarndai ddim mwy. Wn i ddim sut y bydd datrys y broblem pan ddaw’r Sadwrn, ond dwi ôl ffôr eu rhoi nhw ar lawr, dim ond jyst er mwyn gweld Rhys yn cachu ei hun.

venerdì, luglio 13, 2007

Ardaloedd Caerdydd

Meddwl oeddwn i rŵan am Gaerdydd fel pecyn. Mi rannaf fy meddyliau, os caniatewch i mi wneud. A minnau yma am bedair blynedd dw i’n adnabod y ddinas yn iawn erbyn hyn, ac mae gen i farn eithaf pendant arni. Mae bob rhanbarth yn wahanol; fel Dwyfor, Arfon a Meirion (gydag Arfon yn well o lawer na’r ddwy arall, fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol, a hwythau ill dwy yn well na gweddill ardaloedd Cymru, canys mai Gwynedd ydynt, a Gwynedd sydd bur).

Mae Cathays yn troi arna’ i, i fod yn onest. Yma gormod ydw i - mae’n fy atgoffa o ddyddiau Senghennydd a thŷ rybish Wyeverne Road. Does ‘na ddim siopau, mae’r pybs yn eitha’ gwael ar y cyfan - mae’r holl le yn ffug. Gwelwch i’r Cathays iawn yn ystod yr haf, a dw i’m yn or-hoff o hwnnw chwaith.

Bydda i ddim yn gwybod am lefydd pell fel Llanisien a Threlái. Dw i ‘di pasio drwy Drelái unwaith ac mai’n afiach, ond prin fod unrhyw le yn waeth na Butetown. Hwn yw dymp gachu Caerdydd; yr union le i fod pe hoffech gael eich trywanu gyda’r nos. Dw i’n cadw i ffwrdd o Butetown, ond mae’r tlodi yno yn gwneud Bae Caerdydd yn fwy ymhongar fyth. Er, dw i’n hoff o’r Bae ar y cyfan: mae ‘na elfen Ewropeaidd yno, ac mae ‘na rhyw deimlad o falchder ei fod yn rhan o’r Gymru fodern ‘ma rydyn ni’n clywed cymaint amdani.

Nid af i Sblot yn aml, chwaith. Mae’n rhyw fersiwn lite o Butetown. Cyn symud i Gaerdydd roeddwn i’n arfer ystyried Sgubor Goch a Maesgeirchen yn ‘ryff’, ond cymharwch y pedwar ac mae cyfuniad Sblot a Bute yn edrych fel Sauron a Voldemort ddrws nesa’ i Jac-y-Jwc a Jini Mê.

Wyddwn i ddim llawer am Grangetown, fy man ddewis, ond mi wn fod Glan-yr-afon yn eitha’ sgeri i’w weld, a does gen i fyth rheswm i fynd i’r Mynydd Bychan, Rhiwbeina na’r Eglwys Newydd (dim bod hynny’n golled). Serch hyn, fy nghartref ysbrydol yng Nghaerdydd fydd wastad Y Rhath. Yma y treuliais ddyddiau difyr Russell Street a llawenydd y Tavistock; dw i’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i mi ddod i gysylltiad â’r Caerdydd go iawn, a rhywsut roeddwn i’n ei hoffi.

Mae’r Rhath mor amrywiol, mae gennych chi’r ochr gwerinol, Tavistock-aidd ond ewch fymryn i’r dwyrain a dewch o hyd i barciau bach delfrydol, annwyl wrth ymylon Cyncoed a llefydd eithaf dymunol. Ac mae’n gyfuniad o bob math, o bob hil a phob iaith (mi geir Cymraeg yn Y Rhath, wyddoch chi).

Ac wedyn mae Treganna. Af i ddim yno fyth, mae’n rhy ddrud, ond mae ‘na rhywbeth sydd wastad wedi apelio am y lle. Fydda i wastad yn y Mochyn Du adeg gêm, a chlywir Cymraeg yn Nhreganna yn fwy na’r unman arall. Mae’n rhyfedd sut bod hynny mor bwysig i ni Gymry Cymraeg.


Be dw i’n drio’i ddweud ydi; dw i’n licio Caerdydd, ond mae ‘na lefydd cachlyd ‘ma ‘fyd.

Mini-adventure...!

Heddiw, bydd yr antur (h.y. gwyriad) ym Mae Caerdydd yn dod i derfyn. Bydd yr hen fywyd ‘ma yn cymryd tro difyr wrth i mi anelu am Grangetown. Dydd Llun bydda i’n berchen ar dŷ. Am y Gogledd â mi heno, cyn dychwelyd ddydd Llun gydag wythnos haeddiannol i ffwrdd o’r gwaith, gyda Mam a Nain yn dyfod i Gaerdydd i’m helpu gyda gwneud y lle edrych yn iawn.

Dw i’m ‘di cael dim ond problemau yn y Bae, sy’n ychwanegu i’r ffaith fy mod i wirioneddol ddim yn gweddu’r lle. Dw i ‘di llwyddo troi y timer dŵr poeth i ffwrdd felly dw i’n gorfod gwneud hynny cyn fy mod isio cawod, ac mae’r popty’n gymhlethach na chroesair Japaneaidd. Dw i ‘di llwyddo toddi handlen y gril, a ddoe mi a’i defnyddiais ar gyfer coginio rhyw fân bryd o fwyd, cyn troi rownd pum munud wedyn a sylwi fod y popty wedi meddalu’r plastic oedd yn ei dal hefyd felly roedd rhaid i mi fynd am sglods yn lle.

Dydi sglods, neu têc-awês am hynny, o unrhyw safon ddim yn hawdd dod ar eu traws yng Nghaerdydd. Roedd un siop sglods da wrth ymyl Newport Road, a dw i ‘di dod o hyd i un yn Grangetown sydd efo naws Eidalaidd i’r lle. Hen le budur ydyw. Dw i’n licio siop sglods budur, mae’n arwydd, rhywsut, o sglodion da.

Dw i dal, dros gyfnod o bedair blynedd, heb ddod o hyd i Tsieinîs da, na Indian (têc-awê) o safon uchel iawn. Pe gwyddoch, rhowch wybod.

Megis y gwynt, mae têc-awê y Gogledd yn well na thêc-awê y De.