sabato, giugno 22, 2013

Isetholiad Môn - rhagolwg

Tydw  i ddim am fynd i ddadansoddi gyrfa wleidyddol Ieuan Wyn Jones yn y blogiad hwn. Bydd cenedlaetholwyr yn sicr yn rhanedig eu barn ar ei gyfraniad at wleidyddiaeth Cymru a Phlaid Cymru. Er iddo arwain y Blaid i fod yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf erioed, a fydd yn cael ei ystyried yn beth cadarnhaol ar y cyfan pan ddadansoddir y cyfnod hwnnw ymhen rhai blynyddoedd, roedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif yn un a nodweddwyd gan drai’r Blaid oddi ar 1999. Tuedd sydd, ymddengys, yn dal heb ildio’n llwyr.

Ta waeth, mae gan IWJ ei rinweddau ond ni fyddwn erioed wedi ystyried craffter gwleidyddol yn un ohonynt. Serch hynny, dwi’n tueddu i feddwl fod ei benderfyniad i sefyll i lawr ym Môn gan arwain y ffordd at isetholiad yn un craff. Mi egluraf pam.

Nid oes yn rhaid imi adrodd hanes gwleidyddol Môn i unrhyw un sydd yn darllen hwn, ond fe wyddoch fod pobl Môn yn licio’u cynrychiolwyr cyfredol ar y cyfan. Y tro diwethaf i aelod seneddol/cynulliad cyfredol golli ar yr Ynys oedd 1951 – ers hynny, yr unig ffordd y collasai plaid yma oedd drwy newid  ymgeisydd.

Dwi’n tueddu i feddwl drwy gynnal isetholiad y bydd gan Blaid Cymru fantais yn hyn o beth. Fe’i gwelir o hyd fel deiliad y sedd, ac mae’n haws amddiffyn sedd na’i chipio beth bynnag. Mantais Plaid Cymru felly.

Rhaid hefyd nodi bod Plaid Cymru wedi – ar ôl degawd o geisio – sortio’i hun allan ar Fôn. Y mae’r drefniadaeth yn dda, a gwnaeth y Blaid gystal ag y gallai fod wedi yn yr etholiadau lleol diweddar. Er i ambell un fynegi siom nad enillodd fwy o seddi, ac i bawb ohonom ryfeddu braidd ar naïfrwydd/twpdra’r Blaid yn dilyn yr etholiad, roedd yn enillydd clir. Roedd iddi seiliau cadarn eto ar Fôn.

Gair i gall – ni all rhywun ddarllen gormod i ganlyniadau etholiadau lleol ar y cyfan. Mae dweud bod Plaid Cymru yn siŵr o ennill yr isetholiad yn seiliedig ar etholiadau cyngor yr un mor dwp â dweud bod UKIP yn dirywio ledled Cymru am ei bod wedi gwneud yn wael ym Môn. Ond yn yr achos hwn mae’n bosibl bod yr etholiadau cyngor yn fwy arwyddocaol nag y bydden nhw fel arfer, a hynny yn syml oherwydd agosrwydd y ddau etholiad at ei gilydd. Mae momentwm yn beth peryg.

Mewn theori, hefyd, dylai etholiad Cynulliad fod yn dir mwy ffrwythlon i Blaid Cymru nag etholiad San Steffan. Ond mi fuaswn i’n rhoi cyngor caredig fan hyn nad dyma’r achos yn llwyr. Y gwir plaen ydi, ers 1999, mae patrymau pleidleisio etholiadau Cynulliad a San Steffan wedi dechrau bod yn gymharol debyg i’w gilydd. Mae gan Blaid Cymru fantais mewn etholiadau Cynulliad, ond dydi hi ddim yn fantais enfawr. Ystyriwch hyn: yn etholiad San Steffan 2010 enillodd Plaid Cymru 9,029 o bleidleisiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn etholiadau’r Cynulliad, enillodd 9,969 o bleidleisiau. Dydi o ddim yn wahaniaeth rhyfeddol.

Felly, yn gryno, dydi’r ffaith fod isetholiad Cynulliad, yn hytrach nag isetholiad San Steffan, ar y gorwel, ddim yn fanteisiol tu hwnt. Ac fel y gwelir yn gyson, yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan sy’n dylanwadu ar bleidleisiau pobl mewn bron pob etholiad arall ar lefel is. Mantais Llafur felly?

Llafur ydi’r unig blaid sy’n her wirioneddol i Blaid Cymru yn yr isetholiad (af i ddim i oblygiadau ymgeisyddiaeth bosibl Peter Rogers yma). Ond mae wedi dod i’r amlwg fod Llafur mewn cryn lanast ym Môn. Ni ellir anwybyddu’r etholiad trychinebus a gafodd ddeufis nôl, nac ychwaith y ffaith nad ydi Llafur wedi gwneud yn well na 3ydd mewn unrhyw etholiad Cynulliad yma. Dydi Llafur Môn ddim yn y sefyllfa gryfaf ar hyn o bryd. A, hyd y gwelaf i, dydi Llafur ddim yn gwneud gystal yn y polau ag y dylai fod yn ei wneud. Gweddol, go lew, ar y gorau ydi’r arolygon barn iddi.

Ond – gyda Llafur sedd yn fyr o fwyafrif ym Mae Caerdydd – bydd Llafur yn ymdrechu’n galed yma y tro hwn.  Ac mi fydd yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan yn fanteisiol iddi. Dwi’n amau a fydd yn ddigon o fantais, ond er hynny rhaid wynebu un gwirionedd anghysurus: does dim angen trefniadaeth nag ymgyrch dda ar Lafur i wneud yn dda mewn seddi yng Nghymru. Tair sedd yn unig – Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion a Threfaldwyn – sydd yn gyfan gwbl tu hwnt i afael Llafur yng Nghymru. Dydi Môn yn sicr iawn ddim yn y categori hwn.

Os hoffech astudiaeth achos roedd etholiad Arfon yn 2010 yn un berffaith. Ar yr un ochr roedd gan Blaid Cymru AS cyfredol, aelodaeth gref, ymgyrch gadarn, ymgyrchwyr brwd a niferus a chyllid digonol. Doedd gan Lafur yr un o’r rhain, heb sôn am y ffaith fod y blaid ar fin colli etholiad dan arweinyddiaeth anobeithiol Gordon Brown.  Ac eto, nid oedd ond fil a hanner o bleidleisiau rhwng y ddwy blaid pan ddaeth noson y cyfrif.

Ysywaeth, gwirionedd y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru benbaladr bron â bod ydi nad oes angen i Lafur wneud fawr ddim i wneud yn dda mewn etholiad. Serch hynny, mi fentraf ddweud mai prin ydi’r rhai sy’n meddwl o ddifrif fod Llafur am ennill yr isetholiad pan ddaw. Po gyntaf y gwaethaf.

Un ffactor arall sy’n rhaid ei drafod – er na chynigia i sylwadau ar neb – ydi ymgeiswyr. Un o wendidau mawrion Plaid Cymru ym Môn ers blynyddoedd maith ydi dewis ymgeiswyr gwan, anaddas i ymladd etholiadau. Yn wir, heb isio bod yn gas, mi fentrwn i ddweud fod y dewisiadau a gafwyd ers 2001 wedi ymylu ar drychinebus. Rŵan, does gen i ddim syniad pwy fydd y rhai a fydd yn cynnig eu henwau i ennill Môn, yn sicr nid yn rhengoedd Llafur, ond dyma chi sedd lle mae’r ymgeisydd yn bwysicach na’r arfer. Os dewisa unrhyw blaid y person anghywir mae o wedi canu arni ar Fôn.

Ond i grynhoi, roedd penderfyniad IWJ yn un craff. Mae gan Blaid Cymru’r fantais yma ar hyn o bryd, a dwi’n tybio waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol yn 2016 y byddai’n anoddach iddi ennill Ynys Môn bryd hynny nag y bydd ar hyn o bryd. Ac eto, mae ennill yn hanfodol. Os na fydd beryg y bydd yn rhaid aros oes nes ennill yma eto – yn achos Ynys Môn, yn llythrennol!