Felly oeddwn i'n meddwl i fy hun yn y gegin, wrth wrando ar amrywiol ganeuon y llapllop (sy'n cynnwys bob math o gerddoriaeth amrywiol, o Dafydd Iwan i Beethoven i Kentucky AFC ac i 'Mama Get The Hammer There's A Fly On Papa's Head'), faint ydw i wedi newid ers prifysgol? Wedi'r cyfan, dechreuais flogio dros dair mlynedd yn ol bellach, a cofnod o fy amser yn y brifysgol ydi hi, a dweud y gwir. Ond dw i wedi newid, rhywfaint:
- Mae fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well o lawer. Sydd fawr o sioc o ystyried mai Cymraeg y bues i'n ei hastudio ('bues', marw isho dweud 'yn astudio'!)
- Dw i'n dewach. Tua tair ston yn dewach.
- Mae gennai sbecdols, a dw i'n edrych yn geeky (os nad yn oleuedig)
- Am rhyw reswm, dw i'n meddwl fy mod i'n fyrrach.
- Dw i'n hoffi lagyr. D'on i ddim cyn mynd i brifysgol.
- Cyn mynd i Gaerdydd oeddwn i'n feirniaid gwael iawn o gymeriad. Erbyn hyn dw i'n llawer craffach (o bosib oherwydd fy sbecdols o dair diwrnod)
- Dw i'n ynganu 'Carling' fel 'Cahlehn' pan dw i'n siarad Susnaeg
- Mae'n Susnaeg ysgrifenedig a llafar yn waeth, ac a dweud y gwir dw i'n meddwl bod fy Nghymraeg llafar yn waeth hefyd
- Dw i dal ddim yn gwybod be 'di ansoddair (dydi hynny ddim yn newid, nacdi?)
Felly dyna ni. Dw i wedi datblygu i fod yn hen lanc od iawn ar y cyfan. Hir oes i mi, uda i.
Nessun commento:
Posta un commento