Wn i ddim faint o bobl dwi’n
eu nabod sy’n ofn tawelwch, ond dwi yn nabod lot ohonyn nhw. Ofn ydi’r gair
priodol hefyd, nid jyst ‘ddim licio’ ydi o – ofn. Mae o fel bod tawelwch yn
pefrio ochrau tywyllaf y meddwl, yn meddiannu popeth ac yn styrbio arnynt yn
ddifrifol.
Dwi efo’r Pab ar hyn. Actiwli
dwi efo’r Pab ar lot o bethau. Y mae Ffransis yn ffwc o Bab os ydach chi’n
gofyn i fi. Mae o’n ei dallt hi, yn
well na fi ac yn sicr yn well na chi. A dweud y gwir, mae gan Babau yn
gyffredinol lot o bethau pefriol a chall i’w ddweud os ydych chi’n fodlon
gwrando, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno: a dwinnau’n un o’r rhai sy’n
gwrando. Ond mi ddywedodd yn ddiweddar mae un o broblemau’r byd modern ydi ei
fod yn llawn sŵn a phrysurdeb – does dim lle i dawelwch a myfyrio. Lle mae’r
tawelwch? Yn fy mhrofiad i, mae mwy o wirionedd mewn tawelwch na holl eiriau’r
hen fyd swnllyd hwn.
Efallai bod hyn yn deillio o
fyw ben fy hun. Roeddwn i’n arfer bod yn gymeriad nad oedd yn or-hoff o’i gwmni
ei hun, sy’n ddealladwy mewn difrif gan y gallaf gyfrif bod yn ddigydymdeimlad,
yn feirniadol ac yn ddiamynedd ymhlith fy ngwendidau niferus (dwi’m yn falch o’r
rheiny wrth gwrs, ond gan fod fy rhinweddau basically
yn cynnwys dealltwriaeth dda o ramadeg a gallu gwneud ffwc o basta sôs, wel,
mae nhw actiwli yn fwy deniadol na’r rhinweddau tydyn?). Dwi’n licio tawelwch. I
mi, mae tawelwch yn arwain at dawelwch meddwl. Jyst weithiau, mae’n rhaid i mi
ddiffodd y teledu, a rhoi i’r naill ochr unrhyw ddeunydd darllen, ac ista yno
fel lwmp o ham, yn myfyrio (mae’r ‘lwmp o ham’ yn cyfeirio ar yr eistedd yn
hytrach na’r myfyrio, i ni gael dallt ein gilydd).
A dweud y gwir, dwi ddim bob
amser hyd yn oed yn myfyrio. Ond mae’r ychydig funudau – weithiau munudau lawer
– o dawelwch hynny’n angenrheidiol ac yn adfywiol. Achos jyst weithiau fydda i’n
meddwl dwi’n ei dallt hi fy hun. Weithiau mae prysurdeb y byd jyst yn rhy blydi
swnllyd ac arwynebol. Tydan ni ddim yn cael amser i feddwl.
Dwi’n dallt yr ofn sydd gan
bobl o dawelwch, fodd bynnag, er fy mod i ddim yn ei rannu. Mae gan bawb ei
groes i’w chario a tydi pobl ddim yn licio hel meddyliau am y pethau drwg yn eu
bywydau, a phan ydan ni dani’n licio meddwl mai arnom ni y mae hi waethaf (er y
gwyddom ym mêr ein hesgyrn nad dyma’r achos go iawn). Ond o gymryd yr amser
hwnnw i feddwl, neu i fod yn fanylach, adael i’r meddyliau ddod atoch chi, dwi’n
meddwl ein bod yn y pen draw yn dod i’r casgliad bod pethau’n eithaf da, neu’n
weddol, wedi’r cyfan. Y mae cyfri ein bendithion yn beth rydyn ni’n llawer rhy
gyndyn, ac yn aml hunandosturiol, i’w wneud.
Does fawr o dawelwch yn y tŷ
yn Rachub, fodd bynnag. Gyda Dad â rheolaeth lwyr ar y remôt, fydd y foliwm byth
yn is na ffwl blast, a fedra i ei glywed yn gwylio Splash ar ITV yr holl ffordd
yma’n fy llofft. Dwi’n siŵr na wnâi Ffransis yn fath beth petai o yma.
Nessun commento:
Posta un commento