mercoledì, luglio 10, 2019

Eryrod Pasteiog XI: Beti a Bryn




Yr oedd wedi nosi, a thaniodd Beti George ei leitar i gynnau’r gannwyll oedd ar y ddysgl fechan a pharatoi at ei gwely. Araf oleuodd y gannwyll a dechreuodd hithau ddringo’r grisiau.

‘Dere nawr, amser gwely, Tits,’ galwodd ar ei chath, a gysgai â hi’n y gwely bob nos yn ddieithriad. Yr oedd Tits yn gath hyll iawn a chanddi ddwy lygad wydr, ond roedd Beti yn ei charu er gwaethaf ei hanffurfiadau. Fe’i dilynodd yn selog.

Yr oedd yr ystafell dal yn gynnes a hithau’n noswaith haf. Rhoes Beti’r gannwyll ar fwrdd erchwyn y gwely ac agor ffenestr y llofft i oeri’r ystafell; gallai gysgu’n well felly. A byddai angen bod yn effro yfory i recordio pennod ddihafal arall o Beti a’i Phobl, cyn mynd ymlaen i recordio Beti a’i Wobl lle byddai’n gwisgo siwt dew am wythnos a byw megis tewion Cymru’n ymrannu â’u bywydau barus glafoeriog, ac yn olaf dechrau ffilmio Beti a’i Gobyl, rhaglen arloesol a’i gwelai’n mabwysiadu twrci i’w fagu cyn ei ladd at y Nadolig a rhoi’r coesau i drigolion Ffynnon-gwell-na-buwch fel y caent am unwaith gig dros yr ŵyl yn lle’r teils bathrwm a dŵr môr arferol.

Setlodd yn y gwely’n fodlon, gan chwythu’r gannwyll allan gyda Tits wrth ei hochr. Ond yr oedd golau’r lloer yn gwynnu’r ystafell a gallai weld popeth.

‘Noswaith dda,’ meddai llais wrthi o’r llwydni.

‘Pwy sydd yno, gwedwch nawr!’ meddai hi’n ei hôl yn ddewr, cyn symud ei threm a gweld ar sil y ffenestr dylluan dywyll ei gwedd a maleisus ei golwg. ‘A shwd ddaethoch chi i mewn?’ gofynnodd yn gadarn.

‘Ehedais drwy’r ffenestr a setlo yma, yr oedd yn syml, Beti.’

‘Shwd y’ch chi’n gwybod fy enw, o wdihŵ?’ holodd y dylluan. ‘Wy erioed wedi siarad ‘da chwi o’r blaen, na ‘dag unrhyw dylluan arall o’m gwirfodd rwy’n siŵr.’

‘Maddeuwch fy nghamwedd, frenhines y tonfeddi. Gadewch imi fy nghyflwyno fy hun. Fy enw yw Bryn Terfel. Efallai eich bod wedi clywed fy enw o’r blaen, achos mae pawb dwi’n cwrdd â nhw’n dweud eu bod nhw am ryw reswm.’

‘Fe rydych chwi’n glamp o dderyn, rhaid gweud.’

‘Hyn sy’n wirionedd, o wreigen urddasol ein cyfryngau.’

‘Difyr iawn,’ atebodd Beti, er na olygai hyn. Ni chawsai annifyrrach sgwrs nag ers i Ifor ap Glyn ddod i’r stiwdio a threulio pedair awr gyfan yn adrodd ei awdl newydd am ei draed wrthi. ‘Gwedwch wrtha i, bluog greadur, os taw’ch enw yw Bryn Terfel, a allwch ganu i swyno’r dorf?’ Ymsythodd y dylluan yn falch a lledu ei hadenydd fel actor.

Tu whit tu woo!’ ebr yn lled-soniarus.

‘Dyw honno fawr o gân nag yw e?’ dirmygodd Beti.

‘Be oeddech chi’n ei ddisgwyl?’

‘Rhyw aria fawreddog lond ei fibrato neu un o alawon gwerin traddodiadol y Cymry, neu falle bach o Feinir Gwilym.’

‘Wel tylluan dwi de, ‘da chi’n gofyn gormod braidd. Hidiwch befo, fydd fawr o ots ennyd,’ meddai Bryn Terfel heb gelu’r bygythiad yn ei lais. Pwysodd Beti yn ôl.

‘Nawr gwedwch pam hynny? Pan ry’ch chi yn fy aelwyd?’

‘Yma i’ch bwyta ydw i!’ gwichiodd y deryn, a chan frysio tuag ati drwy’r awyr ni chawsai Beti ond eiliad i sgrechian nerth ei phen a disgwyl yr ymosodiad a’i hwynebai. Caeodd ei llygaid, a’r olaf beth a welsai oedd Tits wrth ei hochr.

*

Drannoeth, deffrodd Beti’n gynnar. Breuddwyd, mae’n rhaid! meddyliodd wrthi ei hun. Yr oedd y cyfan mor wir a byw yn ei meddwl. Cododd a diosg ei chap nos, cyn mynd at y drych i ymbincio at y gwaith. Ond gwelsai’n edrych yn ôl arni bluen yn sticio allan o’i cheg, ac un arall o’i chlust, a mymryn o waed ar ei gŵn rhacs. Na! Ni allai fod felly!

Canodd ei ffôn. ‘Ie?’ meddai’n ddryslyd wrth ei ateb yn araf.

‘Beti, helô, Llwyfen Llawnllath sydd yma, yda chi wedi codi bora ‘ma?’

‘Pwy y’ch chi?’

‘Beti, fi ‘di cynhyrchydd Beti a’i Phobl. ‘Dan ni’n gweithio efo’n gilydd ers dros hanner canrif. Mae’n mamau ni’n dod o’r un stryd a chan y ddau ohonom gathod o’r enw Tits. Ro’n i’n forwyn yn eich priodas.’ Hanner wrandawodd Beti, ond pwysai neithiwr yn drom arni. ‘Gwrandewch, fydd ddim rhaid i chi ddod i’r gwaith heddiw,’ meddai Llwyfen. Cafodd hynny ei sylw. Parhaodd y galwr i siarad.

‘Y peth rhyfeddaf. Fe gafon ni wybod ychydig yn ôl fod Bryn Terfel, pwy ydach chi’n fod i gyfweld â fo heddiw, wedi diflannu neithiwr. Dim ôl ohono. ‘Does yna neb yn gwybod i ble’r aeth o na phryd, ond bod yr heddlu wedi ffeindio ambell bluen ar ei wely. Dydi pethau ddim yn edrych yn dda mae arna i ofn. Beth bynnag, popeth wedi’i ganslo. Dirgelwch llwyr! Dwi am fynd i Asda rŵan, wela’ i chi wythnos nesa.’

Rhoes Beti’r ffôn i lawr yn ofalus, a throi eto at y drych. Gwenodd at ei hadlewyrchiad. Er na ddeallai’n llawn oblygiadau’r noson gynt, gwyddai y dywedai’r cynhyrchydd y gwir, a thaw Bryn Terfel a oedd wedi troi’n dylluan a cheisio’i bwyta gyda’r nos, ond hi a oedd yn fuddugol. Hyhi a oedd yn fuddugol bob tro.

A dyna sut gwireddwyd y broffwydoliaeth.




Nessun commento: