venerdì, giugno 26, 2015

Blydi safonau iaith eto

Dwi wastad wedi mynnu nad ydi Twitter yn lle da i’r rhan fwyaf o bethau, ac yn sicr mae’n anodd iawn, iawn cynnal dadl o unrhyw sylwedd arno. Hanes dau gyfrif gwahanol ydi’r blogiad hwn; ni cheisiaf, gobeithio, fod yn ddiangen o feirniadol ond efallai dod â phersbectif dwyochrog i ddadl dragwyddol safonau iaith.

Mae safonau iaith wedi bod yn bwnc a drafodwyd droeon ar y blog hwn. O drafod Dyfodol yr Iaith yn achwyn yn ddiangen ar Radio Cymru, fy marn ar pam fod angen symleiddio gramadeg y Gymraeg,  ac, wrth gwrs, snobyddiaeth ieithyddol honedig yma ac yma – a hyd yn oed ymgais Robyn Lewis i wneud yr hyn y mae bob hen berson yn ei wneud a bod yn niwsans bwriadol, a hynny dan fwgwd gwneud safiad dros yr iaith.

Ond ta waeth, dau gyfrif gwahanol sydd dan sylw. Y cyntaf ydi’r Beiro Coch a’r llall ydi Gad Lonydd. A dwi’n drist am y peth. Y mae’r cyntaf yn tynnu sylw at iaith wallus gan sefydliadau a ffigurau cyhoeddus, a’r llall yn tynnu sylw at obsesiwn rhai â chywirdeb iaith. Yr ateb bras i’r holl lol ydi bod y ddau yn iawn a’r ddau yn rong. Ymhelaetha i’n fras.

A dweud y gwir, fel cyfieithydd i sefydliad cyhoeddus, mae gen i gryn gydymdeimlad efo Beiro Coch (er y mynna i hyd fy medd fod ‘beiro’ yn air benywaidd). Mi ddylai sefydliadau yn sicr bod yn defnyddio Cymraeg mwy ffurfiol, er mae pethau’n fwy cymhleth wrth drafod pethau fel y BBC, sy’n gorfod drwy ryw fodd ddod o hyd i dir canol – mae hynny’n anos nag y byddech chi’n ei feddwl. Dydi hyd yn oed pobl â Chymraeg perffaith (ac, oes, mae ffasiwn beth ar lefel ramadegol â ‘Chymraeg perffaith’) ddim yn aml yn gallu gwneud hyn. Gall gorffurfioli yn aml wneud i bobl droi cefn ar ddarllen rhywbeth yn Gymraeg a throi at y Saesneg.  Petaem ni’n dilyn y trywydd hwnnw byddai’r iaith yn dirwyo hyd yn oed yn gynt.

Y tric i hyn ydi, yn syml, rhywbeth dwi’n ceisio cadw’n driw ato wrth fy ngwaith bob dydd: dydi Cymraeg anffurfiol ddim yn Gymraeg ansafonol. Efallai bod digon o bobl yn gwybod beth ydi ‘darparu’ neu ‘gwirio’ ond dydi lot ddim – ac hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n gwybod gall defnyddio geiriau felly wneud i bobl droi i’r fersiwn Saesneg beth bynnag. Ydi, mae’n anodd dod o hyd i’r C-spot o Gymraeg sy’n gywir ond hefyd yn ddarllenadwy. Ond mae modd gwneud, ac mae’n well na bratiaith ac yn well nag iaith lenyddol.

Rhaid bod yn ofalus efo cywirdeb felly. Llawer iawn gwell ydi inni ostwng ein safonau na throi pobl oddi wrth yr iaith; dwi’n hollol grediniol o hyn. A dweud y gwir, dwi’n bersonol o’r farn fod yn rhaid inni ostwng y safonau hynny er mwyn sicrhau parhad, neu o leiaf ffyniant, y Gymraeg. A dwi’n meddwl bod honno’n ddadl sy’n rhaid i ni ei chael ar unwaith – er bod neb yn gwrando arna i yn hyn o beth. Ond dydi pigo ar bob gwall – er gwaethaf y ffaith y dylem ni ddisgwyl Cymraeg graenus gan bethau fel sefydliadau cyhoeddus – ddim bob tro’n helpu. Ta waeth, dydi mân wall ddim yn peri cymaint o bryder i mi â chyfrif twitter Iaith Fyw y Llywodraeth yn mynnu galw ‘ti’ arna i. Pawb â’i bethau.

Felly dwi’n meddwl fy mod i wedi sefydlu nad ydi gweiddi’n groch dros gywirdeb bob tro’n beth da. Hyd yn oed gyda sefydliadau, rhaid cofio mai person sy’n ysgrifennu, a gall beirniadu, os gwneir hynny mewn ffordd swta, effeithio ar hyder yr unigolyn hwnnw. Gan bwyll wrth bwyntio at wallau. Ond mae rhywbeth arall, a dwi’n torri fy mol isio dweud hyn, achos mae hyn yn ymwneud ag ochr arall y ddadl – a rhybudd ydi o.

Does yna ddim lot o bobl yn hefru am gywirdeb iaith, a does yna ddim llawer o snobs iaith ychwaith. Fel y dywedais o’r blaen, tydi cwyno am fod rhywbeth yn rong ddim yn dy osod yn y categori hwnnw. Wrth gwrs, mae yna rai pobl – yr un hen rai swnllyd gan mwyaf – sy’n cwyno bob munud am bob dim o ran cywirdeb ieithyddol, ac weithiau’n anghywir felly!

Y peth ydi hyn: ychydig ohonyn nhw sydd. Mae bwydo’r myth eu bod nhw’n bobman yn neud llawn cymaint o niwed â’u cwyno cyson nhw. Yr ‘angen’ i daro’n ôl yn eu herbyn, yr ‘angen’ i wneud brwydr o’r peth; mae’n atgyfnerthu delwedd anwir o’r sefyllfa. Tydi’r bobl hyn prin yn bodoli. Ac mae’r rhai sy’n sefyll yn eu herbyn yn aml yn fwriadol ymfalchïo yn y ffaith nad ydi eu Cymraeg gystal – yn wallus, os mynnwch.

Jyst rhag ofn imi bechu, gadewch i mi ymhelaethu fymryn: does yna ddim cywilydd, o gwbl o gwbl, i feddu ar Gymraeg sy ddim yn berffaith. Does neb yn siarad Cymraeg gloyw glân bob gair, ac ychydig sydd yn ei hysgrifennu felly mewn difrif. Ond mae ymfalchïo yn y peth yn wirion. Os ydi pobl isio gwella’u Cymraeg – grêt – os dydyn nhw ddim – iawn, y peth pwysig ydi eu bod nhw’n ei defnyddio. Yn bendant mae snobs iaith yn atal pobl rhag gwneud hynny, ond wrth greu argraff anwir eu bod nhw ymhobman, y canlyniad ydi bod llai o bobl yn defnyddio’u hiaith rhag ofn cael eu beirniadu gan y byddinoedd honedig ohonynt.

Peidiwch â brwydro yn erbyn safonau jyst achos bod un neu ddau o bobl yn cwyno. Achos, er gwaetha’r ffaith fod yn rhaid inni drafod safonau’r Gymraeg, mae angen safonau ar iaith. Mae’n syml – mae ieithoedd sydd heb eu safoni’n tueddu i farw. Mi ydan ni angen rheolau a gramadeg, a dylai Cymraeg ar ffurflenni a gwefannau ac ati gadw atynt.
 
Oni ddylai Cymraeg cywir fod y norm? Ydi bratiaith wir yn dderbyniol ymhoman?
 
Fi sy’n hefru ymlaen rŵan. Gadewch i mi orffen efo un pwt bach. Mae yna ffordd ganol. Mae Cymraeg anffurfiol yn Gymraeg safonol (o’i gwneud yn iawn de), a dwi’n grediniol mai hwnnw ydi’r trywydd cywir. Gawni er mwyn Duw stopio cecru ymhlith ein gilydd am hyn? Mae’r ymadrodd Saesneg, fiddling while Rome burns, yn dod i’r meddwl. Rhaid i ddau begwn y ddadl hon ddeall nad oes yr un ohonynt yn helpu achos yr iaith, er bod y ddau’n ceisio helpu dwi’n siŵr. 
 
Dewch at eich gilydd yn gytûn.   

Nessun commento: