John Ogwen |
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.
Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi |
Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘yr wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.
Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.
Grensiawg ei uedd, kyg da droellaw
Brython tross dân, Lloegyr kenfygennaw,
Enaid Owain ab Urien.
Agryma’r
uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr
mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) –
sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud
â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.
Llyfryddiaeth:
‘Hogyn
o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.
Nessun commento:
Posta un commento