lunedì, dicembre 27, 2010

Goleuadau'r Nadolig

Sut Nadolig wnaeth hi felly? Iawn? Cymedrol? Gwych? Dydyn nhw byth yn wych yn y pen draw nac ydyn. Ac nid y gwychaf na’r gwaethaf a gafwyd unwaith eto eleni. Ond mi wnes fwynhau yn fy ffordd fach fy hun.

Fe’m codwyd tua 8.30 y bora gan y chwaer a Mam mewn het Siôn Corn, sy’n ddigon i ddychryn y dewraf a dweud y lleiaf. Er i mi yfad mwy na’r arfer yn Stryd Pesda ar Noswyl y Nadolig (traddodiad pwysig) ni’m trechwyd gan ben mawr drwy gydol y dydd. Buddugoliaeth ynddi’i hun ydoedd, oherwydd fel arfer mi fydda i’n teimlo’n sâl dros ginio ac yn mynd i’r gwely am y rhan fwyaf o’r pnawn gan fwy neu lai sbwylio Dolig pawb arall.

Mi es lawr grisha felly i weld pa erchyllterau a adawsai Siôn Corn i mi. Er gwaethaf ei bwriadau, mae gan Mam duedd i brynu anrhegion nad oes mo’u heisiau na’u hangen arnaf. Wn i fod hynny’n swnio’n anniolchgar ond dydi o ddim, ac mae’r hen dîar yn cadw’r derbynebion i gyd chwara teg. A hithau’n draddodiad teuluol agor un anrheg ar y Noswyl, nid oedd pethau’n argoeli’n dda pan ddatgelwyd bryd hynny fag plastig i ddal dillad i’w golchi.

Ar y cyfan, cyfuniad o bethau a ddychwelir i’r siop neu na welir mohonynt eto a gafwyd. Hunangofiannau Ned Thomas a Roger Roberts (mae gas gen i hunangofiannau, a nid dyma’r ddau i’m hargyhoeddi – ‘nenwedig Roger blydi Roberts), padell ffrio ar gyfer un wy, pâr hyll o jîns (a chanddo tua 12 pâr eisoes nid oes angen jîns ar yr Hogyn) a’r hwdi hyllaf ar y Cread crwn.

Am unwaith fe werthfawrogodd Dad ei bresant, sef the Pocket Book of Manchester United. Fe’i darlleno, a fydd ryfeddod achos dydi o byth wedi darllen llyfr yn ei fywyd – yn ei feddwl o mae darllen y Daily Star bob dydd yn gwneud iawn am hyn – ac arferol ddiolchgar oedd y Mam a’r chwaer.

Cafodd Nain ei gwahardd gan Mam rhag plygu’r papur lapio yn ddel “er mwyn ei ddefnyddio eto” achos bod digonedd ohono acw’n Sir Fôn ac yn ddigonedd nas defnyddir fyth. Lapith honno mo bresant i neb fyth, heb sôn am brynu un.

Dwi’n mynd i fwydro rŵan, felly cadwn ail hanner y dydd yn fyr. Roedd y cinio’n hyfryd, a’r twrci nid sych ond bwytadwy iawn, y’i bwytasid wrth glywed straeon doniol Nain am ‘stalwm ac Anti Blodwen yn rhoi cweir i ryw ferch arall am galw hen Nain yn ‘dew’. “Wel ‘rargian fawr, mi wyt ti’n dew,” oedd ymateb hen Daid meddai hi.

Ta waeth cafwyd pnawn diog ond mi welwyd y peth rhyfeddaf tua deg munud wedi pump. Yn digwydd bod, ro’n i’n ista ar y sedd yn wynebu tua Moel Faban, ac yn sydyn reit dyma ‘na olau oren yn dod o Gwm Llafar, y tu ôl i Foel Faban, er y taeraswn iddo ddechrau ar ochr orllewinol Foel ei hun, achos ro’n i’n meddwl mai tân ydoedd i ddechrau.

Ymhen dim, a’r golau cyntaf yn esgyn uwch Foel a ninnau wedi hen ddeall nad hofrennydd mohono (sef yr ail olau) esgynnodd un arall i’r awyr, y tro hwn yn bendant iawn o Gwm Llafar. Mi ddiflannodd yr ail yn syth bin – un funud roedd yn olau a’r eiliad nesa’ nid oedd, wrth i’r llall raddol ddiffodd megis fflam ddiwedd cannwyll. Roedd y ddwy funud hynny yn rhai rhyfedd ar y diawl.

A minnau ddim yn credu mewn UFOs a pobol fach o blanedau eraill, nid am unrhyw reswm ond am f’ystyfnigrwydd fy hun, fedra’ i ddim meddwl am eglurhad. Ond fela mai a fela fydd, Dolig arall a oroeswyd!

Nessun commento: