giovedì, dicembre 16, 2010

S4C i ddangos rhaglenni Saesneg?

Egwyddorion ac ymarferoldeb. Dwi wedi sôn am hynny o’r blaen. Dyma erthygl arferol o fer ar Golwg360 lle mae Arwel Ellis Owen yn dweud ei bod yn ‘anochel’ y bydd S4C yn ailddechrau dangos rhaglenni Saesneg.

Yn egwyddorol, mae hynny’n gwbl, gwbl anghywir. Sianel Gymraeg ydi S4C a dyna ddiwedd arni. Mae hi’n sianel Gymraeg cyn ei bod yn sianel i Gymru hyd yn oed. Ei bwriad ydi hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn rhan o’r byd modern. Pa gyfraniad a wna dangos rhaglenni Saesneg at hynny? Dim. Rhaid dweud yn gwbl glir: ni ddylai fod unrhyw le i raglenni Saesneg ar S4C atalnod llawn ffwl stop – does ‘na ddim dadl am y peth.

Ond y gwir ydi mae’r peth yn wirion o anymarferol hefyd, i’r graddau ei bod yn stiwpid – a dwi’n defnyddio’r gair ‘stiwpid’ achos fedra i ddim meddwl am ffordd gryfach na gwell o’i gyfleu. Pa raglenni Saesneg, dwad? Rhaglenni gan y BBC? Rhaglenni gan Channel 4?

Rydyn ni’n yr oes ddigidol, neno’r tad. Ers dyfod teledu digidol, os mae rhywun isio gwylio raglen sydd ar Channel 4, fe wnânt hynny. Hyd yn oed os mae o ar yr un pryd ar S4C, Channel 4 fydd pobl yn ei gwylio i weld y rhaglen. ‘Sneb yn troi at S4C gyda’r bwriad o wneud unrhyw beth ond am wylio rhaglen Gymraeg.

Ailddarllediadau o raglenni ar sianeli eraill? Eto, mae hynny’n stiwpid. Gall pobl recordio rhaglenni yn hollol ddidrafferth, fynd i wefannau sianeli neu yn achos Channel 4 gwylio Channel 4 +1. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa i raglenni Saesneg ar S4C, i bob pwrpas, yn llai nag i’r rhaglenni Cymraeg. Hyd yn oed ar ôl y toriadau erchyll sy’n dyfod, ‘does ‘na ddim sens yn y peth.

Ychydig eiliadau dwi wedi’u cymryd i feddwl bod hwn yn syniad hurt ac esbonio pam. Tasa S4C yn blentyn swni’n gafal arno, yn rhoi sgytwad iawn iddo a deutha fo ffwcin callio.

3 commenti:

Hogyn o Rhuthun ha detto...

Blog ardderchog. Os fydd rhai Saesneg ar y sianel, fydd y dadl eto y codi o pa iaith fydd yn cael eu darlledu ar oriau brig, fel wnaeth o yng Nghymru cyn 1982. Mae yna gannoedd o sianeli Saesneg dim ond un sy yn ein iaith ni. Mae sylwadau Arwel Ellis Owen yn warthus.

Anonimo ha detto...

Does dim digon ar gyfer pobl y cymoedd, y jacs, y twrcs, pobl wrecsam, keirdiffians, clartiau casnewydd a.y.y.b... hynny yw y gymry trefol, dosbarth gweithiol sy'n wladgarol iawn ond yn siarad Saesneg. Mae'r un peth yn wir am y cofis a pobl rhos er bod nhw'n siarad Cymraeg.

Mae'r acenion ar BBC ac ITV Wales yn Seisnig iawn. Pam? Mewn ardaloedd eraill e.e Swydd Efrog byddech chi'n clywed acenion lleol ar y radio / newyddion.

Mae angen cymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n mewn tiwn efo bywyd pob dydd ac yn dangos realiti Cymru. Mae yna gormod o bwyslais ar cefn gwlad ac nid y Gymru trefol, modern.

Beth am S4C yn dangos rhaglenni ar gyfer mewnfudwyr? ;)

Dylan ha detto...

dw i'n cymryd mai rhaglenni Saesneg newydd ar gyfer S4C mae o'n ei olygu, megis yr hyn mae BBC Wêls yn ei wneud (neu'n hytrach, i fod i'w wneud)

a'r ateb i hynny wrth gwrs ydi mai job BBC Wêls ydi hynny.

dw i'n cytuno efo chdi. Dim rhaglenni Susnag ar Sbrec no we nefar byth bythoedd amen atalnod llawn

mae AEO yn rybish