Mater dathlu ydi pasio’r Mesur Iaith ddoe yn ein Cynulliad. Bydd i’r Gymraeg statws na chawsai, boed yn swyddogol ai peidio, ers canrifoedd unwaith eto ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Rhaid llongyfarch Alun Ffred, a hefyd Blaid Cymru, am lywio’r mesur yn wyneb rhwystrau mawr dros gyfnod mor hir, a dal ati i’r diwedd. Mi aiff Guto Dafydd a Blogmenai i fwy o fanylder am y Mesur ei hun na wnaf i ... yn wir, os ydi lefel eich dealltwriaeth o ddeddfwriaeth mor boenus o isel â’m un i, mae’r Q&A hwn gan BBC Wales yn o handi!
Y pwynt ydi, mae’r Gymraeg bellach i bob pwrpas yn iaith swyddogol yng Nghymru, a ddylai rhoi gwên ar wyneb pawb a siarada’r Gymraeg heddiw.
Mae gen i ddau bwynt i’w wneud, heb fod yn rhy negyddol, er mae’n siŵr felly y’u cyflëir! Cyn mynd ymlaen, rhaid o waelod calon ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am i ni gyrraedd y pwynt hwn. Heb ei hymgyrchu cyson am y nesaf peth i ddegawd, mae’n annhebygol y byddai gennym fesur mor gryf ; a hyd y gwelaf i, mae yn fesur cryf. Dwi’n poeni i ymateb cymharol lugoer y Gymdeithas (fy argraff i o’r ymateb yn sicr) at y Mesur wneud iddi swnio ychydig yn, sut y galla’ i ddweud, fel ei bod yn swnian er mwyn swnian - ac mae’n cyferbynnu’n llwyr ag ymateb Richard Wyn Jones ac Emyr Lewis, er enghraifft. Mae peryg i’r Gymdeithas gyfleu ei bod yn fudiad eithafol yn hyn o beth, a fyddai’n annheg iawn arni hi, a chydymffurfio â’r ddelwedd whingeing nashies.
Ac mae’n rhaid i mi ategu Guto Dafydd yn dweud bod yr ymosodiadau personol a wnaed ar Alun Ffred (neu jyst ‘Ffred’ yn ôl golwg360 am ryw reswm od ar y diawl) wedi suro pethau, ac na haeddodd hynny yn y lleiaf. Serch hynny, rhaid ategu bod dyled unwaith eto gan y Cymry Cymraeg i’r Gymdeithas, ac wrth gwrs Plaid Cymru.
Mae un peth arall, sydd yn boendod i mi’n bersonol, er wn i ddim a yw’n bryder a rennir gan eraill. Yn bersonol, a heb ddiystyru’r ymgyrch Deddf Iaith hirfaith, dwi bob amser wedi credu y dylid bod wedi ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo yn lle. Fe wnâi honno, yn fy marn i, fyd o les i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae diogelu’r ardaloedd prin sydd o hyd â mwyafrif Cymraeg yn bwysicach na statws yr iaith.
 chryn betruster, rhaid i mi ddweud na chaiff y Ddeddf Iaith unrhyw effaith ar y Gymraeg yn yr ystyr hanfodol hwn. Yn wir, o ‘swyddogoli’ cenedl y Cymry dros y degawd diwethaf, mae’r iaith ar lawr gwlad yng Nghymru benbaladr (ac eithrio Caerdydd) wedi chwalu ar raddfa fwy erchyll nag erioed o’r blaen, am amryw resymau. Fydd ffigurau Cyfrifiad 2011, i ni garedigion y Fro Gymraeg, yn siom dorcalonogol: ni fydd y Ddeddf Iaith yn effeithio dim ar y tueddiadau cymdeithasol ac ieithyddol sy’n difetha’r iaith, a hynny yn anad dim sydd ei angen ar y Gymraeg i sicrhau ei pharhad. Yn nwfn calonnau’r rhai a adwaen y Fro, mi dybiaf y cytunant, os yn amharod felly. Colli’r Fro yw colli Cymru, ac ni wnaeth yr un ddeddf iaith ronyn o wahaniaeth i ddirywiad yr iaith ymhlith pobl Cymru.
Iechyd da i’r Mesur Iaith a llwnc destun iddo; ond mae brwydr yr iaith, gwaetha’r modd, yn fyw ac iach o hyd yng Nghymru’r Gymraeg swyddogol. Cofiwch hynny.
2 commenti:
Dwi'n cytuno hefo dy ddadansoddiad. Mae yna berig y bydd y Comisinydd Iaith, y "Safonau" Iaith, y Pwyllgor Defnyddwyr a'r Tribiwnlys Iaith gyda'i gilydd yn creu math o fiwrocratiaeth Kafkaesgaidd cymhleth fydd yn gogordroi'n barhaol heb gyflawni fawr o ddim.
Ond efallai mai nid y Mesur Iaith ei hun sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd, ond y Strategaeth Iaith sydd i'w chyhoeddi wythnos nesaf gan greu 8 ardal o sensitifrwydd ieithyddol arbennig( gan gynnwys Mon/Menai o'r hyn a glywa i). Os yw hyn yn dynodi y bydd pwyslais newydd ar gynnal yr iaith fel iaith fyw gymunedol- dyna be' fyddai achos dathlu go iawn. Nid statws ond iws o'r iaith( yn gymunedol) sy'n cyfrif!
Fydda i hefyd yn edrych i weld cynnwys y Strategaeth - a gobeithio'n wir bod Môn wedi'i chynnwys fel ardal o sensitifrwydd ieithyddol arbennig. Mae Môn yn agos iawn at fy nghalon ond mae clywed cymaint o Saesneg yno pan fydda i yno, a hynny ym mhob rhan ohoni, yn peri gofid ofnadwy i mi.
Posta un commento