giovedì, maggio 21, 2009

Cymry'r Frechdan

Yn rhannol er mwyn arbed arian ac yn rhannol oherwydd nad ydw i’n licio gwario, fydda i’n mynd â brechdan i’r gwaith bob bore. Yn wir, mae’r peth mor ddiflas ag y mae’n swnio. Yn ymarferol, dwi ddim yn unigolyn creadigol nac arloesol. I’r gwrthwyneb bydd rhywun yn cadw at y cyffredin yn amlach na pheidio, ac adlewyrchir hyn yn fy mrechdanau.

Beth ydi’r frechdan orau? Pa frechdan sydd fwyaf ymarferol i fynd i’r gwaith? A ellir cyfuno’r ddau beth? Wn i ddim, nid gwyddonydd na phoffwyd mohonof, ond gwn fy mod yn dechrau diflasu. Bron bob dydd naill ai iâr (nid un cyfan), twrci (eto nid un cyfan) neu ham (sy ddim yn anifail fel y cyfryw) efo ciwcymbr fydda i’n ei wneud. Weithiau mi fentraf domato, ond bydd tomato yn gwneud i frechdan droi’n wlyb.

Brechdan lobsgows ydi brenin y brechdanau yn nheyrnas fy meddwl yr ymwneir ag ef â brechdanau. Neu frechdan ffishffingars – unrhyw beth poeth sy’n toddi’r menyn. Ew, dwi yn ffan o fenyn cofiwch, a digonedd ohono. Bydd rhai ddim yn rhoi menyn ar frechdan, yn ôl y sôn ar y winllan, a dwi ddim yn dallt hynny. Mae bara heb fenyn fel Elfyn Llwyd heb fwstash, y mae’r ddau’n cyd-ddibynnu ar lwyddiant ei gilydd, sydd o bosibl y gymhariaeth waethaf dwi wedi’i gwneud ers dechrau blogio chwe mlynedd nôl.

A chan ddweud hynny, tynnaf fy sylw uchod fod brechdanau’n ddiflas yn ôl. Mae brechdan yn fwyd bob tywydd – o gorgimychiaid a letys yn awyr iach yr haf, i frechdan gaws a phanad ger y tân pan fo’r nos yn ddu. Mae brechdanau yn wych.

Mae’r Cymry yn licio’u baramenyn yn fwy na’r un genedl arall, wrth gwrs – ni yn anad neb yw hil y baramenyn. Yn wahanol i neb arall medrwn fyta baramenyn gydag unrhyw bryd a roddir o’n blaen, ac nid yn anaml ledled erwau’n gwlad y clywir ‘wyt ti isio bechdan?’ gan fam wrth i’w thylwyth ddechrau ar gyri neu chilli neu ginio go iawn.

Tybed beth ydi hoff frechdan y Cymry? Nosweithiau hirion a dreuliaf yn ystyried y cwestiwn hwnnw (sy’n gelwydd). Roedd un o’m ffrindiau sydd o Reading, y tro diwethaf iddo ddod i Gymru fach, wedi cael sioc o weld faint o siopau brechdanau/baguettes sydd yng Nghymru, ac maen nhw’n bla yma. Ond pla addfwyn ydyw, arwydd pendant o symlrwydd y Cymry yn eu hanfod.

Mae’r Cymro a’i frechdan yn bennaf gyfeillion.

Setla’ i bob tro am frechdan caws a ham a thomato. Dwi’n meddwl bod hyn yn bennaf oherwydd mai dyma’r unig beth all fy nhad ei baratoi, ym maes bwyd, sy’n fwytadwy.

Ond dyna’r drafferth â brechdan – mae ‘na gormod o ddewis, gormod o gyfuniadau, ac o’r herwydd dyna pam, mae’n siŵr, y bydda i’n parhau i fynd â brechdan ham i’r gwaith yn feunydd.

2 commenti:

Rhys Wynne ha detto...

MAe mynd a dty frechdan dy hun yn neu lot o synnwyr.

I brynu brechdan parod yng Nghaerydd mae gofyn cael ail forgais.

Hefyd, mae'r brechdannau parod hyn yn cynnwys mwy o frasder a halen na burgyrs yn Burger King a McDonalds.

Ac maen nhw'n dod mewn pecynnu di angen.

Dw i'n licio rhoi pitsa oer ar frechdan a lot o sos coch arno. Mae eisiau tipyn o fenyn hefyd, achos fe all fod yn sych.

Dw i'n eitha licio'r ffordd mae brechdan â thomato arno'n mynd yn sogi.

Dw i'n eitha hoff o frechdan salad (dim cig) a gyda lot o creme de salad (nid mayo).

Ond os bydda i'n teimlo'n ddiog, dw i'n licio mynd i 'Fresh' yn y Royal Arcade. Adeg 'dolig mae nhw'n gwnud brechdan echi Twrci (cig go iawn, nid wedi ei brosesu), selsig bach mewn bacwn, saws cranberry a stwffin.

Anonimo ha detto...

A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.