Mae pawb arall yn cynnig sylwadau ar golwg360 a dwi’n teimlo’r angen i wneud yr un peth. Rŵan, cyn i mi baladurio rhaid i mi ddweud nad ydw i’n gwybod llawer am gyfrifiadura a’r we – fel y gwelwch o’r blog hwn. Er enghraifft, hoffwn i greu ffrwd o flogiau ar yr ochr fel sydd gan nifer o flogiau eraill, ond y gwir ydi ‘does gen i ddim syniad sut i wneud y ffasiwn beth. Felly pan ddaw at feirniadu eraill sy’n ymdrin â gwebethau, alla’ i’m dweud dim.
Gan ddweud hynny, dwi ddim yn cael fy nhalu i wneud hynny. Peth gwirfoddol a dibwrpas ydi blog fel hwn, ond mae golwg360 i fod yn wefan broffesiynol, lle y telir pobl i wneud iddi weithio. Ar y cyfan, dwi ddim yn gallu cwyno gormod am ansawdd y cynnwys na safon y newyddiaduraeth, ond mae’r erthyglau byrion yn gwneud i rywun teimlo y bônt wedi cael eu “twyllo”. Yn gryno, dydi o ddim werth mynd i unrhyw safle i ddarllen dau neu dri pharagraff o newyddion.
Tra fy mod yn deall yn iawn nad arbenigwyr gwe sydd wedi dylunio’r safle, mae’r edrychiad yn bur warthus. Mae’n hyll, yn hen ffasiwn, yn amhroffesiynol ac yn ddigon i wneud i rywun droi’i drwyn ar unwaith. Byddai newid ffont, cael lluniau maint cywir, a dod ag ychydig o liw iddo’n ddechrau, ond o ystyried y dyfarnwyd £200,000 oni ellir bod wedi cael rhyw faint o arbenigedd i helpu i ddylunio’r safle? I mi, dyma siom fwyaf y wefan, ac yn anffodus mae’n siomedig iawn - i’r fath raddau y synnwn ar y diawl pe byddai unrhyw un sydd ynghlwm wrth y wefan yn meddwl yn wahanol.
Dydi hi fawr o syndod y bu’r ymateb hyd yn hyn yn anffafriol. Wrth gwrs, tasg a hanner ydi cystadlu â’r unig wir ffynhonnell newyddion arall yn y Gymraeg, sef BBC Cymru, ond ar hyn o bryd dydi Golwg360 ddim yn dod yn agos at y wefan honno, er megis dechrau yw hi. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid bachu’r gynulleidfa ar unwaith – dwi ddim yn meddwl y llwyddwyd i wneud hynny.
Gobeithio y bydd pethau’n gwella oherwydd mi fyddai gwefan lwyddiannus o’r math yn hwb i’r Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg a’r Gymraeg ar-lein. Ymddengys i mi fod y lansiad wedi bod yn gynamserol braidd, ac y dylid bod wedi gwneud mwy o waith ar y wefan cyn gwneud hynny. Gobeithio na fydd y wefan ar ei ffurf bresennol yn troi gormod o ddarpar ddilynwyr i ffwrdd, unwaith ac am byth.
Dwi’n siŵr nad dyna fydd yr achos, ac mi fydda innau’n parhau i ddarllen am rywfaint, ond os nad ydi’r peth yn gwella rhagwelaf y byddwn i’n rhoi’r gorau i’w dddarllen. A fyddai’n deg gwneud hynny?
Byddai, yn fy marn i. Ydi, mae’n bwysig cefnogi mentrau o’r fath, ond mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau o’r fath a ddarperir yn Gymraeg o’r un safon â gwasanaethau tebyg mewn ieithoedd eraill. Hyd yn hyn, dydi golwg360 ddim.
Ond dwi’n siŵr y bydd pethau’n gwella ar fyr o dro.
Nessun commento:
Posta un commento