venerdì, maggio 29, 2009

Etholiadau Ewrop - Rhan II

Ymhen wythnos bydda i, a chychwi, yn gwybod canlyniadau Etholiadau Ewrop. Dwi’n llai hyderus fy mhroffwydoliaeth ddiwethaf, sef y byddai Llafur yn ennill yng Nghymru. Mae ‘na ryw reddf ynof yn meddwl y gallai fod yn flwyddyn Plaid Cymru. Mae’r reddf honno wedi bod yn drychinebus o wael, a hefyd yn rhagorol, o’r blaen. Cofiaf yn 2003 y bu i mi ddarogan etholiad llwyddiannus i Blaid Cymru yng nghystadlaeth ddarogan Maes E, ac wrth gwrs roeddwn i’n gwbl anghywir.

Ond deunaw oeddwn i bryd hynny. Yn wir, yn 2007, y fi wnaeth y broffwydoliaeth gywiraf ar Faes E, gan felly ennill tair potel o win coch, ac roedd ambell broffwydoliaeth ar y blog hwn hefyd yn rhai da. Mae’n rhaid felly fy mod i’n gwella wrth heneiddio, ond gwell i mi beidio â bod yn rhy trahaus!

Yr hyn sydd wrth wraidd fy newid agwedd ydi’r busnes treuliau, sydd dal heb effeithio ar Blaid Cymru, ond sy’n parhau i effeithio’n echrydus o andwyol ar Lafur, ond hefyd ar y Ceidwadwyr. Pwy fydd yn manteisio?

Ni ellir tanystyried effaith pleidlais UKIP ar y Ceidwadwyr yng Nghymru. Un enghraifft berffaith o hynny yw canlyniad Bro Morgannwg yn y Cynulliad yn 2007. Methodd y Ceidwadwyr ag ennill y sedd o 83 o bleidleisiau, a llwyddodd UKIP ddenu 2,310 o bobl i bleidleisio drosynt. Nid athrylith yn unig allai ddallt pe na bai UKIP wedi sefyll, byddai o leiaf 83 o’r pleidleisiau hynny wedi mynd at y Ceidwadwyr, a byddai’r Fro yn las.

O edrych ar ganlyniadau tebyg, mae dadl gref mai UKIP fydd prif fuddiolwr unrhyw bleidleisiau a atgyfeirir oddi wrth y Ceidwadwyr. Pe na bai UKIP yn bodoli yn 2007, y Ceidwadwyr yn bur hawdd fyddai ail blaid Cymru o ran pleidleisiau yn yr etholaethau. Mae’n parhau’n wir y gall nifer weddol fach o bleidleisiau ennill a cholli seddau.

Yng Nghymru, mae’n anodd gweld pwy ond am Blaid Cymru allai gael budd o unrhyw bleidleisiau a ddaw oddi wrth Lafur. Mewn rhai ardaloedd gellid dweud mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n elwa fwyaf, ond ni ellir ychwaith diystyried a) effaith y busnes treuliau ar y blaid honno na, b) pa mor wan yw’r blaid yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun Cymreig, gallwn hefyd ddiystyru’r BNP, a diolch byth am hynny.

Gan ystyried felly y byddai angen i UKIP a/neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill degau o filoedd o bleidleisiau yn fwy yng Nghymru, ar adeg y bydd y nifer sy’n pleidleisio yn llawer is na’r tro diwethaf, i ennill y bedwaredd sedd – wel, mae’n ymylu at fod yn annhebygol iawn i’r naill a’r llall.

Ond yn ôl at Blaid Cymru. Gall y Blaid ennill mwy o bleidleisiau o’r newydd oddi wrth Lafur na’r Ceidwadwyr. Byddwn yn dadlau bod uchafbleidlais Plaid Cymru yn uwch nag uchafbleidlais y Ceidwadwyr yng Nghymru – hynny ydi bod nifer uchaf y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru yn uwch na nifer y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru. Mae hynny’n seiliedig ar y ffaith mai prif ‘farchnad’ Plaid Cymru o ran denu pleidleisiau newydd ydi o blith pobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio Llafur, sef y grŵp mwyaf o etholwyr yng Nghymru hyd heddiw.

A thra bod popeth yn awgrymu nad ydi Plaid Cymru eto wedi ad-ennill y gefnogaeth a gafodd ddegawd yn ôl, mae’n hysbys bod Llafur Cymru yn wannach o bethwmbrath. ‘Does ychwaith unrhyw arwyddion gwirioneddol yn awgrymu bod y glymblaid wedi cael effaith wirioneddol wael ar bleidlais Plaid Cymru, er gwaethaf rhai o’i methiannau.

Ac mae hyn mewn adeg lle mae Llafur Cymru yn rym bur annrhawiadol a blinedig. Y cwestiwn mawr ydi, pan ddaw ati, a fydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, a’r Blaid neu’r Ceidwadwyr yn ennill digon o bleidleisiau?

Mae angen bod yn ofalus fan hyn. Ar ddiwedd y gân rhaid cofio, hyd yn oed mewn oes lle y mae Llafur ar drai, mae ei phleidlais graidd yn gryfach na phleidlais graidd yr un blaid arall. Nid y bobl hyn o reidrwydd yw’r rhai sy’n pleidleisio dros Lafur doed â ddêl, ond yn hytrach y rhai sy’n pleidleisio drosti pan fônt yn synhwyro bod eu hangen ar y blaid. A ydi’r grŵp hwn yn parhau’n grŵp digon mawr a dylanwadol i newid llif yr etholiad hwn? Wn i ddim am hynny bellach, mewn degawd deuwn at adeg, mi dybiaf, na fydd y grŵp hwn o etholwyr yn bodoli – ond tybed a ydi’r cryfder hwnnw, gwir gadernid y blaid Lafur Gymreig, yno o hyd?

Dyma’r etholiad yn anad ‘run arall y cawn weld hynny.

Cofiwch hefyd hawdd yw dweud mai dyma’r blaid a gafodd etholiad ‘trychinebus’ yn 2007 – llai hawdd yw cyfaddef er gwaethaf hynny llwyddodd o hyd ennill 11 o seddau’n fwy na’r ail blaid fwyaf, sy’n nifer sylweddol o seddau yn y Cynulliad.

Y gwir ydi, dwi ddim yn meddwl y gall neb wir broffwydo pa ffurf fydd ar dir gwleidyddol Cymru wythnos i heddiw. Y peth anhygoel ydi bod rhai yn dechrau sôn am y ras am y bedwaredd sedd fel un ddeuwedd rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Nid dyna’r realiti, wrth gwrs, ond mae hi’n dechrau edrych fel photo finish, a dwi’n mwy na fodlon cyfaddef y tro hwn, er gwaethaf fy mhrofwyddoliaeth gynt, dwi wirioneddol ddim yn gwybod pwy sydd am ennill y sedd olaf.

Newidia i ddim mo’r broffwydoliaeth honno, ond tasa chi’n fy ngorfodi heddiw i roi papur pumpunt ar bwy fydd efo dwy sedd ... bydda’n rhaid i mi fod yn onest a rhoi bet ar Blaid Cymru. A chredwch chi ddim pa mor rhyfedd ydi dweud hynny!

Nessun commento: